Heddiw daw atgof braidd yn anesmwythol sydd wedi fy mhoeni bob yn ail â pheidio dros y blynyddoedd. Atgof ydyw am noson yn un o ddwy gymdeithas ffilmiau Coleg Bangor, tua 1963-4. Mae’n debyg fy mod wedi talu rhyw fymryn am fynd i mewn, gan nad oeddwn yn aelod o’r gymdeithas. Y ‘llun mawr’ y noson honno oedd campau Buster Keaton gyda rhyw hen drên o’r enw The General. Y ‘llun bach’, Mise Éire, ffilm wedi ei rhoi ynghyd o hen luniau newyddion cyfoes a dilys o Wrthryfel y Pasg, 1916, a’r helyntion a ddilynodd. Gyda’r ddwy ffilm, yn ôl arfer y dyddiau hynny, roedd yn rhaid newid rîl ar ôl rhyw ugain munud. Wrth inni nesu at ddiwedd rîl gyntaf y ffilm gyntaf synhwyrid rhyw wingo a mwmian ymhith y gynulleidfa o 150-200. Roedd yn dechrau gwawrio ar yr edrychwyr nad y Sais oedd arwr y stori hon. Powliodd yr ail rîl yn ei blaen gyda’r anesmwythyd yn cynyddu, a daeth i’w diwedd yng nghanol storm o fwuo a rhuo ‘take it off !’ Aeth y trefnwyr ymlaen at Buster Keaton. Ni chefais weld y traean olaf nes cael benthyg y DVD gan gyfaill yn ddiweddar iawn. Mwynhawyd anturiaethau Buster gan bawb, am wn i, ond roedd o leiaf un aelod o’r gynulleidfa (yr unig Gymro yn y lle, efallai) yn euog a blin wrtho’i hun na byddai wedi mynnu gweld diwedd y ffilm gyntaf neu ynteu ei arian yn ôl. Ie, noson o Chwarae Teg Prydeinig.
Digwyddiad o arwyddocâd byd-eang aruthrol oedd Gwrthryfel y Pasg. Bu’n ddechrau’r diwedd i holl ymerodraethau Gorllewin Ewrop, a phe na bai llywodraeth y Weriniaeth wedi ei goffáu mewn modd teilwng heddiw buasai’n gywilydd mawr iddi. Am flynyddoedd lawer bu’n arferiad peidio gwneud dim ohono rhag gwneud pethau’n waeth yn y Gogledd. A gafwyd unrhyw ddiolch am hynny sy’n gwestiwn mawr. Mae’n debyg y bu ystyried gofalus iawn pa ffurf a gymerai’r coffâd heddiw a pha nodyn i’w daro.
Trasiedi enbyd fu’r rhyfel cartref a ddilynodd setliad 1921, a bron na ddywedid mai dadrith ynghylch eu chwyldro eu hunain fu prif thema llenorion Gwyddelig dros y blynyddoedd wedyn. Edrychwn ninnau Gymry gyda siom ar y methiant i adfer yr Wyddeleg, y diffyg ewyllys yn wir. Serch hyn oll, camp hanesyddol nodedig iawn yw’r hyn a ddilynodd y Gwrthryfel, sef y gamp o gadw allan, am yn agos i gan mlynedd, o anturiaethau gwaedlyd y wladwriaeth Brydeinig. O’r ochr hon i’r dŵr, lle rydym yn gyfarwydd â’r clochdar di-ball, obsesiynol am yr anturiaethau hynny, go brin y gallwn warafun i’r Gwyddel ei un diwrnod o goffâd milwrol mewn can mlynedd.
Bu’r adroddiadau newyddion yr ochr hon heddiw’n ddigon gweddus o ran cywair, ar ôl cofio’n hatgoffa mai ‘cael ei drechu’ a wnaeth y Gwrthryfel. Efallai fy mod yn anghywir, ond caf yr argraff fod llai o ddiddordeb ymhlith y Cymry nag oedd adeg yr hanner canmlwyddiant, 1966. Ailddangosir y rhaglen ar Wersyll y Fron Goch gan S4C heno, ond hyd y gwelaf ni bu yr un rhaglen fyw yn dangos gweithrediadau’r diwrnod. Tila iawn. Fel arfer.
Ble arall y bu distawrwydd? Ar y blogiau a’r gwefannau Albanaidd sydd fel rheol mor fywiog a chraff. Gŵyr cenedlaetholwyr yr Alban fod yn eu dwylo bellach y gallu i gwblhau’r hyn a gychwynnodd y Gwyddyl ganmlwydd yn ôl. Ond mae ganddynt eu llwybr eu hunain tuag at y diweddglo hwnnw.