Archif | Ionawr, 2015

Ble mae Leanne ?

29 Ion

Cefndir y gerdd.

Mae’r hen G.A. wedi dweud yn ddigon plaen na phleidleisiodd yn ddi-ffael y blynyddoedd diweddar i’r blaid sy’n ei galw ei hun yn ‘Plaid’, ac yn sicr nid yw’n addo gwneud hynny yn y dyfodol.  Ond weithiau …
Bore ddoe roeddwn yn digwydd cerdded drwy brif fynedfa Adeilad y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor.  Beth oedd yno ond stondin yn cael ei chynnal gan Undeb y Myfyrwyr fel rhan o ymgyrch y Brifysgol i gael myfyrwyr i bleidleisio. (Gweler eitem 9 Ionawr, ‘Breuddwyd Tyrcwn’.)  Ceid yno daflenni ar sut i gofrestru, balŵns, a masgiau o gymeriadau fel William Hague ac Eric Pickles.  Yn sefyll yn dalog yng nghefn y stondin yr oedd tri ffigur cardbord, maint go-iawn, o’r tri arweinydd Cameron, Miliband a Clegg.  ‘Hei, ble mae Leanne?’ gofynnais i.  ‘Does gynnon ni’r un,’ meddai’r gŵr ifanc wrth y stondin. ‘Ble cawsoch chi’r rhain?’  ‘Amazon.’ Dyna ni. Roedd cyd-destun cwbl Brydeinig i’r cyfan, a neges glir mai’r Tri Hyn sydd i’w hystyried. (Welais i mo’r hen Nigel chwaith, ond rhyngddo fo a’i bethau.)

Nid yw’n syndod yn y byd fod y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn cenhadu fel hyn.  Ond rhaid gofyn eto, beth yn y byd mawr, beth yn y greadigaeth faith, sydd ar bennau cynghorwyr Plaid Cymru yn cefnogi’r fath beth?  Gallwch ddarllen stori’r tyrcwn eto.

Fe wêl y darllenydd diwylliedig mai parodi yw’r gerdd.

*       *       *

Yn nrws y Brifysgol a saif ar y bryn
Mae rhywbeth go hynod ar fore fel hyn,
Sef cloben o stondin yn annog rhoi croes
I setlo dyfodol gwlad Arfon am oes.

Mae gwedd tri arweinydd i’n cyfarch yn hael,
Ac wele’r tri dewis sydd yma i’w cael:
Ed Miliband, Cameron ac yntau’r hen Nick:
Nesewch, yr hen Gymry, – a welwch chi’r  tric?

Ac meddai’r pleidleisiwr wrth ddyfod i’r fan,
‘Mi welaf dri gwleidydd.  Ond ble mae Leanne?
Beth bynnag am bolitics, tegwch myn diain!
Fe ddylai fod yma os yma mae’r rhain.’

’Rhen Cameron sydd yma yn llyfn ac yn smart  –
Dywedwch be fynnoch, mae’n edrych y part.
‘Dydd da, Brif Weinidog, – er nad wyf yn ffan –
Ymdrechwch ein gorau.’   Ond ble mae Leanne?

Ed Miliband wedyn â’i olwg be-wna’i,
Cymerai agoriad Stryd Downing pe câi;
Mae Ed yn bur eiddgar am chwarae ei ran,
Ac amser a ddengys. Ond ble mae Leanne?

Nick Clegg sydd yn sefyll yn siriol ei wên,
A’i neges yn syml, – hen hogyn reit glên.
Yn ôl rhai o’r polau mae’i obaith yn wan.
Cawn weld beth a ddigwydd.  Ond ble mae Leanne?

Hen Gymry tre Bangor, o deffrwch trwy’r trwch,
Neu Peiriant Prydeindod a’ch sathra i’r llwch.
Ni wela’ i ddim yma – na wela’n fy myw –
Ond cynllwyn Brit-nataidd o blaid Alun Pugh.

Mis Mai sydd yn nesu, tyrd Gymro i’r pôl
Heb oedi’n dy gamau, heb edrych yn ôl,
Arfera d’etholfraint er cymaint y cawl –
Na thafla mo’r tywel, daw Hywel i’w hawl.

Aed Cameron lle mynno, aed Nick fel y gwêl,
Aed Miliband hefyd.  Ond deued a ddêl,
Dal arni’r hen Gymro a thyn am y lan
Gan gario’n dy galon ryw lun o Leanne.

Sgwrs i îcs

22 Ion

ESBONIAD.   Cylch o bobl yw’r ‘Gîcs Gramadeg’ a fu’n cwrdd yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor i drafod agweddau ar ramadeg a geiriaduraeth. Ar gael yn awr dan olygyddiaeth Delyth Prys mae e-gyfrol o ddarlithoedd y cylch.  Gofynnwyd i mi ddweud gair ar noson lansio’r gyfrol, a dyma f’ychydig sylwadau.

Annwyl gyd-Gîcs,

Neu ‘Annwyl gyd-Îcs’ ddylwn i ddweud efallai …   Rydw i am ddyfynnu ichi heno ychydig linellau o lyfr bychan y ces i’r pleser mawr o’i hyrwyddo drwy’r wasg yn ddiweddar, sef golygiad newydd o gerddi’r anfarwol John Evans, y Bardd Cocos.  Ac  – fel y bydd arweinydd cymanfa ganu yn hoffi dweud  – wrth imi ddyfynnu, meddyliwch am y geiriau.

(1)    Morgan Lloyd, yn ddi-oed,
Ddaeth o Lundain ar ei ddau droed
Bob cam.

(2)    Y gath mi rydd frath:
Mae hi yn gynffonnog, gronnog,
Croeniog, ffroeniog, dihoeniog;
Mae hi ar ei cholyn yn un rholyn,
Yn watsio, ac yn catsio llygod yn llu;
A’r llygod yn llu a redant o’r tŷ
Pan welant hwy hi.

Mae hi yn chwilotog llygotog.
Gan chwilota o’r naill dwll i’r llall,
Ac o’r naill dwll i’r llall,
Ac o’r naill gornel i’r llall,
Ac o’r corneli i’r cwpwrdd corneli,
Ac ar ôl Neli, ac yn y môr heli
Y bydd diwedd Lowri.

(3)    Fe adeiladwyd llong fawr
A’i henw hi yn Great Eastern,
O waith y seiri, yn aneiri,
Yn naddu coed, yn ddi-oed,
Cyn mynd dros ei hoed yn ddi-oed;
O waith y boiler makers,
A rhai wedi troi yn Quakers,
O waith yr engineers,
A rhai yn gweiddi ‘my dears!’

Rydw i am ofyn rŵan, wnaethoch chi sylwi ar un peth nad oedd yn y dyfyniadau yna?  Na, wnaethoch chi ddim sylwi efallai, oherwydd doedd o ddim yno.  Gwell imi ateb fy nghwestiwn fy hun.  Beth nas ceir yng ngherddi’r Bardd Cocos? Ateb:  gwall gramadeg.  Yn un peth, roedd y Bardd Cocos yn cyfansoddi ar lafar, ac o’r herwydd yn llwyr osgoi’r iaith goeg, annilys sy’n andwyo gwaith llawer o brydyddion llythrennog ei oes. Pwy bynnag gymerodd y cerddi i lawr a pharatoi argraffiad gwreiddiol (? 1879) – ac mae’n dipyn o ddirgelwch pwy oedd hwnnw – clod iddo yntau am gadw’n ddilychwin iaith gywir y bardd. Ond yn ail, a hyd yn oed yn bwysicach efallai, doedd gan y Bardd Cocos mo’r adnodd angenrheidiol hwnnw ar gyfer gwneud gwall iaith, sef gwybodaeth o iaith arall.  Rydym ni Gymry heddiw yn gwneud gwallau, nid am ein bod yn ddrwg, nac yn dwp, nac yn ddiog – er efallai ein bod yn bob un o’r rheina – ond o’n gwybodaeth o iaith arall, mewn sefyllfa lle mae’r iaith honno’n drech am resymau gwleidyddol a diwylliannol.   Oedd, roedd gan y Bardd Gymreigiadau fel ‘watsio’ a ‘catsio’, ac roedd  yn medru odli Quakers a boiler-makers, engineers a my dears; ond doedd asid y Saesneg ddim wedi bwyta i mewn i gystrawennau ei Gymraeg.

Pob gwall mewn Cymraeg heddiw, mae’n tarddu o fedru Saesneg mewn sefyllfa ddwyieithog anghyfartal, ansefydlog. Ac fe ddigwydd mewn un o ddwy ffordd. Yn gyntaf, dilyn cystrawen y Saesneg hyd at fethu cyfleu ystyr. Ac yn ail, gyda’r un canlyniad, methu â thrin un o adnoddau’r Gymraeg am nad yw’r adnodd honno i’w chael yn Saesneg. Cofiwch, nid am ffurfiol ac anffurfiol, safonol ac ansafonol, uwch ac is yr ydym yn sôn;   mae’r amrywiadau hynny i’w cael oddi fewn i bob iaith, wrth reswm.   Rydym yn sôn am gamgyfleu meddwl.  Enghraifft?   ‘Dydw i heb molchi’ lle golygir ‘rydw i heb molchi’ neu ‘dydw i ddim wedi molchi’. ‘Y dyn a brynodd car’, lle golygir ‘y dyn a brynodd gar’.  A’r peth rhyfedd ac ofnadwy hwnnw, ‘Prynwyd Wil y car’.  Ac ymlaen hyd at ryw 30-35 o wallau y gellir eu nodi a’u rhestru.  Y gwallau yna, a’r cywiriadau, oedd sail rhaglen Cymarfer, – wn i ddim a oes unrhyw un yn defnyddio honno bellach.  Mae’n gred gen i hefyd y gellir eu crynhoi i gyd mewn llawlyfr bychan iawn, ac rwy’n gobeithio gwneud hynny ar fyrder, os byw ac iach. Ei enw? iawn Bob Tro.

Ar wahân i ddweud wrth bobl, ar air neu mewn print, ‘dyma sy’n iawn’,   beth a ellir ei wneud?   Fe ellir gosod esiampl, ond i hynny fod yn llwyddiannus mae’n rhaid i’r esiampl gyrraedd rhyw nifer neu ryw gyfartaledd o bobl.   Efallai y gwnewch chi oddef gair bach o brofiad, ac wrth ddweud y profiad nid y bwriad yw ceisio cydymdeimlad.  Yn ffyniant  iaith mae llythrenogrwydd yn un ffactor.  Iaith a siaredir gan bum can mil, fe fyddai’n gryfder mawr iddi petai, dyweder, hanner y siaradwyr yn arfer ei darllen yn rheolaidd. Ond beth sydd yna i’r nifer hwnnw o Gymry ei ddarllen? Diolch am y papurau bro, a fu’n angor i’r Gymraeg am ddeugain mlynedd. Adeiladu ar y sail hon oedd bwriad ein cwmni bach ni, Dalen Newydd, wrth gynhyrchu rhifynnau peilot Tarian Arfon a Tharian Môn yn 2007.  Papurau wythnosol oedd y rhain i fod, yn cael eu cynnal gan hysbysebion a’u rhannu am ddim a heb eu gofyn. Y nod oedd dosbarthu 30,000 yn wythnosol drwy siroedd Caernarfon a Môn (sef y ddwy sir go iawn), gan gychwyn cadwyn a fyddai’n cyrraedd tua 100,000 drwy Gymru.   Can mil o gartrefi, dau gan mil (dyweder) o ddarllenwyr.  Gwaetha’r modd doedd ein harolwg o hysbysebwyr y ddwy sir ddim yn gwarantu digon o gefnogaeth i fentro ymlaen, ac ar ôl colli arian go fawr mae’r cynllun ar stop ar hyn o bryd. Cefnogaeth llywodraeth leol a Chynulliad? Unwaith eto dim digon, ac fe gollodd un cynrychiolydd etholedig o leiaf dair fôt o un tŷ drwy ddewis peidio ag ateb llythyr ynglŷn â’r mater.  Argraff arall hefyd – o edrych yn ôl a chymharu ag adeg pan werthwyd bron i 25,000 copi o Bronco drwy Fôn ac Arfon – oedd fod pobl wedi dieithrio oddi wrth y Gymraeg, a’u gafael arni heb fod yn ddigon i ddeall hiwmor ynddi.   Wn i ddim hoffai rhai ohonoch chi heno gopi i fynd adref o un o’r ddwy Darian  …?   Fe’i cewch ar y diwedd, â chyfarchion Dalen Newydd Cyf.

Oddi fewn i’r un 500,000 hefyd fe fyddai’n beth da iawn, ac yn gryfder mawr i’r Gymraeg, petai yna gnewyllyn digon llythrennog i gael blas o hyd ar rai o glasuron yr iaith.  Hyn, cynllun llawer iawn llai uchelgeisiol a llai rhyfygus na’r un o’r blaen, oedd tu ôl i lansio cyfres ‘Cyfrolau Cenedl’ a bellach ‘Yr Hen Lyfrau Bach’.  ‘Cnewyllyn’ o faint ddywedwn ni, o blith y 500,000 ?  Beth am ryw un y cant, pum mil?  Yn y flwyddyn 1790 fe aeth Twm o’r Nant ati i werthu copïau o’i lyfr newydd Gardd o Gerddi. A’i becyn ar ei gefn, a chyda help un ffrind, fe werthodd ddwy fil, a theimlo’n siomedig wedyn nad oedd wedi gwerthu mwy.  Gwerthiant ein cyfrol ni, Canu Twm o’r Nant, rhwng 2010 a heddiw?  Tua dau gant. Y naw cyfrol arall yn yr un gyfres? Prin gyrraedd y rhif hwnnw.

Nawr, mae dweud y drefn am beidio prynu llyfrau Cymraeg yn debyg iawn i ddweud y drefn am beidio mynd i’r capel, a dydw i ddim am ei wneud.  Yn y ddau achos, mae yna resymau.  Ond waeth inni gydnabod y ffaith:  mae’r genedl lythrennog, ddiwylliedig, Gymraeg wedi mynd yn beth fechan fechan fach, sylweddol lai, mae’n debyg, na’r dosbarth cefnog Cymraeg-ddibynnol yr ydym ni i gyd yma’n perthyn iddo. Y genedl y cododd William Salesbury, Morgan Llwyd, Ellis Wynne, Twm o’r Nant, Goronwy Owen, Emrys ap Iwan, John Morris-Jones, W.J. Gruffydd i’w hannerch, dydi hi ddim yna bellach, mae hi wedi mynd, wedi marw.  Teg y gellir gofyn – ac efallai bod rhai ohonoch chi yn ei ofyn – pam dal ati o gwbl?  Mae un o ddau ateb: i rai ohonom ni, methu stopio; ‘hen arfer, hon a orfydd’;  i eraill, job, rhywbeth bach at fyw, rhywbeth i’n cario ni at ein pensiwn.

Car yn powlio i lawr yr allt ar danc gwag yw Cymru bellach, ac mae cysgod methiannau mawr, gwaradwyddus dros bopeth yr ydym yn ei wneud.  Y pum can mil yna; fe ddylai fod ganddyn nhw – neu gennym ni – dri neu bedwar papur newydd dyddiol.  Dyma ni wedi methu sefydlu cymaint ag un.  Methiant arswydus arall: ein bod ni, bron bawb sydd yma heno, a phawb sydd â’r un cymhwyster â ni, sef gradd Prifysgol Cymru, wedi caniatáu i’r hyn sydd wedi digwydd i Brifysgol Cymru ddigwydd.  Fe fydd ymgyrchu ar y mater hwn eto, gallaf addo ichi, a phan ddaw yr awr gobeithio na welwn ni neb o raddedigion y Brifysgol yn cuddio dan y bwrdd gan smalio bod heb glywed neu heb ddeall.

‘Digon o feddyliau duon,’ meddech chwithau. Oes gen ti’r un neges bositif i’r genedl heno ’ma?  Onid oes yna rywbeth yn rhywle i gynhesu traed Cymro ar noson oer fel hon?  Oes, a dyma fo.  Y dyddiau diwethaf yma mi fûm yn ymdroi ychydig yn yr hen faes geiriadurol unwaith eto, ac wrth wneud hynny yn rhyfeddu o’r newydd at allu’r Gymraeg i fynegi pethau. Ffordd arall o’i roi: iaith ymhlith ieithoedd ydi’r Gymraeg, dim mwy a dim llai na hynny. Unrhyw beth y gellir ei ddweud mewn iaith arall, yn cynnwys iaith rymusaf y byd, fe ellir ei ddweud yn Gymraeg, dim ond meddwl tipyn bach.   Cwestiwn ichi:   pam mae Geiriadur yr Academi mor fawr a thrwm?  Ateb:  er mwyn colbio’n galed ar ei ben bawb sy’n dweud ‘Does yna ddim gair Cymraeg am y peth-a’r-peth’, lle dylai ddweud wrth gwrs ‘wn i mo’r gair’.

Dros dro y mae pob geiriadur, fel y gwyddom oll. Os byth y daw cyfle i ddiweddaru Geiriadur yr Academi yn y ffordd briodol, sef mewn argraffiad newydd, bydd tipyn go lew  o eiriau’n mynd i mewn iddo nad oeddent yn bod, yn Saesneg na Chymraeg, pan gyhoeddwyd o gyntaf.   Un o’r rheini ydi geek.  Rwy’n gweld ein bod ni wedi cynnwys gair lled agos o ran ystyr, sef nerd, a’n bod ni wedi cyfleu’r ochr lwydaidd, liprynnaidd, sbrychlyd i’r cymeriad arbennig hwnnw. Ond mae ochr arall i’r nerd, fel y gwyddom ni, sef ei arbenigedd, ei feistrolaeth ddihiwmor ar ryw faes neu’i gilydd.  Mae i’r geek hefyd ei ddealltwriaeth o bwnc, wedi dod o lwyr ymroad; ond onid oes hefyd ryw ochr ddigri-ddiniwed i’r geek?  Rhyw arbenigwr sy hefyd yn sbrych, dyna yw’r nerd ; arbenigwr sy hefyd yn rhyw Ddici Bach Dwl yw’r geek.   Ydw i’n iawn?  Cwestiwn llenyddol o bwys mawr: nerd ynteu geek yw’r cymeriad anfarwol hwnnw sy’n  awdurdod digymar ar fyd y genau goeg, ac yn gwbl analluog i drin y byd hwn, yr hen gyfaill Gussie Fink-Nottle, ffrind Bertie Wooster?  Pa air y byddai P.G. Wodehouse wedi ei ddewis petai’r ddau air yn bod?  A’r cyfieithiad gorau o geek, yr un a fyddai’n cwmpasu’r holl amrediad ystyr?  Gîc(-s, giciaid) wrth gwrs.  Ac efallai dylai nerd fynd yn nyrd(-iaid) hefyd.

Mae, medden nhw i mi, yn y Deyrnas hon gymdeithas barchus ac aruchel iawn o’r enw ‘Y Gymdeithas Fathemategol Frenhinol’.  Ac medden nhw eto, mae gan honno ei chinio blynyddol, ac yn y cinio mae’n arferol cynnig llwnc-destun: ‘Iechyd da i Fathemateg Bur.  Na foed iddi byth fod o unrhyw ddefnydd i neb.’   Ar y llaw arall, gwyddor ddefnyddiol iawn ydi Gramadeg.  Hir oes iddi.

O.N.   Ar ddiwedd y cyfarfod, ‘nyrdyn’ oedd gair Robat Trefor.  Da iawn yntê.  Nyrdyn (nyrdod).  Ac atgoffwyd ni gan Delyth Roberts i gynnwys ‘nyrden’ hefyd.  Hollol iawn.  ‘Welis i ddim nyrdyn ’run fath ag o ’rioed.’  ‘Be haru ti’r nyrdan wirion?’    

Y Genedl Goll

19 Ion

Wrth ymgolli mewn hen destunau mae’r hen G.A. wedi bod yn esgeuluso llenyddiaeth Cymru heddiw yn enbyd. Ond dyma dalu sylw pan welais nofel Saesneg am ardal fy magwraeth mewn cyfnod a gofiaf yn dda.  A Welsh Dawn gan Gareth Thomas yw honno, ac fe’i cyhoeddir gan Y Lolfa, pris £9.95.

O ran plot mae’n cydredeg hynt a helynt dyrnaid o deuluoedd dychmygol a hanner-dychmygol (os iawn yr wy’n dehongli) o Ddyffryn Nantlle a chylch Caernarfon ynghyd â gweithgarwch rhai o wleidyddion a phobl gyhoeddus Cymru ddiwedd y 1950au.

Nid wyf am ei hadolygu tu hwnt i ddweud ei bod yn ein dwyn yn ôl, mewn modd argyhoeddiadol a chredadwy gan mwyaf, i fyd yn cynnwys Vimto, Brylcreem, Austin Cambridge, trywsus bach mawr, Yn ôl i Leifior, Tommy Steele, James Dean, helynt Suez, ôl y bomio yn Lerpwl, y rhesi bysus ar Faes Caernarfon, tai bwyta Harper’s a’r People’s yn y dref, a’r hen Plaza, Pen-y-groes.  Gallwn, petai o unrhyw bwys, grybwyll ambell beth sy’n wahanol yn fy nghof i; ond gwell cofio bob amser gyngor un o feirdd ein Dyffryn, mai ‘Nes na’r hanesydd at y gwir di-goll / Ydyw’r dramodydd, sydd yn gelwydd oll.’  Ac o fewn yr egwyddor ddiogel Aristotelaidd yna gallwn yn sicr gynnwys ‘y nofelydd’ hefyd.

Yn hytrach nag adolygu, y cyfan a wnaf yw cofnodi ychydig ymateb i ddau fater sy’n cael lle amlwg yn y stori.

1.     Helynt Tryweryn.   Adroddir yn fyw a chywir gwrs digwyddiadau hyd at ddydd Iau Eisteddfod Genedlaethol Llangefni, 1957. Bydd llawer fel finnau yn cofio’r diwrnod pan benderfynodd Henry Brooke, y Gweinidog Materion Cymreig, y byddai’n ddiogelach iddo gadw draw o’r Eisteddfod ac yntau newydd selio tynged Cwm Tryweryn.  Ni allaf eto beidio â meddwl mai dyna’r wythnos, mai dyna’r diwrnod yn wir, y dylai pobl Capel Celyn fod wedi gwneud y peth amlwg, neu o leiaf y peth a ddaeth yn amlwg i bobl Cwm Gwendraeth ymhen wyth mlynedd wedyn, sef cau’r giatiau.  O ddal y llanw yr wythnos honno byddent wedi ennyn cefnogaeth gref,  a hwyrach y buasai pethau’n dra gwahanol yn Nhryweryn a thrwy Gymru.  Pam na wnaed hyn?  Plaid Cymru sy’n cael y bai ran amlaf. Ond wn i ddim …

2.    Mudiad a rali di-waith Dyffryn Nantlle, 1958.  Pan ddywedodd ‘You’ve never had it so good’ yr oedd yr hen rôg MacMillan yn llygad ei le.  Cyfnod oedd y 1950au a welodd welliant cyson yn ansawdd bywyd y rhan fwyaf o bobl gwledydd Prydain; ninnau, y plant a ddaeth i oed tua diwedd y degawd, fu’r genhedlaeth fwyaf ffodus erioed o Gymry o ran manteision a chyfle. Ond yr oedd llecynnau lle nad oedd pethau lawn cystal, ac un o’r rheini yn sicr oedd Dyffryn Nantlle yn sgil enciliad cyflym diwydiant y chwareli.  Cododd mudiad o blith dynion di-waith a’u teuluoedd a’u cefnogwyr i geisio argraffu ar yr unig lywodraeth oedd gennym, llywodraeth Prydain, fod gofyn gweithredu i wella pethau.  Uchafbwynt yr ymgyrch oedd gorymdaith o Ben-y-groes i Gaernarfon ar ddydd cyntaf Chwefror 1958 yn cael ei dilyn gan rali yn hen bafiliwn mawr y dref.

Ie, y placardiau. ‘Amynedd Job – ond beth am job?’  ‘Torcha’th lewys trosom, Lewis’ – sef siars i D.V.P.Lewis, newydd ei greu yn Arglwydd Aberhonddu a’i benodi’n Weinidog Gwladol  i helpu Henry Brooke.  Hefyd ‘Whitehall see our black hole’, ‘Bread before Beauty’, ‘Pylons before Poverty’ ac ‘Is this the Beauty of Wales?’  Bwgan mawr rhai o arweinwyr y mudiad, ac yn sicr y gwleidyddion Llafur ar y pryd, oedd Cyngor Diogelu Harddwch Cymru a oedd yn wrthwynebus  i rai datblygiadau diwydiannol  megis atomfa Trawsfynydd a’i chwaer-na-ddaeth yn Edern.  Enynnodd rhai o’r sloganau ddirmyg chwyrn Saunders Lewis, a fynegwyd ganddo mewn araith ddadleuol iawn ddydd Iau Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy. Hynny hefyd yn atgof byw.

Er efallai heb lawn gyd-fynd â phob un o’r placardiau, ac er dechrau magu rhyw radd o sgeptigiaeth tuag at y rhethreg Lafuraidd a soniai am fyrddau gweigion, gruddiau llwydion ac esgidiau tyllog, yr oedd rhai ohonom yn nosbarthiadau hŷn Ysgol Dyffryn Nantlle yn sicr bod yn rhaid cefnogi’r mudiad.  Fe gerddodd rhai ohonom gyda’r orymdaith o Ben-y-groes.  Yn gyfaddawdwr fel arfer roeddwn i yn un o’r rhai a ymunodd yn ‘Yr Eagles’ (fel y byddwn yn dweud) yn nhop Stryd Llyn, ac ymdeithio ar ôl band Trefor i dderbyn croeso tyrfa fawr ar y Maes.  Bydd fy nghyfaill Ffestin, os yw’n darllen hwn yn Awstralia, yn cofio’r diwrnod yn dda iawn. A gallai Geraint Jones (Twm), Trefor, adrodd wrthych am y tipyn cythraul bandiau a gododd yn ystod y pnawn.

Wedyn i’r Pafiliwn.  Y defnydd cyntaf a wnaed ohono ers cyn yr ail ryfel, a’r achlysur cyhoeddus olaf cyn y cyfarfod i’w gau ddechrau’r chwedegau.  (Cof am hwnnw hefyd.) Yr oedd yr orielau bellach yn rhy beryglus i’w defnyddio, ond llanwyd y llawr gan dyrfa o ryw saith mil.  Rhoddwyd allan bennill cyntaf yr emyn ‘Duw mawr y rhyfeddodau maith’. Dim llyfr na thaflen, pawb yn ei wybod. Pawb ohonom a oedd yno, fe gawsom ryw flas o beth fuasai cyfarfodydd mawr dyddiau Lloyd George neu rali croesawu ‘Hen Hogia’r Ysgol Fomio’ fel y cofiaf gyfeirio atynt yn aml.  Fe gofiwn gadeirio bywiog Hugh Jones, araith danllyd Tom Jones, Shotton, a neges fer Tom Nefyn, a alwyd ymlaen ar fyr rybudd wedi i rywrai sylwi ei fod yno  – neu dyna a ddywedwyd o’r llwyfan ar y pryd; mae’r hen sgeptig yn amau elfen o ragdrefnu.  O Borthi’r Pum Mil y cymerodd ei destun, a’i fyrdwn,  ‘Bwyd yn gynta, pregath wedyn. Bwyd yn gynta, pregath wedyn’, gyda’r dull o ailadrodd y clywais wedyn ei fod yn nodweddiadol ohono. Yr oedd y pleidiau’n ddigon cytûn, a rhoddwyd croeso caredig i araith Peter Thomas, A.S. Ceidwadol Conwy. Ond yna daeth twrn Goronwy O. Roberts.  Siglo’r pileri a chodi’r to gan ffrwydradau  o gymeradwyaeth cyn, yn ystod ac ar ôl yr araith, ac (i’m clust i o leiaf) â rhyw awgrym neu islais o’r ‘cymeradwyo dicllon’ sydd efallai’n fwy nodweddiadol o Lafur nag o unrhyw garfan arall.  Ychydig ohonom y diwrnod hwnnw, os neb, a allai gredu na byddai Goronwy’n dal sedd Arfon, a hynny’n gyfforddus, am ba hyd bynnag y dymunai.  Ond …

Fis Hydref yr un flwyddyn cawsom ffug-etholiad seneddol yn un o gymdeithasau Ysgol Dyffryn Nantlle.  Mwy o ran hwyl na dim arall, ond gwelltyn yn y gwynt?  Plaid Cymru a aeth â hi o fwyafrif ysgubol.  Cofiaf y diwrnod hwnnw hefyd yn dda. Yr oeddwn yn ymgeisydd dros blaid arall.    (Cyfeiria’r nofel at ‘Ffordd y Brenin’, Pen-y-groes, sy’n mynd heibio i’r ysgol. Ryw awr ginio tua’r un adeg, aeth rhai ohonom ati i gywiro hyn â sialc yn ‘Ffordd y Werin’; roedd hyn dair neu bedair blynedd cyn sefydlu Cymdeithas yr Iaith, ac nid oedd iddo fawr ddim arwyddocâd gwleidyddol.)

Bûm i’n chwarae â damcaniaeth fel hyn, yn troi o gwmpas y rhif deg ar hugain. Etholwyd Lloyd George yn 1890. Erbyn 1920 yr oedd wedi gosod cyfeiriad newydd i’r wladwriaeth Brydeinig, wedi setlo Tŷ’r Arglwyddi ac wedi ennill rhyfel byd. Bwriodd ef ymlaen am ymron chwarter canrif arall gydag ambell hwrdd o’i egni dihafal; ond wedi dengmlwydd ar hugain yr oedd wedi colli ei hygrededd, wedi mynd yn gaethwas i’w hen elynion gwleidyddol ac wedi cyfrannu at hau hadau rhyfel arall. Daeth awr Llafur yn Arfon. 1945-74.  Dengmlwydd ar hugain namyn un, a daeth plaid arall i olynu a chael ei chyfle.  Mae hithau bellach wedi hen basio’r postyn, wedi colli sedd seneddol Ceredigion – drwy gamdrefnu i ddechrau, colli Môn oherwydd ymraniadau, a cholli yn gyffredinol ei gallu i argyhoeddi ac ysbrydoli. Ni byddai dim yn well gennyf na gweld ei llwyddiant, a byddaf yn cael ambell awr o feddwl y gall hwnnw ddod eto yn y Deheudir dan arweiniad Leanne; ond mae anonestrwydd y Blaid ar bwnc ysgolion a thai yng Ngwynedd ac ar bwnc Wylfa B ym Môn yn magu gradd ddofn o amheuaeth ac yn rhoi rhyw atalfa ar y llaw sy’n pleidleisio.

A dychwelyd at faes y nofel, yr oedd dau beth ynghylch hinsawdd Cymru diwedd y 1950au yr wyf yn teimlo o hyd eu bod yn bethau cadarnhaol, – a hynny nid yn unig, mi gredaf, oherwydd y ffaith ei bod hi’n adeg o ddeffro, ymagor a chydio mewn cyfleoedd i’m cenhadlaeth i. I roi darlun teg, mae gofyn gweld y ddau beth ar wahân.  Mae a wnelo’r cyntaf â’r addewid am bethau newydd, datblygiadau newydd, bywyd newydd, efallai’n wir y ‘Welsh Dawn’ a welir yn y nofel. Mae a wnelo’r ail â’r cyswllt â hen ddiwylliant, cyswllt a dorrwyd yn ddisyfyd yr union adeg honno oherwydd un ffactor yn fwy na dim arall, sef dyfodiad teledu.

(a)     Rhwng 1955 a 1959 yr oedd rhyw deimlad y gallai rhywbeth ddigwydd yng Nghymru. Yr oedd a wnelo i fesur â hyder gochelgar newydd ym Mhlaid Cymru, ond roedd yn cyniwair hefyd drwy ‘fudiad cenedlaethol’ ehangach, dienw. O blith y ffigurau cyhoeddus yn y nofel, yr amlycaf a’r mwyaf gweithredol oedd Dr. Huw T. Edwards, cyn-arweinydd undeb llafur a chadeirydd y ‘Cyngor Cymru’ apwyntiedig tan ei ymddiswyddiad dramatig yn Hydref 1958.  Nid gormodiaith yw dweud y gallai hanner gair gan Huw T., er mai cadeirydd ar gorff anetholedig ydoedd, achosi mwy o gynnwrf na dim byd a ddywed yr un o wleidyddion Cymru heddiw.  Yr oedd yna ryw edrych ato a gwrando ar ei eiriau, a theimlad fod ei galon yn y lle iawn er ei fod yn un garw am newid ei farn. Imi gael dweud ‘roeddwn i yno’ un waith yn rhagor, cofiaf yn glir y cyfarfod yn ystod Eisteddfod Caernarfon, 1959, lle cyhoeddodd ei fod yn cefnu ar Lafur.  Cyfarfod oddi ar y Maes ydoedd, wedi ei drefnu gan Gymdeithas Gymraeg Prifysgol Llundain.  Testun ffurfiol H.T.E. oedd ‘Senedd ar Ddaear Cymru’, sef y syniad o alw senedd gan gyrff a mudiadau Cymreig yn gwbl annibynnol ar ddatganoli, – posibilrwydd na chafodd agos ddigon o sylw dros y blynyddoedd; a diddorol darllen yn y cofiant Prif Weinidog Answyddogol Cymru gan Gwyn Jenkins fod Aneurin Bevan wedi dechrau ochri at ryw syniad fel hyn.  I rai o leiaf, bu cyhoeddiad H.T.E., ac wythnos Eisteddfod Caernarfon drwyddi draw,  yn benllanw gobaith, ond treiodd y llanw gyda’r methiant yn Nhryweryn a siom Plaid Cymru yn etholiad ’59.  Bu raid disgwyl tipyn, ac fe barhaodd y rhwystredigaeth dros hanner cyntaf y chwedegau.

(b)   I gyfleu’r wedd hon, ni allaf yn well na dod yn ôl at y cyfarfod ym Mhafiliwn Caernarfon. Pawb yn gwybod yr emyn. Y cyffro y gellid ei ennyn gan bregethwr carismataidd. Areitheg, medru ‘ei dweud-hi’.  Llawnder o iaith at y pwrpas, a medru tynnu rhyw dannau.  Dyna pryd y dywedai fy nhad, fel y cofiaf yn dda, ‘un peth am y Lebors ’ma, maen nhw’n medru sbitshio’.   Ym mhob plaid erbyn hyn aeth y ‘sbitshio’ yn beth tila iawn, ac yn ddiwylliannol bu’r golled yn fawr.  Rhannu’r un diwylliant, gradd uchel o lythrennedd, pethau ar y cof, – a hynny’n galluogi deall parodi a hiwmor. A mwy sylfaenol eto, rhannu’r un profiad i fesur helaeth.  ‘Chwyth y tân, fe gynnith toc’ oedd pennawd blaen Y Cymro wrth adrodd am y diwrnod.  Ond ni chynheuodd y tân hwnnw lawer wedyn, ac anodd wrth edrych yn ôl yw gweld sut y gallasai.  Yr hyn a gawsom oedd blas bach o’r ‘hen bwerau’, ac i’r rhai iau ohonom braint ac addysg oedd hynny.

Wrth edrych yn ôl a chymharu caf deimlad – er fy ngwaethaf braidd – fod gan y Gymru led-Lafuraidd, is-Ymneilltuol honno ryw adnoddau a gollwyd, neu a wanhaodd yn ddirfawr, yn y cyfamser.  Drigain mlynedd yn ôl yr oeddem yn fwy o genedl nag ydym heddiw. Yr oedd mwy ohonom. Yr oeddem yn troi allan yn dyrfaoedd. Yr oedd gweddill da o ddiwylliant  drwy’r broydd. Yr oedd gennym wasg.  O’r tu arall yr oedd llawer o daeogrwydd, a rhyw gyfyngiadau niwrotig wedi eu gosod ar y Gymraeg.  Ochr yn ochr â llawer o hwyl a hiwmor yr oedd cysêt;  peth ofnadwy yw hwnnw, ond eto mewn rhai sefyllaoedd gall fod yn atalfa ar bethau gwaeth, a thrwy hynny wneud bywyd yn haws.

Ni allwn fynd yn ôl, hyd yn oed petaem yn dymuno hynny.  Ni allodd y ‘genedl’ honno sicrhau ei pharhad ei hun, a dyna’r prawf.  Yr oedd nifer cynyddol ohonom, fel rhai cymeriadau yn yr nofel, yn mynnu bod yn rhaid symud ymlaen at rywbeth amgen.  A dyma ni heddiw. ‘Rwy’n myned i rywle, ni wn i ble,’ meddai’r bardd.  Hidiwch befo’r ‘i ble’, cawn ddyddiau o amau heddiw a ydym yn ‘myned i rywle’ o gwbl.  Sylwedydd doeth a ddywedodd  – ac rwy’n credu imi ei ddyfynnu rywdro o’r blaen ar y blog – fod pobl neu gymuned ethnig weithiau’n mynd trwy gyfnodau o fod yn debycach i wladwriaeth ac yn llai tebyg i genedl.  Dyna union ddisgrifiad o’n cyflwr ni Gymry y dwthwn hwn. I ddod trwyddo a gweld ei ben-draw mae angen am weledigaeth, cysondeb, penderfyniad, angerdd, tân.  Ble ceir y rhain?

Yn iach iti, Gymru

15 Ion

Ambell ddiwrnod pan fydd yr hen G.A. yn meddwl nad oes ganddo destun, o ganol gwleidyddiaeth wallgo Cymru heddiw fe ddaw rhyw newydd wyrth i ddeffro’i awen.

‘Cymorth i ddisgyblion disgleiriaf Cymru’ oedd pennawd GOLWG 360 fore heddiw.  Gellid aralleirio’r pennawd fel ‘Cymorth i amddifadu Cymru o’i phlant galluog’, canys dyna sydd mewn golwg.

Ni allaf wneud cyfiawnder ond trwy ddyfynnu:

‘Bydd cyfle i rai o fyfyrwyr chweched dosbarth a myfyrwyr colegau mwyaf disglair Cymru i (sic) gael cymorth i fynychu prifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig, yn sgil menter newydd sy’n cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw.’

Cyn i neb gael cyfle i ofyn ‘onid oes rhai o brifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig yng Nghymru?’ dyma esbonio yn y paragraff nesaf mai Caergrawnt a Rhydychen, wrth gwrs, a olygir. Fe fynegwyd pryder yn y Cynulliad Cenedlaethol yn 2012 nad oedd digon o ddisgyblion o Gymru yn llwyddo i gyrraedd yr uchelfannau hyn, a bellach dyma raglen o’r enw ‘Seren’ i geisio cwrdd â’r diffyg.

Gweler GOLWG 360 am fanylion llawnach, ond ei swm a’i sylwedd hi yw mai ‘diffyg hunangred a hunanhyder academaidd oedd rhan o’r broblem’.  Yr ateb a gynigir yw dod â rhai o fyfyrwyr mwyaf talentog a galluog Cymru at ei gilydd ‘i gael eu cefnogi a’u mentora’.  Ac fel rhan o hynny, a dyfynnu yn awr eiriau Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg, ‘eu cyflwyno i grŵp o gyfoedion sy’n debyg iddyn nhw’.

Yn awr, a oes unrhyw un yng Nghymru, heblaw Huw Lewis, nad yw’n gweld hyn yn gomic i’r eithaf ?   A ’rhoswch chi, onid gwerinwr mawr yw Huw Lewis?  Onid dyn yw ef wedi ymladd ar hyd ei oes yn erbyn pob math o elitiaeth?  Dyna o leiaf a ddywedwyd pan oedd mymryn o anghytundeb rhyngddo ef a minnau rai blynyddoedd yn ôl ar fater tebyg iawn i hwn heddiw.  (Gellir o hyd ddarllen fy hen ysgrif, ‘Beth yw Élite?’ yn fy hen lyfr Problem Prifysgol a Phapurau Eraill, – ychydig gopïau ar gael o hyd am bris manteisiol iawn.)

Am y ‘grŵp o gyfoedion sy’n debyg iddyn nhw’, ystyr hyn yw ‘cyfoedion sydd o’r teip’, sef y teip y credir, yn gam neu’n gymwys, y byddai’n dderbyniol yng nghynteddau’r hen brifysgolion. Mae Rhydychen a Chaergrawnt yn derbyn lleiafrif o fyfyrwyr amrywiol iawn, o bedwar ban byd, a rhai cymeriadau broc dros ben yn eu plith. Ond ni chaniateid byth, na breuddwydio am hynny, i’r cwmni brith hwn foddi’r teip go iawn na dod unlle’n agos at ei nifer. Prifysgolion cenhedlig i’r gwraidd ydynt, a’r cwestiwn y maent yn ei ofyn am naw ymgeisydd  o bob deg  yw:  ‘a yw hwn neu hon yn un ohonom ni?’.  Eu prif ddiben yw cynnal a magu dosbarth sefydlog o arweinwyr i ddiogelu buddiannau a diwylliant Lloegr dros y blynyddoedd a’r cenedlaethau i ddod.  Pob clod iddynt am hynny.

Os gwireddir rhaglen ‘Seren’, cyfyng fydd y difrod, oherwydd ychydig a ddaw i’r categori y mae’r Llywodraeth yn meddwl amdano.  Ychydig yw’r ‘teip’.  Mae’r wir broblem yn llawer ehangach ac yn bodoli ers blynyddoedd, sef problem ‘y gwaedu mawr’ o ysgolion Cymru yn rheolaidd bob mis Medi i brifysgolion drwy hyd a lled Lloegr, peth sydd mor sicr â dim o gyfrannu at ein diwedd buan fel pobl.  Wrth sgrifennu am y pwnc hwn dros y blynyddoedd nid wyf erioed wedi beirniadu cymhellion unigolion.  Yn wir, rhyngof i a chwithau ddarllenwyr y blog, mae gen i ryw gydymdeimlad â rhai o’r cymhellion hynny, neu o leiaf â rhai pethau a allai fod yn gymhellion.  Yn hytrach mi geisiais bob amser edrych arni’n amhersonol, fel problem seico-gymdeithasol ac iddi ateb gwrthrychol.

Y broblem yn y bôn yw awydd dosbarth o Gymry Cymraeg i’w ddinistrio’i hun am nad oes ganddo’r ewyllys i gyflawni’r tasgau sydd o’i flaen yng Nghymru.  Yr ateb fyddai i Lywodraeth Cymru ymorol a darparu fel bod aros yng Nghymru yn talu’n well nag ymadael.  Gweithredwyd yr ateb hwn ar raddfa fechan ym mlynyddoedd olaf y Llywodraeth Lafur gyntaf yng Nghaerdydd, wedi i’r tair gwrthblaid ddwyn pwysau, ac yr oedd arwyddion ei fod yn dechrau gweithio.  Ond pan ddaeth clymblaid ‘Cymru’n Un’ fe ildiodd Plaid Cymru a chytuno i ddiddymu’r arbrawf.  Yn y cyfamser aeth llywodraeth yr Alban ymlaen a gwneud y peth syml ac angenrheidiol, gwobrwyo Albanwyr  ifainc yn hael, yn helaeth ac yn amlwg am aros yng ngholegau’r Alban. Bydd yn sicr o ddwyn ffrwyth.

Yn lle hyn, yng Nghymru, dyma’r nonsens hwn heddiw. A oes cenedlaetholwyr yn y Cynulliad? A oes unrhyw un eto wedi galw am ymddiswyddiad Huw Lewis?

O.N.   Pan chwalwyd Prifysgol Cymru onid oedd prifysgolion Caerdydd, Bangor, Aberystwyth ac Abertawe  i gyd yn mynd i fod yn wych, yn perthyn i ryw ‘Gynghrair Iorwg’ ac ati … ?   Beth ddaeth o hynny?

Breuddwyd tyrcwn wrth eu hewyllys

9 Ion

Tebyg y bydd darllenwyr Y Cymro heddiw wedi gweld llythyr dan y pennawd ‘Lefelau newydd o wallgofrwydd’.  Sôn y mae am rai o’r cynlluniau hunllefol loerig sydd, mae’n ymddangos, yn cael eu hystyried mewn rhai cylchoedd gyda golwg ar ddyfodol ein colegau a’n prifysgolion yng Nghymru.   Gallai’r llythyrwr, ar ôl darllen yr un papur y bore ’ma, yrru llythyr arall dan yr un pennawd yn union; ond rhag poeni ffyddloniaid y Cymro mewn dau rifyn yn olynol, dyma ddweud ar yr hen flog yr hyn a barodd iddo dagu ar ei rawnfwyd boreol.

‘Prifysgol yn annog myfyrwyr i bleidleisio’ yw pennawd y stori,  ac adroddir:  ‘Mae Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor wedi cynnal ymgyrch ar y cyd i geisio annog myfyrwyr y brifysgol i gofrestru i bleidleisio.’ Pleidleisio yn wardiau Bangor ac yn etholaeth Arfon yw’r hyn a olygir. Yna dyfynnir y Cynghorydd Mair Rowlands, Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd ac aelod lleol Menai, Bangor:   ‘Mae cofrestru i bleidleisio yn angenrheidiol ac yn sicrhau eich bod yn gallu lleisio’ch barn am faterion y dydd.’

Gallaf, i raddau, ddeall pam y mae Prifysgol Bangor yn annog fel hyn, a gallaf goelio fod Cyngor Gwynedd wedi colli’r trywydd yn y mater hwn fel mewn rhai materion eraill.  Ond pam ar wyneb y ddaear fawr y dylai Plaid Cymru yn benodol  ei chysylltu ei hun â’r anogaeth?

Oes eisiau dweud? Wel oes mae’n amlwg!  Po fwyaf a fydd yn cofrestru o blith yr hyn a ddywedir sy’n 15,000 o fyfyrwyr Bangor, mwyaf o bleidleisiau i’r blaid fwyaf tebyg o guro Plaid Cymru y troeon nesaf.

Oni chlywyd am etholaeth o’r enw Ceredigion?   Yno yn etholiad diwethaf San Steffan, fel mewn rhai seddau eraill megis Canol Caerdydd a Chaergrawnt, fe ddaeth y myfyrwyr allan yn eu miloedd i gefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol, a oedd bryd hynny yn addo ar eu llw dorri ffioedd.  Yn gwbl unol â thraddodiad y blaid honno, torrwyd yr addewid yn hytrach. Pwy gaiff gefnogaeth myfyrwyr Aber a Llanbed y tro nesaf? Yr un blaid eto, synnwn i damaid, am mai hi yw’r blaid Brydeinig nesaf at law. Go brin mai Plaid Cymru.

Nid oes angen edrych ymhellach na Bangor.  Symudodd Neuadd John Morris-Jones o Ward y Garth i Ward Menai.  Enillodd Mair Rowlands sedd i’r Blaid ym Menai, a chollwyd sedd y Garth.   Onid yw’r foeswers yn ofnadwy o syml?

Dylai myfyrwyr bleidleisio gartref yn hytrach na chael dylanwadu am flynyddoedd i ddod ar fywyd ardal, sir a gwlad lle nad ydynt ond adar tramwy.  Ac aralleirio’r hen ddihareb, ‘Câr dy fro a fotia ynddi.’ (Gobeithio nad oes neb dan yr argraff fod y Cymry’n fwyafrif ym Mhrifysgol Bangor. Neu’n lleiafrif sylweddol.  Neu’n elfen ac iddi unrhyw ddylanwad.)

Nid wyf am fod yn gwbl sinigaidd yn mater hwn. Efallai fod, rywle ym meddylfryd trwch y myfyrwyr, ryw waelod o ddelfrydiaeth neu synnwyr tegwch y gellid ei gyrraedd, ie hyd yn oed gan blaid genedlaethol Gymreig pe gallai hi ddangos ei bod yn ddiffuant o blaid mwy o gyfiawnder yn ein cymdeithas eithafol anghyfartal ac yn her wirioneddol i’r Sefydliad Eingl-Brydeinig.  Ond rhaid gofyn yn ddifrifol a yw Plaid Cymru heddiw yn ffitio’r disgrifiad hwn.  Gellid dyfynnu tystiolaeth hefyd mai pleidleiswyr ‘Na’ oedd mwyafrif mawr y myfyrwyr dŵad yn refferendwm yr Alban.  A gwir ysywaeth, gydag ychydig iawn o eithriadau gwiw, mai pellaf i’r Chwith, mwyaf gwrth-Gymreig.

Os yw’r hen G.A. yn hyn o beth yn gwbl annheg neu yn llwyr gamddarllen arwyddion yr oes, mae croeso i unrhyw un anfon i mewn yn esbonio pam.  Rwyf yn addo cymeradwyo POB ymateb a ddaw i law ond iddo beidio cynnwys enllib.

Yn y cyfamser, nes fy ngoleuo, daliaf i feddwl ein bod yn gweld yma nid yn unig dyrcwn yn fotio dros y Nadolig, ond tyrcwn yn deisebu am ddod â’r Nadolig yn nes.

Haia, bebi ?

4 Ion

Y diwrnod o’r blaen (20 Rhagfyr) roeddwn i’n dyfynnu dwy linell allweddol o Cysgod y Cryman.  Dyma, hyd y gallaf gofio, ymddangosiad cyntaf y gair ‘haia’ mewn llenyddiaeth Gymraeg:

“Haia, baby?” meddai Terence.
“Haia, kid?” meddai Sheila.

Yr hyn sydd gen i heddiw yw’r modd y cofnodwyd y ddau gyfarchiad. Cymreigiwyd yr ‘haia’ y ddau dro, ond nid y ‘baby’ na’r ‘kid’.

Ac fe gofiwn linell adnabyddus iawn arall, sef yr hyn a ddywedodd William Jones (t. 36) yn hytrach na ‘cadw dy sglodion felltith’. Fe gymeigiwyd y ‘blydi’ ond nid y chips. A oedd rhyw reddf yn dweud wrth yr awdur fod y naill air ‘wedi cartrefu’ a’r llall yn dal yn estron?  (Ac mae problem sain y ch Saesneg gyda ni bob amser.)

O leiaf oddi ar y diwrnod y torrodd Traethydd Twm o’r Nant ar draws Syr Tom Tell Truth gan ofyn ‘What is this gibberish, foolish fellow?’, ac ennyn yr ymateb parod ‘Dam i sil Satan, dyma Sais eto’, mae’r Gymraeg mewn stori a drama wedi gorfod rhoi peth lle i’r iaith fain.  Sut i’w chofnodi, dyna’r cwestiwn, ac fe gafwyd amrywiaeth, a chymysgedd, o atebion.  Y tri dewis yw: (a) gadael y Saesneg heb ei chyffwrdd, (b) italeiddio’r Saesneg, (c) trawsgrifio’n ffonetig, sef yr hyn a fyddai’n rhoi inni ‘haia, bebi?’, ‘haia, cid?’ a ‘cadw dy blydi tships’.

Ceir cymhariaeth ddadlennol rhwng Wil Bryan a Thomas Bartley yn nofelau Daniel Owen. Mae Wil yn rhugl yn Saesneg, ac fel bachgen bydol-ddoeth yn ei olwg ei hun, mae’n awyddus i ddangos hynny. Siarad macaronig, ac italeiddio, felly:

However i ti, mi weithies fel black 

Y gaffer acw

Mi fyddai yn all right

Yr hen Waterworks

Cael  y kick-out

Mi gafodd Wil ei revenge 

Heb ddeud good-bye wrth dy hen chum

Postage stamps, humbug, quite so, true to nature … &c &c, ac weithiau frawddeg gyfan neu ddwy, ac italeiddio:

 So here endeth a true account of the clock-cleaning.  But wait a bit.

Mae Thomas Bartley hefyd weithiau fel petai’n cofio mai gair benthyg sy ganddo, er nad yw’r ymorchestu yn y gair fel y gwna Wil.  Y troeon hynny mae Daniel Owen yn italeiddio:

 Champion o bregethwr

I neud mistake, wyddoch

Yn waeth ych off na neb

Tydw i ddim llawer o judge

 Most the pity 

Llawn cyn amled, os nad yn amlach, mae’r geiriau a’r ymadroddion ‘wedi eu cymathu’ chwedl yr ieithyddwyr.  Mae Thomas yn cymryd mai Cymraeg ydynt, a Daniel Owen yn cofnodi fel ag i gyfleu hynny:

Cnegwarth o siffeta, cnegwarth o ddrops y cryd melyn, a chnegwarth o denti riwbob

Tŷ reit spectol yn Lerpwl

I gael profijiwns i’r ened

Ym matel Waterlŵ

Y pethe mwya sumpl

Oes gynnoch chi rw aidî?

Ac wrth gwrs ni bu ‘twbi shŵar’ erioed yn ddim ond Cymraeg.

Down ymlaen at awduron canol yr ugeinfed ganrif.  T. Rowland Hughes eto, sgwrs y bechgyn bach a’r rheolwr o Sais ar ddechrau Chwalfa :

“Hm. Are you his brother?”
“Essyr,” atebodd Gwyn.
“In school, I suppose?”
“Essyr. But the school will be broken in about a month …”
“Broken?”
“Essyr, for the holides, Syr.”

Mae Gwyn yn medru Saesneg yn eithaf da, er nad yn berffaith.  Ond gair Cymraeg yw ‘holides’ iddo, a dyma gyfleu hynny.  Am yr ‘essyr’, mae wedi ei hanner-Gymreigio, gan gadw’r ddwy s;   rhyw air wedi ei ddysgu yn yr ysgol ydyw, heb feddwl yn galed iawn i ba iaith y mae’n perthyn, fel yr oedd ‘leins’, ‘prêrs’, ‘tebls’,  ‘homwyrcs’, ‘ffôld âms’, ‘diténd’ (= detention), ‘pôitsh’ (= porch), ‘poitris Susnaig’  ac amryw eraill i ni, blant y pedwardegau mewn cymdeithas nid mor wahanol i’r un yn y nofel.

Wedi iddo fynd i’r Deheudir mae’n debyg y tyr y Saesneg yn amlach ar glust William Jones, a bod yn rhaid iddo yntau ymdopi mwy â hi. Yn gyffredinol, cofnodir Saesneg Bryn Glo yn uniongyrchol, heb italeiddio:

“Why don’t you go to ’er ’ouse ’stead of sendin’ plicemen to a ’spectacle ’ome … ?”

Ond defnyddir y ffonetig ar y naill law a’r italig ar y llall i gyfleu graddau o Gymreigrwydd ymhlith y siaradwyr:

“Sid Jenkins, Ynys-y-gog,” meddai ei ryferthwy o lais. “Audition. Six-thirty.”

“William i fod ar y weiarles, Meri!”

A dyma sgwrs William â dwy wraig yng Nghaerdydd:

“’Arf past one,” meddai’r hynaf o’r ddwy, gan chwilio am allwedd y drws.
“When will the Manijar be here?”
“Quarter parst.”

Mae William yn medru Saesneg, ond fe ddywed y ‘Manijar’ rywbeth amdano. Greddf.

Yn yr un genhedlaeth, cofnodwr perffeithgwbl arall ar dafodiaith yw Islwyn Williams, yn ‘Cap Wil Tomos’ a storïau eraill am gymdeithas weithfaol Cwm Tawe.  Italeiddio y mae, lle tery’r Saesneg i mewn:

“Fe etho tsha thre’r nosweth ’ny, a chyn tynnu’n nghot fawr, dyma fi’n straight at y cwbwrt, a chyn    bo ti’n cal amser i glapo dy lyced, dyma’r whole lot, y bôrd a’r draffts bob un i genol y tân! ’Wharies i byth gêm o ddraffts wedyn!”

Fel gyda Thomas Bartley, mae rhywbeth yn dweud wrth y siaradwr pa air sydd wedi ‘gwneud ei wely’ yn y Gymraeg a pha air sy’n dal yn fenthyg, ac mae’r defnydd dethol o’r italig yn cyfleu hynny’n ddigon pwrpasol.

Byd cwbl Gymraeg sydd i Un Nos Ola Leuad.  ‘Seusnag run fath â Chymraeg oedd Huws Ciwrat yn siarad.’ Mae tipyn o lediaith gan Ceri Hogan Canon ‘ar ôl bod i ffwrdd mewn ysgol yn Lloegar’, ond nid oes dim o’i le yn ramadegol ar ei Chymraeg. Trawsgrifio’n gyson iawn yw’r rheol felly: Blŵ Bel, colar starts, Jyrmans, ficrej, olreit, myshirŵms, ryffarî, magu mysls, yn slo bach, Ji yp Pol, ac – ie’n wir – tsips.  Mae ambell eithriad: gallasai tŷ Defi Difas fynd yn ‘Snodn Fiw’, ond arhosodd yn ‘Snowdon View’; ac fel yn ‘cym on the Celts’ ni Chymreigir ‘the’ bob amser.

Deudwr mwyaf chwarter canrif olaf yr hen ganrif oedd Mr. John Ifans, Dre-fain, a’i grewr W.S.Jones yw’r cysonaf o’r trawsgrifwyr:

Tw Hw It Mê Consyrn

‘Wi onli cetar ffor ddy Mesns,’ ges i

E ffrend indîd us e ffrend in nîd

Fel Wil Bryan mae Ifans yn meddwl ei fod yn dipyn o Sais, ond eto mewn ffordd wahanol. Os nad yw geiriau Saesneg Ifans wedi eu cymathu eisoes, mae ef fel petai’n eu cymathu yn y fan drwy rym ei gymeriad:  embaras, fyisi fyrsi, busnas man, cyt ddy comics, conffiws, ffyinansi,  snêc in ddy gras, pyblic nymbar wan, pob sunsuriti, dden and ddêr, myidn foiej, fy handi ciap, y Wyiping Wylo … ac allweddeiriau eraill lawer.  Ni bydd yn defnyddio italig ond i bwysleisio:

Ryff pasej, hwnna ydi o, ryff pasej.

Peth arall am Ifans, nad ydym wedi ei gwrdd o’r blaen, yw mai Malapropiwr ydyw, yn mwrdro’r iaith Saesneg drwy gamynganu, drwy gamgofio ymadroddion a thrwy fathu ei ymadroddion Saesneg ei hun:   ffanasdig, sgersli bilîf, teligrafftio, musyri tŵr, Shyiloc Hôms, anti ffrost (= anti-freeze), lac o dignit, England Refeniw, fflysh twyilyit, Biwtini on ddy Bownti.   Un peth sy’n sicr, ni welwn ei fath eto.

Cyn gadael Wil Sam, rhaid cael dyfynnu darn dialog byr o Gwalia Bach.   Ni chyhoeddwyd erioed mo’r ddrama, ond rwy’n sicr fy nghof mai fel hyn yr oedd y sgript:

FISITOR:   The bull has broken through again, Mr. Owen!
ROBAT neu WILLIAM:   Not bwl. Heffar. No denjar. Nefar tylcin.

Fel y down at ein cyfnod ni, mae gofynion a phroblemau newydd. Un ohonynt yw cydnabod oll-bresenoldeb y Saesneg, peth y mae bron yn amhosibl ei osgoi heb un ai (a) fynd yn ôl mewn hanes neu (b) fynd i wlad arall, fel y gwna Saunders Lewis yn Gymerwch Chi Sigarét? neu William Owen Roberts yn Petrograd.  Wedyn, yn gysylltiedig, mae cyfleu Cymraeg y dywedai llawer ei fod yn ‘sâl’.

Mae dau fath o ‘sâl’, ac mae ieithyddiaeth yn gwahaniaethu’n glir rhyngddynt.  (a)  Ansafonol (substandard) yw’r naill: nid yw’n unol â rhyw safon a osodir gan draddodiad llenyddol neu (yn Lloegr yn arbennig) gan ddosbarth cymdeithasol, ond mae’n cyfleu ystyr yn burion, ac fe’i defnyddiwyd yn helaeth gan Dickens ac awduron eraill yng ngenau gwerinwyr ac i greu digrifwch.   (b)   Anghywir yw’r llall, a hanfod hwn yw methu â chyfleu ystyr.  Anghywir, a dyna ben arni, yw ‘doeddwn i heb ymolchi’ lle golygir ‘roeddwn i heb ymolchi’ neu ‘doeddwn i ddim wedi ymolchi’.  Anghywir yw ‘y dyn a brynodd car’ lle golygir ‘y dyn a brynodd gar’.  Gall awdur sgrifennu pethau anghywir am un o ddau reswm; (a) i gyfleu bod y siaradwr yn anghywir, neu (b) am na ŵyr yn amgenach ei hun.

Wrth ystyried llenyddiaeth heddiw, â’r ansafonol y mae a wnelom yn amlach na pheidio, er y trewir ar beth anghywirdeb hefyd, a hwnnw’n anesgusodol.   Cryfder y Gymraeg, ond ei phroblem yr un pryd yn union, yw ei natur ffonymig, y ffaith fod un symbol yn cynrychioli un sain bron yn ddieithriad, ac y gellir felly gyfleu’r ynganiad sain am sain.  Wrth ddarllen geiriau Sam Weller neu Bill Sykes, rhaid inni ddychmygu llawer o’r ynganiad, er nad y cyfan, drwy ddwyn i gof y dafodiaith. Ond gall yr awduron Cymraeg yr wyf wedi eu henwi, a’u holynwyr heddiw, roi inni’r sain bron yn ddi-feth, ac maent yn gwneud.  Mewn dialog, mae’r cywirdeb hwn yn gweithio, ond yn y naratif (onibai fod hwnnw’n fonolog fel yn Un Nos Ola Leuad)  gall fynd yn fwrn ac yn drwm ar y llygad, a dyna pam, yn ddoeth iawn, y mae’r papurau bro i gyd yn dewis Cymraeg safonol a gweddol lenyddol fel eu cyfrwng.   Rwyf wedi trafod hyn o’r blaen ar y blog, e.e. 19 Tachwedd 2012 a 28 Chwefror 2014.

A all pethau fynd yn waeth ?

1 Ion

Blwyddyn Newydd Dda i’n darllenwyr oll !  Awdur gwadd heddiw : Gethin Jones

Mae rhywun yn gofyn yn aml, a all cyflwr Cymru waethygu?  Dyma grynodeb byr o’r llanast a’r dinistr diweddar.

1.    Dyma hi eisoes yn meddu’r teitl haeddiannol, ‘rhanbarth tlotaf Ewrop’, un o ddau ranbarth yng Ngogledd Ewrop  sy’n gorfod cael rownd arall o Amcan Un. Ble’r aeth yr arian o’r blaen?   A beth sydd i’w ddangos?

2.    Ystadegau iaith 2011.  Wedi pasio’r pwynt … ?

3.    Wylfashima Newydd?  Ugain y cant o’r gweithwyr i fod yn ‘lleol’, a ‘lleol’ = Gogledd Cymru?   I ba blaid mae Rhun yn meddwl y bydd y 80% arall yn pleidleisio?  Daw ymadrodd i’r meddwl:  tyrcwn yn pleidleisio dros Nadolig!  A sôn yn awr am atomfa fach ‘arbrofol’ yn Nhrawsfynydd.   Arbrofi ar bwy?

4.    Profi drôns yn Aberporth. Cynghorau cymuned Ardudwy am gael rhagor yn Llanbedr.  Carwyn eisiau Trident.

5.    Syniad pwy oedd cau cynifer o ysgolion yng Ngwynedd? Cliw?  Cynghorwyr P— C—?

6.     A syniad pwy oedd caniatáu dros chwe chant o dai ychwanegol ym Mangor?

7.    Neb o’r Cynulliad yn medru helpu pan drowyd dwy Gymraes o’r Wladfa i ffwrdd mewn maes awyr am nad oeddent yn medru Saesneg.

8.    Sgandal y Byrddau Iechyd.  Betsi Cadwaladr, – penodi Prif Weithwredwraig o wlad heb wasanaeth iechyd o gwbl !

9.     Cyflwr ofnadwy S4C a Radio Cymru.

10.   Methu sefydlu papur dyddiol.

11.   Dinistrio Prifysgol Cymru.  ‘Wedi mynd i ddrewi,’ medd un o Arglwyddi P— C—.

12.      Wrth i’r SNP gynyddu ei haelodaeth i dros 90,000, eistedd fel mulod diymadferth a wna’r Cymry, yn gwylio deg ffatso ar hugain yn rhedeg ar ôl ŵy.  Gareth Edwards a Sam Warburton yn cefnogi ymgyrch NA yr Alban!  A neges fach arall i’r cefnogwyr rygbi: dysgwch un gân yn iawn cyn trio’i chanu!  Pathetig!

Dyna ddwsin.  Be arall all fynd o’i le?

13.     Dychmygaf y map. Fy etholaeth fy hun, Arfon, wedi mynd yn goch. Alun Pugh yn diolch o galon i fyfyrwyr Prifysgol Bangor.  (Canghellor y Brifysgol honno?  Gw. Rhif 11.)