Archif | Mehefin, 2018

Gwerthwyr gwael ?

29 Meh

Tipyn o gorddi y dyddiau diwethaf am un o brif bethau-poeni’r Cymry, sef gwerthiant llyfrau Cymraeg. Yn sgil dyfarniadau Llyfr y Flwyddyn, adroddodd y BBC nad oedd yr un o’r llyfrau a gyrhaeddodd y brig eleni wedi gwerthu mwy na dau gant. Anghywir a chamarweiniol medd rhai o’r cyhoeddwyr: cafwyd y ffigurau gan asiantaeth Nielsen, nad oes ganddi gyfrif o’r siopau llai nac o’r niferoedd a werthir mewn lansiadau.

Fel un a fu ers rhyw wyth mlynedd yn ymhel ychydig â chyhoeddi llyfrau Cymraeg, rhaid imi ddweud bod y ffigiwr o ddau gant yn swnio’n gyfarwydd iawn. 230 y byddwn ni’n eu hargraffu o ‘Gyfrolau Cenedl’. Gwerthwyd y cyfan o argraffiad cyntaf y gyfrol gyntaf, Canu Twm o’r Nant, ac argraffwyd rhagor. Ni ddigwyddodd hynny wedyn, hyd yma. Rhyw araf ddringo at y ddau gant a wnaeth y deg cyfrol arall, a phallu cyn cyrraedd y nod hwnnw.

Gwael? Oni werthodd Twm o’r Nant ei hun, o law i law a chyda help cyfeillion, ddwy fil o’i gyfrol Gardd o Gerddi yng Nghymru dlawd 1790? Do yn wir, ond cofiwn mai dyna Lyfr y Flwyddyn y flwyddyn honno, fel yr oedd Chwalfa yn 1946 a Cysgod y Cryman yn 1953 yn Llyfrau’r Flwyddyn cyn iddynt ymddangos, am fod llyfrau yr un fath â hwy yn sobor o brin. Ddaliwch chi mo’r hen G.A. yn adleisio’r gŵyn wangalon fod ‘gormod o lyfrau Cymraeg’: cyhoedder nhw i gyd os oedd modd o gwbl, rhag ofn fod clasur neu smash hit yn eu plith yn rhywle.

Un canlyniad fodd bynnag i’r cynnydd mewn niferoedd ac mewn amrywiaeth – peth na ddylid byth gwyno o’i herwydd – yw fod y siopau llyfrau Cymraeg yn rhy fychain i arddangos a gwerthu’r cyfan. Mae’r llyfrwerthwr Cymraeg o’r herwydd yn un garw am anfon pethau yn ôl i’r Ganolfan yn Aberystwyth. Silff-einioes llyfr Cymraeg yw dau fis, a dyna ni. Yn gam neu’n gymwys bydd ein cwmni ni, Dalen Newydd Cyf., yn anelu at gyhoeddi’r rhan fwyaf o’i bethau at fis Mai a mis Hydref, er mwyn dal ffeiriau llyfrau Cymdeithas Bob Owen. Rhaid dweud bod Ffair Lyfrau Porthaethwy fis Hydref yn gyfle da inni; gwan yw hi mewn mannau eraill, yn cynnwys Aberystwyth. Dau fis, yna daw Llyfrau’r Nadolig neu Lyfrau’r Eisteddfod i mewn: yn ôl ar y fan â phethau eraill. Mae eithriadau gwiw – pwysleisiaf hynny – ond yn gyffredinol byddaf yn rhyfeddu at y DRAFFERTH a gymer ambell siop o anfon UN o’r ‘Hen Lyfrau Bach’ yn ôl yn lle ei werthu!

Mae peth arall. Diffyg gwasg wythnosol Gymraeg. Erbyn y bydd yr adolygiad wedi ymddangos yn un neu ragor o’r cyhoeddiadau misol neu chwarterol, bydd y llyfr wedi ei sgubo o’r siopau, ‘a’i le nid edwyn ef mwy’. A chanlyniad arall i’r un diffyg, mae llai a llai yn llythrennog yn Gymraeg. Mae’n RHAID gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn. A oes rhywun yn mynd i wrando yn rhywle? Fe geisiodd Dalen Newydd wneud rhywbeth yn 2006-7; dim maddeuant byth i’n cynrychiolwyr etholedig o Blaid Cymru am wrthod hyd yn oed gydnabod llythyr ar y mater.

Mae dweud y drefn am beidio prynu llyfrau dipyn bach fel dweud y drefn am beidio mynd i’r capel. Felly dim mwy o ddweud y drefn heddiw. Y tu ôl i’r cyfan mae’r hen broblem, gwendid endemig y Cymry.

Hysbyseb yn awr. I gael golwg ar gychwyniadau’r broblem honno, disgwyliwch un o’r llyfrau nesaf yn ein cyfres Cyfrolau Cenedl, ‘Llythyr Gildas a Dinistr Prydain’, golygiad newydd gan Iestyn Daniel. Dyma’r llyfr cyntaf o hanes Ynys Brydain ac o hanes ein hynafiaid ninnau, y Brytaniaid. Rhagflaenydd pob Cyfrol Cenedl.

Mynnwch eich copi pan ddaw, y cwta ddau gant ohonoch.

Siroedd, gwledydd a gwlad

8 Meh

Ie, y pwnc mawr o ddiwygio llywodraeth leol unwaith eto.  A dyma, am y pedwerydd tro, hen flogiad yr hen G.A., ‘Sir Gwymon a Sir Conbych’.  Rhaid bod rhywbeth yn yr hen ysgrif hon; fe’i gwrthodwyd gan ddau o’r cylchgronau Cymraeg.

*     *     *

SIR GWYMON a SIR CONBYCH (Cyhoeddwyd ddiwethaf 25 Mawrth 2015)

Gair heddiw am Lywodraeth Leol. Dyma fater nad oes gennyf  unrhyw brofiad ohono, nac unrhyw gysylltiad ag ef ac eithrio fel trethdalwr a defnyddiwr rhai o’r gwasanaethau.  Anaml iawn y bûm trwy ddrws pencadlys fy awdurdod lleol, a’r tro diwethaf mi wnes y camgymeriad erchyll o fynd i mewn trwy’r drws anghywir.  Aeth rhyw wraig, o’r staff rwy’n cymryd, i sterics oherwydd y fath drosedd yn erbyn Arfer Da, a bu bron iddi gael ffatan yn y fan a’r lle! Bu diwygio cynghorau Cymru yn destun rhyw fwmian ers tro byd, heb fawr neb i’w weld yn cytuno â Llyfr y Diarhebion mai ‘lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch’.  Y tu hwnt i hynny, ysbeidiol a herciog fu’r drafodaeth, heb fawr o weledigaeth glir yn unman. Cafwyd Adroddiad Syr Paul Williams fis Chwefror 2014, ac awgrymodd ambell un o’r cynghorau yr hyn yr hoffent neu na hoffent ei weld.

Mae rhai awgrymiadau yn peri anesmwythyd. Sonia Adroddiad Williams am uno ‘Gwynedd a Môn’. Nonsens yw hyn:  mae fel sôn am ‘Norfolk ac East Anglia’.   Mae Môn yn rhan o Wynedd.  Rhan o Wynedd yw Môn.  Nid oes Wynedd heb Fôn.  Môn, Arfon, Meirion, dyna Wynedd, neu Wynedd Uwch Conwy a bod yn fanwl.  Wedyn mae Gwynedd Is Conwy, gyda’r enw modern hwylus, Clwyd, ac yn cynnwys siroedd Dinbych a Fflint. A mynd â’r peth i dir ffars, – ac mae’n hawdd iawn llithro i’r tir hwnnw – beth fyddai enw’r ‘sir’ newydd  y mae Williams yn ei hargymell,  wedi uno’r ‘Wynedd’ bresennol â Môn?   Ai ‘Sir Gwymon’ fyddai hon?   Yr un modd, ai ‘Sir Conbych’ (ar lafar, ‘Combach’ neu ‘Combech’) fyddai hi ar ôl cydio Conwy wrth Ddinbych, a throsglwyddo darn o sir hanesyddol Caernarfon mewn gweithred o fandaliaeth anesgusodol?
Na, nid ar chwarae bach y mae mynd i’r afael ag ad-drefniad arall, ac o fethu â’i chael hi’n iawn y tro hwn gellir dychmygu llanast dychrynllyd.  Byddai raid sicrhau dwy amod:   yn gyntaf, bod y trefniant newydd yn un ystyrlon; ac yn ail, ei fod y trefniant gorau posibl o safbwynt y Gymraeg.

Wrth ddweud ‘ystyrlon’, golygwn hynny nid yn unig ar gyfer anghenion heddiw, ond yn hanesyddol hefyd. Un o rinweddau ad-drefniad y 1970au oedd na chroeswyd ffin unrhyw sir ‘go- iawn’,  dim ond creu taleithiau a’u galw’n siroedd.  Ond yn ad-drefniad  1996  fe aed i  ymyrraeth  drwy roi enwau hollol newydd ar siroedd yn y De (h.y.  rhannau o Forgannwg a Mynwy), ac yn y Gogledd darnio ac ailglytio siroedd:  creu ‘Conwy’ a symud ffiniau Dinbych a Fflint. Llanast.

Fe ddylid yn awr: (1) adfer y gwir siroedd, (2) adfer y gwledydd neu’r taleithiau hanesyddol, (3) sefydlu perthynas ystyrlon, bwrpasol rhyngddynt.

1.    Adfer y Siroedd
‘Creadigaethau Normanaidd,’ medd rhywun efallai am y ‘tair sir ar ddeg’, neu rai ohonynt. Gwir, ond rhannau o wead bywyd Cymru ers cenedlaethau lawer, fel mai anodd adrodd na deall hanes Cymru hebddynt. Ai un o Sir Conwy oedd yr Esgob William Morgan?  Ac Iolo – ble?  –  oedd yr Edward Williams hwnnw?  Morynion glân, pa sir hefyd?  Mwynder, – ble?  Rywsut neu’i gilydd, ochr yn ochr ag unrhyw awdurdodau helaethach, mae angen adfer a chadw’r gwir siroedd, ac ymddiried iddynt  swyddogaethau.  Cadw Sir Fôn; adfer Sir Gaernarfon, o Enlli hyd Ben y Gogarth; adfer Sir Feirionnydd gan gofio cynnwys Edeirnion, fel y dylai fod;  adfer Sir Drefaldwyn, Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed. Adfer ffiniau siroedd Dinbych a Fflint, ond efallai  gydag un newid bach sydd wedi ei sefydlu eisoes, sef ‘Wrecsam-Maelor’ yn uned, gan gadw Maelor Gymraeg yn Sir Ddinbych.  Rhoddai hynny inni bedair sir ar ddeg, ac ychwaneger atynt dri bwrdeistref sirol hanesyddol Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

2. Adfer y Taleithiau
Dylid adfer hefyd batrwm o daleithiau, neu yn wir wledydd  hanesyddol, sef yr hyn a gafwyd yn ad-drefniad 1974, ac a wnaed heb groesi ffiniau yr un o’r hen siroedd.  Rhaid cael y wir Wynedd yn ôl, nid fel sir y tro hwn, ond fel un o wledydd Cymru.

3. Creu perthynas
Dylai fod yn bosibl creu perthynas ffederal rhwng awdurdodau sir a thalaith, gyda chynrychiolaeth o’r naill ar y llall, fel na byddai gormodedd o gynghorwyr. Dylai’r ‘taleithiau’ neu’r ‘gwledydd’ fod yn gyfrifol am addysg, iaith a macro-gynllunio, a’r ‘siroedd’ fod â rhyw gyfrifoldebau llai, ond cyfrifoldebau pwysig iawn ar lawr gwlad.  Hyn-a-hyn o aelodau Cyngor Sir Fôn (dyweder) yn gwasanaethu hefyd ar Gyngor Talaith Gwynedd; a hyn-a-hyn o aelodau Cyngor Talaith Gwynedd, o Fôn, yn gwasanaethu hefyd ar Gyngor Sir Fôn.   Efallai y bydd gofyn inni ddygymod â llai o gynghorwyr, h.y. wardiau mwy,  ar y lefelau uchaf;   byddai’n dda meddwl y gallai cynghorau cymuned bywiog wrthbwyso hyn.  Dyweder bod 17 ‘sir’ (yn cynnwys y tri bwrdeistref sirol). Yna  chwe ‘thalaith’ neu ‘wlad’.  Byddai felly 23 awdurdod, ond byddent yn gorgyffwrdd, yn ffederal, gydag un gwastad yn gordoi’r llall.  Rhywbeth fel hyn fyddai’r patrwm:

Taleithiau                  Siroedd
GWYNEDD                 Môn, Arfon, Meirion

CLWYD                       Dinbych, Fflint, (?) Wrecsam-Maelor

POWYS                       Maldwyn, Maesyfed, Brycheiniog

DYFED                        Ceredigion, Caerfyrddin, Sir Benfro

MORGANNWG         Sir Forgannwg, Caerdydd, Abertawe

GWENT                     Sir Fynwy, Casnewydd

(A pham rhannu Morgannwg?  Roedd yr hen Sir Forgannwg yn gweithio’n iawn.  Os sonnir am boblogaethau anghyfartal, rhaid inni dderbyn fod ardaloedd poblog yn fwy poblog, dyna i gyd!)

Dau gwestiwn

1.   ‘Gormod o gynghorau’ ?  Beth petaem yn enwi peth arall: gormod o swyddi di-fudd, diystyr, dialw-amdanynt, a gormod o swyddogion yn eu llenwi?  I rai, ni wiw sôn am y fath beth.  Gyda Chyngor Gwynedd, dyweder, yn gyflogwr mor fawr, onid yw’r cyfan er lles i economi cylch Caernarfon, ac yn ffactor mewn cynnal y Gymraeg?  A chymryd golwg agos, ydyw y mae. Ond sefyllfa annaturiol yw hon lle mae gweinyddiaeth agos â bod yn brif gyflogwr, a sefyllfa na ellir dibynnu arni yn y tymor hir. Gyda phob un ad-drefniad addewir llai o fiwrocratiaeth, ond creir mwy.  Nid yw Adroddiad Williams fel petai am wynebu hyn. Dywed yn wir (adran 1.31) ei bod hi’n anodd ddifrifol cael darlun llawn o holl swyddi a chyflogau’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Ni allodd yr adroddiad felly awgrymu patrwm staffio’r unedau newydd yr oedd yn eu rhagweld, gan ddangos yn union ble byddai’r arbedion,  – gwendid go fawr ynddo. Dan y math o drefn a awgrymaf uchod, yn cyfuno ‘siroedd’ a ‘thalaith’, byddai cyfle i ofyn pa swyddi a fyddai’n dal yn wir angenrheidiol.  Darllenwn, er enghraifft,  fod gan Gyngor Gwynedd heddiw staff o tua 6,500, a’r rhain bron i gyd yn Gymry.  Mewn trefniant deallus i dorri biwrocratiaeth fe ddylai’r chwe mil a hanner hyn, heb ond ychydig yn ychwanegol atynt, allu gweinyddu’r wir Wynedd adferedig hefyd, fel na byddai diben i neb di-Gymraeg ymgeisio am swyddi  ynddi. 2.    A fyddai cenedlaetholwyr  –  neu yn fwy manwl, Pleidwyr –  am weld adfer Sir Gaernarfon, o Aberdaron i’r Creuddyn, neu yn wir am weld adfer Gwynedd a fyddai’n cynnwys Conwy Seisnigaidd a Môn drafferthus?   Onid yw’r ‘Wynedd’ bresennol, sef Arfon-Meirion fel y dylesid ei galw, yn fwy cysurus i’w gweinyddu?  Rhy gysurus efallai, awgrymaf yn garedig.  Fe aed i gymryd pethau’n ganiataol, ac fe wnaed camgymeriadau mawr.

Credaf fod fy nghof yn gywir yn hyn o beth. Ar wir Wynedd 1974 yr oedd cynghorwyr gwrth-Gymreig o ochrau Llandudno, oedd; ond  roedd y rheini mewn lleiafrif, ac roedd cynghorwyr goleuedig iawn o’r un cwr hefyd.  Ac roedd cynrychiolwyr Môn yn eu bihafio’u hunain cystal â neb. Mae’n dibynnu llawer ar y cwmni, ac ar y cywair sy’n cael ei osod o’r dechrau. Gosodwyd cyfeiriad Gwynedd 1974 gan arweinwyr blaengar, gwlatgar, heb fod oll o’r un blaid; daeth  i fod yr awdurdod mwyaf llwyddiannus  erioed ym mater y Gymraeg. A ellir adfer yr un hinsawdd eto, ni wn. Ond dylid rhoi cynnig arni.  Yn un peth, byddai adfer Sir Gaernarfon yn ei therfynau, o Aberdaron hyd Ben y Gogarth, yn rhoi caead  ar biser y rheini o bobl Bangor sydd am drosglwyddo’u dinas i Sir Conwy am fod honno’n  Seisnigaidd.

Yn eironig efallai, rhan o’r broblem bellach yw fod llywodraeth leol wedi mynd yn fwy pleidiol.  Nid bod hynny o angenrheidrwydd yn beth drwg, ond bod angen rheolaeth bleidiol gryfach, o ganlyniad, i weithredu unrhyw bolisi. Trwy ei pholisi o gau ysgolion, llwyddodd Plaid Cymru ar gyngor presennol Gwynedd i daflu ymaith ar un trawiad tua hanner ei chefnogaeth yn y sir.  Camp arbennig iawn mewn trwstaneiddiwch gwleidyddol;  ac fel y gall ddigwydd mewn chwalfa o’r fath, nid y cynghorwyr ffolaf, awduron y trychineb, a gollodd eu seddau, ond rhai o’r cynghorwyr gorau.  ‘O diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef?’  Neu, a newid y cwestiwn, ‘pa beth yr aethoch allan i’w achub?’

Rywsut neu’i gilydd rhaid atgyweirio’r difrod a wnaed, ac yn y pen draw fe ofyn hynny am fwy na threfniadaeth.  Fe ofyn am agwedd meddwl, ‘diwylliant’ yn yr ystyr eang.
Rhaid imi addef un peth. Y tu ôl i’r meddyliau hyn efallai’n wir fod elfen o ramantu ynghylch hen Gyngor Gwynedd (neu ‘Gyngor Gwynedd Go-iawn’).  A, do, hyd yn weddol ddiweddar mi fûm yn rhyw ragdybio fod peth o ddoethineb yr hen gyngor hwnnw wedi goroesi yn y ‘Wynedd’ rannol bresennol.  Rhwng anystwythder y drefn gabinet, y polisi cau ysgolion a rhai polisïau eraill, mae’r ffydd honno wedi ei siglo’n ddirfawr.  A dyfynnu bardd mawr o Arfon, ‘Tragywydd ai tros amser, Duw a ŵyr’.
A oes synnwyr yn y patrwm ffederal a awgrymais yma?  Mi garwn pe bai rhywrai mwy gwybodus a phrofiadol na mi yn ystyried y manylion.  Er enghraifft, rhywun sydd bob amser yn mynd i mewn i swyddfa’r Cyngor drwy’r drws iawn.

*    *    *
I grynhoi a chloi felly:

1.     Oddi ar imi sgrifennu’r hen ysgrif hon, mae Môn wedi ennill pwynt a Gwynedd wedi colli pwyntiau.  Gweler 12 Rhagfyr 2017 (Môn i fyny, Gwynedd i lawr); 13 Ionawr 2018 (Ysgol be losgwyd hefyd?);  13 Mawrth 2018 (Beth sydd ar waith yng Ngwynedd?)

2.     Erys y nonsens ‘uno Gwynedd a Môn’.  Rhaid ailadrodd mae’n debyg: Môn, Arfon, Meirion – dyna yw Gwynedd, talaith, gwlad.  Nid oes Wynedd heb Fôn.  Nid Gwynedd yw’r sir a gamenwir ‘Gwynedd’ heddiw.  

3.    Erys ‘Sir Conbych’.  Annerbyniol.  Afon Conwy yw’r ffin ac ni ddylid byth ei chroesi.

4.    Yr un modd, ni ddylid cyfuno Caerffili a Chasnewydd. Perthyn un i Forgannwg, y llall i Went. Beth bynnag arall sy’n galw, ni ddylid croesi ffin talaith hanesyddol.

5.    Sonnir am uno Wrecsam â Sir y Fflint.  Mae fy awgrym i’n well, uno Wrecsam â Maelor Saesneg, cadw rhan helaethaf Sir y Fflint.

6.    Pethau afrosgo o ad-drefniad 1996 yw ‘Castell Nedd-Port Talbot’, ‘Rhondda-Cymnon-Taf’ &c.  Yr oedd ‘De Morgannwg’, ‘Gorllewin Morgannwg’, ‘Morgannwg Ganol’ &c yn fwy synhwyrol.  Rhaid cadw ‘Morgannwg’ fel enw gwlad; gellir wedyn gael tri neu bedwar o raniadau o’i mewn.

7.    Beth yw’r sôn hwn am uno ‘Morgannwg’ â ‘Chaerdydd’?  Ym Morgannwg y mae Caerdydd.  Yn wir, y peth gorau i’w wneud â Chaerdydd, Abertawe a Chasnewydd yw eu hadfer yn ‘fwrdeistrefi sirol’ fel y buont am genedlaethau.

8.    Gyda deg awdurdod mawr, mae perygl gwirioneddol y gwelwn fwy o bellhau oddi wrth anghenion llawr gwlad. Pwy sy’n mynd i dorri ffosydd gydag ochrau;’r ffyrdd, fel y gwnâi’r cynghorau dosbarth mor effeithiol gynt?  Adferer y ‘gwir siroedd’, gyda phwerau fel rhai cynghorau dosbarth.

9.     Gwelodd rhai yn y cynigion presennol gyfle i greu tiriogaeth newydd eithaf helaeth â’r Gymraeg yn iaith weinyddol iddi, ‘Arfor’ fel yr enwyd hi.  Ie yn sicr, eler ymlaen.  Eto mae’n chwith os yw’n  rhaid i’r diriogaeth honno fod ‘ar fôr’ yn unig.  Beth am y Berfeddwlad, gogledd Maldwyn, Cwm Tawe?  Trueni na ellid rywfodd rannu Sir Ddinbych yn dde a gogledd; siawns na allai Dyffryn Clwyd, Hiraethog, Uwchaled, Glyndyfrdwy, Dyffryn Ceiriog a Maelor Gymraeg weneud rhywbeth ohoni o’u rhyddhau oddi wrth law farw’r ‘Costa Geriatrica’.  Yn wir dof yn gynyddol i feddwl mai ar sail cynghorau bro neu gymuned (yr hen ‘gynghorau plwy’) y mae creu ‘bro Gymraeg’, h.y. Cymraeg o ran gweinyddiaeth, â’i ffiniau’n wahanol i ffiniau sir a thalaith, ond mewn dealltwriaeth â sir a thalaith.

10.     Drwy leihau rhif y cynghorau sir o ddau ar hugain i ddeg, mae cynigion papur gwyrdd y llywodraeth yn closio’n ôl at batrwm Cymru’r 1970-90au, Cymru’r wyth sir.  Ond cofiwn fod yna gynghorau dosbarth hefyd bryd hynny.  Nid wyf yn cofio’r union rif, ond rhaid bod o leiaf dri chyngor dosbarth o fewn pob sir;  rhoddai hynny dros ddeg ar hugain o awdurdodau, cyn dod at y cynghorau cymuned.

11.   Cymerwn y bydd y cynghorau bro yn dal gyda ni.  Dylai eu swyddogaeth fod yn llawer mwy gweithredol. Fel y ceisiais awgrym yn ôl yn 2003-4, hwy a ddylai ethol ail dŷ senedd y Cymry, wedi ei leoli ym Machynlleth.

12.     Darllenwn nad yw’r rhan fwyaf o’r awdurdodau presennol yn hoffi cynigion y papur gwyrdd.  Dim ond cofio nad  llywodraeth leol sy’n pennu ffurf llywodraeth leol; yn gam neu’n gymwys, gwaith llywodraeth gwlad yw hynny, ac yn yr achos hwn llywodraeth Cymru.

13.     Dyma ni’n gweld ble saif y llywodraeth Lafur ar y mater hollbwysig hwn. Go dawedog, neu niwlog ar y gorau, yw Plaid Cymru. A oes ganddi syniadau?  Neu a’i roi fel arall, oes ganddi syniad am unrhyw beth o bwys?

 

 

 

Lloffion o’r Urdd

2 Meh

Adroddiadau gan GOLWG 360 heddiw o bafiliwn a maes Eisteddfod yr Urdd.

Yn y pafiliwn, llywydd dydd Gwener yn awgrymu ‘cystadleuaeth newydd yn yr Eisteddfod sy’n ymwneud gyda’r lleiafrifoedd o fewn ein cenedl ni.’

Wel, mae cystadleuthau’r Urdd bron i gyd (a’r eithriadau yw’r rhai offerynnol, y dawnsio a’r celfyddydau gweladwy) eisoes ar gyfer lleiafrif, sef y siaradwyr Cymraeg – o amrywiol gefndiroedd ethnig.

Dwedwch i mi, sut y byddem yn dewis a dynodi ‘lleiafrifoedd’ ar gyfer cystadleuaeth benodol?  Ar sail lliw? Tarddiad?  Crefydd?  Unawd i Hindwiaid  dosbarth chwech a saith. ‘Lle Treigla’r Caveri’?

Tueddaf weithiau i ganmol yr Urdd am gadw ‘Llywydd y Dydd’, ac i ofidio bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ei roi heibio. Peth da yw bod pobl yn dal i fedru eistedd, edrych yr un ffordd, gwrando, canolbwyntio, ystyried, clywed safbwyntiau gwahanol, cytuno neu anghytuno.  Dros y blynyddoedd bu dau gategori o Lywyddion Dydd y Brifwyl:  (1) rhai â rhywbeth i’w ddweud, (2)  balast.  Gallem fyw gyda hynny.  Parhaed yr Urdd i gynnig yr amrywiaeth; heddiw efallai, sylwadau call, adeiladol, ysbrydoledig; yfory efallai, nonsens nawddogol.

§

Ar y maes, bu Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, yn trafod beth a ellir ei wneud pan ddaw Cymraeg Ail Iaith i ben yn yr ysgolion. Er imi groesawu diwedd yr ‘ail iaith’ (gweler blog 25 Medi 2016, neu Meddyliau Glyn Adda, t. 158), rhaid imi gyfaddef nad oes gennyf yr un awgrym a allai helpu’r Gweinidog. Oherwydd mae gwraidd y broblem yn ymdeimlad y Cymry o israddoldeb. Beth sy’n mynd i symud hwnnw? Cyfeiriaf  yn unig at un sylw gan Eluned ar y cynllun newydd, beth bynnag a fydd: ‘mae’n rhaid i hwn gyd-fynd i raddau gyda’r newidiadau sy’n dod trwy Donaldson.’ Adroddiad Donaldson yw’r llwyth mwyaf o nonsens ar addysg yng Nghymru oddi ar Lyfrau Gleision 1847.  Gweler blog 10 Mawrth 2015.

§

Yn yr un adroddiad sonia GOLWG 360 am ‘y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion di-Gymraeg.’  Sawl gwaith mae eisiau dweud?  Allwch chi ddim ‘ADDYSGU Cymraeg’.  Gweler y gyfrol Iawn Bob Tro, t. 79.  Olygyddion GOLWG, gyflwynwyr yr Urdd, ATHRAWON YN ARBENNIG, darllenwch, cofiwch a dilynwch. Gostyngiadau hael ar archebion da.

Iawn-Bob-Tro