Archif | Mai, 2017

Y cwestiwn diosgoi eto

21 Mai

Dyma fy negfed blogiad ar y testun hwn. A dyma nhw’r lleill eto.

Y Gorwel

Y Gorwel eto

Y Ddamnedigaeth

Neges ddifrifol i ymgeiswyr

Os mai (b) fydd y dewis, dyna’i diwedd hi

A oes yma ugain a saif yn y bwlch ?

Pam pleidleisio i’r Democratiaid Rhyddfrydol ?

Y MATER MAWR eto

Cwestiwn i enillwyr Gwynedd: pwy fydd yn rheoli? Chi? Ynteu Horizon?

Fel yr oedd cyn yr etholiadau lleol, felly hefyd ar eu holau, dyma’r mater pwysicaf sy’n wynebu cynghorwyr siroedd Gwynedd a Môn, y mater pwysicaf yn hanes y ddau awdurdod, ac yn wir yn holl hanes llywodraeth leol yng Nghymru

Y cwestiwn yw, pwy sydd i lywodraethu? Y cynghorwyr yr ydym newydd eu hethol? Ynteu cwmni Horizon?

I’n hatgoffa’n hunain unwaith eto:

(a) O dan Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn fel y safai hyd at Awst y llynedd, yr oedd hawl i gynghorwyr wrthod cynnig ‘a fyddai, oherwydd ei faint, raddfa neu leoliad yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned’. (Erys y gair ‘sylweddol’ yn ddirgelwch ac yn faen tramgwydd, a bydd raid dychwelyd ato .)

(b) Mewn gwrandawiad cyhoeddus ddiwedd Awst, dan bwysau gan gynrychiolwyr Horizon, awgrymwyd newid hyn i ddarllen: hawl i wrthod ‘cynigion a fyddai yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad ellir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith priodol i sicrhau mesurau lliniaru addas neu y gwneir cyfraniad i leihau’r effeithiau hynny.’

Bydd raid i aelodau’r ddau gyngor , yn ystod yr wythnosau nesaf yma, ac yn sicr erbyn y dydd y cyflwynir adroddiad yr arolygydd ar ran llywodraeth Cymru, ddewis y naill neu’r llall. Un ai (a) neu (b). Mae’r dewis yn ddigon clir. Nid rhyw ‘hym’ a rhyw ‘ha’, a rhyw ‘gawn ni weld’ a rhyw ‘alla’ i ddim addo’. Y naill neu’r llall, (a) neu (b).

Erbyn hyn mae’r ddau gyngor wedi dewis eu harweinwyr. Ar ba ochr y mae’r ddau arweinydd yn y mater tyngedfennol hwn, a pha arweiniad a roddant i’r ddau gabinet ac i’r cynghorau yn gyffredinol, ni wn. Yn y rhifyn diwethaf (18 Mai)  llwyddodd GOLWG i gyfweld arweinydd newydd Cyngor Môn heb godi’r pwnc hwn o gwbl, dim ond holi’n gyffredinol ynghylch y posibilrwydd o ail atomfa. Anfoddhaol, gwarthus yn wir, yw agwedd y cyfryngau Cymraeg at yr holl gwestiwn. Pa ddylanwad oedd ar waith yn peri iddynt gadw’n glir o’r ddau wrandawiad cyhoeddus, fis Awst y llynedd a 26 Ebrill eleni?

(Dois i o’r ail wrandawiad gydag argraffiadau mwy negyddol hyd yn oed nag o’r cyntaf. Yr oedd y gweision sifil o’r Cynulliad fel petaent yn y niwl, a’r ddadl yn mynd heibio iddynt heb eu cyffwrdd. Câi swyddogion y ddau gyngor anhawster mawr i roi gosodiad rhesymegol ynghyd. Yn wir ceid lle i amau faint yr oeddent yn ei ddeall ar osodiadau rhesymegol gan y tystion.)

§

Rhaid cofio mai dadl yw hon sydd ynghlwm nid yn unig wrth y cwestiwn niwclear ond hefyd wrth unrhyw ddatblygiad economaidd mawr . Serch hynny ychwanegaf air yn fyr am sylw arweinydd cyngor Môn wrth GOLWG, ein bod ‘i gyd yn ymwybodol y bydd penderfyniad ar Wylfa newydd yn digwydd yn Llundain’. Os gwir hynny, pa ddiben sydd i gynghorwyr Môn fynegi barn o gwbl? Hynny yw, pam mae rhai ohonynt o blaid? Ond ymhellach mae’n iawn gofyn, ai yn Llundain yn wir y setlir y peth? Onid ym Môn? Brysied y darllenwyr i’m cywiro os wyf yn anghywir, ond y ddealltwriaeth a gefais i yw mai cyfrifoldeb y cyngor sir fydd gwneud gorchymyn prynu drwy orfod, os bydd raid, er mwyn ehangu safle’r Wylfa. A phetai ffermwr o Gymro, ryw ddiwrnod, yn dewis gweithredu’r egwyddor ‘dal dy dir’, ble byddai cyngor Môn, dan arweiniad Plaid Cymru, yn sefyll y diwrnod hwnnw?

Cwestiwn i enillwyr Gwynedd: pwy fydd yn rheoli? Chi? Ynteu Horizon?

5 Mai

“Gobaith yn drech na phrofiad” oedd crynodeb enwog Dr. Johnson o’r penderfyniad i ailbriodi. Gallai’r hen dwmpath ddweud rhywbeth tebyg am lwyddiant Plaid Cymru yn etholiadau Gwynedd ddoe. Yn Arfon a Meirion mae o hyd garfan gref o ffyddloniaid â’u pleidlais dros yr hyn y dylai Plaid Cymru fod, ac sy’n fodlon edrych heibio unwaith yn rhagor i’r hyn yw hi ac a wna hi. Gyda chau ysgolion, cau llyfrgelloedd, torri ar ymweliadau’r lorri ludw, codi’r tâl ychwanegol ar wastraff gardd, fe ymdrechodd hi’n galed i golli. Ond dyma ennill tir, a sicrhau mwyafrif dros bawb.

Yn awr mae gofyn i’w 41 cynghorydd, rhai hen a rhai newydd, benderfynu’n sydyn ar rai pethau. Nos Lun, rwy’n deall, byddant yn ethol arweinydd i’r cyngor. Rhaid iddynt hefyd ystyried a dod i benderfyniad ar y mater mwyaf sy’n debyg o’u hwynebu, y mater mwyaf yn hanes yr awdurdod hyd yma, a’r mater mwyaf i ni’r Cymry heddiw.

Pwy fydd i reoli?

Chi, ein cynrychiolwyr, wedi i ni eich ethol ddoe?

Ynteu cwmni Horizon?

Mae’r dewis yn llachar o glir, a dyma fo unwaith eto:

(a) O dan Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn fel y saif mae hawl i gynghorwyr wrthod cynnig “a fyddai, oherwydd ei faint, raddfa neu leoliad yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned”.

(b) Yn dilyn pwysau gan Horizon, fe gynigir newid hyn i ddarllen: hawl i wrthod “cynigion a fyddai yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad ellir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith priodol i sicrhau mesurau lliniaru addas neu y gwneir cyfraniad i leihau’r effeithiau hynny.”

O blith y 41 heddiw, a oes gennym fwyafrif, dyweder 22, a fydd yn bendant a therfynol yn gwrthod (b)? Ac a fydd wedyn, am resymau sydd wedi eu gwyntyllu ddigon, yn dileu’r gair “sylweddol” o (a)?

Os nad oes, dyna’i diwedd hi.

Meddyliwch yn galed dros y Sul yma, gynghorwyr.