Cyn iddo fynd dros gof, gair neu ddau am arolwg barn YouGov yr wythnos diwethaf ar y cwestiwn: a ddylai Cymru gael yr un pwerau â’r Alban o dan drefn newydd ym Mhrydain?
63% o’r rhai a holwyd o blaid. Fe ddown ni’n ôl at hyn.
85% o bobl Plaid Cymru o blaid. Cwestiwn bach diddorol, beth am y 15% arall o’r Pleidwyr? Pa fesur o ymreolaeth, neu ba fath, y byddai’r rhain yn ei ffafrio felly? Ac os rhywbeth llai na chydraddoldeb â’r Alban, pam? Os mai eu hateb yw nad yw’r mudiad cenedlaethol na Chymru’n gyffredinol wedi gwneud dim ers blynyddoedd i haeddu’r cydraddoldeb, fe’i caf hi’n anodd iawn gwrthateb.
O blith pobl Llafur, 70% o blaid. Ffigur digon diddorol, a phositif hefyd, ond ei gymryd gyda’r pinsiaid o halen y dylid ei ddarparu gyda phob arolwg barn, fel yr hen gwdyn bach halen mewn paced crisps ers talwm.
Ond y peth mwyaf diddorol yn yr arolwg – neu wirionaf, barnwch chi – yw ymateb cefnogwyr UKIP ! 55% o blaid pwerau cyfartal ! Hyd y gwelaf, fe ellir dehongli hwn mewn un o ddwy ffordd. (a) Nid yw’r UKIP-iaid yn deall nac yn malio dim am unrhyw bolisi ac eithrio ‘hel yr hen fforinars ’ma adra’. (b) Mae UKIP yn hollol gyson. Y diwethaf a glywais i oedd eu bod am ddileu Senedd Holyrood a Senedd y Bae. Dim pwerau i’r Alban, dim i Gymru. Hollol gyfartal felly, a hollol gyson.
§
Ond dowch yn ôl at y ffigur yna o 63% dros gydraddoldeb. Mae’n galw i’m cof ambell beth y byddwn i’n ceisio’i awgrymu yn y dyddiau cyn ‘Ffarwelio â’r Ffydd Ffederal’ (gweler eitem 24 Ionawr eleni), ac yn peri imi feddwl unwaith eto fy mod yn iawn hyd at ryw bwynt. Y cwestiwn i’r Cymro, meddwn i bryd hynny, yw ‘a ddylai Cymru fod yn gydradd â’r Alban?’. Bellach dyma osod y cwestiwn, a chael ateb pur gadarnhaol iddo. Ond ar gwt y cwestiwn hwn, roeddwn i am ychwanegu un arall, sef ‘a ddylai’r Alban fod yn gydradd â Lloegr?’. Daliaf i feddwl y byddai gosod y cwestiwn hwn wedi ennill y refferendwm i’r cenedlaetholwyr; ond byddai cwestiwn arall wedi codi’n syth: cydradd ar ba dir? O fewn pa fath system? Casgliad pendant a sefydlog yr SNP dros flynyddoedd lawer yw na bydd yr Alban byth yn gydradd â Lloegr ond fel gwladwriaeth annibynnol. Ar hynny y gweithredwyd, ac ni ellir ond parchu’r penderfyniad.
§
Yn ei chynhadledd yn Perth yr wythnos diwethaf, wrth ddiolch i Alex a chroesawu Nicola, yr oedd yr SNP ar ei huchelfannau, a hyd yma mae’r arolygon barn yn dal i addo’n dda iddi. Cofiwn bob amser y wireb am ‘wythnos yn amser hir …’, ond OS, OS, OS gellir cynnal y momentwm hwn a’i droi’n sylwedd etholiadol, fe all hi yn wir ei chael ei hun mewn sefyllfa i fargeinio ac i osod amodau yn San Steffan. Diau ei bod hi eisoes yn meddwl yn ofalus iawn pa amodau. O’r pellter hwn gallaf i awgrymu dwy flaenoriaeth, a thebyg iawn bod y cenedlaetholwyr yn meddwl amdanynt. (a) Cael gwared â Trident. (b) Sefydlu corfforaeth ddarlledu annibynnol yn yr Alban.
Ond – a dod yn ôl at hen bwnc – os bydd Trident yn gadael Aber Clud, fe ddaw hi i Sir Benfro. Daw? Wel, dyna freuddwyd Carwyn, fel y gwyddom. ‘Mwy na chroeso.’ Ond i ba raddau, mewn gwirionedd, y mae hyn yn bolisi Llafur yng Nghymru? Gallwn gymryd ei fod hyd nes clywn yn wahanol; ond yr un pryd gallwn ofyn a drafodwyd ef, ac a bleidleisiwyd arno, gan y cabinet, neu gan gynhadledd Llafur yng Nghymru, neu gan ei phwyllgor gwaith? Fe ddylai rhywun ofyn yn benodol i bob un aelod Llafur yn y Cynulliad, a yw ef neu hi yn ategu gwahoddiad Carwyn. A mynnu ateb, ‘ydw’ neu ‘nac ydw’. Beth amdani, Daily Wales ?
Pam mae hyn yn bwysig? Am mai’r arf niwclear, ers dros drigain mlynedd, yw symbol balchder y Sefydliad Prydeinig. Mae’n gysegredig yng ngolwg bonedd a gwreng. Ac fel yr wyf wedi crybwyll o’r blaen ar y blog hwn, mae dau wir bwrpas gwaelodol i genedlaetholdeb gwleidyddol Cymreig: (1) diogelu’r Gymraeg; (2) dymchwel y Sefydliad Prydeinig.