Newydd orffen darllen llyfr a gefais gan Siôn Corn eleni, a dyma’i lun:
A dyma ddyfyniad, wedi ei led-gyfieithu. Paragraff cyntaf y bennod olaf:
‘Dichon y gellir, y funud hon, ystyried mai synnwyr cyffredin yw’r status quo, ond does bosib na bydd cenedlaethau’r dyfodol yn edrych yn ôl â chymysgedd o syfrdandod a dirmyg ar y modd y trefnir cymdeithas ym Mhrydain heddiw: y mil unigolyn cyfoethocaf yn berchen £520 biliwn, tra mae cannoedd o filoedd o bobl yn gorfod ciwio mewn banciau bwyd; elite ariannol ffyniannus, a helpodd fwrw Prydain i drobwll o chwalfa economaidd, a chael ei achub wedyn gan £1 triliwn o arian cyhoeddus, ond sy’n dal i weithredu fwy neu lai fel o’r blaen; dogma lywodraethol sy’n trin y wladwriaeth fel rhwystr y dylid ei ddileu a’i anwybyddu, yr un pryd yn union ag y mae’r wladwriaeth yn gwasanaethu fel asgwrn cefn buddiannau preifat; elite corfforaethol yn dibynnu ar haelioni’r wladwriaeth, ond yn gwrthod cyfrannu arian i’r wladwriaeth honno; cyfryngau … sy’n llwyfan i uchelgais, rhagfarn a hunangarwch noeth nifer bychan o gyfoethogion. Mwy syfrdanol i’n disgynyddion fydd sut y cyflwynwyd hyn fel peth normal, hollol resymegol ac amddiffynadwy, a sut y ceisiodd y sefydliadau a reolir gan yr elite, gyda chryn fesur o lwyddiant, ailgyfeirio dicter y bobl at y rheini ar waelod isaf cymdeithas.’
Pwy allai anghytuno â hyn? Wel, i ddechrau wrth gwrs, pawb o’r Sefydliad y mae’r llyfr yn ymdrin ag ef. Yna, ac yn bwysicach efallai, pawb o’r mwyafrif mawr ym Mhrydain sy’n dawel a bodlon dan oruchwyliaeth y Sefydliad.
Byddaf yn hoffi llyfrau sy’n porthi fy rhagfarnau, a dyna pam, mae’n debyg, y cefais flas mawr ar ddarllen y llyfr hwn mewn rhyw ddau eisteddiad. Am imi ei fwynhau gymaint, mi gysegraf weddill yr ysgrif hon i godi ambell gwestiwn ac awgrymu ambell olygwedd wahanol.
1. Dadl ganolog Owen Jones yw fod syniadau dyrnaid o feddylwyr yng Ngorllewin Ewrop ac America, lleiafrif dinod yn y blynyddoedd yn union wedi’r Ail Ryfel Byd, bellach wedi dod yn ddogma lywodraethol ar draws y gwledydd, ond ym Mhrydain yn arbennig, oddi ar fuddugoliaeth Margaret Thatcher ym 1979. Yr enw byr ar y ddogma honno yw ‘rhyddfrydiaeth economaidd’, – neu, mewn termau mwy lleygol, ‘penrhyddid i wneud pres’. Mae’n enwi Milton Friedman, F.A. Hayek a Karl Popper. Economegydd oedd Friedman, ac rwyf am gyfaddef na ddarllenais erioed sillaf o’i waith. Proffwydi cymdeithasol oedd Hayek a Popper, a chofiaf eu darllen gyntaf yn y 1960au gan gytuno’n llawer amlach nag anghytuno. Roeddent yn rhybuddio rhag y meddwl torfolaidd yr ymddangosai ei fod ar gynnydd ar y pryd a rhag gor-ymyrraeth gwladwriaethau mewn mwy nag un maes. Bydd rhai ohonom yn cofio mai ‘gwladwriaeth wan’ oedd delfryd Plaid Cymru yn nyddiau Saunders Lewis, ac am beth amser wedyn. Beth bynnag am Friedman, fe erys neges Hayek a Popper yn berthnasol ac angenrheidiol, ac ni ellir bwrw’r holl fai arni, na’r rhan fwyaf o’r bai, am holl drachwant cyfalafiaeth y dwthwn hwn. Mae gwreiddiau hwnnw’n llawer hŷn a dyfnach, ac nid oes eisiau edrych ymhellach na chybyddion Twm o’r Nant.
2. Byrdwn cryf trwy’r llyfr yw mai Thatcher, ac wedyn Blair, fu’n gyfrifol. Yn sicr, pan roddodd Thatcher label ‘y gelyn mewnol’ ar Undeb y Glowyr, a thrwy ensyniad ar yr holl boblogaeth weithfaol drefnedig, fe gaed cefnu hyf ar ‘Geidwadaeth Un-genedl’ y tri degawd o’r blaen. Do, fe dorrwyd mewn modd llachar ar draddodiad y Torïaid fel y daethom i’w adnabod o 1951 ymlaen. Ond y cwestiwn mawr yw, a dorrwyd ar draddodiad Llafur pan etholwyd Blair? Pwnc llawer anos i’w brofi, ddywedwn i. A gafodd y Sefydliad erioed ffyddlonach gweision nag Attlee, Wilson a Callaghan? Ac am Gaitskell, rhaid ei osod ymhlith dyrnaid prif arwyr adain-dde Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif. Yn ogystal â thuedd i roi coel ar ambell un fel Neil Kinnock a Chris Bryant, fe red drwy’r llyfr ryw duedd, os nad i ddelfrydu Hen Lafur, o leiaf i osgoi edrych i mewn i’w phac. Sut y methodd y blaid a’r mudiad Llafur mewn pedwar ugain mlynedd, sut y methodd y Chwith yn gyffredinol, greu amodau i wneud rhaib a rhemp ‘Sefydliad’ Owen Jones yn amhosibl? Ac yn sgil hyn rhaid gofyn, gan fod Owen Jones yn gwaredu drosodd a throsodd, a minnau’n cytuno ag ef, at osgo adain-dde’r wasg ym Mhrydain, sut na lwyddwyd erioed, gan neb, i greu gwasg boblogaidd amgen.
3. ‘Conclusion : A Democratic Revolution’ yw enw’r bennod olaf. O ble daw’r Chwyldro, a phwy a’i crea? Nid yw hanes yr ugeinfed ganrif yn ennyn fawr o hyder. Ar draws hanner y byd fe gafwyd chwyldroadau o fath, gan werinoedd wedi eu mobileiddio gan ddosbarth deallusol penderfynol iawn ac mewn amgylchiadau cwbl eithriadol o anhrefn a gwrthdaro; eu canlyniad fu unbenaethau hunllefol, a ysgogodd yn eu tro fudiadau gwallgof adain-dde i ddynwared eu dulliau dan esgus eu gwrthsefyll. Ac edrych yn ôl dros hanes Prydain, ni welaf ond un dyn a allasai ei gwneud-hi. Lloyd George oedd hwnnw, ond fe’i llesteiriwyd ef yn ddifrifol, ac yn angeuol yn y diwedd, gan ei ddiffyg gwastadrwydd amcan ei hun. A phriodol, cyn mynd heibio o 2014, inni goffáu eto fel yr ildiodd Lloyd George ganrif yn ôl, a dewis y llwybr poblogaidd, a thrwy hynny fynd yn was ac wedyn yn garcharor i’w hen elynion. Disgwylier Hen Lyfr Bach Lloyd George y gwanwyn nesaf yma.
4. Llwyddodd Owen Jones i fod yn gynnil iawn ei gyfeiriad at ddigwyddiad pwysicaf 2014 yng ngwledydd Prydain. ‘Beth bynnag eich barn ar bwnc annibyniaeth yr Alban, does dim amheuaeth nad yw’r ymgyrch “Ie” wedi cyffwrdd â rhyw ymddieithrio dwfn oddi wrth y Sefydliad, gan addo y byddai’r Alban yn rhydd o’i reolaeth ef a’i mantras ond iddi adael y Deyrnas Unedig.’ Ŵan Jôs, mae mwy iddi na hynna, a llawer mwy hefyd. Oherwydd y diwrnod y bydd llongau Trident yn gadael Aber Clud, dyna fydd diwrnod yr ergyd drymaf a drawyd erioed i falchder y Sefydliad sydd wedi gormesu Ynys Brydain, nid oddi ar 1979 ond ers bron i fil o flynyddoedd. Dyna pam y bydd raid i’r mater hwn fod yn flaenoriaeth lwyr os, os – ac mae’n ‘os’ mawr iawn o hyd – caiff yr SNP ei hun mewn sefyllfa i fargeinio. Siawns nad yw arweinyddiaeth y blaid yn deall hyn. Nid digon cytundeb i beidio ag adnewyddu Trident ymhen blynyddoedd, pan ddaw oes y llynges bresennol i ben. Rhaid i’r pedair llong bresennol (neu faint bynnag sydd) gael eu gweld yn ymadael. Dyma fyddai dymchwel tŷ’r Philistiaid. Dyma fyddai dial Braveheart a’r Llyw Olaf. Nid rhyddid yr Alban yn unig fyddai’r wobr, ond dechrau iachawdwriaeth Lloegr hefyd. Ond yr wyf yn camu ymhell, ac nid wy’n disgwyl i golofnydd o’r Guardian fy nghanlyn i’r pellter hwnnw.