Eitem ddiddorol yn rhifyn cyfredol Y Traethodydd (Gorffennaf 2014), sef ysgrif-adolygiad gan Cynog Dafis ar y gyfrol Pa beth yr aethoch allan i’w achub ?, goln. Simon Brooks a Richard Glyn Roberts. Choelia’ i byth nad yw pennawd yr ysgrif yn swnio’n gyfarwydd rywsut: “Sut i Adfer y Gymraeg”. Hwyrach yr hoffai rhai o’r darllenwyr gymharu’r adolygiad ag eiddo’r blog hwn, 21 Tachwedd y llynedd. Da iawn yw gweld mynd i’r afael â dadansoddiad ac â chasgliadau’r gyfrol bwysig hon ; ychydig sy’n fodlon gwneud, a phrin bellach yw’r cyfryngau ar gyfer hynny.
Rhydd Cynog glod uchel i’r gyfrol drwodd a thro, ond gan ychwanegu dwy feirniadaeth. Yn gyntaf gwêl ddiffyg cynnig unrhyw raglen i ddilyn y dadansoddi. Ac yn ail deil na thâl yr agwedd “caer dan warchae” sy’n hydreiddio’r gyfrol.
Gwn am o leiaf un o olygyddion y gyfrol na thry hyn mo’i feddwl. Dyfynnaf, fel y gwnes o’r blaen, farn ddigyfaddawd Richard Glyn ar dudalen 160 : “Ni fydd gwleidyddiaeth wir ryddfreiniol yn ymdroi â sefydlu neu adsefydlu hunaniaeth ond bydd yn canolbwyntio yn hytrach ar ddileu gormes yn ei amryfal weddau.” Mynegais gytundeb â’r safbwynt hwn a oedd ryw ychydig yn fyr o gant y cant. Ond yn y diwedd, ar y mymryn gwahaniaeth hwnnw y dymunwn ganolbwyntio, a gofynnaf eto’n feunyddiol y ddau gwestiwn cysylltiedig a ddôi yn ôl bron bob dydd ers tipyn dros hanner canrif, ac nid i’m meddwl i yn unig mi wn: (a) beth ellir ei wneud? a (b) beth allaf i ei wneud?
I ateb yr unrhyw gwestiynau, sef i gynnig rhaglen, cymer Cynog ddalen o lyfr Emrys ap Iwan, gan gyfansoddi araith gan siaradwr dychmygol yn y flwyddyn 2044. Araith i orymdaith Gŵyl Ddewi yng Nghaerdydd yw hi, gan Ceredig Warburton, cadeirydd mudiad Gyriant y Gymraeg. Yn Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys yr oedd Emrys, ddechrau’r 1890au, yn dychmygu darlith yn 2012 a gymerai olwg ar rawd Cymru yn y cyfamser. Gwelwn heddiw i un rhan o’i broffwydoliaeth ddod yn wir, sef enciliad Ymneilltuaeth (er nad am y rheswm a ragdybir); daeth rhan arall yn rhannol wir, sef dyfod gradd o ymreolaeth; ond ni wireddwyd y drydedd ran, sef diogelu’r Gymraeg. Y peth gorau yn y byd a allai ddigwydd yw bod proffwydoliaeth Cynog, drwy Mr. Warburton, yn dod yn wir ar y trydydd pen hwn. I gredu y gall hynny fod, rhaid inni roi heibio lawer o amheuon a llawer o’r sinigiaeth a ddaw inni o weld malurion sawl rhaglen a sawl mudiad gwladgarol hwnt ac yma hyd briffyrdd a chefnffyrdd Cymru heddiw.
Nid wyf am ailadrodd sylwedd yr araith. Ewch a darllenwch Y Traethodydd. A chrynhoi hyd at yr hanfod, sail y llwyddiant a wêl yr areithiwr erbyn dengmlwydd ar hugain i eleni yw i nifer o fudiadau iaith ddod ynghyd a chyflwyno rhaglen eang i lywodraeth Gymreig a etholwyd (h.y. sydd i’w hethol) yn 2016. Llywodraeth oedd (h.y. fydd) honno “a Phlaid Cymru mewn safle tra dylanwadol”.
Ac meddai Hamlet mewn cyfieithiad, “ie, dyna’r aflwydd” (“ay, there’s the rub”). Bydd 2016 ar ein gwarthaf cyn inni droi rownd, ac am hynny codaf ddau neu dri o gwestiynau poenus y bydd raid eu hateb yn lled fuan.
Ai rhyw glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru a ragdybir eto? Gyda Llafur yn brif blaid eto? Mewn cyfuniad felly fe allai safle’r blaid leiaf fod yn un gref, oherwydd fel rheol mewn clymblaid mae cynffon yn ysgwyd ci. Ond a yw Plaid Cymru’n cofio hynny? Nis cofiodd bob amser yng nghyfnod “Cymru’n Un”.
A rhagdybio’r un sefyllfa eto, beth fyddai gweledigaeth Llafur? Beth fyddai ei nod, ei huchel amcan, y polisi y mynnai hi ei weithredu doed a ddelo er budd pobl Cymru? Yr ydym yn sôn am bethau nad ydynt yn bod. Hyd oni chlywn yn wahanol rhaid inni gymryd mai unig amcan mawr Llafur, fel y mynegwyd ef fis Mai 2012, yw cael llongau Trident i angori yng Nghymru. “Mwy na chroeso,” fe gofir, oedd geiriau Carwyn. Os bydd NA yn yr Alban, ni ddaw hynny wrth gwrs. Ond mae’r dymuniad wedi ei fynegi, yr unig eitem glir o bolisi a gynigiodd Carwyn erioed. Gwyddom nad yw pob AC Llafur yn cytuno, ond tybed beth yw barn y mwyafrif? A fabwysiadwyd hyn fel polisi gan ryw bwyllgor gwaith neu ryw gynhadledd gan Lafur yng Nghymru? Gwleidydd ofnadwy o banál ac adweithiol yw Carwyn, ac ni ddylai cenedlaetholwyr ystyried am funud mynd i glymblaid dano. Dan ryw arweinydd Llafur arall …? Dechreuer meddwl.
A yw Plaid Cymru (neu “Plaid” fel y dylwn ddweud efallai !) yn atebol o gwbl, hynny yw, yn “tebol” yn ystyr y Gogledd? A yw hi’n gyfartal ag unrhyw dasg, yn gymwys ar gyfer unrhyw gyfrifoldeb? Daeth tipyn bach mwy o galondid iddi yn y polau diweddar (os yw’r rheini’n golygu rhywbeth), ac efallai bod hynny’n adlewyrchu’r gwirionedd fod iddi unwaith eto dipyn bach o arweiniad, ar ôl blynyddoedd heb arweiniad o gwbl. Argraff yr hen G.A., o’r pellter hwn ac am ei gwerth, yw fod Leanne yn gymeriad deniadol ac yn haeddu llwyddo, gyda’r rhinwedd mawr o fedru gosod ei golygon ar bolisi ac nid arni ei hun. Ond mae rhwystrau mawr yn y meddwl, sydd wedi eu crybwyll droeon o’r blaen ar y blog hwn a chan nifer o sylwedyddion eraill. Un, yn sicr, yw’r anonestrwydd sylfaenol ynghylch pwer niwclear, – o’i blaid ym Môn ac yn ei erbyn ym mhobman arall; darllener, ac ystyrier yn ddifrifol eto, dystiolaeth blog SYNIADAU. Un arall, poenus iawn, yw’r agwedd o ddiffyg gwrando ar ran Cyngor Gwynedd, agwedd a fynegwyd ym mater yr ysgolion yn arbennig ac sydd, yn ôl cred rhai, wedi cyfrannu at wneud Arfon yn sedd ymylol. Ac yr wyf wedi sôn o’r blaen am y pechod anfaddeuol o wrthod cydnabod llythyrau, peth a gostiodd bleidleisiau o un tŷ, fel y gwn i sicrwydd.
Mae pob plaid, i raddau, yn ymgynnal ar y cof am yr hyn y mae hi i fod i’w gynrychioli. Mwy gwir am Lafur nag am unrhyw blaid arall efallai, ond gwir am Blaid Cymru bellach ers rhai troeon. Yn yr ardaloedd lle bu hi’n gref ac arloesol, mae hyn-a-hyn o etholwyr a fydd yn fotio iddi drwy dew a thenau am mai fotio y maent dros ei delfrydau, ei hamcanion, ei phwrpas. Dyma’r bobl sydd, fel y dywedir, “i’w cymryd yn ganiataol”. Ond am ba hyd eto ? Mewn dwy etholaeth o leiaf, mewn gwahanol ffyrdd, fe fynnodd hithau osod profion llym ar deyrngarwch y ffyddloniaid hyn. Beth petai, yn un o’r etholaethau hynny os nad y ddwy, ymgeisydd credadwy dros blaid arall a fyddai’n cynrychioli’n well ei delfrydau a’i hamcanion hi, ei phwrpas yn ôl dealltwriaeth y cefnogwyr traddodiadol? Dyna ddefnydd sefyllfa ddiddorol.
A dychwelyd at araith Ceredig Warburton a rhaglen “Gyriant y Gymraeg”, mae un eitem yma y mae’n rhaid, rhaid ymorol amdani, sef creu rhanbarth neu ranbarthau lle byddai i’r Gymraeg flaenoriaeth mewn gweinyddiaeth a llywodraeth. Yng nghyd-destun diwygio llywodraeth leol y mae gwneud hyn, testun y bu cryn dipyn o sôn amdano ond rhyw arafwch i ddod at argymhellion pendant (gweler blogiadau 20 Mawrth y llynedd ; 12 a 20 Ionawr a 3 Chwefror eleni). Bu polisi’r Wir Wynedd (1973-96) yn llwyddiant, o ran y Gymraeg ac o ran rhai pethau eraill hefyd. Hyd yn oed os na wna neb arall, ac os yw hi am ennill unrhyw hygrededd, rhaid i Blaid Cymru ddod allan yn glir dros adfer y Wynedd Go Iawn. Wrth wneud hynny rhaid iddi eistedd yn galed ar bobl wallgo Môn, nad oes ganddynt unrhyw bolisi, hyd yn gallwn weld, ond ein gwenwyno oll ag ymbelydredd.
Llawer o bethau’n corddi yn y meddwl. Diolch i Cynog am yrru’r drafodaeth ymlaen.