Y Gymraeg a’r ysgolion
Dyma ‘Gynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg’ wedi ei lansio gan Eluned Morgan, y Gweinidog â chyfrifoldeb dros y Gymraeg. Ni ellir ond croesawu’r bwriad, ond wrth wneud hynny gofyn ambell gwestiwn bach. (a) A allwn ni gymryd y bydd cyfarwyddyd clir o hyn ymlaen i gynghorwyr Llafur a’r gweinyddwyr odanynt, eu bod i hwyluso a hyrwyddo addysg Gymraeg yn hytrach na’i rhwystro ar bob cynnig sef eu harfer dros ddegawdau? Yn wir, mae’n ymddangos i mi fod y rheswm dros wrthwynebiad cyndyn y sosialwyr bellach wedi peidio â bod, os bu’n bod o gwbl. Eu hofn mawr nhw, hanner canrif a mwy yn ôl, pan ddechreuodd galwadau am agor ysgolion Cymraeg, oedd y byddai’r rheini’n magu cenedlaetholwyr. Nid yw hynny wedi digwydd o gwbl. (b) A’r cwestiwn pellach yw pam? Oni ddylai’r ysgolion ‘Cymraeg’ neu ‘ddwyieithog’ erbyn hyn fod wedi magu o leiaf ddwy genhedlaeth o rai a chanddynt agwedd arloesol, greadigol tuag at Gymru a’i sefydliadau a’i phroblemau? Pam na ddigwyddodd? Pwy o blith darllenwyr y blog sydd am gynnig ateb? (c) A’n trydydd cwestiwn. Ar ôl ‘addysg Gymraeg’ (sef addysg mewn ysgolion swyddogol Gymraeg neu ddwyieithog), beth wedyn? Codir y cwestiwn yn bur aml, ac nid wyf yn honni bod gennyf well ateb na neb arall a fu’n ei godi: ond daliaf mai rywle ym myd gwaith y mae’r ateb hwnnw.
Gwaith pa blaid ?
Nathan Gill am ganolbwyntio ar ei waith yn Senedd Ewrop, a’i sedd yn y Cynulliad yn cael ei hetifeddu gan Mandy Jones, aelod UKIP fel yntau. Rhai sylwebwyr yn dweud nad yw Ms Jones wedi ei hethol yn ddemocrataidd. Ydyw y mae. Ar bapur ‘y rhestr’, fotio i’r blaid yr ydym, a’r nesaf o ddewis y blaid sy’n olynu os bydd lle gwag. Dyna’r drefn. Rhai o’r sylwebwyr hefyd yn edrych ymlaen at ddiflaniad UKIP, ac os digwydd hynny – peth sy’n debygol – yn sicr ni bydd yr hen G.A. ymhlith y galarwyr ar ei hôl. Ond dowch inni ofyn ambell gwestiwn eto:
(a) Pa blaid yw plaid cau ysgolion yn ardaloedd gwledig Cymru? UKIP oedd honno dwedwch? Ynteu rhyw blaid arall … ?
(b) Syniad pa blaid oedd ailgyflwyno addysg enwadol orfodol mewn cwr o Wynedd?
(c) Pa blaid sydd am gael wyth mil o dai newydd diangen yng Ngwynedd a Môn?
(ch) Pa blaid sy’n fodlon newid geiriad polisi cynllunio’r ddwy sir ar amnaid cwmni niwclear Horizon?
(d) Pa blaid, tra’n cwtogi gwasanaethau o lyfrgelloedd i gasglu sbwriel, sydd am gyflwyno £500,000 o arian trethdalwyr tuag at gynhyrchu drôns?
Pethau felna …
Gweld sêr
Dan y pennawd ‘Yn eisiau – gweledigaeth a gobaith’ yn Barn Rhagfyr-Ionawr mae gan Guto Harri nifer o sylwadau y gallwn eu dyfynnu’n gymeradwyol. Lle byddwn yn anghytuno, byddai hynny ar ei ddewisiad o’r gair ‘seren’. Mewn cyferbyniad â ffurfafen wleidyddol Cymru, lle na wêl ef ond caddug, gwêl Guto ddwy seren uwchben yr Alban. Nicola Sturgeon fel y gellid disgwyl, a hefyd Ruth Davidson yr arweinydd Ceidwadol, y mae rhai’n crybwyll ei henw fel olynydd os nad disodlydd i Theresa. Ydi mae ‘Cyrnol Byfflo’ (fel y bedyddiwyd hi gan rai o’r gwefannau cenedlaetholaidd) yn enwog, yn amlwg ac yn llawn twrw, ac mae ei hagwedd fwm-beili yn rhywbeth sy’n cynhesu calon Torïaid bob amser. Ond wrth ddweud ‘seren’, onid ydym yn disgwyl goleuni? Os yw Ruth yn seren, onid yw Arlene Foster, prif brop llywodraeth San Steffan heddiw, yn seren hefyd?
Seren yng ngwleidyddiaeth Cymru? Daliaf yn gyndyn o hyd mai Leanne sy’n dod agosaf, ac nad oes neb arall unlle’n agos ati. Nac anghofiwn, fe enillodd hi’r Rhondda oddi ar Lafur, gan yrru Leighton i fod yn athro cadeiriol yn un o’n prifysgolion. Mewn panelau a seiadau holi gydag arweinwyr pleidiau eraill, deil Leanne yn gynrychiolydd da iawn, efallai y gorau a gafodd Plaid Cymru erioed. Ond fe ddywedir efallai mai un peth yw cynrychiolydd ac mai peth arall yw arweinydd. Fel y dywedais droeon ar y blog hwn, mae’n bryd i Leanne roi ei throed i lawr. A yw hi’n deall eto y fath lanast yw’r Blaid? A yw hi’n ymwybodol o ffolineb eithafol ei chynghorwyr yng Ngwynedd?
Talu lot am iot
Ar wefan Munguin’s New Republic y gwelwn gopi o ddeiseb hanner cant o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn ymbil am adeiladu iot frenhinol newydd. Rhywbeth i gynrychioli Brexit Britain yn deilwng ac i gyd-ddigwydd â’r drwydded deithio nefi blŵ ddychweledig. Go dda yntê. Cant ac ugain o filiynau o bunnau (£120,000,000) fydd y gost (amcangyfrif heddiw), ond dyna ni, gan nad oes dim byd arall yn galw …
Mae ymatebwyr Munguin yn ddeifiol ac yn ddigri, rhai’n crybwyll y posibilrwydd y caiff ei hadeiladu yn yr Alban fel ei rhagflaenydd, yr hen Britannia. Beth amdani, cymryd y pres, os ydyn NHW am fod mor wirion? Ynteu a fyddai hynny’n groes i egwyddorion cenedlaetholdeb Albanaidd?
Na fyddai, ddim o gwbl, medd yr hen G.A.
Ddim fel cynhyrchu drôns yng Nghymru, er enghraifft.
Dysgu’r hanes
Ar GOLWG 360 heddiw, galwad gan Glyn Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr, am ddysgu hanes Cymru’n drylwyr a theilwng yn yr ysgolion. Galwad hollol angenrheidiol. Fe’i clywyd yn ddigon aml dros flynyddoedd, ond rywsut does dim byd byth i’w weld yn digwydd. Y prif reswm? Twpdra athrawon a gweinyddwyr. Darllenwch eto fy sylwadau ar yr hen lyfr defnyddiol Storïau o Hanes Cymru gan Moelona, un ai yma neu yn y gyfrol Meddyliau Glyn Adda, tt. 70-1. Anodd peidio â chofio eto am fusnes alaethus addysg cylch Penllyn. Anwybodaeth lwyr o hanes Cymru ar ran cynghorwyr a gweinyddwyr, ynghyd â dibristod llwyr o hawliau sifil. Sut y gallwn fyth ymddiried unrhyw beth i’r fath bennaubyliaid?
Beth amdani?
Newydd wrando rhaglen Saesneg ar y radio am Gystadleuaeth Eurovision yr Ieithoedd Llai, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn yr Eidal. Cân yn y Ffaröeg aeth â hi. Cynnig dewr gan Gernyw hefyd. Dim sôn am y Gymraeg eleni ymhlith y deg ymgeisydd. Beth amdani y tro nesaf, grwpiau Cymru? Ynteu a oes berygl mewn cymryd ein diffinio fel ‘lleiafrif’ o hyd?
Petasai’n bosibl i Gymru gael ei chynrychioli yn yr Eurovision fawr, gallaf feddwl am flynyddoedd pryd y byddai grwpiau Cymraeg wedi ennill.
Dan ganu.
Blwyddyn Newydd Dda i ffyddloniaid yr hen flog.