Archif | Awst, 2013

Lan yr Aber!

23 Awst

Roedd yr hen Goleg ger y Lli, Prifysgol Aberystwyth bellach, yn amlwg yn Lol yr haf hwn, ac yn awr dyma’i gwneud-hi i golofnau Private Eye (21 Awst, t. 28).  Sôn am ddiswyddiadau, cwynion o “unbennaeth”, a chytundeb newydd i gydweithio â llywodraeth greulon a llwgr Azerbaijan!  (Gwaeth, clywaf chi’n gofyn, nag ymrwbio beunyddiol cynifer o brifysgolion yn llywodraeth Tsieina?)   Nid yn hawdd y dyddiau hyn y daw enwau prifathrawon (is-gangellorion fel y dywedir) colegau Cymru i feddyliau’r cyhoedd, hyd yn oed y cyhoedd addysgedig a graddedigion, a llai fyth felly enwau llywyddion y llysoedd (y rheini’n troi’n “gangellorion” bellach, ar ôl hollti Prifysgol Cymru). Ond yn wir mae Llywydd Aberystwyth, Syr Emyr Jones Parry, yn prysur wneud enw iddo’i hun cystal ag enw Arglwydd Kenyon gynt ym Mangor. Yr hwi gafodd hwnnw yn y diwedd, fel y bydd rhai’n cofio, ond wn i ddim chwaith a fu’r hen goleg damaid haws o hynny.

Stori arall yw honno.  Y cwestiwn mawr ym meddwl yr hen Glyn Adda heddiw ydi, pam mae’n rhaid inni ddibynnu ar Private Eye i gael achlust o’r pethau hyn?  Ble mae’r wasg Gymraeg?  Lol, ie, a diolch amdano (rhifyn da eleni), ond beth am y wasg reolaidd, “o ddifri”?

Peth cysylltiedig, a pheth mwy eto. Sgandal fwyaf byd addysg Cymru yn fy nghof i, ac yng nghof neb sy’n fyw, yw ymgais bowld Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant i feddiannu breintiau a chyfalaf y wir Brifysgol Cymru. Mae’r peth yn anghyfansoddiadol, ni ddylai byth ddigwydd, a rhaid ei atal. (Tipyn wedi digwydd oddi ar ddrafft diweddaraf  “Trwy Ofer Esgeulustod” ar y blog hwn.)  Mae Karen Owen yn Y Cymro wedi dilyn y stori ac yn dal i adrodd pethau pwysig.  Ond ble mae gweddill y wasg?  Pa ddylanwad sy ar waith?

Môn yn Cracio

23 Awst

Troi at yr hen Private Eye eto. Ar glawr rhifyn yr wythnos hon, dan y pennawd FRACKING – THE GREAT DEBATE, dyma lun Boris Johnson a George Osborne, bob un â’i gôt felen a’i helmed, yn ymweld â rhyw safle,  —  cymerwn mai safle ffracio.  “Is it splitting the country?” gofyn Boris.  “Not yet, but give it time,” meddai’r Canghellor.

Dylai’r ddau wleidydd yn awr ddarllen Craciau, nofel Bet Jones ac enillydd Gwobr Daniel Owen eleni.  Wrth ei darllen a’i mwynhau, cefais fy hun yn dilyn rhyw hen arfer ac yn gofyn, o ran diddordeb, i ba dylwyth llenyddol y mae’n perthyn?

Yn gyntaf (ac mi hoffwn ymhelaethu ar hyn cyn bo hir), dyma ychwanegiad difyr at y dosbarth hwnnw o straeon a dramâu sy’n “mynd rownd y dref”.  Be mae hwn-a-hwn yn ei wneud heddiw?  Be sy’n digwydd yn y fan-a’r-fan?  Dyna a wna “Gweledigaeth Cwrs y Byd”, Ellis Wynne, wrth fynd o stryd i stryd yn y Ddinas Ddihenydd. Esiampl ardderchog yw pennod gyntaf Y Dreflan, Daniel Owen, sy’n ein tywys o gwmpas y cyrff crefyddol, un ac un.  I’r un tylwyth y perthyn Under Milk Wood ac Un Nos Ola Leuad, a drama hoffus Thornton Wilder, Our Town.   Felly Craciau; yn union cyn y cracio, awn o  gwmpas Llangefni a’r cyffiniau, gan gyfarfod croestoriad o’r bobl, – rhai o wahanol haenau, buddiannau, gobeithion, pryderon a phroblemau. Yna daw’r trychineb, gan daro pawb mewn gwahanol ffyrdd.

Tylwyth arall, ac os dyfynnaf frawddeg byddwch yn ei adnabod.  “C’mon, c’mon!  Let’s get out o’ here!”  Ie, tylwyth y Ffilm Drychineb Americanaidd, neu “American Disaster Movie”, dosbarth neu genre mewn ffilm sy’n codi’n rhannol o’r paranoia mawr Americanaidd, ac a all achosi weithiau i realiti ddynwared ffuglen gyda chanlyniadau echrydus.  At ei gilydd yn y confensiwn hwn, bydd dau neu dri o brif gymeriadau yn ddihangol ac yn arwyr wedi’r chwalfa fawr, a derbynnir y bydd lluoedd o bobl hepgoradwy yn cael eu difa.  Oes, mae elfen o wobrwyo’r cyfiawn yn Craciau, gyda dihangfa Kelly, ond fel arall mae yma fesur o annibyniaeth ar y confensiwn. Daw’r trychineb, nid fel storm ar ganol hirddydd haf, ond ar draws bywydau ac ynddynt anawsterau eisoes: gwaeledd yr hen wraig a phryder ei gŵr, diflastod un o’r merched ifainc, alcoholiaeth y fam ganol-oed, twyll personol a phroffesiynol  ei gŵr hithau, rhagrith y cynghorydd, diffeithdra dau hwdi. Mae craciau yn barod mewn cymdeithas, mewn perthynas ac mewn personoliaeth, a daw’r crac yn naear Môn i ddyfnhau’r rheini oll. Ym mhen hyn ceir elfen gymedrol o ddychan neu feirniadaeth ar hunan-dwyll Ynys Ynni.

Pa atomfa yw hon sydd mewn cymaint perygl, A ynteu B? Nid yw’r nofel yn dweud, ac nid yw hynny’n ofynnol. Ond ni allwn osgoi gwleidyddiaeth y diwydiant niwclear wrth ei darllen.  Ar y mater hwn ni wnaf ond cyfeirio’r darllenwyr at lythyr Dr. Carl Clowes, sydd i’w weld ar flog SYNIADAU.

Welwn ni Wylfa B?  Na welwn, heb sicrhau dau beth.   (1) Pleidlais “na” yn yr Alban, i sicrhau fod cyfoeth olew Môr y Gogledd yn dal ar gael i sybsideiddio’r diwydiant niwclear Prydeinig.   (2) Bod Japan yn cael gafael ar dir fferm Caerdegog.  A yw Cyngor Sir Môn am gyhoeddi’r gorchymyn meddiannu?  A chwestiwn pwysicach, beth a wna Plaid Cymru wrth i un Cymro wneud yr hyn y dylai pob Cymro ei wneud, “dal dy dir”?

Beth bynnag, yn ôl at Craciau.  Gyda Llangefni yn union yng nghanol yr ynys, tua’r un pellter o’r ffracio ffuglennol i’r De a’r ffrwydrad dichonol tua’r Gogledd, a chyda’i bloc o fflatiau sy’n amlwg o bell, dyma ddarlun clir, cryno ac ynddo ddefnydd stori yn y fan. Ond yr oedd angen gwelediad i ganfod y stori yn y llun, ac fe’i cafwyd.  Diolch hefyd am Gymraeg cywir a darllenadwy, – peth nas cafwyd gan bob un o enillwyr prif wobrau rhyddiaith y blynyddoedd diwethaf.  Enillydd teilwng iawn.

Trowch hi rownd!

23 Awst

Nid Tu Chwith yw’r unig gylchgrawn sy’n cynnwys tipyn o du-chwithdod.  Dyma geisio esbonio drwy’r hen flog yr hyn yr wyf wedi ei esbonio i nifer o gyfeillion. Os darllenwch fy ysgrif (DGJ) ar yr ‘Hen Bwnc Amhoblogaidd’ yn rhifyn cyfredol  Y Faner Newydd, efallai y teimlwch fod y drafodaeth yn colli’r trywydd ac yn gorffen yng nghanol rhyw gae rwdins.  Byddwch yn iawn!  Ffeiriwch y ddwy golofn ar dudalen 47 ac fe gewch oleuni!  Ie, cythraul y wasg yntê.  Peri meddwl braidd am y sefyllfa ddiarhebol yn y pictiwrs ers talwm, y rheolwr wedi cymysgu dwy rîl, y trancedig yn ymddangos yn y darn olaf yn fyw ac iach, a’r llais hwnnw’n gweiddi o’r seti swllt:  “mae o wedi’i chael hi ers meityn, hogia !”  Gobeithio y cawn weld y fersiwn gywir yn YFN cyn bo hir; yn y cyfamser gellir darllen yr un stori, fwy neu lai, yn archif Mawrth, y blog hwn.

(Gyda llaw, darllen yn Y Cymro, 2 Awst, am bwnc hyd yn oed mwy amhoblogaidd na’r hen Gymraeg druan. Addysg Grefyddol yw hwnnw, “y pwnc lleiaf buddiol” yn ôl arolwg a wnaed drwy’r Deyrnas. O, wel, newydd da i Gristnogion, mwy o le yn y nefoedd.)

Geirda gan ŵr doeth

23 Awst

Wrth adolygu Cyfrolau Cenedl 7, Dramâu W. J. Gruffydd, dywedodd Dr. J. Graham Jones yn Y Cymro am y gyfres yn gyffredinol:

‘Cynhwysir yn y gyfres nifer o weithiau  y mae’n hynod anodd cael gafael arnynt yn ein dyddiau ni heddiw, a mawr yw ein dyled i’r golygydd am sicrhau eu bod ar gael i ddarllenwyr cyfoes.

Golygwyd  pob un i’r safonau golygyddol uchaf, cynhwysir rhagymadrodd penigamp ym mhob achos.

Hyfryd darllen bod danteithion pellach yn yr arfaeth eto o fewn y gyfres bwysig hon. … Yn ddi-os bydd disgwyl eiddgar amdanynt oll a gwerthfawrogiad llawn a brwdfrydig ohonynt. …  Mae’r llyfrgell a adeiladwn bob yn rhifyn fel hyn yn ffynhonnell  bwysig i unrhyw un sydd yn ymddiddori  yn hanes a llenyddiaeth Cymru.’

Dyna ichi farn dyn yn gwybod ei bethau.  Ac edrych ymlaen, gallwn gyhoeddi y bydd cydymaith i’r gyfrol hon, Eira Llynedd ac Ysgrifau Eraill gan W. J. Gruffydd, yn ymddangos fis Medi.  Hon fydd Cyfrolau Cenedl 8, ac efallai y bydd “Pecyn Llanddeiniolen” ar gael am bris bargen bach.

Yn y cyfamser, gallwch ddarllen y stori “Trobwynt” ar y blog hwn.  Jôc?  Ie efallai, ac eto nid dim ond jôc.  Beth petai … onid e ?