Archif | Mehefin, 2022

Y Tri Enillydd

12 Meh

CYFLWYNYDD: Wa! Croeso’n ôl i Lwyfan y Cyfrwy! A dyma ni’n dod at un o uchafbwyntiau’r Eisteddfod eleni, ie, cystadleuaeth fawr Dod o Hyd i’r Greal Sanctaidd ! Fyddwch chi’n falch o wybod fod marchogion Arthur i gyd wedi cystadlu, a bod yna dri efo fi yn fan hyn sy wedi dod i’r rhestr fer! A dyma’u henwau nhw ………….. [saib hir] ……….. Syr Bwrt ……….
CEFNOGWYR: Waaaaa !
CYFLWYNYDD: Syr Peredur …….
CEFNOGWYR: Waaaaaa!
CYFLWYNYDD: A Syr Galahad …….
CEFNOGWYR: Waaaaaaaaa!
CYFLWYNYDD: Pwy sy wedi dod o hyd i’r Greal Sanctaidd, sef dirgelwch mwya’r greadigaeth? Wel, mi gawn ni wybod RŴAN !! [Drymiau] Yn drydydd …………. [saib hir], mae’r beirniaid yn gosod ……………….[saib hir iawn] ………………… SYR BWRT !!
CEFNOGWYR: Waaaaaaa!
CYFLWYNYDD: Waa! A llongyfarchiadau ichdi ! Sut deimlad ydi dod i’r tri ucha?
BWRT: Ameising!
CYFLWYNYDD: A dwi’n gweld Dad a Mam yn ista fan hyn. Mr a Mrs Lancaster, oeddech chi wedi rhagweld Bwrt yn gwneud mor dda fel un o farchogion y Ford Gron?
Mr L: Wel, doeddan ni ddim yn synnu, a deud y gwir, nac oeddan Mam?
Mrs L: Nac oeddan rîli, chwara cowbois a ballu bydda fo ers pan oedd o’n ddim o beth …
Mr L: Ia’n tad, efo rhyw ffrindia bach oedd gynno fo ers talwm ’te. Be oedd enw hen hogyn bach Wil Bwgan hefyd … ?
Mrs L: O, Wnffra Bogart wyt ti’n feddwl?
Mr L: Dyna fo, Wmffra Bogart. A wedyn oedd mab Elis y Cowpar, doedd? Geraint …? Gerwyn …? Naci … Gari Cowpar siŵr iawn!
CYFLWYNYDD: Wel dyna ni, ac mae’n amlwg bod chi wrth ych bodd fel teulu ! Ac yn awr ……… [saib ddramatig] …. pwy sy yn yr ail safle? ……………………………….. [deng munud yn ddiweddarach] ………….. Yn ail yng nghystadleuaeth y Greal Sanctaidd eleni mae …………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………. Syr PEREDUR !
CEFNOGWYR : Waaaaaa!
CYFLWYNYDD: Sy’n golygu …………………… ………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………….. [hanner awr yn ddiweddarach] ……………………………..mai’r enillydd eleni ydi ………………………. SYR GALAHAD !!
CEFNOGWYR: Waaaaaa!
CYFLWYNYDD: Tyrd ymlaen Peredur, a LLONGYFARCHIADAU ichdi ! A sut deimlad ydi dod mor uchel yn y gystadleuaeth bwysig yma?
PEREDUR: Rîli cŵl.
CYFLWYNYDD: Ac yn eistedd yn y ffrynt fan hyn dwi’n gweld Mrs Ab Efrog, mam Peredur! Croeso ichi Mrs Ab Efrog! Oeddech chi wedi rhagweld y byddai Peredur, eich mab fenga, wedi dod yn un o dri marchog gorau Llys Arthur?
Mrs Ab E: Dwi ddim yn synnu. Potshian efo rhyw geffyla a ballu bydda fo’n hen hogyn bach, ac yn cychwyn o hyd isio mynd i Lys Arthur. Finna’n gweiddi ar ’i ôl o, ‘Peredur, O Peredur, pa le, pa le’r ei di?’ medda fi fel’na, ond fasa waeth imi ddeud carrag a thwll!
CYFLWYNYDD: Waaaa! Siŵr bod chi’n falch ofnadwy heddiw!
Mrs Ab E: O ydw, falch ofnadwy, a mi fasa’i dad o hefyd, cradur.
CYFLWYNYDD: A RŴAN dyma fi’n cael gair efo ENILLYDD CYSTADLEUAETH Y GREAL SANCTAIDD eleni !! Tyrd ymlaen Galahad !
CEFNOGWYR: Waaaaaa!
CYFLWYNYDD: Llongyfarchiadau MAWR ichdi ! A wyt ti am ddeud wrthon ni sut deimlad ydi dod i’r brig fel hyn? Wyt ti’n hapus?
GALAHAD: Iê.

CYFLWYNYDD: A lle’r oedd y Greal Sanctaidd felly ?

GALAHAD: Oedd fo mewn, fatha, hen gwt beics yn Brifysgol y Drindod Dewi Sant.
CYFLWYNYDD: O, lyfli ! Ac ar ôl darganfod cyfrinach fwya’r greadigaeth, fedri di ddeud wrth yr eisteddfodwyr a’r gwrandawr adre be ydi hi?
GALAHAD: Fatha. Sorto. So.
CYFLWYNYDD: Waaaa! Da iawn! Ac yn fan hyn dwi’n gweld tad Syr Galahad, sef Syr Lawnslot, un arall o farchogion enwog y Ford Gron. Dowch ymlaen, Syr Lawnslot ! Ydi Musus, mam Galahad, efo chi?
SYR L: Ym … [peswch] …. ym …. nac ydi … [embaras] … ym, ma hi wedi mynd i neud ’i gwallt …
CYFLWYNYDD: Popeth yn iawn! A dowch imi ofyn i chitha, oeddech chi wedi rhagweld y byddai Galahad yn dod o hyd i’r Greal Sanctaidd?
SYR L: Wel wir i chi, pan oedd o’n hen hogyn bach, roedd Galahad ’ma’n un da ofnadwy am ddod o hyd i betha. Pan fyddwn ni wedi colli fy slipars …
CYFLWYNYDD: Mae’n hyfryd siarad efo chi, ond mae’n hamser ni ar ben. Yn ôl i’r stiwdio felly … Waaaaaa!

Ail gartrefi yng Ngwynedd: adnabod y wir broblem

2 Meh

Ddoe mi anfonais y ddogfen hon at Gyngor Gwynedd. Gobeithio y bydd trafodaeth olau ac adeiladol yn dilyn.

Cynigiaf y sylwadau hyn fel cyd-berchennog gyda fy mhriod ar ail gartref yn Sir Gwynedd. Nid wyf yn bwriadu talu’r premiwm ychwanegol o 300% sydd i’w osod gan Gyngor Gwynedd. Gobeithiaf na ddaw hyn yn destun gwrthdaro, ond yn hytrach y bydd y polisi wedi ei adolygu gan yr awdurdod erbyn y daw’n amser hawlio’r dreth. Yr wyf wedi trafod y mater a gosod safbwynt droeon mewn blogiadau ac mewn print, a dyma grynhoi’r ystyriaethau fel y gwelaf i hwynt.

● Nid wy’n amau na fwriedir y polisi gan y Cyngor, a’i gefnogi bellach gan Lywodraeth Cymru, mewn ateb i broblem gymdeithasol fawr. Ond y mae’n bwysig adnabod gwir natur y broblem honno, a rhoi arni’r enw iawn. Cawn ddychwelyd at hyn, ond yn awr down yn syth at y cwestiwn, adolygu ym mha fodd? ATEB: drwy eithrio rhai categorïau wrth bennu’r premiwm ychwanegol. A sylwer ar y gair: nid esgusodi, ond eithrio.

● Dyma awgrymu’r categorïau:

Yn gyntaf oll ac yn amlwg, perchennog neu gyd-berchennog (e.e. priod neu bartner sifil) sydd un ai yn frodor o’r ardal lle mae’r ail eiddo, neu wedi etifeddu’r eiddo fel gwaddol teuluol. Dau gwestiwn:

(a) Beth yw ‘brodor’? Rhywun wedi ei fagu ynn ardal yr eiddo, neu wedi byw yno am gyfnod penodol (i’w bennu drwy ystyriaeth). Prawf ei fod yn frodor? Datganiad ysgrifenedig gan (dyweder) ddau gymydog yn yr ardal dan sylw.

(b) Beth yw ‘ardal’? Er mwyn pendantrwydd, yr hyn sydd, neu a fu, yn ardal llywodraeth leol neu yn rhaniad hanesyddol: (i) y plwy, neu ardal bresennol y Cyngor Cymuned lle mae’r eiddo (yn achos fy eiddo i, Plwy Llandwrog); (ii) plwy cyffiniol (e.e. Llanwnda, Llanllyfni); (iii) y cwmwd (Uwchgwyrfai); (iv) y cantref (Arfon); (v) y sir (un ai Sir Gaernarfon neu Wynedd 1970-90au neu y Wynedd bresennol).





● ADNABOD Y BROBLEM. Mae ychydig eithriadau, ond yn gyffredinol dyma’r WIR BROBLEM – ac os na rown yr enw iawn arni, rydym yn ein twyllo’n hunain: gormod o dai sydd yng Nghymru, a dim digon o Gymry i’w meddiannu. Rhown hi fel hyn: petawn i, oherwydd y premiwm, yn gorfod gwerthu’r ail eiddo, pwy fyddai’n debyg o’i brynu …?

● Wedi dweud cymaint â hyn, rhaid wrth ddiffiniad gweithredol o ‘Cymro/Cymraes’. Gallwn yn ddiogel ddweud: (a) unrhyw frodor o Gymru, yn ôl y diffiniad uchod o ‘frodor’. A beth am estyn yr egwyddor i (b) unrhyw un, o unrhyw fan yn y byd, sy’n medru Cymraeg at ryw safon? (Pa safon, a sut i’w mesur: materion i’w hystyried.)

● Wedi adnabod y broblem, y camau cyntaf fyddai gwneud eithriadau fel a awgrymir uchod. Mae angen, ac angen brys, am gamau pellach, radical a realistig. Y nod, a pheidiwn â gwamalu: diogelu, ac os yn bosibl adfer, meddiant Cymry ar dai Cymru. Dyma’r hyn a ddywedais mewn blogiad fis Gorffennaf y llynedd: ‘A chrynhoi: mae’r dydd wedi dod pan yw’n rhaid i awdurdodau lleol Cymru fynd hanner-yn-hanner gydag unrhyw Gymro sydd am brynu tŷ yng Nghymru. Bydd yn costio, ond rhaid i lywodraeth Cymru ddod o hyd i’r arian a’i ddynodi at y pwrpas. Mae’n gofyn deddf, a honno’n mynd at wreiddiau pethau.’ Os yw’n hawdurdodau sirol o ddifrif ynglŷn â’r broblem enfawr hon, sy’n dwysáu bob dydd a phob awr, rhaid iddynt bwyso’n ddi-oed ar lywodraeth Cymru am ddeddfwriaeth.

● Yn y cyfamser, gofaled y cynghorau nad ydynt yn cosbi’r Cymro neu’r Gymraes sy’n ceisio cadw troedle yn ei hen ardal neu ddal gafael ar eiddo etifeddol. A ydym wedi anghofio’r arwyddair ‘DAL DY DIR’