Lloffion o Fyd Crefydd

26 Tach

1.    Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru am benodi ‘Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yn ardal Bangor’, a bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus fedru Cymraeg a bod yn Gristion. Mae’r Pab yn Gristion.  Bwriwch fy mod i’n Babydd, ac yn cynnig am y swydd.  Fyddai gen i siawns?

2.    Darllenwn yn y wasg am sefydlu ‘Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru’.  Yn hanesyddol, mae mwy nag un ystyr i ‘Dyneiddiwr’ hefyd, ond nid yw hynny’n broblem  fawr.  Gallwn dderbyn dealltwriaeth y Gymdeithas ei hun o’r gair, sef un sydd â byd-olwg heb grefydd.  Daw i’m cof un o’r pethau a ddywedodd George Bernard Shaw.  Arfer Shaw oedd sgrifennu rhagymadrodd sylweddol i bob un o’i ddramâu,  gan ganolbwyntio ar un pwnc bob tro; yn wir fe ddatganodd unwaith mai esgus dros lunio’r rhagymadrodd oedd llunio’r ddrama. Pwnc rhagymadrodd Androcles and the Lion yw Cristnogaeth, ac yng nghwrs y drafodaeth mae’n sôn am dri chorff o bobl neu ‘dair eglwys’.  Yr helaethaf o ddigon yw corff y Cristnogion ffurfiol, difeddwl.  Corff llawer llai yw’r gwir gredinwyr. A chorff llai eto, bychan bach, yw’r gwir anghredinwyr.  Cawn weld sut y tyf Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru.

3.   Darllenwn mai un o amcanion y Gymdeithas fydd  cael gwared â chrefydd o’r ysgolion.  Cynigiais o’r blaen y farn y dylid parhau i astudio’r Beibl yn yr ysgol oherwydd – ar wahân i bopeth arall – ei bwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol.  Am gynnwys addoliad crefyddol yng nghynulliad boreol yr ysgol, neu ‘Rasembli’ fel y byddem yn ei galw, mae gennyf deimladau cymysg, ac ni wn yn iawn beth yw’r drefn bellach.  A yw’r prifathro’n arfer ‘mynd i weddi’ fel y byddai ers talwm? Yn sicr ni ddôi, ac ni ddaw, ond lles i’r paganiaid ifainc o glywed darllen darn o’r Ysgrythur yn rheolaidd bob bore.  Ac yr oedd gwerth mewn dod i adnabod yr emynau, a genid yn ddefosiynol cyn dechrau ar ddrygioni’r diwrnod.  Gwych a gwael oedd y rheini yn fy nghof i.  Ond yn rheolaidd yn Ysgol Dyffryn Nantlle yr emyn olaf cyn gwyliau’r haf fyddai ‘Wele’r dydd yn gwawrio draw, / Amser hyfryd sydd gerllaw’, ac fe’i cenid gydag arddeliad.

4.   Heb ddilyn Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru felly ym mhob peth, daliaf cyn gryfed ag erioed mai cwbl amhriodol ac annerbyniol yw cyflwyno addysg enwadol, orfodol dros ddalgylch cyfan heb ddewis i neb, sef polisi lloerig Awdurdod Addysg Gwynedd yn ardal y Bala.  Darllenwch eto:

Ysgol ac enwad

Penderfyniad Gwallgo Pennau Defaid Cabinet Gwynedd

Addysg enwadol — a dim dewis

Chwaraewyr eraill

Gweledigaeth Ieuan Gwynedd

5.     Yn ôl at y cwestiwn ‘beth yw Cristion?’   Cyffyrddais ag ef yn y stori ‘Isio Mwy’, t. 324 yn fy nghyfrol Camu’n Ôl a Storïau Eraill.  Stori ydyw am gau eglwys Annibynnol yng nghefn gwlad Cymru (eglwys Annibynnol, peth hanfodol yn y stori, a pheth nas gwelodd pob adolygydd).  Yn eu hoedfa olaf caiff yr addolwyr, ymhlith amrywiaeth o eitemau eraill,  sgwrs fyrfyfyr gan anffyddiwr yr ardal ar beth yw Cristnogaeth.  Wn i ddim a fyddai’r sgwrs honno o ddiddordeb i aelodau Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru.  Neu a fyddai o gymorth i ymgeiswyr am swydd y Gweithiwr Plant.

Gadael sylw