Dan y pennawd ‘Taking ourselves seriously’ ar wefan Click on Wales, 29 Ebrill, mae Jasmine Donahaye yn trafod dau fater a wêl hi yn gysylltiedig: (a) argyfwng cyhoeddi academaidd yng Nghymru, a (b) diffyg astudio ar fywyd Cymru fel undod.
Prif achos (a) yw fod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) wedi torri £132,000 oddi ar gymhorthdal Gwasg Prifysgol Cymru. Swm bychan iawn yw hwn yng nghyd-destun y gwariant ar y prifysgolion, ond mae’r penderfyniad yn arwydd unwaith eto o feddylfryd HEFCW fel cwango hollol wrth-Gymreig. A chofier ym mhen hyn ymosodiad yr un corff ar Eiriadur y Brifysgol drwy doriad arall. Mae’r cyfan yn rhan o batrwm yr wyf wedi cyfeirio ato ar y blog hwn o’r blaen, tuedd, dan gochl datganoli, i danseilio rhai o wir sefydliadau cenhedlig y Cymry.
Yr enghraifft egluraf a mwyaf erchyll o’r duedd hon yw’r tanseilio ar Brifysgol Cymru ei hun. I’r sawl sydd â’r stumog i ddarllen yr hanes gwaradwyddus, mae ail fersiwn fy mhamffled Trwy Ofer Esgeulustod i’w weld o hyd ar y blog hwn (6 Ionawr 2013). Gan ategu llawer o apêl Jasmine Donahaye, rhaid imi bwysleisio eto na ellir ystyried problemau Gwasg y Brifysgol, y Geiriadur na dim arall, ond yng nghyd-destun y llanast a’r anfadwaith hwn. Fel man cychwyn i’r holl drafodaeth, fe ddylem ein hatgoffa’n hunain yn wastad fod penderfyniad Cyngor y Brifysgol, 21 Hydref 2011, yn anghyfansoddiadol, ac nad oes unrhyw ddilysrwydd i’r oruchwyliaeth bresennol ar yr hyn sydd ar ôl o’r Brifysgol, goruchwyliaeth Y Drindod-Dewi Sant.
Cyfeiria Jasmine Donahaye hefyd at ‘alwad i weithredu’ gan y corff cymharol newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Maddeuer gradd helaeth o sgeptigiaeth, ac yn wir rhyw ysfa i chwerthin, gan un hen flogiwr o leiaf. Cymdeithas yw hon o academwyr hŷn ac ymddeoledig a fu’n dyfal edrych y ffordd arall gan warchod eu buddiannau eu hunain tra bu’r datgymalu’n mynd rhagddo, gan lwyddo i beidio â dweud dim am bethau fel yr ymosodiad ar y Brifysgol a pholisi llywodraethau Cymru (Llafur, a chlymblaid Llafur a Phlaid Cymru) o allforio’n plant galluog gydag arian i’w canlyn (ffactor o gryn bwys, gyda llaw, yn y gwahaniaeth heddiw rhwng yr Alban a Chymru). Rwy’n methu â rhagori ar fy nisgrifiad gwreiddiol o’r Gymdeithas Ddysgedig, ac rwyf am ei drydydd-adrodd: ‘casgliad gorau’r byd o brif awduron y broblem’.
Trown at (b), ail ben yr ysgrif, galwad am fwy o astudio bywyd Cymru yn gyfannol ac yn rhyng-ddisgyblaethol. Galwad weddol ochelgar ydyw, gyda pheth amheuaeth ynghylch ‘Welsh Studies’. Rhannu’r amheuaeth a wnaf i, gan ddwyn i gof sylw a glywais yn ddiweddar gan Dr. Bruce Griffiths, mai rhywbeth yn lle’r pwnc yw ‘astudiaethau’ ar y pwnc. Yr enghraifft fawr yw ‘Astudiaethau Clasurol’, rhywbeth i fyfyrwyr heb Roeg na Lladin, ac nad yw’n gwarantu y bydd ganddynt sillaf yn rhagor o’r naill na’r llall erbyn y diwedd. O fewn cenhedlaeth gwelsom adrannau Hebraeg yn y colegau yn troi’n adrannau Efrydiau Beiblaidd ac wedyn yn adrannau Astudiaethau Crefydd. A yw’r wybodaeth yn cynyddu a dyfnhau o ganlyniad i’r newid? Dim ond gofyn. Ceir Astudiaethau Cymdeithasol, sy’n weddol ddiddrwg hyd y gwn i, am mai enw arall ar Gymdeithaseg ydyw. Ond wedyn mae Astudiaethau Benywaidd ac Astudiaethau Plentyndod, a chyda’r rhain yr ydym yn dechrau cerdded y llwybr sy’n arwain at Gyfathrebu, Addysg, Gwyddor Chwaraeon ac Ysgrifennu Creadigol. Dylid dweud, mewn tegwch, mai rhywbeth yn perthyn i’r Celfyddydau ac i gyrion allanol byd dysg yw’r penwendid hwn. Hyd y gwn, nid oes ‘Asudiaethau Ffiseg’ neu ‘Astudiaethau Biocemegol’. I gael gradd wyddonol rhaid, hyd yma beth bynnag, wybod rhywbeth am y pwnc.
A throi at ‘Astudiaethau Cymreig’, beth ddylai’r rheini fod? A oes yna batrymau a chynseiliau mewn ‘Astudiaethau Albanaidd’ neu ‘Astudiaethau Americanaidd’? Ai meddwl yr ydym am ryw gyfuniadau newydd o Iaith, Llenyddiaeth a Hanes? Ac os felly, beth y byddid yn ei ennill rhagor nag astudio, yn y modd traddodiadol, y Gymraeg a Hanes Cymru fel pynciau unigol neu fel pynciau cyd-anrhydedd? Ac yn wir, os mai rhyw estyniad o gyd-anrhydedd fyddai’r cwrs ‘Astudiaethau’, rhaid imi gael mynegi llawer o amheuaeth ar sail profiad. Un o’r pethau mwyaf anfoddhaol yn y colegau, o fewn fy nghof i, yw’r diffyg cynllunio ar feysydd llafur cyd-anrhydedd yn gyffredinol. Yr hyn y dylasem ei wneud, ond na lwyddwyd erioed i’w wneud, na cheisio’n galed iawn, yw (i) gofalu cadw cnewyllyn yr wybodaeth hanfodol am y naill bwnc a’r llall o fewn y cyfuniad; (b) perthnasu’r ddau bwnc yn ystyrlon â’i gilydd. Gofynion amserlen fu (ac sydd, hyd y gwn) yn rheoli’r cyfan, gyda’r canlyniad mai rhyw lobsgows digon mympwyol a gynigir i’r myfyriwr, peth llawer salach yn y rhan fwyaf o achosion na’r hen ‘radd gyffredin’ neu ‘radd pasio’ a gynhwysai dri phwnc ac a roddodd wasanaeth da yn ei dydd.
Beth am gynllunio cyfuniadau o ddwy lenyddiaeth Cymru? Iawn, am wn i, ac fe allai weithio. Rhaid imi gyfaddef na bu gennyf fawr o amynedd erioed â myfyrwyr a oedd yn astudio llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif heb ddymuno gwybod dim am awduron Eingl-Gymreig yr un cyfnod. O’r tu arall, teg gofyn pai rai o’r Eingl-Gymry a gydnabuwyd gan y byd mawr fel llenorion Saesneg o bwys? Dau neu dri, yn ôl dyfarniad haneswyr a beirniaid llên, a chynllunwyr meysydd llafur yn y rhan fwyaf o brifysgolion y byd. Ai yn unig am eu bod yn berthnasol i ni, neu i rai ohonom ni, y byddid yn astudio Caradoc Evans, Rhys Davies, Alun Lewis, Glyn Jones, Idris Davies, Harri Webb, Emyr Humphreys? Eto cofiwch, os mai ag ‘ie’ yr atebwn y cwestiwn, ni olyga hynny fod y penderfyniad yn anghywir. Mae i bob awdur ei gynulleidfa a’i gyd-destun, ac iawn ei astudio yn y cyd-destun hwnnw.
Llenyddiaeth a cherddoriaeth Cymru? Mae’r cyfuniad eisoes yn bosibl drwy gyrsiau cyd-anrhydedd. A ellid mynd ymhellach, wn i ddim. Sonia Jasmine Donahaye am waith arlunwyr Cymreig. Mae wedi fy nharo ers blynyddoedd nad oes genedl yn y byd â bywyd ei phobl gyffredin wedi ei ddarlunio’n well gan ei harlunwyr, yn fwy dychmygus a chreadigol, na bywyd y werin Gymraeg, wledig a diwydiannol, yn ail hanner yr ugeinfed ganrif a hyd at heddiw. Oes yma ddefnydd cyfuniad â chyrsiau llenyddol?
Rhyw ychydig feddyliau digon ansicr fel yna. Byddwn yn agored i’m hargyhoeddi gan rywun a gynlluniai gyfuniadau da. Mae gennyf yr un pryd ofnau ynghylch teneuo’r uwd neu daenu’r menyn. Beth fyddai’r effaith ar bynciau go-iawn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, a Hanes Cymru? A chofiwn rybudd Bruce.