Archif | Rhagfyr, 2012

Mwy – a llai – o ddemocratiaeth?

6 Rhag

Estyn y bleidlais

             Tipyn o sôn y dyddiau hyn am estyn yr etholfraint, sef yr hawl i bleidleisio, i ddau ddosbarth o bobl yn arbennig, plant 16-18 oed a charcharorion.

            Ymateb cyntaf yr hen Glyn Adda? Hm … wn i ddim … Mae’n fy nharo i fod un peth go bwysig yn gyffredin i’r ddau gategori hyn. Eu bod yn geidwadol. Yn fy nghof i beth bynnag – efallai fod pethau wedi newid erbyn hyn – rhyw greaduriaid bach digon adain-dde oeddem ni hyd at yr un-ar-bymtheg, ac efallai dipyn dros hynny. Mae’r mwyafrif, rhaid derbyn, yn para’r un fath weddill eu hoes; ond mae rhyw nifer ohonom, digon weithiau i ffurfio lleiafrif gweithredol, wrth nesu at y deunaw oed, yn dechrau gofyn beth sydd o’i le ar ein cymdeithas a’n byd, sut y gellir eu newid, a beth yw ein cyfrifoldeb ni yn hynny.    Carcharorion wedyn. Nid troseddwr yw pob carcharor wrth gwrs; mae’n debygol, ar bob adeg, y bydd rhyw nifer bychan mewn carchar ar gam, a bod rhyw un neu ddau o garcharorion cydwybod yma ac acw. Ond troseddwyr yw’r mwyafrif mawr mawr, hogiau proffesiynol sy’n credu fel mater o egwyddor mewn torri deddf yn hytrach na’i newid.

            Ennill i blaid Cameron felly, y ddau dro? Neu, yng Nghymru, i Lafur? Fe all fod. Hyd yma nid yw’r Ceidwadwyr wedi eu hargyhoeddi, na llawer o’r gwleidyddion Llafur chwaith.  Y 16+ i gael pleidleiso yn refferendwm yr Alban? Unwaith eto, wn i ddim …  Ond diau fod Alex Salmond yn gwybod ei bethau.

            Fodd bynnag, y mae gwahaniaeth rhwng y ddau achos. Nid pwnc o egwyddor yw pennu’r oedran pleidleisio. Gall un oedran fod cystal â’r llall. Ond os mai ystyr democratiaeth yw pleidlais ar dir cyfartal i bawb dros ryw oedran, beth bynnag fo hwnnw, mae’n anodd gwadu’r hawl i’r rhai sy’n digwydd bod, dros dro, yn bwyta uwd ar draul Ei Mawrhydi. Dyna, mae’n debyg, y mae’r Llys Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei ddadlau. Clywir rhyw fwmian weithiau am roi’r hawl i rai â llai na hyn-a-hyn o ddedfryd:   pleidlais i hogiau drwg, ond nid i hogiau drwg drwg.  Cyfaddawd go gloff yw hwn, fel rhoi’r bleidlais i ferched dros 30 oed ers talwm!

            Mae cwestiwn bach arall diddorol yn codi, ac mae’n siŵr bod gan y Llys ei ateb iddo. Pwy sydd i gael y fantais o bleidleisiau’r carcharorion?  Y seddau lle mae carcharau yn digwydd bod, ynteu’r seddau lle mae cartrefi’r pleidleiswyr?  (Nid oes neb, am wn i, wedi awgrymu creu ‘seddau’r carchardai’, ar batrwm yr hen ‘seddau prifysgol’ ers talwm.  Oni fyddai hyn yn fodd o ychwanegu ychydig o liw at ein senedd-dai, fel y gwnaed yn y dyddiau gynt gan wŷr o ddawn fel John Buchan, A.P. Herbert a W.J. Gruffydd?)   Mae gan Glyn Adda ei ateb pendant i hyn: pawb i bleidleisio gartref.  Dyma egwyddor y dylid ei chymhwyso yn ogystal, ar y cyfle cyntaf posibl, at bleidleisiau myfyrwyr. Siawns, wedyn, na welid lliw Ceredigion yn newid unwaith eto.

            Ac un cwestiwn bach arall. Os yw’n iawn i garcharorion gael pleidleisio, beth am yr un dosbarth difreintiedig arall hwnnw, Arglwyddi’r Deyrnas?  Dowch o’na! Chwarae teg i’r hen ladron tiroedd a’r hen wleidyddion methedig! 

 Pawb â’i farn ?

             Yn ystod yr un diwrnodiau fe godwyd mewn modd gwahanol, ac o gyfeiriad gwahanol, y mater o ehangu’r drafodaeth ddemocrataidd a chael mwy o bobl i gyfranogi. Awgrymodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru (sylwch ar oedran Glyn Adda, yn dal i’w galw wrth yr enw hwn) y syniad o ‘wici-maniffesto’ gyda gwahoddiad i’r sawl a fynno fwrw ei syniadau i mewn.  Amheuaeth oedd ymateb y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr ar Golwg 360, a thueddaf, y tro hwn, i gyd-fynd â’r mwyafrif. Dim gwobr am ddyfalu beth fyddai eitem rhif 1 yn y pôl. Adfer crogi wrth gwrs.  Fe ddôi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn bur uchel hefyd. A byddai digon o swnian a chyrnewian yn erbyn gwario ar y Gymraeg, gan alw yn hytrach am ‘well ysgolion ac ysbytai’! 

            A ddylid derbyn barn y mwyafrif bob tro?  Bu’n gwestiwn drwy gydol hanes democratiaeth, a hyd yma – yn ddemocrataidd – rydym wedi ateb ‘na ddylid’. Onid gwasanaeth mawr y Blaid Geidwadol dros y cenedlaethau fu cadw’r caead ar degell ei chefnogwyr selocaf ei hun?   Cwestiwn ymarferol i bob plaid yw pryd, ac yn ôl pa egwyddor, y dylid dilyn barn y bobl, bod yn ‘bopiwlistaidd’ fel y dywedir? Mae’n gwestiwn arbennig berthnasol i Blaid Cymru. Ym Môn, mynd gyda mwyafrif tybiedig ar fater Wylfa B?  Ond yng Ngwynedd, mynd yn erbyn teimlad llawr gwlad, ac yn erbyn ei chefnogwyr ei hun, ar fater maint ysgolion?  Pa gysondeb, a pha ddoethineb, sydd yma?

            Mae rhai o gyfranwyr Golwg 360 yn iawn, ac yn gwneud pwynt pwysig, mai mewn democratiaeth gynrychioliadol yr ydym ni’n byw, er gwell neu er gwaeth.  Er gwell, mae’n debyg, ar ôl ystyried popeth. O dan y gyfundrefn hon mae dwy swyddogaeth glir i bleidiau gwleidyddol. Y swyddogaeth gyntaf yw rhoi dewis i’r etholwyr. A’r ail yw bod yn gyfrwng meddwl, cynllunio a gweithredu i bobl sydd yn fras o gyffelyb fryd. Dibynna’r ail ar fod unigolion yn barod i ymaelodi, cyfrannu at waith canghennau, a thrwy’r rheini allu dylanwadu ar gynhadledd a phwyllgor gwaith eu plaid. 

            Wn i ddim beth yn union a ddywed cyfansoddiadau’r gwahanol bleidiau sydd gennym heddiw, ond diau y gall pwerau cynhadledd plaid amrywio o’r naill i’r llall. Y prif awdurdod ar bolisi? Ynteu corff ymgynghorol yn unig? Yn ymarferol, yr ail sy’n mynd â hi bob amser.  Daeth Hugh Gaitskell yn un o bennaf arwyr yr adain dde ym Mhrydain drwy ddweud wrth ei blaid, ar fater diarfogi niwclear yn 1961, nad oedd am gymryd unrhyw sylw o’i phenderfyniad.   A yw Plaid Cymru yn gweithredu polisi ei chynhadledd bob tro?  Cymerwn enghraifft fechan gyfoes yn unig. Yng nghynhadledd eleni yn Aberhonddu galwodd mwyafrif am i’r blaid yn y Cynulliad fynnu ymchwiliad i lanast echrydus Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.  A yw’r Aelodau Cynulliad wedi gwneud hyn?

            Yn ein math ni o ddemocratiaeth mae’r arferiad a’r ddealltwriaeth yn glir a chyson. Gwaith plaid yw cefnogi ei hymgeisydd, ei helpu i gael ei ethol. O’r funud y mae wedi ei ethol, y mae’n atebol nid i’w blaid ond i’w etholaeth. A’i gydwybod yw ei arweinydd, ni waeth faint y pwysau o’r tu arall gan chwip ei blaid.   A fyddai’r Wici-ddemocratiaeth yn gwella ar hyn mewn unrhyw fodd?  Mae hynny i’w ddadlau a’i brofi. I’m golwg i, mae rhyw arlliw Democrataidd-Ryddfrydol, hynny yw dwlali, ar y syniad.

 Gambl Leanne

             Wedi crybwyll arweinydd newydd Plaid Cymru, tro gwael fyddai mynd heibio heb ddweud gair am ‘gambl Leanne’.  Dyma brofiad yr hen Glyn Adda – ac mae’n ofid ganddo nad yw ef wedi dilyn yr egwyddor hon yn amlach: os oes unrhyw ddewis rhwng y llai mentrus a’r mwy mentrus, yr ail amdani bob tro!   Dim iws dweud ‘ond mae trefniadaeth Llafur yn dda yn y fan-a’r-gfan’.  Fe ddylai trefniadaeth P.C. fod yn well, os yw hi o ddifri.

           Gormod o awdurdodau ?

             Sôn ar y naill law am fwy o lais, mwy o gyfranogi.  Ar y llaw arall, a’r un pryd, sôn am grynhoi a chanoli pwerau. Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, yn sefydlu ymchwiliad i gyflwr addysg yn yr ysgolion, ac mae’n rhagweld eisoes y gall mai un canlyniad posibl fydd diddymu’r awdurdodau addysg lleol a rhoi’r cyfrifoldeb yn nwylo rhwydweithiau rhanbarthol neu hyd yn oed Lywodraeth y Cynulliad ei hun. Mynegodd y cynghorau sir, drwy eu cymdeithas, eu gwrthwynebiad. 

             Wrth ailddarllen cryn dipyn o waith W.J. Gruffydd yn ddiweddar, fe’m hatgoffwyd o’i ddadl gyson ef, bedwar ugain mlynedd yn ôl, y byddai’r Gymraeg yn ddiogelach dan ofal yr Adran Addysg yn Llundain na than ofal awdurdodau addysg Cymru.  Ar yr olwg gyntaf gall pwynt Leighton Andrews edrych yn debyg.  Ond nid yr un ddadl yw hi chwaith.

            Gwêl y Gweinidog safonau a chanlyniadau anfoddhaol yn ein hysgolion. Dichon ei fod yn iawn. A ydym yn mynd yn dwpach fel plant ac fel pobl?  Digon posib ein bod; mae digon o bethau’n awgrymu hynny. Ond os credwn hynny mae gofyn inni ddweud ym mha fodd, a chyn y gallwn gytuno ar y feddyginiaeth mae’n rhaid ateb rhai cwestiynau sylfaenol. Beth yw’r meini prawf? Sut mae diffinio ‘boddhaol’ ac ‘anfoddhaol’?  Pa rai yw’r pethau y mae disgwyl i blentyn o Gymro eu gwybod a’u deall ar wahanol oedrannau?  Pam ynteu nad yw’n eu gwybod a’u deall? Sut y bydd newid gweinyddol neu drefniadol ynddo’i hun yn cynnig yr ateb? Onid oes a wnelo yn hytrach â natur ac ansawdd diwylliant yn y gymdeithas drwyddi draw, mewn cyfnod o newid aruthrol yn y dulliau cyfathrebu?

            Dau ar hugain o awdurdodau addysg yn ormod? Dywedwch ein bod yn gostwng y nifer i hanner dwsin, neu hyd yn oed yn gosod popeth dan law un awdurdod i Gymru gyfan. Dyfaliad sgeptig yr hen Glyn Adda yw y byddai’r un swyddogion yn dal yn eu swyddi, ac y byddai diwylliant yr athrawon yn dal yr un fath. Y peryg mawr yw y byddai llai o atebolrwydd, a llai o ddewis i rieni ac i’r cyhoedd yn gyffredinol. Faint mwy o ysgolion cynradd Gwynedd a fyddai wedi eu cau pe na bai plaid wedi codi yn y fan a’r lle i wrthwynebu? 

            Mater yw hwn y dylid ei drafod o fewn cyd-destun llawer ehangach patrwm llywodraeth leol yn gyffredinol.  Testun at eto.

            Rhan o’r anhawster y tro hwn yw ei bod hi’n anodd cysylltu Llafur â chodi safonau mewn unrhyw faes. Onid holl bwrpas Llafur yw cadw pobl yn dwp er mwyn iddyn nhw bleidleisio i Lafur? Diniwed, unwaith eto,  yw Plaid Cymru yn croesawu’r ymchwiliad. Ar ôl cyhoeddiad hynod, hynod ffôl ac adweithiol Carwyn Jones fis Gorffennaf eleni, ac os mai uchafbwynt holl ymdrech wleidyddol a chymdeithasol ac economaidd y llywodraeth hon yw denu llongau Trident i Sir Benfro, sut y gellir cymryd o ddifrif unrhyw beth y mae’n ei ddweud?