Archif | Mehefin, 2012

Stori Fer: Gwthio’r Ffiniau

14 Meh
            ‘Os yw MICI MOWS yn bresennol …’            A dyma’r foment wedi dod.  Wedi cynnwrf y tair wythnos o wybod fy mod i wedi ennill, a’r gofal i gadw’r gyfrinach, ie a’r dyddiau o ystyried tybed a wnes i’r peth iawn, rwy’n rhyfeddu mor dawel fu fy meddwl dros yr hanner awr ddiwethaf, eistedd yma yn ‘y pafiliwn gorlawn’ fel byddwn ni’n dweud, hynny yw go lew o lawn, gwrando cyfarchion y cynrychiolwyr Celtaidd gan ddeall ambell ‘agus’, ac yna gwrando ar fy mrawd yn traddodi ar ran ei ddau gyd-feirniad ac yntau.

‘… safed ar ei draed neu ei thraed,’ meddai llais croyw, persain yr Archdderwydd Madonna Môn, ‘tra’r eistedd pawb arall.’

Y Corn Gwlad.

Panic. Eiliad o edifeirwch. Allwn i ddal i eistedd, cadw fy mhen i lawr, gorfodi Madonna i gyhoeddi nad oedd yn ymddangos fod Mici Mows yn bresennol, llithro allan ar y diwedd gyda’r dorf siomedig?  Cadair ddu? Ond cael y Ddawns Flodau yr un fath, rhag siomi’r genethod bach? Ond na, bydd y Cyfansoddiadau ar werth bnawn Gwener, y Dilyniant yno i bawb ei weld, a’m henw a’m cyfeiriad innau.   Does dim dianc bellach. Fe’i gwnes er mwyn gwthio’r ffiniau, er mwyn ysgwyd y Gymru lenyddol o’i rhigolau cyfarwydd.  Rhaid mynd ymlaen.

Ffydd, sbring, adrenalin, penderfyniad, gwiriondeb – wn i ddim p’run a’m cododd ar fy nhraed, ond fe wnaeth rhywbeth. Eiliad neu ddwy, yna’r chwilolau’n dod o hyd imi. Llawenydd y dorf yn fy nghofleidio. Finnau’n gwneud ‘hapus ond dirodres’.

Yn ystod y ddau neu dri munud tra oedd Twm Teiliwr (Meistr y Gwisgoedd) a Glesni’r Glannau a Llwydni Llwyd (dwy gyn-enillydd) yn ymlwybro tuag ataf, aeth fy meddwl dros yr holl stori eto, sut y dois i fod yn sefyll fan hyn yr eiliad hon.  Dywedwch chi nawr fy mod i wedi ennill ac yn perthyn i’r Archdderwydd, fyddai dim byd newydd na chreadigol yn hynny, na fyddai? Mae wedi mynd yn un o ystrydebau’r Eisteddfod, yn digwydd bron bob blwyddyn. Ac os na ddaw rhyw ddatblygiad newydd o hyd, i brocio’r dychymyg ac i herio disgwyliadau, yna fe fydd llenyddiaeth Gymraeg yn llesgáu a marw. Gwthio’r ffiniau, dyna’r her inni o hyd.

O’r foment y penderfynais i ymgeisio mi fûm yn osgoi fy mrawd, rhag inni drafod yr Eisteddfod o gwbl. Roeddwn i am i’r peth fod yn gymaint o syrpreis iddo ef ag i unrhyw un arall. Y peryg oedd y byddai’n adnabod rhai llinellau a phenillion o’m Dilyniant, wedi eu gweld nifer o weithiau o’r blaen, oherwydd dyma’r seithfed tro iddynt fod yn y gystadleuaeth. Do, mi weithiais yn galed ar ddiweddaru ac addasu’r hen waith prosiect MA hwn dros y blynyddoedd, gan ei sgiwio i gwrdd ag amrywiaeth o destunau: ‘Tân’, ‘Dŵr’, ‘Bwrlwm’, ‘Difaterwch’, ‘Methiant’, ‘Pryddest yn adlewyrchu argyfwng ein gwareiddiad heddiw’, ac yn awr ‘Dilyniant o Gerddi heb fod mewn cynghanedd reolaidd yn ymwneud â pherthynas dau frawd neu ddwy chwaer neu frawd a chwaer’. Wrth gwrs mi ollyngais amryw o gliwiau bach yng nghwrs y gwaith, fel na allai’r beirniad dylaf fethu gwybod pwy oeddwn. Mae hynny o fewn y rheolau on’d ydi?

Dyma fi’n ymwthio i ymyl y rhes i gwrdd â’r osgordd. Wynebau llawen, a dwylo lu yn ymestyn i’m cyfarch. Yr hen glogyn piws dros f’ysgwyddau. Cau’r botwm yn ofalus, a dyna ni, am wn i, yn barod i gychwyn ar ein hymdaith fuddugoliaethus tua’r llwyfan mawr.  Ymdeithgan y bardd buddugol, ac wrth inni droi cornel Bloc D, dyma’r clapio rhythmig yn dechrau, – arfer braidd yn blentynnaidd gan bobl yn eu hoed a’u hamser, mi fyddaf i’n meddwl, ond dyna fo, rhaid i bobl gael eu hwyl.

Roedd anghytuno diddorol rhwng y tri beirniad, deunydd trafod bywiog ar dudalennau Barddas am fisoedd i ddod. Roedd un am goroni ‘Efnisien’, un arall yn addef iddo anwadalu am wythnosau a cholli nosweithiau o gwsg cyn cael ei ennill yn y diwedd gan ddadleuon fy mrawd o blaid ‘Mici Mows’, sef fi.  Clod uchel i Efnisien felly, ond Mici Mows yn mynd â hi drwy fwyafrif.

Gan fod y llifolau ar y llwyfan, allwn i ddim darllen wyneb fy mrawd, a oedd erbyn hyn yn eistedd yn y llawr wrth fwrdd y beirniaid.

‘Enw bardd y Goron eleni yw Lleu Llaw Gyffes Williams.’ Cymeradwyaeth. ‘Mae’n frodor o Ddinas Dinlle, wedi ei addysgu yn Ysgolion Llandwrog a Dyffryn Nantlle.’ Gwawch o gymeradwyaeth gan rai o’m cydardalwyr. ‘Fe raddiodd mewn Cymraeg …’ Cymeradwyaeth. ‘… Diwydiannau Creadigol a Gweinyddiaeth Addysg ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant Metropolitan Abertawe.’  Cymeradwyaeth frwd. ‘Ar ôl bod am dair blynedd ar ddeg yn un o brif arweinwyr yr ymgyrch yn erbyn sefydlu Coleg Cymraeg Ffederal, mae yn awr yn Ddirprwy Swyddog Gwerthuso Mewnbwn yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.’ Cymeradwyaeth fyddarol. ‘Yr oedd hefyd, bydd o ddiddordeb ichwi wybod, yn aelod o’r Pwyllgor Llên a ddewisodd destun y gystadleuaeth hon.’ Cymeradwyaeth wresog. ‘Hyd y gwn i, dydi o ddim yn perthyn i’r Archdderwydd …’   Chwerthin iach. ‘Ond mae o’n frawd i’r Prifardd D.A.T.Williams (Dylan Ail Ton), yr ydych newydd ei glywed yn traddodi’r feirniadaeth.’ Cymeradwyaeth ysgubol.

‘Ac yn awr fe symudwn ymlaen i goroni Mici Mows.’ Hanner-ddadweiniwyd y cleddyf mawr – cleddyf heddwch wrth gwrs  – uwch fy mhen. ‘Gwaedd uwch adwaedd, a oes heddwch?’ ‘HEDDWCH!’ ‘Calon wrth galon, a oes heddwch?’ ‘HEDDWCH!’  ‘Y gwir yn  …’.

‘Hanner munud, Madam Archdderwydd …!’  Yr oedd cryn fwmian wedi codi o gyfeiriad Bloc F, ac ni bu’r chwilolau yn hir cyn darganfod merch gymharol ifanc wedi codi ar ei thraed.

‘Gosteg yn yr Eisteddfod!’ deddfodd yr Archdderwydd. ‘Rhydd i bob barn ei llafar! Ewch ymlaen, Hyddgen Ifans!’

Wrth gwrs! Pwy ond Hyddgen Ifans, ar y blaen ym mhob gwrthdystiad dros y chwarter canrif diwethaf!

‘Hybarch Archdderwydd, aelodau’r Orsedd a chyd-eisteddfodwyr,’ meddai Hyddgen mewn llais clir, ‘rydych chi newydd gyhoeddi fod y bardd buddugol yn frawd i un o’r beirniaid. Ydi hyn yn unol â rheol yr Eisteddfod?’

Tyfodd y mwmian yn weiddi. ‘Ie! Ie!  Clywch, Clywch! Rheol yr Eisteddfod!’

Roeddwn i’n edmygydd o Hyddgen a’i hymgyrchu diflino ar bob pwnc dan haul dros y blynyddoedd. Roeddwn i’n ei hedmygu am hyn hefyd, oherwydd roedd ei chwestiwn yn un hollol ddilys, a minnau wedi bod yn dyfalu pwy fyddai’r cyntaf i’w godi. Oes, mae gan yr Eisteddfod reol ynghylch perthyn i’r beirniad, ond does ganddi ddim diffiniad clir o ‘perthyn’. Dyma ichi R.Dolydd Williams (Dolydd) rai blynyddoedd yn ôl yn ennill ar yr hir-a-thoddaid, ac yntau’n gyfyrder i ail wraig llysfab mam-yng-nghyfraith y beirniad. Chododd neb unrhyw wrthwynebiad ar y pryd.  Ie, beth ydi perthyn?  Roedd codi’r cwestiwn yn rhan o’m bwriad i.  Gwthio’r ffiniau.

Roeddwn i’n barod am rywbeth fel hyn. A phan ofynnodd yr Archdderwydd mewn sibrwd a oedd gen i ryw sylw, mi sibrydais y gallwn i brofi nad oedd rheol yr Eisteddfod wedi ei thorri. ‘Gofynnwch,’ meddwn i, ‘a oes yna arbenigwr ar eneteg yn y pafiliwn.’ ‘Gosteg yr Eisteddfod!’ siarsiodd Madonna eto, gan daro’r deyrnwialen yn y llawr. ‘A oes arbenigwr ar eneteg yn bresennol?’ Tipyn o stwyrian a mwmian. Yna cododd dyn ym Mloc Ch, a dod ymlaen i’r llwyfan. Ysgwyd llaw â’r Archdderwydd, a sibrwd.

‘Mae’n dda gen i gyhoeddi,’ meddai Madonna Môn, ‘fod y cyfaill hwn, Dr. D.N.A.Crick o’r  Sefydliad Geneteg ym Mhrifysgol wych South Bank, Llundain, yn gallu’n helpu i brofi a dorrwyd y rheol ai peidio.’ Cymeradwyaeth.  Chwipiodd Dr. Crick o’i boced botel fechan wydr, a thynnu ohoni ryw goesyn bach o bren, hanner ffordd rhwng coes matsen a choes hufen iâ. Trawodd hwnnw yng nghornel fy ngheg, a’i daro’n ôl yn y botel wedyn, mwyaf di-lol, mor hawdd â … maddeuwch y gymhariaeth … llyncu poeri. Chwipiodd y botel yn ôl i’w boced, sibrydodd rywbeth wrth yr Archdderwydd eto, yna heb air ymhellach camodd i lawr grisiau’r llwyfan, at fy mrawd wrth fwrdd y beirniaid, a gwneud yr un peth wedyn, â photel o’i boced arall. Cerddodd yn gyflym iawn, rhedeg bron, i gyfeiriad Drws A, a agorwyd yn ebrwydd iddo gan y stiward, a diflannodd.

‘Wel nawr, gyd-eisteddfodwyr,’ meddai Madonna, ‘mae hyn yn ddigwyddiad heb lawer o gynsail yn hanes maith yr Orsedd a’r Eisteddfod, ac am hynny rydw i am ofyn ichi i gyd fod yn amyneddgar. Fe gymer dipyn o amser i Dr. Crick ddod â chanlyniad ei arbrawf inni, ac fe gawn ni weld wedyn a oes coroni i fod eleni. Pawb felly i aros yn ei sedd, os gwelwch yn dda, a’r drysau ar gau nes bydd yr osgordd wedi gadael y llwyfan.’

Wrth sefyll yno, a’r cleddyf noeth yn dal uwch fy mhen, a breichiau rhai o’r Derwyddon, mi allwn i feddwl, yn dechrau cyffio, roedd gen i ddigon o amser  i feddwl. Meddwl, yn un peth, am yr hwyl a fyddai ddydd Gwener, yn nefod y cadeirio. Dau efaill ydi Pebr a Brewys Wyn Huws, dau o rai gwreiddol a direidus, ac yn canu – hynny yw barddoni –  mewn perffaith gynghanedd unwaith y byddan nhw’n dechrau arni. A fyddan nhw’n codi eleni i gyd-eistedd yng nghadair yr Eisteddfod? Dyna gyfrinach nas gŵyr ond ychydig iawn, y beirniaid, yr Archdderwydd o bosib, Ysgrifennydd y Pwyllgor Llên ac argraffwyr Gwasg Gomer. Ond rydw i wedi clywed, o le da, eu bod nhw eleni wedi llunio awdl ar y cyd ar un o’r ddau destun ‘Adnewyddiad’ neu ‘Castiau Mwnci’ (rwy’n meddwl mai’r ail); ac o wybod am eu dawn rwy’n meddwl y bydd angen ymgeisydd cryf iawn i’w curo. Rhywbeth i edrych ymlaen ato felly. Gwthio’r ffiniau. Ond mae hyn heddiw hefyd yn gyfraniad bach tuag at hynny, rwy’n hoffi meddwl. Y cyfan er mwyn yr Eisteddfod a’r diwylliant Cymraeg.

Tair wythnos y bûm i’n sefyll yno, a’r dorf yn amyneddgar iawn, chware teg iddi. Rhai yn y llawr yn agor pacedeidiau o greision a Monster Munch ac yn eu crensian i dorri newyn. Dau o’r cyn-enillwyr yn llewygu y tu ôl imi, a gorfod eu cario allan. Ambell un o’r Derwyddon yn newid llaw i gyffwrdd y cleddyf. Cafwyd y Ddawns Flodau dair gwaith, ac yna meddwl y byddai’n well i’r genethod bach gael mynd adref. Cymeradwyaeth iddyn nhw. Pwy ddaeth i’r adwy ond y bariton bydenwog Glyn Tryfal, a oedd yno i ganu Cân y Coroni, ac a wirfoddolodd yn garedig iawn i’n diddanu am dair wythnos drwy ganu’r cyfan o operâu Wagner. Cyfieithu ar y pryd i’r Gymraeg hefyd, chware teg iddo, er mwyn diogelu’r Rheol Gymraeg, a hollol iawn oedd hynny, oherwydd unwaith y dechreuwn ni dorri’r rheolau, dyn a ŵyr be fydd ei diwedd hi. Da iawn yr hen Glyn!

Fel yr oedd Parzival yn llesmeirio am y tro olaf ym mhresenoldeb y Greal Sanctaidd, dyma gynnwrf yng nghefn y pafiliwn, digon i ddeffro’r Archdderwydd,a oedd wedi cysgu uwchben ei thraed ers meityn. Yn brasgamu i lawr yr ale tua’r llwyfan oedd Dr. D.N.A.Crick, yn chwifio darn o bapur. Yr oedd y creadur yn amlwg allan o wynt pan sodrodd y papur yn llaw Madonna Môn. Craffodd hi arno am eiliad neu ddwy, ac yna cyhoeddi â gwên fawr ar ei hwyneb: ‘Mae’n dda iawn gen i allu dweud, gyfeillion, y gallwn ni fynd ymlaen â’r coroni!  Oherwydd mae’n ymddangos oddi wrth y dystiolaeth wyddonol nad yw’r bardd buddugol, Lleu Llaw Gyffes Williams, yn perthyn dim dafn o waed i feirniad y gystadleuaeth, y Prifardd Dylan Ail Ton!’  Rhyddhad! Cymeradwyaeth galonnog! Ac i’m ‘brawd’, fel yr wyf wedi arfer ei alw erioed, dyma ail syrpreis yr Eisteddfod hon. Mae’n debyg na wyddai ef erioed, ond fe wyddwn i, mai mab mabwysiedig oeddwn i, heb rannu dim â’m brodyr a’m chwiorydd ac eithrio wrth gwrs ein magwraeth ddiwylliedig a’n diddordeb yn Y Pethe.  Popeth yn iawn felly!

‘ … Erbyn y byd,’ gorffennodd yr Archdderwydd ei brawddeg, ‘a oes heddwch?’

Bloeddiodd yr Eisteddfod yn unfryd ond yn flinedig  ‘HEDD!’   Eisteddais innau yn hedd yr Eisteddfod a gosodwyd y goron ar fy mhen, ychydig yn gam, ond dyna fo. Cafwyd cyfarchion dau o’m cyd-awenyddion, a chanodd Glyn gân y cadeirio, ychydig yn floesg ar ôl yr holl Wagnerio, ond yn hwyliog, chware teg iddo. ‘Hen Wlad fy Nhadau’, ac roedd hi’n bryd i’r osgordd adael y llwyfan.

Tipyn yn fflat y gwelwn i bethau pan ddaeth Madonna Môn a minnau allan i olau dydd drwy ddrws blaen y pafiliwn. Doedd yno ddim tyrfa i’n croesawu, na fawr neb hyd y maes o gwbl. Roedd y stondinau oll ar gau, y Babell Lên, y Pagoda, y Babell Wyddonol a Theatr Fach y Maes ar ganol cael eu tynnu i lawr, a phafiliynau mawr gweigion y cyrff cyhoeddus yn ddim ond sgerbydau’n disgwyl cael eu cludo ymaith. Y maes wedi ei glirio’n bur dda o gartonau bwyd a hen gwpanau plastig, ond ambell daflen Cymdeithas yr Iaith ac ambell ddarn o’r Western Mail yn cael eu chwythu o gwmpas yn yr awel ysgafn. Wrth gwrs, roedd bron i dair wythnos wedi mynd heibio. Chafwyd mo gweddill yr Eisteddfod, gan fod pawb yn disgwyl i ni orffen. I wybod pwy ddylai fod wedi derbyn y Fedal Ryddiaith ddydd Mercher, a beth ddaeth o ymgais fentrus, greadigol y ddau efaill ar y dydd Gwener, bydd raid imi gael cyfrol y Cyfansoddiadau. Doedd yno na phaned na dim i’r rhai ohonom a ddaeth allan o’r pafiliwn, ac yn eithaf penisel y gwasgarodd pawb i’w hynt. ‘Hwyl rŵan,’ meddai’r Archdderwydd wrthyf i. ‘Hwyl rŵan,’ meddwn innau.

Ie, diwedd go swta i’r antur fawr. Ond dyna ni, fe wthiwyd ffiniau. Ac mae fy nghydwybod i’n berffaith glir.