Archif | Hydref, 2022

Rhywbeth i’w gamddeall

23 Hyd

Dyma ichi rywbeth i’w gamddeall.

Rwy’n sgrifennu hwn cyn gwybod pwy caiff hi.

Etholiad cyffredinol? Wrth gwrs mae’n rhaid i’r gwrthbleidiau alw am un, gan frolio mor barod ydyn nhw. Ond go brin y bydd y Ceidwadwyr am gael Nadolig Tyrcwn, a chyda’u mwyafrif diogel a dwy flynedd i fynd nid oes rheswm ar wyneb y ddaear iddynt gael y fath beth. Bydd rhai o oed yr hen G.A. yn cofio 1957, Anthony Eden wedi llosgi ei fysedd yn ofnadwy gyda helynt Suez, yn ymddeol yn ddyn gwael, a’i blaid wedi ei hysgwyd. Allan o’r ‘Cylch Cyfrin’ (fel yr oedd hi bryd hynny) fe ddaeth Super Mac, neu ‘Mr. MacWonder’ chwedl Aneurin Bevan; a dwy flynedd yn ddiweddarach (1959) dyma’r Torïaid yn ei sgubo hi.

Nid bod yr hen G.A. yn gobeithio gweld canlyniad felly. Ond, ac edrych ar y darlun cyfan, mae’n credu mai’r peth gorau fyddai bod y llywodraeth Dorïaidd hon yn cael ei thraed dani am y tro, bod pethau’n sefydlogi rhyw gymaint, a’n bod yn dychwelyd at dipyn o ‘wleidyddiaeth ddiflas’ (chwedl rhai o’r sylwebyddion) wedi’r berw hwn. Diflas, hynny yw, ym mhobman ond yr Alban.

A dyma sy’n bwysig. Cadwn ein llygad ar y nod, ar y peth hanfodol. A beth yw hwnnw? Cynnydd a llwyddiant yr SNP a mudiad ymreolaeth yr Alban, sef ein hunig obaith gwleidyddol ninnau, fel y mae pethau’n edrych ar hyn o bryd. A chofio hynny, nid da bod yr un o’r ddwy brif blaid Brydeinig filltiroedd ar y blaen i’r llall, a bod trwy hynny yn ddewis rhwydd ac amlwg i’r unoliaethwyr Albanaidd sydd am bleidleisio’n dactegol yn erbyn yr SNP. Gadewch iddi wastatáu rhyw dipyn rhwng Tori a Llafur, gyda’r ddwy yn setlo tua chanol yr ugeiniau yn yr Alban. Yng Nghymru, nid yw affliw o bwys, a chaiff Lloegr wneud fel y mynn.

§

A newid trywydd am funud. Rhyw arolwg y dyddiau diwethaf yn darogan sefyllfa hollol ffantasïol, pe cynhelid etholiad heddiw: y Torïaid â dim ond pum sedd drwy Brydain oll, sef ‘un yn fwy na Phlaid Cymru’ yn ôl un sylwedydd! Hei, dim ond pedair sedd i B.C.? Beth am yr holl seddau mae hi’n mynd i’w hennill? Oes rhywbeth o’i le?

Gwerth ei ddarllen

12 Hyd

Isio gweld rhywbeth y dewisodd y cyfryngau ei anwybyddu bron yn llwyr? Edrychwch ar flog Craig Murray, eitem ddoe (11 Hydref) yn arbennig, ond eitem heddiw hefyd.

D.A.A.

10 Hyd

Dyna Gynghorwyr Gwynedd wedi datgan yn groyw DIM ARWISGIAD ARALL, a dyma’r hen flog hwn wedi eu canmol.

Ond ymlaen rŵan, ein cynrychiolwyr, at beth can mil pwysicach. Cyhoeddwch yr un mor bendant DIM ATOMFA ARALL

Gallaf ddychmygu Cymru annibynnol efo ‘Tywysog’ o Sais. Ond bydd annibyniaeth efo mwy o niwclear yn amhosibl.

Hollti blew

6 Hyd

A Chyngor Gwynedd heddiw wedi gwneud peth call, hwyrach y byddwch yn meddwl mai tro gwael yw hollti blewyn neu ddau.

● Wedi i Wynedd ddatgan nad yw am weld arwisgiad arall yng Nghaernarfon, dylai hynny fod yn ddigon. Ni raid i unrhyw sir arall ddilyn. Mae’r peth wedi ei setlo.

● Clywir rhyw fwmian am gynnal arwisgiad bach yng Nghaerdydd. Diangen a diystyr fyddai hynny. Tipyn o lol yn perthyn yn arbennig i Gaernarfon oedd y ddau flaenorol.

● Os oes raid arwisgo, boed yn Llundain. Ond does dim raid. Yr oedd cymhellion gwleidyddol cryf y tu ôl i’r ddau arwisgiad o’r blaen. Yn 1911 yr oedd Lloyd George (a) am weld ‘dyrchafu Cymru’ yn ôl syniad yr oes, a (b) yn ceisio cefnogaeth y teulu brenhinol yn ei frwydrau yn erbyn Tŷ’r Arglwyddi. Yn 1969 yr oedd llywodraeth Lafur, rhwng dau etholiad cyffredinol, yn ofni yn ei chalon weld Plaid Cymru’n cynyddu. Heddiw nid ymddengys fod P.C. yn mynd i unman, ac nid oes unrhyw reswm i Lafur bryderu. Cawn deimlad nad yw Drakeford na’i lywodraeth yn awyddus o gwbl.

● Dim arwisgiad, iawn. Ond peth gwahanol yw galw am ddileu’r teitl ‘Tywysog Cymru’. Rhydd i bawb wneud yr alwad os dyna a ddywed ei ben neu ei galon, ond rhaid cofio na ellir dad-wneud yn ddemocrataidd hen benderfyniad hollol annemocrataidd. Mater i riant y mab hynaf, pwy bynnag sy’n gwisgo’r goron, yw ei greu’n ‘Dywysog Cymru’ neu beidio, a mater i frenin neu frenhines hefyd yw penderfynu cadw’r teitl neu ynteu ei roi heibio am byth.

● Ara’ deg cyn ‘diddymu “tywysog Cymru” o’r llyfrau hanes’! A ydym am anghofio’r rhai hynny a ystyriwn ni’n rhai dilys? Ta-ta Llywelyn a Glyndŵr? A pha un bynnag, onid yw’r pethau gwael a gwirion hefyd yn rhan o hanes? Sut yr adroddwn hanes y Cymry heb adrodd am eu taeogrwydd? Gwir a ddywedwyd, ni bu swyddogaeth gyfansoddiadol erioed i ‘Dywysogion Cymru’ oddi ar Edward II, ond bu’r teitl yn rhan o hanes Lloegr sy’n cyd-ymdreiddio â’n hanes ninnau. Daeth Harri V, Siôr IV, Edward VII ac Edward VIII yn enwog dan y teitl, a bu hynny’n rhan o bantomeim yr oesau.

● Pleidlais o 46 yn erbyn 4, gyda 4 yn ymatal. Canlyniad trawiadol. Ond ble’r oedd y pymtheg cynghorydd arall?

● Newid testun braidd, ond dal ar y trywydd brenhinol. Dyma’r gwefannau Albanaidd heddiw’n coffáu Ian Hamilton, prif drefnydd y cyrch llwyddiannus i ddod â Maen Scone adref i’r Alban. Pa ran fydd i’r Maen yn y coroniad nesaf? A ddisgwylir i’r Albanwyr roi ei fenthyg? Gwell, fel rhan o strategaeth dymor hir – er nad rhy hir gobeithio – fyddai i Siarl gael ei goroni arno yn yr Alban. Byddid trwy hynny’n datgan o’r newydd fodolaeth y ddwy deyrnas, gan ddisodli’r dynodiad ‘King of Great Britain and Northern Ireland’, nad yw wedi ei ddefnyddio ond dwywaith o’r blaen pa un bynnag. A fyddai rhywbeth fel hyn yn apelio o gwbl at genedlaetholwyr yr Alban, wn i ddim, ond rwyf wedi dweud o’r blaen (11 Medi) beth fyddai ei werth ymarferol.