Archif | Mawrth, 2021

Ychwanegiad

21 Maw

Mae ychwanegiad bach wedi ei wneud at flog ddoe. Hansard wedi llithro y tro cyntaf.

Tudalen o Hansard

20 Maw

Y DIRPRWY LEFARYDD: The Right Honourable the Leader of the House.

JACOB (canys efe yw): Madam Deputy Speaker, I shall be brief. Multum in parvo. I’m sure the House, having heard the Right Honourable the Foreign Minister’s statement, will want to congratulate him on the proposed massive expansion of Britain’s nuclear arsenal. (Hon. Members: Baaaaaa! Hear hear! Harumph!), because at this time of peril our Great British Nation is well advised to remember those wise words, si vis pacem, para bellum, to which I would add, Madam Deputy Speaker, para troopers, para gliders, para chutists … (Hon. Members: What about the para medics?). I would remind Members opposite that we are a world trading nation: the sea, oh the sea, is the gradh geal mo croide, and it is no use Honourable Members opposite complaining that British fish goes rotten in transit. Let us rather remember the adage sic transit gloria mundi. (Hon. Members: What about the health workers?) Well may you ask, what about the health workers? To those who ask ‘what about the health workers?’, I can only reply et tu Brute? Because the question rather should be cui bono? (Laughter.) Mony a mickle, to quote a greater poet than myself, Madam Deputy Speaker, maks a muckle, to which I would add lang may yer lum reek ! And at this juncture I would refer Honourable Members to Bord Fáilte Eireann. (Hon. Members: Baaaa ! Hear hear!) And on conclusion I can only quote the immortal words of Vergil, hic opus, hic labor est. (Cheers.)

Y DIRPRWY LEFARYDD: The Right Honourable the Prime Minister.

BORIS (cofio gwneud ei wallt yn flêr): Bah! Pah! Harrumpf! How can one follow my Right Honourable Friend’s brilliant and uplifting statement except by quoting Cicero, O fortunatam natam me consule Romam? We have been reminded – Pah! Phowwarrr! – that we, the Awesome Foursome, are a light unto the world, lux mundi, Madam Deputy Speaker. Or to put it another way φώς ἐν σκοτιᾳ, a light unto Scotland. (Hon. Members: Hear hear! Baaaaaa! Hon. SNP Members: Awa’ an bile yer heid!) To those who seek to break up and destroy our wonderful and amazing United Kingdom, I can only say absit omen, and I hardly need ro remind Honourable Members of the words of the Emperor Claudius to the court philosopher, Per ardua ad astra, Seneca ! As a leading world power of the twenty-first century we are in honour bound always to bear in mind dulce et decorum est debellare superbos. Let us unite in declaring chacun a son goût, bearing in mind always cherchez la femme. (Laughter.) And at this moment of ever-expanding opportunity for our incredible Great British Nation – Bah! Pah! – how better can I put it than in the two immortal words of Pericles addressed to the men of Athens – ὶακκι δα ! (Cheers.)

Y DIRPRWY LEFARYDD: The House will now adjourn.

Gwobr arall i Alf

17 Maw

‘Etholiad Alf Garnett’ oedd etholiad Rhagfyr 2019. Gyda dymchweliad y ‘mur coch’ yng ngogledd Lloegr fe ddarganfu carfan helaeth o gyn-bleidleiswyr Llafur mai Alf bellach yw eu gwir ladmerydd. A’r dyddiau diwethaf dyma Boris, Jacob, Dominic a’r criw yn gwobrwyo Alf â dau gyfnewidiad polisi: yn gyntaf toriadau trwm mewn cymorth i wledydd tlawd, ac yna ddoe yr addewid am fwy o ffrwydron niwclear i atgyfnerthu safle Prydain Fawr yn y byd.

Cynllunio ymlaen bum mlynedd a mwy y mae’r llywodraeth, meddai hi. Ond y cyfan, wrth gwrs, yn rhagdybio y bydd yna Brydain Fawr fel gwladwriaeth unedol ymhen pum mlynedd. Cawn weld beth a ddigwydd tua’r Alban yna, ond efallai mai Ingland an’ Wêls fydd y pwer niwclear adnewyddedig aruthrol hwn.

Nid wyf eto wedi clywed ymateb Nia Niwc, A.S. Llanelli a llefarydd Llafur ar arfogaeth, ond roedd yn rhaid i Lafur ddweud rhywbeth. Ymateb Syr Keir, ar ôl pwysleisio’i ymrwymiad llwyr i’r niwclear, oedd poeni y bydd gennym lai o danciau a jets. Dibynnwn felly ar y pleidiau cenedlaethol, fel mor aml, i wneud gwaith gwrthblaid. Taniodd yr SNP a llywodraeth yr Alban, fel y gellid disgwyl, ac ar wefan Nation Cymru ceir erthygl gref, gwir werth ei darllen, gan Hywel Williams A.S.

Ond i Blaid Cymru fe gyfyd cwestiynau. Beth am yr ‘adweithyddion bach’ y mae mwmian yn eu cylch yn Nhrawsfynydd a’r Wylfa? Mae cynlluniau newydd Boris yn rheswm pellach i ni Gymry beidio ag ymwneud dim mwy â niwclear o unrhyw fath. A gawn ni ddatganiadau clir gan Liz Saville Roberts a chan Rhun ab Iorwerth na byddant yn cefnogi unrhyw ddatblygiad niwclear pellach yng Ngwynedd na Môn?

A gofynnaf eto, a yw Adam wedi gofyn i Drakeford a yw polisi Llafur yn dal yr un fath â phan fynegodd Carwyn wirion ei fawr awydd i gael Trident i Gymru?

A chofiwn o hyd am y MWD. Beth mae Plaid Cymru’n mynd i’w wneud? Ie, WNEUD?

Pwy a’n gwared … ?

7 Maw

Cawsom ddarllen ddoe am gynhadledd rithiol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac am araith rithiol yr arweinydd, Jane Dodds, yn gosod allan y pethau mawr y bydd y blaid hon yn eu cyflawni pan fydd ‘mewn llywodraeth’. Uchafbwynt yr araith oedd ymosod ar y syniad o annibyniaeth, peth a fydd (a dyfynnu’r adroddiad) ‘10 gwaith yn fwy cymhleth a 10 gwaith yn fwy poenus na Brexit’, ac a fydd yn ‘achosi niwed am genedlaethau’.

Iawn, pawb â’i farn ar y pen yna. Ond ’rhoswch funud … Ai yr un Jane Dodds yw hon â’r Jane Dodds y tynnodd Plaid Cymru yn ôl er mwyn ei helpu yn isetholiad Awst 2019? Ie choelia’ i byth. Roedd yna ryw ‘Gynghrair Aros’ yr adeg honno on’d oedd.

Iawn drachefn, os oedd yn fater o wir argyhoeddiad. Ond ’rhoswch eto … a oedd y Blaid Cymru hon yr un Blaid Cymru ag sydd heddiw’n addo refferendwm ar annibyniaeth yn syth wedi iddi ffurfio llywodraeth ym mis Mai?

Dyma wleidyddiaeth ddigyfeiriad, ddiamcan, ddi-strategaeth, ddi-glem. Pwy a’n gwared rhag gwleidyddion o’r safon hon?