Archif | Ionawr, 2023

Dweud yn iawn

29 Ion

Cwestiwn y clywid ei ofyn weithiau i blentyn – ac efallai ei fod yn cael ei ofyn o hyd: ‘Sut rwyt ti’n mynd i ddeud wrth hwn-a-hwn (neu hon-a-hon) …?’ Yn ddigon aml, dweud ‘diolch’ fyddai dan sylw, a’r pwyslais ar ‘ddweud yn neis’ neu ‘ddeud yn iawn’. ‘Gad imi dy glywad di’n deud …’. Ac yna tipyn o bractis deud, nes ei gael yn agos at berffaith.

Mae Yes Cymru’n cynllunio rali yn Abertawe fis Mai. Erbyn yr adeg honno, os byw ac iach a fyddwn, byddai’n dda petai’r mudiadau annibyniaeth oll wedi penderfynu ‘sut i ddweud’ wrth y Cymry.

Dweud pa bethau?

Beth yn union fydd ein sefyllfa ni os aiff yr Alban yn annibynnol, beth fydd goblygiadau’r sefyllfa a beth y bydd yn ei ofyn gan y Cymry.

Craidd y mater. OS bydd yr Alban yn mynd, darfydded sôn am ‘dorri’n rhydd o Brydain’, ‘Cymru’n annibynnol ar Brydain’ ac felly ymlaen. Oherwydd, yn gyfansoddiadol, ni bydd Prydain i fod yn annibynnol arni. Yn hanesyddol, fel yn ddaearyddol, bydd Prydain siŵr iawn, ond ni bydd y wladwriaeth unedol yn bod, neu a’i roi fel arall ni all Lloegr ymrithio mwyach fel Prydain Fawr. I Loegr bydd yn newid aruthrol, fe’i caiff ei hun mewn byd hollol newydd a diarth, ac mae dyn yn ceisio dyfalu sut y bydd hi’n dygymod ag ef.

Bydd yn fyd diarth i’r Cymry hefyd, ac iddo ymhlygiadau helaeth a dyfnion ar ddau wastad, (a) seicolegol, a (b) cyfansoddiadol.

Ar wastad (a) mae’n fater o argyfwng dirfodol, argyfwng parhad, sef – pa iws malu? – argyfwng y Gymraeg. Pam yr ydym ni’r Cymry yn y fath dwll yn 2023? ATEB: am i’n hynafiaid dderbyn anogaeth y Llyfrau Gleision. Pam y gwnaethon nhw hynny? ATEB: oherwydd Y PETH yr wyf wedi ei drafod yn weddol helaeth o’r blaen, ac y byddaf yn ei drafod eto efallai. Pan fydd cerbyd Lloegr ar ei ochr yn y ffos a’i olwynion yn troi yn yr awyr, a wêl y Cymro y gall, o’r diwedd, fwrw’r PETH heibio?

Yna gwastad (b). Y cwestiwn ger bron y Cymro fydd, neu ddylai fod: NID ‘wyt ti am i Gymru ddal i berthyn i Brydain?’ OND ‘wyt ti am i Gymru barhau’n rhan o LOEGR fel y bu oddi ar Ddeddf 1536, YNTEU a wyt ti am i Gymru fod yn wladwriaeth gyfartal â Lloegr, yr Alban ac Iwerddon?’

Hei lwc fod Yes Cymru’n gweithio ar hyn. Y broblem fawr a fydd yn aros yw PA WASG, pa GYFRYNGAU, sydd gennym bellach i osod y darlun a’r cwestiwn gerbron y bobl? I gael trwch y Cymry i ddechrau deall eu sefyllfa, bydd angen ANDROS o ymgyrch. A oes gennym yr adnoddau?

Ond yn y cyfamser ac am y tro, drosodd eto at yr Albanwyr.