Archif | Tachwedd, 2016

Lloffion o Fyd Crefydd

26 Tach

1.    Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru am benodi ‘Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yn ardal Bangor’, a bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus fedru Cymraeg a bod yn Gristion. Mae’r Pab yn Gristion.  Bwriwch fy mod i’n Babydd, ac yn cynnig am y swydd.  Fyddai gen i siawns?

2.    Darllenwn yn y wasg am sefydlu ‘Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru’.  Yn hanesyddol, mae mwy nag un ystyr i ‘Dyneiddiwr’ hefyd, ond nid yw hynny’n broblem  fawr.  Gallwn dderbyn dealltwriaeth y Gymdeithas ei hun o’r gair, sef un sydd â byd-olwg heb grefydd.  Daw i’m cof un o’r pethau a ddywedodd George Bernard Shaw.  Arfer Shaw oedd sgrifennu rhagymadrodd sylweddol i bob un o’i ddramâu,  gan ganolbwyntio ar un pwnc bob tro; yn wir fe ddatganodd unwaith mai esgus dros lunio’r rhagymadrodd oedd llunio’r ddrama. Pwnc rhagymadrodd Androcles and the Lion yw Cristnogaeth, ac yng nghwrs y drafodaeth mae’n sôn am dri chorff o bobl neu ‘dair eglwys’.  Yr helaethaf o ddigon yw corff y Cristnogion ffurfiol, difeddwl.  Corff llawer llai yw’r gwir gredinwyr. A chorff llai eto, bychan bach, yw’r gwir anghredinwyr.  Cawn weld sut y tyf Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru.

3.   Darllenwn mai un o amcanion y Gymdeithas fydd  cael gwared â chrefydd o’r ysgolion.  Cynigiais o’r blaen y farn y dylid parhau i astudio’r Beibl yn yr ysgol oherwydd – ar wahân i bopeth arall – ei bwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol.  Am gynnwys addoliad crefyddol yng nghynulliad boreol yr ysgol, neu ‘Rasembli’ fel y byddem yn ei galw, mae gennyf deimladau cymysg, ac ni wn yn iawn beth yw’r drefn bellach.  A yw’r prifathro’n arfer ‘mynd i weddi’ fel y byddai ers talwm? Yn sicr ni ddôi, ac ni ddaw, ond lles i’r paganiaid ifainc o glywed darllen darn o’r Ysgrythur yn rheolaidd bob bore.  Ac yr oedd gwerth mewn dod i adnabod yr emynau, a genid yn ddefosiynol cyn dechrau ar ddrygioni’r diwrnod.  Gwych a gwael oedd y rheini yn fy nghof i.  Ond yn rheolaidd yn Ysgol Dyffryn Nantlle yr emyn olaf cyn gwyliau’r haf fyddai ‘Wele’r dydd yn gwawrio draw, / Amser hyfryd sydd gerllaw’, ac fe’i cenid gydag arddeliad.

4.   Heb ddilyn Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru felly ym mhob peth, daliaf cyn gryfed ag erioed mai cwbl amhriodol ac annerbyniol yw cyflwyno addysg enwadol, orfodol dros ddalgylch cyfan heb ddewis i neb, sef polisi lloerig Awdurdod Addysg Gwynedd yn ardal y Bala.  Darllenwch eto:

Ysgol ac enwad

Penderfyniad Gwallgo Pennau Defaid Cabinet Gwynedd

Addysg enwadol — a dim dewis

Chwaraewyr eraill

Gweledigaeth Ieuan Gwynedd

5.     Yn ôl at y cwestiwn ‘beth yw Cristion?’   Cyffyrddais ag ef yn y stori ‘Isio Mwy’, t. 324 yn fy nghyfrol Camu’n Ôl a Storïau Eraill.  Stori ydyw am gau eglwys Annibynnol yng nghefn gwlad Cymru (eglwys Annibynnol, peth hanfodol yn y stori, a pheth nas gwelodd pob adolygydd).  Yn eu hoedfa olaf caiff yr addolwyr, ymhlith amrywiaeth o eitemau eraill,  sgwrs fyrfyfyr gan anffyddiwr yr ardal ar beth yw Cristnogaeth.  Wn i ddim a fyddai’r sgwrs honno o ddiddordeb i aelodau Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru.  Neu a fyddai o gymorth i ymgeiswyr am swydd y Gweithiwr Plant.

Lloffion o Fyd Addysg

21 Tach

(1)   JAC YN Y BALA

y-bala

Daeth ein copi o Newyddion Cyngor Gwynedd trwy’r drws yma, ac ynddo dudalen o ddatblygiadau ym myd yr ysgolion. Yn eu plith, yr adroddiad uchod am gampws newydd y Bala.  Jac Codi Baw yn barod i ddechrau arni, a phawb yn ei helmed yn edrych yn reit joli. Ond un peth nas gwelaf yn yr adroddiad, sef y bydd yr ysgol 3-19 oed newydd yn ysgol enwadol, gyda’r addysg dan reolaeth un o blith ein hamryw gyrff crefyddol, heb ddewis i neb.  Ai dyna’r bwriad o hyd, ynteu a roddwyd Jac Codi Baw dan y cynllun gwallgo ?  Aelodau cabinet Gwynedd, cynghorwyr, swyddogion addysg, cynrychiolwyr Esgobaeth Llanelwy, gallwch ateb drwy glicio ‘sylwadau’ isod.  Edrych ymlaen …

(2)   AI  RHYW FATH O JÔC ?

‘Newyddion da i fyfyrwyr disgleiriaf Cymru’ medd pennawd yn Y Cymro.   A bod yn fanwl, fe ddylasai’r Cymro roi dyfynodau am y geiriau; amlwg mai barn bersonol rhywun sydd yma, nid ffaith wrthrychol.  A thorri’r stori’n fyr, dan nawdd rhywbeth a elwir ‘Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru’, mae canolfan wedi ei hagor ym Mro Morgannwg gyda’r bwriad o ysgubo’r disgyblion galluocaf o Gymru a’u cyfeirio i ‘brifysgolion blaenllaw’; yn amlwg fe ragdybir nad oes yr un brifysgol o’r fath yng Nghymru !  Agorwyd y ganolfan gan Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.  Nid oes dim neilltuol o newydd nac annisgwyl yn y datblygiad hwn; mae’n unol â’r polisi o ddatgymalu a dinistrio a welsom oddi ar ddatganoli dan law ein gwleidyddion anobeithiol.  Ond Gweinidog y GYMRAEG ?  Oni fyddai Gweinidog UNRHYW BETH ARALL wedi bod yn fwy addas yn y cyd-destun, yn fwy chwaethus, ddywedwn ni ?

(3)    PRES YN ÔL !

Adroddir bod y Darpar Arlywydd wedi talu $25,000,000 i gynfyfyrwyr anfodlon Prifysgol Trump, rhag cael ei erlyn ymhellach am ddarparu  iddynt gyrsiau a chymwysterau diwerth.  Nefoedd fawr ! Beth petai cynfyfyrwyr yn dechrau erlyn colegau Cymru a’r Deyrnas hon am werthu iddynt nwyddau fel  Gwyddor Chwaraeon, Amgylchedd, Addysg, Astudiaethau Plentyndod, Cyfathrebu ac Ysgrifennu Creadigol ?

Hafod y Cymro (2) … ac ambell beth arall

18 Tach

Bu’r ysgrif hon ar y blog fis Chwefor eleni, pan oedd tipyn o drafod ar y cwestiwn o ddyblu treth ail gartref.  Dyma hi yr eilwaith, gan fod y mater yn y gwynt eto, a disgwyl penderfyniad polisi gan Gyngor Gwynedd.  Bydd ychwanegiad bach wrth ei chwt.

*    *    *

Darllen heddiw fod saith o awdurdodau lleol gorllewin Cymru’n bwriadu ystyried y posibilrwydd o ddyblu trethi ail gartrefi.

Fel perchennog ail gartref yn fy hen ardal byddwn i’n dadlau’n gryf yn erbyn y cam hwnnw, ac yn wir yn gryf o blaid polisi hollol groes.

Mewn cyflwyniad i gyfrol fy niweddar gyfaill Dewi Tomos, Tyddynnod y Chwarelwyr (2004), mi sgrifennais beth fel hyn:

‘Hwyrach fod rhan o’r ateb gan yr hen Gymry. Daliaf fod hawl o hyd gan bob Cymro i hendref a hafod, os yw ei amgylchiadau mewn rhyw fodd yn caniatáu. Gadewch inni beidio â gwamalu:   mae tŷ haf neu ail gartref yn iawn os mai Cymro a’i piau.  Beth amdani, blant alltud ein hardal a aeth yn “drigolion gwaelod gwlad a gwŷr y celfau cain”?   Nid yw’n ateb cyflawn i’r broblem o bell ffordd. Ond mae’n un ffordd fach o “ddal dy dir”.’

I’r rhai ohonom a all gofio deng mlynedd yn ôl gall dyfynnu ‘dal dy dir’ godi hen gwestiwn cas yn y meddwl.  Pam na wnaeth mudiad Cymuned ddim byd o gwbl ohoni?  A thu ôl i hwnnw llecha cwestiwn casach eto: sut na feddiannwyd yr holl dai oedd yn mynd yn wag yn ein hardaloedd gwledig – ie a threfol hefyd – gan gwmni Adfer a’r cymdeithasau tai a sefydlwyd gan genedlaetholwyr y 1960au?  Sut y bu i ni, y dosbarth proffesiynol Cymraeg, fethu mor llwyr lle mae dyn wedi cyrraedd o Fangladesh heb ddwy geiniog i’w crafu yn erbyn ei gilydd yn llwyddo ar ei ganfed ac yn ffynnu?  Yr ateb yn fyr yw fod yn rhaid iddo ef lwyddo. Nid oedd raid i ni. Roedd ein byd yn rhy gysurus. Roedd ef o ddifri.  Ninnau fel dosbarth, – chwarae plant.

Un canlyniad i’r methiannau hyn yw ffaith y gellir ei chrynhoi mewn byr eiriau.  Ystyr ‘Problem tai’ mewn rhannau helaeth o Gymru heddiw yw bod gormod o dai, a dim Cymry ar ôl i’w llenwi. Dyma pam nad oes eisiau tai newydd o gwbl ym Môn a Gwynedd.  Myth, bellach, yw fod y Cymry’n methu cael tai ac eraill yn eu prynu. Mae’r Cymry wedi mynd.

Mwyfwy’r cyfrifoldeb felly ar y rhai ohonom sy’n weddill. Gallwn gyfrannu rhywbeth bach – a phwysleisiaf y BACH eto  – drwy feddiannu ail dŷ yn ein hardal, i chwarae tŷ bach, i’w osod, i wneud unrhyw beth a fynnom ag ef, ond inni ei BERCHENOGI.  Mewn byd callach na hwn dylai fod yn bosibl i lywodraeth leol neu lywodraeth gwlad, drwy dipyn o help ariannol, ein galluogi i feddiannu eiddo yn yr ardaloedd lle magwyd ni neu lle mae gennym wreiddiau,  – a’n cyfrifoldeb ni fyddai profi fod hynny’n wir wrth gwrs.  A ddylid estyn y fraint hon i unrhyw ddyn dŵad?   Dylid, i ddyn dŵad o unrhyw fan yn y byd, os yw’n medru Cymraeg.

Byddai rhywbeth fel hyn yn eitem o bolisi gan blaid wleidyddol genedlaethol a honno o ddifrif. Hyd yma nid oes arlliw o unrhyw blaid o’r fath yn unman ar y gorwel.

*    *    *

A dyma’r ychwanegiad.  Pwysleisio’r BACH eto.  Ni allaf honni fod fy hen ardal lawer elwach oherwydd fy mherchenogaeth i ar eiddo yno, ond cofnodaf hyn.  Wedi colli fy rhieni ganol y 1980au, gwerthais fy hen gartref i deulu ifanc o’r ardal. Daeth yno ddau blentyn. Yr un pryd, prynais dŷ llai yn yr un cwr o’r pentref, ac am rai blynyddoeddd gosodais hwnnw i deulu ifanc. Daeth yno hefyd ddau blentyn. Ar adeg o bryder ynghylch dyfodol yr ysgol, doedd bosib nad oedd pedwar plentyn o beth cymorth.  Erbyn diwedd y ganrif yr oedd pethau fel petaent wedi sefydlogi, a dathlwyd canmlwyddiant yr ysgol gydag wythnos o weithgareddau hwyliog dros ben. Ond bu tro ar fyd wedyn.

Heddiw dyma gyhoeddi cynlluniau newydd gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, i geisio diogelu ysgolion gwledig, a hyd yn oed ailagor rhai ohonynt.  Rhy hwyr i achub ysgol Carmel rhag fandaliaeth Plaid Cymru.

Gwarthus.

Anfaddeuol.

Gwarthus ac anfaddeuol, dywedaf eto fel y dywedais sawl gwaith o’r blaen, nid am ei bod hi’n ysgol fach, nid am ei bod hi’n ‘hen ysgol yn y wlad’, ac yn sicr nid am ei bod hi’n hen ysgol i mi; ond am nad oedd rheswm i’w chau, ac eithrio (a) rhai ffactorau ariannol tybiedig, a (b) pwysau llywodraeth Lafur.  Cauwyd hi i blesio Leighton Andrews a Huw Lewis. Y ddau yn awr wedi mynd, ond fel y dywedodd Wil o’r Afon, ‘y drwg a wna dynion, bydd byw ar eu holau’.

*    *     *

Ond wps ! Dyma Leighton yn ei ôl i ryw swydd dan y Cynulliad, drwy wahoddiad Elin Jones, y Llywydd.

Be wnewch-chi efo gwleidyddion fel hyn ?

Etholiad U.D.A.

10 Tach

Cyfrannwr gwadd heddiw, Gethin Jones.

Brawychus ond eto diddorol oedd canlyniad etholiad y Caliphate Seisnig,  UDA.

Dau oedd yn y ras i’w henwebu’n ddewis y Democratiaid. Y cyntaf, Bernie Sanders, Iddew sosialaidd   o Brooklyn, Efrog Newydd. Dyn â syniadau gwreiddiol a gwahanol i’r neo-cons arferol:  gwasanaeth iechyd, dileu ffioedd dysgu, cael gwared ag arfau niwclear, peidio ymyrryd mewn gwledydd, ynni adnewyddol, trethu Wall Street a’r banciau.  Ei gwneud  hi’n haws erlyn plismyn hiliol. Mynd i’r afael â  phroblemau erchyll yn y system gyfreithiol sy’n peri bod y rhan helaethaf o boblogaeth carchardai America’n bobl dduon ac Indiaid Cochion.  Yr ymgeisydd arall oedd dynes y sefydliad, dynes a gefnogodd bob rhyfel yn y deng mlynedd ar hugain diwethaf,  ei hymgyrch yn cael ei hariannu gan bob un cwmni arfau namyn un. Wedi derbyn miliynau o bres Wall Street at ei hymgyrch. Hillary Clinton oedd honno.

Nid oedd system annemocrataidd y Democratiaid wedi helpu. Dyma system yr uwch-ddirprwyon (super delegates), oedd yn galluogi criw bach o bobl ddethol y Sefydliad i wyrdroi penderfyniad yr etholwyr.  Yn y diwedd dim ond tri y cant o’r rhain a gefnogodd Bernie, i gymharu â phump ar hugain y cant dros Hillary. Fel arfer pobl saff iawn yw’r rhain, aelodau Cyngres y ffug-chwith, neu adain dde plaid y chwith. Y rhain yn y pen draw a roddodd y Tŷ Gwyn i Trump.

Ar ochr y Gweriniaethwyr, dewis y dynion gwyn gwirion ar lawr gwlad oedd Trump, dyn oedd yn eithaf  annodweddiadol o’r Gweriniaethwyr traddodiadol, yn achosi cryn embaras i hoelion wyth y blaid, ac yn amhoblogaidd gyda’r Pentagon, CNN, Fox News, CNBC, MSNBC a’r banciau. Nid oedd gan y Gweriniaethwyr system o uwch-ddirprwyon, felly mwy anodd oedd rhwystro Trump.

Pan ddoed at yr etholiad, roedd Hillary yn ymgorfforiad o’r peiriant lladd imperialaidd ac o’r system sy’n dweud yn glir y caiff y Saeson fynd i unrhyw le yn y byd a bomio unrhyw un a fynnon nhw. Bomio ysbytai, caeau a thiroedd amaethyddol yn y Dwyrain Canol. Yn Yemen, yn Irac, yn Affganistan, yn Syria, bomio ffatrioedd pils yn y Sudan, yn Libia. Ymddwyn fel cythreuliaid a neb yn medru gwneud dim i’w rhwystro.

Ar y llaw arall honiad Trump yw ei fod yn wrth-sefydliad, – er ei fod yn gynnyrch uniongyrchol o’r sefydliad hwnnw.  Polisi Trump oedd codi wal ar draws y wlad i rwystro’r bobl frodorol rhag dod i mewn i’r Unol Daleithiau, yn eironig pobl  â llawer mwy o hawl i fod yno na’r coloneiddwyr Seisnig.  Diddorol y bore ’ma oedd gweld fod pris stoc Watkin Jones wedi cynyddu. Efallai y caiff gytundeb i helpu codi’r wal. Slogan Trump oedd ‘Make America great again’. Y tro diwethaf i hynny ddigwydd, y Sioux, y Navajo a’r Cherokee oedd yn rhedeg y sioe.

Tebyg iawn oedd yr ymateb yno i Brexit ym Mhrydain. Pobl yn beio lleiafrifoedd ethnig am eu hapathi gwleidyddol a’u dewisiadau dychrynllyd eu hunain, yn mynd yn ôl genedlaethau. (Sbiwch ar gyflwr Cymru : – de a gogledd).

Ail bolisi Trump oedd cynyddu gwariant ar y fyddin ddengwaith drosodd. Hynny ydi, trethu’r bobl chwe chant y cant. Yn barod mae’r Ianc yn gwario chwe deg y cant o’i drethi ar y fyddin.

Y trydydd dewis yn yr etholiad oedd Jill Stein, ymgyrchydd digon call a rhesymol y Blaid Werdd:  o blaid diarfogi niwclear, creu’r holl drydan o ffynonellau adnewyddol erbyn 2020, a chael addysg coleg a gwasanaeth iechyd am ddim. Yr ymgeisydd Libertarian oedd Gary Johnson, cyn-aelod Cyngres dros y Gweriniaethwyr, miliwnydd wedi gwneud ei bres yn rhannol drwy dyfu canabis. Dim syndod felly mai cyfreithloni canabis ar draws America oedd un o’i brif bolisïau, yn ogystal â lleihau llywodraeth a biwrocratiaeth a lleihau’r gwariant ar y fyddin.  Ymgeiswyr digon call a rhesymol oedd y ddau olaf, ond â dim gobaith ennill o gwbl mewn gwlad o bobl gwbl ddi-ddallt a honco bost ulw.

Gwelwyd cynnydd yn nifer y rhai a bleidleisodd. Canran uchel y tro hwn, mae’n debyg, o rai  nad oeddent  wedi bwrw pleidlais erioed o’r blaen. Pobl â dim llawer o glem o’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas ac yn brin iawn o unrhyw synnwyr cyffredin. Pobl yr oedd y polau piniwn wedi eu hanwybyddu.  Y rhain fel arfer yw’r anwleidyddol. Pobl ar lawr gwlad, wedi cael llond bol ar drefn sy’n eu cadw i lawr, ond yn dewis y drws anghywir o hyd i drio  gwella pethau. Pobl fel arfer sy’n derbyn eu newyddion yn ddiog gan ffynonellau annewyddiadurol,  cyrn siarad y peiriant lladd a’r status quo, ffynonellau i gadw’r  dwl yn ddwl.

Be fydd effaith y canlyniad ?

Mae’n anodd meddwl am ymgeisydd llawer gwaeth na Clinton.  Mae’n debyg mai gwaethygu y buasai’r sefyllfa rhyngddi hi a Putin, ac efallai wedi arwain at ryfel niwclear yn y pen draw. Yn barod mae Trump yn sôn am ddileu TTIP,  sy’n newydd da i’r rhai hynny ohonom sy’n gwrthwynebu Monsanto a gwrthwynebu dileu’r gwasanaeth iechyd. Efallai mai sgil effaith Brexit ym Mhrydain fydd rhoi cyfle da arall i’r Alban gael gwared o’r peiriant lladd Prydeinig.

Llyfr i Alun ac i bawb

4 Tach

Dyma farn Alun Davies AC.

Beth bynnag, darllenwch:

clawr-blaen-iawn-bob-tro

Archebwch drwy dalennewydd.cymru.

950

1 Tach

tumblr_niym77wxzl1u9bqm1o1_1280

Pythefnos yn hwyr. Ddydd Gwener, 14 Hydref, y dylasai hwn ymddangos. Oherwydd y diwrnod hwnnw roedd hi’n 950 mlwydd oddi ar frwydr Hastings. Gwnaed tipyn o’r peth ar y diwrnod, ac yn wir fe honnwyd mai “dyma’r digwyddiad pwysicaf yn hanes y byd”.  Heb honni cymaint â hynny (yn y gystadleuaeth mae pethau eraill – dyfod a mynd y Rhew Mawr, ymlediad dynolryw o Ddwyrain Affrica, creu’r prif grefyddau …), fe ellir dweud un peth gyda sicrwydd go dda am y diwrnod hwnnw yn Hydref 1066: dyma ddiwrnod creu’r Sefydliad Prydeinig.  Cafodd yr Hen Saeson (neu’r Eingl-Sacsoniaid) feistr newydd, ac ildiasant iddo bron yn syth; daliodd yr hen Gymry eu tir yn ei erbyn am ddwy ganrif arall.

Mae’r Prydeinwyr (a defnyddio’r gair yn ei ystyr wleidyddol, “ystyr J.R. Jones”) yn rhai diguro am gofio a choffáu.  Rhoddant adnoddau di-ben-draw tuag at y gwaith, a phrin yw ysbeidiau heb ddim i’w nodi.  Detholiad llym yw’r pethau a gaiff eu coffáu, wrth reswm, a gosodir ar y rheini ddehongliad arbennig a ailadroddir ac a danlinellir yn gyson.

Ond efallai, eleni, ein bod yn coffáu brwydr Hastings mewn cyd-destun newydd, cyd-destun a all fod yn chwyldroadol.

Edrychwn arni fel hyn.

Pam mae gwledydd Llychlyn heddiw, ac wedi bod felly ers rhai cenedlaethau, yn wledydd heddychol, democrataidd, ac ynddynt gryn fesur o degwch a chydraddoldeb o’u mewn, a’u cyfraniad ar lwyfan y byd yn adeiladol drwodd a thro?  ATEB : fe gawsant wared â’u helfen hwliganllyd.

Beth ddaeth o’r Llychlynwyr ffyrnig hynny, y môr-fleiddiaid ysbeilgar a fu am rai cenedlaethau yn fwrn ac yn hunllef ar bob cymdeithas arall yn Ewrop ?   Ai pallu a wnaeth eu hegnïon ?  Rhan o’r gwir mae’n debyg, ond rhan arall o’r gwir yw fod yr egnïon hynny, o tua diwedd y nawfed ganrif, wedi eu crynhoi mewn carfan ohonynt a ymsefydlodd mewn rhan o Ogledd Ffrainc. Yn y fan honno troesant yn Ffrancwyr o ran iaith, a throesant yn Gristnogion o fath neilltuol o hunangyfiawn a chreulon a dialgar. Dyma’r Normaniaid. Wedi cadarnhau eu Dugiaeth yn Normandi, estynasant allan i ddau gyfeiriad. (a) Aeth cangen ohonynt i ynys Sicilia neu Sisili; hwy yw’r Maffia.  (b)  Aeth cangen arall i Loegr ar y diwrnod hwnnw; hwy yw’r Sefydliad Prydeinig.  Gwnaeth (a) gryn dipyn o ddrwg yn y byd; gwnaeth (b) lawer mwy.

Deallodd y brenhinoedd a’r arglwyddi Normanaidd o’r diwrnod cyntaf eu bod wedi cael troedle ar ynys, ac na byddai eu gafael a’u llywodraeth yn gadarn heb reoli’r ynys gyfan, – ac os oedd modd yn y byd, yr ynys nesaf ati hefyd. Yng Nghymru, tuag at ddiwedd y flwyddyn 1282, cawsant lwyddiant o’r diwedd – sut bynnag y dehonglwn ddigwyddiadau’r flwyddyn honno (ac efallai na bydd yr wybodaeth fyth gennym i’w dehongli’n gwbl foddhaol).  Yn Iwerddon, daeth gwrthdaro nad ydym eto wedi gweld ei derfynu. Yn yr Alban daeth rhai Normaniaid i ymgymysgu â’r bendefigaeth Sgotaidd (h.y. Gaeleg ei hiaith), ac o dipyn i beth i’w hystyried eu hunain yn Sgotiaid.  Dan arweiniad un o’r rhain, ar Faes y Ffrwd Fannog, 23-4 Mehefin 1314, enillwyd brwydr dyngedfennol yn erbyn byddin brenin Lloegr, canlyniad a barodd fod yr Alban o’r pryd hwnnw allan yn genedl o natur a chymeriad gwahanol i ni’r Cymry.

Ar adegau rhwng 1966 a heddiw gallai ymddangos fod cenedlaetholdeb y Cymry, gymaint ag ydoedd,  yn ddyfnach a gwytnach nag eiddo’r Albanwyr.  Ond o 1997 ymlaen dangosodd datganoli fod yr Alban ymhell ar y blaen o ran arweiniad a gallu i reoli, gyda’i thraddodiad o genedligrwydd sifig yn ymadnewyddu, gan arwain at ymgyrch annibyniaeth 2014 a’r braw mwyaf a gafodd y Sefydliad Prydeinig yn ystod ei holl hanes.  Nid rhyfedd fod CANU GRWNDI dros y ffôn y bore wedi’r canlyniad.  Ond byr y parhaodd y rhyddhad hwnnw. Daeth canlyniadau dau etholiad (San Steffan a Senedd yr Alban), ac yna’r refferendwm ar Ewrop.

Nid yw’r Sefydliad yn dymuno gweld Brexit, er mai anesmwyth fu ei berthynas â’r Gymuned Ewropeaidd drwy’r adeg.  Daliaf i gredu na bydd Brexit. Dyma felly ffenest fechan i genedlaetholwyr yr Alban, a rhaid mynd trwyddi. Anffodus ein bod wedi mynd i roi’r fath goel ar refferenda; fe ddylai  pleidlais Senedd yr Alban fod yn ddigon, yn enwedig gyda’r fath gynrychiolaeth yn San Steffan hefyd. Cân yr unoliaethwyr drwy’r blynyddoedd oedd, “Pan enillwch chi fwyafrif, fe gewch chi annibyniaeth”: trueni na ellid gweithredu ar yr egwyddor hon heb ragor o lol.

Y dydd y bydd Alban annibynnol, bydd y Sefydliad yn gwybod fod y gêm ar ben, – gêm naw canrif a hanner.  Amdani, Albanwyr !

Beth fydd rhan Cymru druan yn hyn oll, – neu beth na fydd?  Pwnc nad oes gennyf y galon i’w drafod heddiw.