Archif | Tachwedd, 2020

Y Cymro a’r PETH (1)

30 Tach

Heddiw a gweddill yr wythnos, ychydig feddyliau wedi eu hysgogi gan y gyfrol Cyrchu Annibyniaeth Cymru: Adroddiad Comisiwn Annibyniaeth Cymru (Y Lolfa, 2020), £9.99. Wedi ei darllen yn gyflym, fy ngobaith yw dychwelyd i’w darllen eto â mwy o’r manylder y mae’n ei hawlio. Testun y blogiau byrion hyn fydd Y PETH diosgoi sy’n gefndir i bob trafod yng Nghymru ar annibyniaeth, ymreolaeth, rhyddid neu beth bynnag y gelwir ef, cefndir yn wir i bob ystyriaeth o’n cyflwr, ein sefyllfa, ein posibiliadau fel pobl. Ai annibyniaeth a’n gwared rhag Y PETH? Ond gyda’r PETH yna drwy’r amser, ai gwiw meddwl am annibyniaeth?

Byddaf yn codi testunau o eiriau chwe phroffwyd. Saunders Lewis yw’r cyntaf ohonynt, a bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd neu’n lled-gyfarwydd â’r geiriau, sef diweddglo Tynged yr Iaith (1962).

● ‘Mae’r iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth. Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o’n gwlad, ni cheid mohoni’n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.’

Ac yn wir, gydag ugain mlynedd o ddatganoli y tu ôl inni, gwelwn yn eithaf clir beth fu, ac yw, tuedd pethau. Colli niferoedd, colli tir, dadfeilio, tanseilio. Wnaethom ni gamgymeriad? A yw’n bryd gweiddi ‘dim mwy’? Tyrd yn ôl John Redwood? Plaid Diddymu’r Senedd? No Cymru?

Ymlaen fory.

Hidiwch befo …

20 Tach

Ydi mae’n flêr. Mae’n llanast. Randibŵ yn Rhif 10. Ymadawiad Dominic. Helynt Priti. Gorfod benthyca’r miliynau. Covid, Covid, Covid …

Ond na phoenwch.

Dyma Boris, o’i ymneilltuad, â newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i ddwy garfan ei gefnogwyr, (a) ei gymrodyr Etonaidd a (b) ei gyfeillion newydd, y cyn-Lafurwyr sydd wedi darganfod eu lle ar y Dde. (1) LLAI o gymorth tramor. A gwell fyth, (2) MWY o wario ar arfogaeth Prydain Fawr.

Ymateb arweinydd yr ‘wrthblaid’? Dim digon o (2). Yn awr, allech chi, mewn unrhyw amgylchiad, ddychmygu Corbyn yn dweud hyn? Ac yma mae rhyw fath o ateb i’r cwestiwn, pam maen NHW yn dal i erlid Corbyn? Ystyriwch eto flog 30 Hydref.

Y cyfan er mwyn cynnal rhwysg a bri Prydain Fawr, ei safle a’i dylanwad honedig yn y byd. Ond ’rhoswch … Am ba hyd y bydd Prydain Fawr eto, fel gwladwriaeth unedol? Dibynna popeth y funud hon ar yr Alban yna. Gwir, effaith curo’r drwm rhyfelgar, yn draddodiadol, yw atgyfnerthu’r Undeb. Ond y tro hwn …?

Drosodd at J.R. Jones, Prydeindod, tt. 50-1. ‘Sonia Tillich am sefyllfaoedd a fedr weithredu’n seicdreiddiol i ddatgelu neu ddinoethi ideolegau – “ideology unveiling situations”. A oes sefyllfa a dynn y gorchudd oddi ar ideoleg Prydeindod?’

A ydym ar drothwy sefyllfa felly? A bwyswyd y botwm ‘anghywir’, h.y. cywir, ar 23 Mehefin 2016?

Brysiwch i ddarllen blog Craig Murray heddiw.

Yn newydd gan Ddalen Newydd

15 Tach

CYFROLAU CENEDL 13
Galw’n Ôl
Deuddeg Bardd o Ddechrau’r Ugeinfed Ganrif

‘N’ ad fi’n Ango’ oedd enw’r gyfrol hon i fod, ond pan oedd mewn proflenni dyma glywed fod cyfrol arall o’r un enw newydd ymddangos! Galw’n  Ôl felly, ond cadw llun y blodyn glas ar y clawr. Detholiad newydd sydd yma o waith beirdd a ganai dros drothwy’r ugeinfed ganrif ac i mewn i’w hanner cyntaf:   Alafon, Bryfdir, Dyfnallt, Elphin, Gwili, James Evans, J.J. Williams, J.T. Job, Llew Tegid, Moelwyn, Sarnicol, Tryfanwy.

Yn eu dydd yr oeddynt yn feirdd ac yn ffigurau adnabyddus.  Aethant braidd allan o gof, yn rhannol am iddynt gydoesi â beirdd mwy arloesol o genhedlaeth ychydig yn iau.  Beth am gael golwg arnynt eto?

£15.00

HEFYD EICH PEDWAR HEN LYFR BACH NEWYDD

Rhif 13
Bully, Taffy, a Paddy
a Gweithiau Eraill gan Emrys ap Iwan

Cyhoeddwyd ymddiddan ‘Bully, Taffy a Paddy’ ym 1880. Bellach, gydag amgylchiadau Paddy wedi newid yn sylfaenol, a Taffy’n dal yn yr un twll, diau y tâl inni ei darllen a’i hystyried eto. I’w ddilyn yn y detholiad bach hwn rhoddir rhagor o ddarnau gan Emrys ap Iwan ar wleidyddiaeth, diwylliant, iaith ac arddull, ac i gloi rhoddir yr homili gyfan ‘Pwy yw fy Nghymydog?’ sy’n cynnig cyd-destun eang i weld ei safbwyntiau, ac o bosib i osgoi camddeall arno.

£5.00                                

Rhif 14
Dafydd Ddu Eryri          

Hyd yn oed os ydym yn cofio Dafydd Ddu Eryri heddiw fel ysgogwr ac athro ar gwmni o feirdd yn Arfon, Eifionydd a Môn (‘Cywion Dafydd Ddu’), ac fel ceidwad di-ildio safonau clasurwyr y ddeunawfed ganrif, ychydig a gofiwn am ei farddoniaerth ef ei hun, yn wir ychydig a welwn ohoni. Efallai y bydd y detholiad bach hwn yn agoriad llygad.  Gallwn wfftio at ei safbwyntiau adweithiol ac edmygu ei ddawn fel mydryddwr yr un pryd. Rhown yma hefyd ychydig ddarnau o’i ohebiaeth, sy’n dangos y beirniad llym a’r cymeriad croendenau.

£15.00                                           

Rhif 15
Ceiriog: Alun Mabon 
a Cherddi Eraill    
     

‘Alun Mabon’ yw bugeilgerdd helaethaf y Gymraeg, a diau y fwyaf adnabyddus oherwydd ei bod yn cynnwys pedair telyneg fytholwyrdd.  Ond pryd y gwelsom ni hi yn gyfan ddiwethaf mewn print?  Yng Nghyflwyniad Hen Lyfr Bach y Bugeilgerddi yr oedd lled-addewid y câi olau dydd cyn bo hir, a dyma hi. Yn gwmni iddi dyma ddetholiad bach o ganeuon mwyaf adnabyddus Ceiriog, gan obeithio y caiff bugeiliaid newydd eto eu mwynhau fel y gwnaed bellach ers cenedlaethau.

£5.00

Rhif 16
John Morris-Jones: 
Dwy Awdl a Rhai Caniadau

Arbenigrwydd  dwy awdl Syr John Morris-Jones, ‘Cymru Fu: Cymru Fydd’ a ‘Salm i Famon’ yw eu cyfansoddi nid ar gyfer unrhyw gystadleuaeth ond ar gymhelliad y galon, i ymarfer y grefft ac i leisio teimladau bardd ifanc mewn cyfnod a oedd yn llawn addewid am ddeffroad ym mywyd Cymru. Pa mor ddilys oedd yr addewid hwnnw? Sut y bu iddo droi’n siom? A pha bethau ynddo sy’n berthnasol o hyd? Buom yn gofyn y cwestiynau hyn ers canmlwydd, ac i’w gofyn yn iawn da yw gweld y ddwy awdl eto. Dyma hwy mewn print am y tro cyntaf ers 1907, ac yn gwmni iddynt dyma ddetholiad bach o delynegion Morris-Jones. 

£5.00

A chofiwch am

Yr Hen Lyfrau Bach: Pecyn 4

Yr uchod gyda’i gilydd am £15.00 yn lle £20.00

    * *Gan eich llyfrwerthwr neu gan dalennewydd.cymru

Canolog

8 Tach

Er mwyn popeth darllenwch flog Craig Murray heddiw, a’r ymatebion. Mae hyn yn ganolog i bob trafodaeth ar annibyniaeth a phopeth cysylltiedig.

Pa fath ddyfodol niwclear ?

6 Tach

Mae ad-drefnu a thoriadau ym Mhrifysgol Bangor wedi peri codi tipyn o aeliau yn ddiweddar ac wedi ysgogi ambell alwad gyhoeddus. Ond beth am y canlynol?

Er nad oes gennyf, yn dechnegol, unrhyw gysylltiad â’r Brifysgol a ddaeth i fodolaeth dan siarter newydd yn 2007, mae’n amlwg fod honno’n dal i’m hystyried yn ‘alumnus’, a chefais ganddi y bore ’ma gyfarchiad serchog ynghyd â chopi o Bangoriad Bach: E-newyddion i gyn-fyfyrwyr. Ymhlith y rhestrau o hyn a’r llall, wele:

‘Buddsoddiad gwerth £3 miliwn i ddatblygu Prifysgol Bangor yn arweinydd byd-eang mewn dyfodol ynni niwclear.’

‘Bydd Sefydliad Dyfodol Niwclear Bangor yn rhan o broject Dichonoldeb a Datblygu Adweithydd Modiwlaidd Uwch (AMR) gwerth £10 M.’

YN AWR. Fe fydd angen gwyddonwyr niwclear hyd ddiwedd y byd, i fugeilio’n feunyddiol yr holl atomfeydd a godwyd gan awdurdodau gwallgo’r ugeinfed ganrif, a’u datgomisiynu’n ddiogel os bydd modd o gwbl.

OND. Beth yn union yw’r ‘dyfodol ynni niwclear’ a ragwelir ym Mangor? Rhagor o’r un hen beth marwol, ynteu rhywbeth gwahanol? Beth yn union yw’r Adweithydd Modiwlaidd Uwch (AMR). Beth yw ei ddiben?

Fel ar bob mater, mae Blog G.A. unwaith eto’n llwyfan agored i bawb sydd am gynnig ateb.