Archif | Mai, 2012

Noddy’r Nodiwr Nodedig

21 Mai

            Diddorol oedd yr adroddiad am ddathliadau Tafarn Glyndŵr, Caerdydd. Galwodd i gof hen gerdd fach a ddaeth imi, wedi ei hysbrydoli gan HEN gofgolofn y Tywysog yng Nghorwen. Ymddiheuriadau i T.Gwynn Jones:

 

                                    Ryw fore oer ar Ferwyn

                                          Roedd Abad Glyn y Groes

                                    Yn rhodio ’nhraed ei sanau

                                          Gan fwyta bynsen does.

 

                                    O’r niwl fe ddaeth rhyw gorrach,

                                           Gan nodio’n ddigon siŵr.

                                    Â naid, yr Abad neidiodd!

                                            Ai Noddy oedd Glyndŵr?

 

                                    “Wel, bore da, Syr Abad!

                                            Dyma gyfarfod od!”

                                    Â nod, fe nodiodd yntau’n ôl,

                                            A nodiodd Noddy nod.

 

                                    “Ti godaist yn rhy gynnar,

                                           Dos yn dy ôl i’r bync!”

                                    Medd yntau, “Ie, syniad da!”

                                           Ai niwl y glyn a’i llync?

Adolygiad a Stori

7 Mai

Mihangel Morgan, Kate Roberts a’r Ystlum a dirgelion eraill (Y Lolfa, 2012), £7.95.

‘Cydymaith ffuglennol i lenyddiaeth Cymru,’ medd disgrifiad o’r gyfrol hon ar ei chlawr. Gall ‘cydymaith’ llenyddol ein hatgoffa o bethau y dylem eu gwybod, ein goleuo ynghylch pethau nad oeddem yn eu gwybod, a hefyd gynnig inni ryw wybodaeth ychwanegol, heb ei cheisio, yn unig am ei bod yn ddifyr.  Gwneir hynny yma mewn pump ar hugain o straeon sydd bob amser yn ogleisiol ac weithiau’n syfrdanol. Ceir amrywiaeth o sefyllfaoedd ac o themâu, ac efallai mai’r thema gryfaf ei hargraff yw dirywiad athrylith, dadfeiliad personoliaeth, diwedd oes, dyddiau olaf. Cwrddwn â hyn yn y stori gyntaf oll, lle mae Caradog Prichard, oedd â’i gof mor fyw a manwl am rai pethau allweddol, bellach yn methu cofio enw’i bwdl ei hun.

Weithiau mae’r stori’n cadarnhau peth a wyddem eisoes, neu o leiaf yn cadarnhau argraff darllenydd deallus ar waith llenor neu ar ei gofiant. Yn stori’r teitl fe hyrddir Brenhines ein Llên i bwl o ddigalondid, nes ei bod yn methu cysgu trwy’r nos, ac yn cael ei gyrru i ysgrifennu rhag mygu, am fod dwy gymdoges, merched y capel hefyd, yn galw ‘ystlum’ yn ‘air stiwpid’ ac yn mynnu dweud ‘bat’. Wel ie, sut arall y byddai dyn yn ymateb yn y fath sefyllfa?

Yn amlach, mae’r wybodaeth yn newydd ac yn peri inni ailfeddwl am gymeriad neu ddigwyddiad. Mae rhai cyn hyn wedi dyfalu ‘a oedd Heathcliffe yn llofrudd?’. Yn stori ‘Plentyn y Stryd’ dyma fentro cwestiwn mwy difrifol amdano, ‘a oedd yn Gymro?’. Tebyg iawn ei fod, oherwydd pan ddoed ar ei draws gan Mr. Earnshaw yn Lerpwl ni allai ond ailadrodd ‘some gibberish that nobody could understand’. Beth allai hwnnw fod ond Cymraeg?  Fe glywsom fod Evan Roberts y Diwygiwr wedi ymneilltuo i fyw yn anghofiedig yn Brighton. Ef, mae’n weddol sicr, yw’r dyn dinod ac ofnadwy o ansicr sy’n rhannu llety â’r Gymraes ifanc. Ond ai ef hefyd yw’r efengylydd tân a brwmstan pen-stryd sy’n ymddwyn fel cartën yr anwybodus ddiddeall o bregethwr Cymru?  (‘Mor wahanol oedd y pregethwyr ffanatigaidd hyn i’n gweinidogion addfwyn gartref.’) Pwy mewn gwirionedd oedd Janet Jayne DBE, yr actores lwyddiannus iawn a fu’n serennu gydag Ivor Novello, Donald Wolfit, Noel Coward, John Gielgud a rhes o anfarwolion eraill? Wel wrth gwrs! Clywsom amdani ddiwethaf yng nghwmni rhyw sowldiwr yn Llandudno adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, ond dyma hi mewn cyfweliad wedi cytuno i fwrw golwg ar ei gyrfa lwyddiannus. Ai hi a ddarparodd ar gyfer ei mab, Eric?  Da deall fod rhywun wedi gwneud. Myn hi ymddiheuro am ei bod wedi ‘magu llediaith’, ond chware teg iddi am gadw o leiaf un ynganiad o dafodiaith Moel Arian, ‘yndw’.

Ar ddiwedd y llyfr ceir nifer o ‘nodiadau ar y dirgelion’, ac mae dyn yn ddiolchgar amdanynt. Ond hyd yn oed wedi darllen y rheini fe ymgyfyd cwestiynau newydd am rai o’r storïau. Pryd, a pham y trodd Alfan Ellis, ffrind Ceridwen Morgan, yn beintiwr? A yw’n dal i farddoni hefyd? A briododd ef Nesta? Yn farddonol, fel petai, fe wyddem beth oedd yr hen wraig yng ngherdd Saunders Lewis, ‘Golygfa mewn Caffe’.  Symbol o Gymru onid e? Yn awr fe wyddom pwy oedd hi go-iawn, a pham yr oedd hi’n mynd allan bob dydd i chwilota mewn biniau sbwriel. Ond am beth yr oedd hi’n chwilio? Fe erys y cwestiwn hwnnw.  Weithiau mae’r stori’n gwahodd pennod ati. Bu rhai cyn hyn yn dyfalu sut un oedd Dafydd ap Gwilym o ran pryd a gwedd; yr oedd rhywun ers talwm iawn yn cofio rhywun a oedd yn cofio hen hen wraig oedd wedi ei weld unwaith. Bellach dyma dystiolaeth ddilys, ddibynadwy yr ‘hardd wreangyn’, sef ei was personol, gentleman’s gentleman fel y dywedir, a’i canlynai ar ei deithiau ledled Cymru. Ydyw, mae’n hollol iawn pan ddywed fod y bardd yn gerddwr chwim:

Cerddais ynghynt, helynt hir,
No mellten ddeunaw milltir.

A phŵr dab â’r gwas sy’n stryffaglo o’i ôl gan gario’i bac. Y tro hwn daw’r bennod i ben ar foment ddramatig, fel y daw’r ddau i olwg y dafarn honno mewn ‘dinas dethol’. Tybed a gawn ni ryw dro hanes gweddill y noson, o safbwynt y gwas? A gafodd ef rannu’r cig rhost a’r gwin drud, ynteu ei adael i gnoi crystyn sych mewn rhyw gornel? A drawodd ef sgwrs â Hicyn, Sincyn a Siac? Pwy oedd y fun aelddu? Pwy osododd y stôl honno yn llwybr y bardd?

Weithiau mae’r wybodaeth yn groes i’r disgwyl. Ond dyna ni, os felly y mae. Ymddengys fod Iago Prytherch yn Gymro Cymraeg, a rhai ohonom wedi meddwl mai un o’r ‘Severn-siders’ sarrug, ara’ deg, di-Gymraeg, di-ddweud ydyw. Yn hanes ‘Ymwelydd Syr Thomas’ oni fyddem yn disgwyl mwy o ryw gwffast? ‘Pan gwffiwyf ag Angau Gawr.’ Ai hen dric y chwarae gwyddbwyll, wedi ei fenthyca o ffilm Swedaidd ffasiynol, oedd y gorau y gallai’r bardd a’r ysgolhaig feddwl amdano?  Wel ie, sbo.

Mi hoffwn yn awr gyfeirio at dair stori, nid i herio’r dehongliadau y maent yn eu cynnig neu o leiaf yn eu hawgrymu, ond i ofyn yn betrus a gostyngedig, tybed a oes rhyw esboniad arall yn bosibl ar y digwyddiadau hynod.

Yn ‘Winnie Parry a Winnie Parry’, mae’n ymddangos fod un arall o’r storïwraig (awdur Sioned, Cerrig y Rhyd &c) yn hofran o gwmpas yn rhywle, fod ganddi doppelganger fel y dywedir weithiau. Ai rhyw ddichell sydd ar waith yma, gan rywun sydd â rhywbeth i’w ennill? Efallai y ceid goleuni o nofel dditectif dda iawn Helen McCloy, Through a Glass Darkly (1949).

Seiliwyd ‘Postio Llythyr’, medd yr awdur, ar ‘stori, apocryffaidd yn ôl pob tebyg, fod un o feirdd pwysicaf Cymru hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif yn hoff o wisgo dillad menyw’. A all fod yma gymysgu, rywle yn yr apocryffa, â stori arall? Yn ôl honno, cafodd y bardd hwn, tua’r adeg yr oedd yn ymddeol, neges gan neu ar ran Iarlles (neu rywbeth felly) o wlad Ewropeaidd, yn mynegi diddordeb mawr yng Nghymru a’i llenyddiaeth, ac yn awyddus iawn i gwrdd ag ef am sgwrs. Ac yn wir, fe alwodd y foneddiges i’w weld (ai yn ei gartref ai yn y coleg, nid wy’n sicr), yng nghwmni un neu ddau o’i fyfyrwyr, a chafwyd trafodaeth fuddiol iawn am bethau’n gyffredinol. Ni roddodd y bardd unrhyw arwydd ei fod yn amau tric, – nes daeth amser ffarwelio. Yna dywedodd yn dawel a digyffro, ‘Hwn-a-hwn ydach chi yntê?’ gan gyfeirio’n gywir at ddarpar weinidog dawnus a phoblogaidd.

Eitem arall o’r apocryffa, ond a gwarant eithaf da drosti, yw mai pâr o sanau neilon oedd y peth olaf a brynodd yr un bardd. Anrheg pen blwydd i’w briod oedd y rheini, yn ô yr hanes. Wrth roi papur chweugain yn llaw cyfaill a’i anfon i brynu’r rhodd, adroddodd y bardd ei gwpled olaf:

Beibl i bawb o bobl y byd,
A neilons i’m hanwylyd.

Tybed na chyfrannodd hyn hefyd rywbeth tuag at y chwedl am wisgoedd?

Yna ‘Iolo yng Ngwlad yr Haf’, stori am gyfarfyddiad dau fardd a dau athrylith, Sais a Chymro, y naill fel y llall yn frwysg ar laeth Paradwys. ‘Nid yw’n amhosibl,’ meddai’r nodyn, mai Iolo Morganwg oedd ‘y dyn o Porlock’ a dorrodd ar fyfyrdodau S.T.Coleridge un gyda’r nos. Dyfalu yw’r gorau y gallwn ei wneud, ac fel hyn yr wyf i’n dyfalu, nid i gweryla â dehongliad yr awdur o gwbl. Y peth pwysig i’w gofio yw bod Iolo’n Gymro cwbl ddwyieithog. Dynion prin yw’r rheini, ac mae dwy ffordd o’u hadnabod. Yn gyntaf, fe ddechreuant frawddeg mewn un iaith a’i gorffen mewn iaith arall; a’r ffordd arall yn y frawddeg nesaf efallai. Yn ail, fe drônt a siarad Cymraeg wrth Sais mor rhwydd ag y siaradant Saesneg wrth Gymro. Fel hyn y clywaf Iolo’n dweud, wrth weld y cyd-fardd a’r cyd-jynci yn bustachu ac yn pwlffacan ac yn crafu ei ben uwchben diweddglo’i gerdd: ‘O jiw jiw, ti’n ffili cwpla cân’. Ni ddaeth y diweddglo byth, ond cafodd y gerdd deitl newydd, a newidiwyd ei dechrau i gyd-fynd â hynny. ‘Genghis Khan’ oedd y teitl gwreiddiol. Oni byddai hyn yn gwneud synnwyr?

Mae storïau eraill nad oes angen dyfalu na damcanu na holi dim yn eu cylch, dim ond chwerthin. Stori’r ddwy chwaer (wyresau i brifardd) yn yr Eisteddfod, a stori’r dyn sy’n byw dan y bwrdd yn nhŷ Melinda, ffrind Bet Jones, Tywyll Heno.

Ie, doniol a sobreiddiol dros ben. A chan mai gorau clod, efelychiad, dyma stori fach.

  §

O’r India Bell

             Diolch byth am hynny, dyma inni dywydd teg i rowndio gogledd Môn. Ynysoedd y Moelrhoniaid ar y starbord inni, y môr fel gwydr, awyr bron yn ddigwmwl, a f’ysbryd innau’n fwy llawen a gobeithiol nag a fu ers ysbaid hir. Os deil y gwynt o’n tu fe gyrhaeddwn Afon Lerpwl heno, a chawn ddocio fory. Galw yn swyddfa’r cwmni, a siawns na chaf groeso y tro hwn ar ôl voyage mor llwyddiannus a phroffidiol, –  nid fel yr hen Dwm Huws druan ers talwm a’i freuddwyd ofer am fyw fel gër bonheddig. Byddai’n ardderchog petai’r tywydd tawel, heulog hwn yn para tridiau neu bedwar eto, imi gael cyrraedd bro fy mebyd, gweld fy nghartref a cherdded yr hen lwybr bach.  Ond ‘nid yn y bore …’, chwedl y ddihareb y gŵyr pob llongwr ei gwirionedd.

Do bu’n dipyn o voyage. Minnau’n cychwyn fel ail fêt, ac yn dod adre’n gapten. Robat Tomos yn ymuno â llong arall yn Port Said, ac wedyn Capten Parry’n cael ei golli dros y bwrdd mewn tywydd enbyd oddi ar Fadagascar. Ond yr hen Resoliwsion yn ei weddro hi’n o dda; mae hynny’n rhoi bodlonrwydd imi, – ond y clod mwyaf i waith ardderchog yr hogia, wrth gwrs.

Mi feddyliais y byddai’n ddifyr, ar ryw olwg, hwylio i fyny’r Fenai a docio yng Nghaernarfon. Ond dyna fo, Lerpwl ydi’r destination y tro yma. Ac wrth feddwl am Gaernarfon daw’r atgof chwith. Un o ddau atgof poenus, euog. Do, mi wnes ddau gamgymeriad mawr yn ystod y blynyddoedd hynny, rhwng deunaw a thair ar hugain oed. Mi wnes gam mawr hefyd, ddwy waith, dyna’r gwir. Ond pa ddiben ymdroi gyda meddyliau duon am y gorffennol? Yr hyn a fu, a fu. Rhaid i fywyd fynd yn ei flaen, ac mae tri chynnig i Gymro, medden nhw. Y tro yma rydw i’n ffyddiog y bydd popeth er y gorau. Mae gen i deimlad sicr ei bod hi’n fyw ac iach, ac yn dal yn ffyddlon imi – er y dywedai rhai nad oes gen i mo’r hawl i ddisgwyl ffyddlondeb. Rywsut neu’i gilydd fe gyrhaeddodd ei llythyr hi i Bombay, wyth mis yn ôl. Mi sgrifennais innau ati, ac at fy rhieni, o dri lle gwahanol; a ddaeth y llythyrau hynny i ben eu taith, wn i ddim.

Druan o Doli fach annwyl o’r hen dafarn yng Nghaernarfon. Mae f’atgofion yn dair pennod gynhyrfus, dwy yn llawn rhamant o hyd, a’r drydedd yn llawn gwaradwydd a chywilydd. Y noson gyntaf honno, y teimlad ges i oedd imi gael fy chwythu i mewn drwy ddrws y dafarn gan y gwynt, nad oedd gen i ddim rheolaeth ar fy symudiadau, fy mod i’n cael fy nghario gan ryw dynged i berthynas newydd, bywyd newydd. Wedyn noson y ddawns ym marics y milisia, hithau mor ysgafndroed (er ei bod hi’n dweud mai dyma’i dawns gyntaf), mor syfrdanol o ddel yn ei gwisg o sidan du efo’r rhesen wen gaerog, mor hapus o fod wedi medru dianc am dro oddi wrth ddiflastod ei bywyd gyda’i thad a’i nain. Hen ddyn cwta, surbwch oedd y tad; rhaid fod natur dda Doli yn tarddu o rywle arall.  A’r nain yn byw yn ei byd ei hun, yn galw Doli weithiau yn Lowri, ac yn mwydro byth a hefyd am ryw Wil Tŷ Mawr yn dod o’r môr i briodi. Pwy oedd hwnnw, dyn a ŵyr; yn sicr nid fi. Wedyn y drydedd noson, pan aeth hi’n ysgarmes rhwng tad Doli a rhyw ddyn ifanc o’r dref a minnau, y cyfan oherwydd f’annoethineb i. Rhedeg allan wnes i, rhedeg i ffwrdd mewn dychryn a chywilydd.  Fy mwriad y diwrnod wedyn oedd anfon neges i Doli rywsut neu’i gilydd, ond tra oeddwn i’n pendroni sut i wneud hynny daeth gair ein bod ni’n hwylio.

Unwaith neu ddwy ar fordeithiau pell, mi gefais y teimlad ei bod hi efo mi. Unwaith oddi ar yr Azores, unwaith wrth nesu at Valparaiso. Dim ond am eiliad neu ddwy. Teimlad rhyfedd, mai hi oedd y gwynt. Ei bod hi’n chwythu drwy fy ngwallt.

Mi aeth yn dair blynedd cyn imi ddychwelyd i gei Caernarfon. Ddwywaith, tair, mi es cyn belled â drws yr hen dafarn, ond bob tro fe ballodd f’ewyllys cyn imi ei agor.  Doedd y gwynt ddim fel petai’n fy ysgubo y troeon hynny.  Wedyn mi ddechreuais holi o lech i lwyn mewn tafarnau eraill, ac yn y man mi gefais yr hanes. Noson wyntog. Fe gerddodd hi i’r cei. Damwain? Wn i ddim, wyddai neb yn iawn. Ond fe gafwyd ei chorff. Druan o Doli fach.

Druan o Gwladus hefyd.

Do, mi ddois yn ôl i’r hen sir ac i’r hen ardal ar ôl mordaith hir arall. Erbyn hynny, bum mlynedd yn hŷn, roeddwn i’n mynd lai i dafarnau, a doedd gen i ddim calon o gwbl i fynd i ddawnsfeydd. Nid cael diwygiad wnes i, dim o’r fath beth, ac nid bod yn fwy rhinweddol. Roedd ambell ddarlith a phregeth cystal difyrrwch â dim, finnau’n aeddfedu mae’n debyg, a phan fyddwn i adref mi awn i ambell seiat a chwrdd gweddi hefyd, pethau yr oeddwn wedi fy magu ynddyn nhw fel bron bawb yn y gymdogaeth. Yn un o’r rheini y cwrddais i â Gwladus Rhys, merch y Parchedig Thomas Rhys, gweinidog Horeb ar y Rhos.

Ar ôl rhyw gyfarfyddiad neu ddau fe ddechreuodd rhyw fath o gyfeillgarwch rhwng Gwladus a minnau. Rwy’n pwysleisio ‘rhyw fath’. Oedd, roedd rhywbeth yn fy nenu ati, hyd heddiw dydw i ddim yn sicr iawn beth. Ond roedd hi, rwy’n dal i feddwl, wedi gwirioni amdanaf i. Fe ddywedodd hi fod chwa rhyw awel hyfryd o’r gororau pell wedi dod i’w bywyd, peth a’m hatgoffodd am eiliad o eiriau Doli fach, fy mod i wedi dod ag ‘awelon pob môr’ i’r hen dafarn. Fe ddechreuson gerdded allan ychydig gyda’n gilydd, a Gwladus yn mentro tu hwnt i’w rownd o Oedfa, Seiat, Cwrdd Dorcas, Cwrdd Plant ac Undeb Dirwest Merched Gwynedd. Fe aethom i steddfod, ddwy noson; i gyngerdd cysegredig, hyd yn oed i ddrama. Rhys Lewis oedd y ddrama, rydw i’n cofio’n iawn, rhyw gwmni o Ddyffryn Conwy.

Daeth galwad y môr eto, a mynd wnes i. Doedd dim raid imi; mi allaswn ailafael yng ngwaith yr efail efo nhad, ac yn wir mi rois ystyriaeth ddifrifol i hynny. Ffoi wnes i, yr ail dro yn fy mywyd.

Gan Gwladus roedd pawb a phopeth yn flin. Ei thad yn flin, ei mam yn flin, y gwynt, y pinwydd, y rhostir, y dydd a’r nos yn flin. Hi oedd yn flin, dyna’r gwir. Hogan flin oedd Gwladus, neu felly y cefais i hi, wedi dod i’w nabod yn weddol. Rwy’n dal i ofyn, ai ar ei rhieni roedd y bai? A rhaid imi ateb nage. Pobl ddigon goddefgar oedd y Parchedig a Mrs. Thomas Rhys, a chefais i’r un arwydd eu bod nhw’n anghymeradwyo cyfeillgarwch Gwladus efo rhyw greadur fel fi. Croeso ges i y tro neu ddau y bûm yn eu cartref. Mi allwn i gydymdeimlo llawer â Gwladus, mi wyddwn am yr amodau a allai gaethiwo merch gweinidog, ac roeddwn i’n cofio am un achos arall – er mai achos gwahanol iawn –  o ferch ifanc yn cael ei chadw’n gaeth. Ond doedd dim eisiau iddi ddechrau edliw i mi fy rhyddid, na chwyno wrthyf i fod ei dwy chwaer iau wedi torri’n rhydd,  – un wedi priodi’n ifanc a’r llall wedi mynd yn athrawes. ‘Pam na thorraist tithau’n rhydd?’ mentrais ofyn iddi. O, doedd hynny ddim yn bosib i’r ferch hynaf, ac fe aeth i ryw bŵd. Roedd hi wyth mlynedd yn hŷn na mi. Ond roedd Doli’n hŷn na mi hefyd.

Nid ffoi rhag y tad na’r fam wnes i tro yma. Ffoi rhag Gwladus ei hun wnes i. Do, mi dorrais oed â hi, heb roi unrhyw reswm. Mi beidiais ag ateb ei llythyrau. Ac mi es yn ôl i’r môr yn hytrach nag aros yn yr efail.

Ymhen dwy fordaith wedyn mi glywais beth ddigwyddodd ar y noson honno o luwch eira. Mi es i weld ei rhieni, ac er mor doredig oedden nhw  wnaeth yr un o’r ddau edliw dim i mi. Chware teg iddyn nhw. Pobl iawn. Mi wn lle mae hi wedi ei chladdu, ond fûm i ddim i weld ei bedd, a dydw i ddim yn meddwl yr af i.

Y gwir ydi mai dyn ifanc ofnus oeddwn i. Nid ofnus yn gorfforol, wedi bod yn nannedd peryglon yn ddigon aml er pan oeddwn i’n bedair ar ddeg oed, a’r awch am antur yn gryf ynof i o hyd. Ofnus o berthynas oeddwn i. Ofnus o gyfrifoldeb efallai. Rydw i’n dweud ‘oeddwn i’, oherwydd rydw i’n llai ofnus erbyn hyn. Wedi mynd yn fwy hyf, mi fyddaf yn hoffi meddwl fy mod i’n fwy hael hefyd. Wedi profi tipyn o lwyddiant, mae arna’ i ryw awydd ad-dalu tipyn i ’nheulu, i’r gymdogaeth, i ’nghyd-ddyn, yn lle bod â ’mryd arnaf fy hun o hyd fel o’r blaen. Ac rwy’n addunedu, un o’r pethau cynta’ wna’ i fydd gwella tipyn ar yr hen fwthyn gwael acw, er cysur i’m rhieni.  Gobeithio’u bod nhw’n fyw ac mewn iechyd.

Ac mor aml yr hymiais i wrthyf fy hun ar draethau pell:

Mae f’annwyl riain dros y lli,
Gobeithio’i bod hi’n iach;
Rwy’n caru’r tir lle cerddai hi
Yn ngwraidd fy nghalon fach …

Hogan iawn ydi Gwenno. Dim lol o gwbl yn perthyn iddi, er ei bod hi ychydig yn ddwys weithiau. Ac roedd rhywbeth ynddi – waeth imi gyfadde’r gwir wrthyf fy hun – yn f’atgoffa o Doli fach o’r hen dafarn. Do, mi sylwais, waeth heb â gwadu, ar ambell ferch lygatddu yng ngwledydd y dwyrain yna; ond ches i mo fy rhwydo, o naddo. Os yw Gwenno’n dal yno, a heb briodi neb arall, ac yn dal i feddwl yr un fath amdanaf, yna tri Sul i gyhoeddi’r gostegion, ac rwy’n addunedu nad mater o wythnosau fydd hi, ond mater o ddyddiau, cyn y bydd Deio’r Go a Gwenno Llwyd yn mynd gyda’i gilydd i’r llan.

Dacw fryniau Clwyd yn dod i’r golwg ar y dde. Dyddiau tawel, hyfryd diwedd haf.

 §

LLYFRYDDIAETH

W.J.Gruffydd, ‘Baled Gweno Llwyd’, Caneuon a Cherddi, t. 30; ‘Cerdd yr Hen Longwr’, eto, t. 54;  ‘Gwladus Rhys’, Ynys yr Hud a Chaniadau Eraill, t. 32.  Kate Roberts, ‘Y Gwynt’, Rhigolau Bywyd, t.37.

Mae ysgogiad Kate Roberts a’r Ystlum yn amlwg.  Rwyf hefyd yn ddyledus i sylw fy mab hynaf, wedi darllen ‘Y Gwynt’: ‘Gwladus Rhys efo cwrw yn lle capel’.