Archif | Ebrill, 2021

Sgandal Fawr Swyddfa’r Post

19 Ebr

Efallai nad yw hwn yn fater etholiad, ond dylai fod yn fater i bob gwleidydd effro a chydwybodol.

Radio 4, chwarter i ddeg y bore bob dydd yr wythnos yma, mae’r BBC yn ailddarlledu cyfres a wnaed y llynedd am sgandal waradwyddus Swyddfa’r Post, sef erlyn a chosbi nifer mawr o is-bostfeistri ar gamgyhuddiad llwyr o dwyll, pryd yr oedd y bai ar system gyfrifiadurol y Post ei hun. Bu nifer o achosion yng Nghymru ac mae’r blog hwn wedi cyfeirio o’r blaen, 3 Hydref 2020. Mae’r peth yn dal yn dân ar groen.

Talwyd peth iawndal, ond mae angen mwy. Ac mae’n bryd i rai pobl syrthio ar eu bai a chyfrannu tuag at wneud iawn. Mae hyn yn cynnwys y gweinyddwyr hynny o fewn y Post a fynnodd fynd ymlaen â’r cyhuddiadau pan ddylasai fod yn amlwg fod rhywbeth o’i le yn ganolog. Mae’n cynnwys hefyd y cwmnïau cyfreithiol a fu’n erlyn. Wedi i nifer o achosion ymddangos o fewn byr amser, dylai rhywun fod wedi aros a gofyn beth oedd yn digwydd. Ond na – y twrneiod, cymryd y pres gan achosi colli bywiolaethau, colli iechyd, colli enw da, dioddefaint hollol anghyfiawn. Pob cyfreithiwr a gyfrannodd at y camwri hwn, dylai dalu trwy ei drwyn tuag at iawndal y bobl a gafodd gam.

Mae’n debyg nad oes cyfraith yn gorfodi hyn. Dyma gyfle i lywodraeth Cymru wneud un, cyfle i ddechrau gwneud Cymru’n wlad lle mae cyfiawnder yn cyfri. Rywsut rwy’n methu dychmygu peth fel hyn ar agenda Llafur, ond dylai fod yn amlwg ar restr siopa unrhyw blaid sy’n ystyried coalisiwn.

Pa ymgeiswyr sydd am ddweud RHYWBETH am y gwaradwydd hwn?

Etholiadol

5 Ebr

Wedi peth sôn am ohirio tan yr Hydref, dyma etholiad am ein pennau.

Rhagolygon go dda i’r Ceidwadwyr yng Nghymru, medd rhai o’r arolygwyr barn. Pam tybed? Ai record eu harweinwyr yn y Bae? A yw eu cefnogwyr, hen a newydd, yn cofio mai Andrew R.T. Davies oedd yr arweinydd, iddo gael ei olynu gan Paul Davies, ac i Andrew R.T. Davies ddod yn ôl wedyn? Na, go brin. Fôt i Boris fydd hon, os gwireddir y darogan. Fel yr oeddwn yn crybwyll dro neu ddau yn ôl, gyda chwalu’r ‘mur coch’ fe ddarganfu cryn lawer o gyn-bleidleiswyr Llafur yr hen ardaloedd diwydiannol pwy yw eu gwir gynrychiolydd, sef Alf Garnett. A dyma Boris yn ddiweddar wedi estyn dau lolipop i Alf: llai o gymorth i’r Trydydd Byd, a mwy o arfau niwclear i Loegr. Pa well neges i hen ‘Dorïaid Coch’ ym mhobman, a pha well ysgogiad i droi’n ‘Dorïaid Glas’ o’r diwedd? Ac nid yw hen ardaloedd Llafur Cymru, De na Gogledd, yn eithriadau o gwbl.

Bwriwch fod y polau yn iawn ac y gall hi fod yn drwch blewyn rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr. A ddaw ‘Santa’s Litle Helpers’, chwedl Jac o’ the North, i’r adwy eto? Os temtir Adam a’i gynghorwyr, fe ddylent yn gyntaf ac yn anad dim ystyried rhai penawdau diweddar: ‘Labour renews vow to keep nuclear weapons’ (BBC, 26 Chwefror). ‘Keir Starmer to signal support for Trident nuclear weapons in Scotland’ (Daily Record, 25 Chwefror). Nid yw’r Blaid Lafur hon yn un i wneud dim â hi ar unrhyw lefel. Fel y dywedodd David Davies, Mynwy, cyn yr etholiad o’r blaen (ac rwyf wedi ei ddyfynnu droeon), y glymblaid naturiol yng Nghymru fyddai Llafur-Tori; dyna’r ddwy sy’n gytûn ar y pethau hanfodol.


Pwy sydd i gael pleidlais? Dowch inni weld … Y Ceidwadwyr yn mynd i uwchraddio’r A55 … dyna’r rheina allan. Y lleill? Gwarant i bobl ifanc … hyfforddiant o ansawdd uchel iawn … mil o ddoctoriaid … dwy fil o athrawon … diogelu dyfodol y GIG … dysgu gydol oes … trenau newydd. Pethau diniwed, diystyr, dwlali, pob plaid yn dweud mwy neu lai yr un peth. Ond arhoswch! Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd i uwchsgilio! Waw! Dyna ichi rywbeth i feddwl amdano! (Uwchsgilio dysgu Hanes Cymru, tybed?)

YN AWR. Pa blaid sy’n addo inni’r canlynol?

● Dim un rhawiaid yn fwy o’r MWD.

● Dim mwy o niwclear o unrhyw fath.

● Tai. Ystyriaeth onest a phwyllog i’r wir broblem, sef bod gormod o dai yng Nghymru, a’r Cymry’n methu eu fforddio. Codi miloedd yn rhagor o ‘dai fforddiadwy’? Dwysáu’r broblem. Pa blaid sydd am neilltuo cyllid helaeth i’r awdurdodau lleol ar gyfer prynu tai yn ôl i berchenogaeth gyhoeddus? Pwy fyddai’n barod i ystyried cyfundrefn o rannu perchenogaeth, gyhoeddus a phreifat, fel cam tuag at adfer meddiant i Gymry? (Plaid Cymru am dreblu’r dreth ar ail dŷ? Ni byddai’n mennu’r mymryn lleiaf ar y sawl sydd wedi gwerthu fflat yn Llundain am filiwn o bunnau, ond byddai’n cosbi rhywun fel yr hen G.A., sy’n ceisio cadw troedle yn ei hen ardal.)

Pe gwelai G.A. faniffesto yn cynnwys y tri pheth yna, hwyrach y gwelid ef yn cyrchu’n fwy selog tua’r bwth. A dyma ddau beth pellach a fyddai’n fonws:

● Creu trefn synhwyrol o lywodraeth leol, gan gadw rhai o nodweddion patrwm y 1970-90au ac adeiladu arnynt. Cyhoeddais y blogiad ‘Sir Gwymon a Sir Conbych’ droeon, a gellir ei ddarllen yn y gyfrol Wele Wlad, t.85.

● Adduned i daclo problem gymdeithasol sylfaenol Cymru heddiw, sef hunanddinistr y dosbarth proffesiynol Cymraeg. Gwobrau ariannol anferth ac anwrthodadwy i ddarpar fyfyrwyr sy’n dewis colegau Cymru. Gwrthweithio polisi bwriadol Llafur o allforio’n plant mwyaf galluog.

Ac un peth newydd yn yr etholiad hwn, pleidlais yn 16 oed. Unrhyw wahaniaeth? Cawn weld. Ond gweler eto’r hen ysgrif ‘Mwy – a Llai – o Ddemocratiaeth?’, blog 6 Rhagfyr 2012, neu Meddyliau Glyn Adda, t. 21.

* *

Cymaint â hynna heddiw am yr etholiad yng Nghymru Fach. Yr Alban sy’n bwysig wrth gwrs. Gamblwr yw Alex, ac os gweithia’i gambl y tro hwn bydd yn andros o strocen, a siawns nad yw arweinwyr yr SNP yn gwybod hynny yn eu calonnau. Unrhyw seddau a enilla ALBA ar y rhestr, seddau fydd y rheini na allai’r SNP eu cael, oherwydd gwneud yn rhy dda yn y seddau unigol. Gofidus yw’r anghydfod rhwng yr arweinwyr, a dyn a ŵyr beth oedd ei wir gychwyniad. Llaw pwy a fu wrthi? Efallai na chawn byth wybod. Ond yn yr Alban yn draddodiadol bu’r taro’n galetach nag yng Nghymru ddiniwed, am i’r Alban fod am ganrifoedd yn wladwriaeth, a’r cof am hynny’n parhau. Meddyliwn am wrthdrawiadau teuluoedd Bruce, Comyn a Balliol, am ddawn Mari Frenhines yr Alban i yrru pawb o’i chwmpas yn benben, ac am y modd y llwyddodd Bonnie Prince Charlie i hollti’r wlad yn ei hanner. Y Campbells a’r MacDonalds – a oes angen dweud rhagor?

* *

Ataliwch y wasg! Pennawd GOLWG 360 heddiw, ‘Galw am ohirio’r cwricwlwm newydd oherwydd Covid’. Dyma gyfle ichi ailddarllen fy hen flogiad ‘Llond Twb o Swigod’, 10 Mawrth 2015, neu Wele Wlad, t. 51.