Hwyrach – gobeithio – y bydd rhai o’r darllenwyr yn cofio eitem 29 Ebrill, lle gwnes ambell sylw ar swydd a oedd yn cael ei hysbysebu gan ‘gorff newydd uchel ei broffil’. Ond ’tawn i’n marw, dyma un arall yn GOLWG, 21 Mai.
Wedi dechrau drafftio rhyw bwt bach yn cyfeirio at y monitro, yr herio, yr ‘ymyrryd yn uniongyrchol’ a’r dyletswyddau aruthrol eraill, mi rois y gorau iddi mewn anobaith. Mae hyn tu hwnt i alluoedd unrhyw ddychanwr sy’n fyw heddiw. Tyrd yn ôl, Jonathan Swift.
Ond dyma ichi beth a wnaf. Bydd Blog Glyn Adda weithiau’n cynnwys cyfraniad gan awdur gwadd. Felly y tro hwn, rwy’n addo y rhoddaf lwyfan agored ar yr hen flog i ysgrif, o’r hyd a fynner, yn gwrthddadlau’r gosodiad ‘fod y swydd hon yn rwtshi-ratsh ac yn gamddefnydd annuwiol o arian cyhoeddus’. Beth amdani, aelodau tîm yr Ymgynghorwyr Her?
Ond mae un amod. Rhaid i’r ysgrif fod mewn Cymraeg go-iawn. Ni chaniateir cynnwys yr un o’r geiriau hyn: arfarnu, arsylwi, asesu, gwerthuso, monitro, alinio, meincnodi, ffocysu, syntheseiddio, adborth, seilwaith, pwysoliad, cynaliadwyedd, capasiti, sybsidiaredd, strwythur, synergedd, mesuriadau perfformiad, mewnbwn, allbwn, cymwyseddau, addysgeg, empathi, sgiliau allweddol, sgiliau bywyd, sgiliau rhyngbersonol, sgiliau metawybyddol, continwwm dysgu, mecanweithiau atebolrwydd, addysg berthnasol, dysgu symbylol, arferion gorau, cyfeiriadedd byd-eang, metawybyddiaeth, rheoli risg, dehongli data, cymhwyso cysyniadau, deilliannau cyflawniad ac ymdrech ddisgresiynol. Ac ni chaniateir dweud ‘dysgu ac addysgu’.
O ran diddordeb, gellir darllen hefyd eitem 10 Mawrth, ‘Llond twb o swigod’.
Dw I ddim yn gallu gwneud hyn, ond dw i’n nabod rhywun all dderbyn yr her !!!
Ni allaf ymateb i’r her oherwydd fod yr hen Glyn Adda minji wedi gwahardd unrhyw ddefnydd o’m geirfa goeth arferol. Taw piau hi felly.
In eni cês, dwi’n bwriadu apleio am y job hon o ditshio titsiars.
Reblogged this on Storïau Tir Du and commented:
Dwi ddim yn ailflogio’n aml ond mae angen i bawb weld hwn! Oes geiriau eraill y dylid eu cynnwys yn y rhestr? – Dwi’n cynnig “blaengaredd” fel enw – pan fydd “initiative” yn golygu “cynllun”.