Flynyddoedd yn ôl – ac rwy’n dychryn pa faint! – mi wnes ysgrif adolygiadol ar nifer o eitemau’n ymwneud â Chymru ac Ewrop, a rhoddais arni’r teitl ‘Myfyrdodau Ewrosgeptig’. Gellir ei gweld yn fy hen lyfr Agoriad yr Oes (Y Lolfa, 2001); efallai bod rhywbeth o werth ynddi o hyd, er bod ynddi elfennau o’r ‘ffydd ffederal’ sy bellach wedi ei goddiweddyd gan amgylchiadau, sef yn arbennig y newid gêr aruthrol yn yr Alban. Gweler hwn a hwn. Golygai ‘Ewrosgeptig’ i mi y pryd hwnnw – a golyga o hyd – beidio â disgwyl gormod oddi wrth y Gymuned Ewropeaidd, a pheidio â chredu pob honiad yn ei chylch. Nid yw’n gyfystyr â bod yn UKIPiwr nac yn FREXITiwr. O’i hailddarllen gwelaf fod yr hen ysgrif yn troi yn y diwedd at syniadau rhai meddylwyr a fyddai wedi dymuno gweld creu yn Ewrop undeb o natur wahanol i’r hyn a ddaeth i fod oddi ar y 1960au.
Wedi’r ysgytwad wythnos yn ôl, a fydd rhyw gyfle’n ymagor i edrych ar y seiliau unwaith eto a gweithio tuag at rywbeth tebycach i ‘Ewrop y Bobloedd’ Leopold Kohr neu ‘Ewrop y Can Baner’ Yann Fouéré ? Aruthrol o dasg fyddai honno, gyda buddiannau nerthol yn gwrthwynebu. Nid yw ymateb cyntaf Ffrainc a Sbaen i ymweliad Nicola ddoe yn argoeli’n dda; ar y llaw arall, nid yw hyn ond dechrau. Mae dau ddosbarth o genhedloedd neu gymunedau yn yr undeb presennol y byddai’n fanteisiol iddynt ysgogi’r newid hwn ac y gellid disgwyl iddynt bwyso amdano: (a) y gwladwriaethau a oedd yn anfodlon ar rai o amodau cytundeb Lisbon, ond a orfodwyd gan y Comisiwn i’w derbyn mewn ail refferendwm – sef Iwerddon a’r Iseldiroedd; (b) gwledydd neu ranbarthau ag iddynt wahanol raddau o ymreolaeth neu ddatganoli – yn cynnwys yr Alban, Cymru, Catalwnia ac yn wir pob un a gynrychiolir yn ei hawl ei hun ar Bwyllgor Rhanbarthau’r Gymuned. Y gwledydd sydd yn y safle orau i gychwyn rhywbeth fel hyn ? Un o gategori (a), Iwerddon. Ac un o gategori (b), Yr Alban.
Ac na fydded Cymru ar ôl. Clywn y dyddiau hyn am dipyn o ymysgwyd o blaid ‘Cymru yn Ewrop’. Gall hwnnw fod yn beth digon iach ynddo’i hun, ond dylai fod ynddo wir ysbryd diwygiadol, gwir barodrwydd i adnabod gwendidau’r trefniant presennol a gwir awydd i greu rhywbeth gwahanol.
* * *
Yn fyr, oddi wrth ystyriaethau eang fel yna at helynt yr oriau hyn yng ngwledydd Prydain.
Gadawn rhwng y Ceidwadwyr a’r picil y maent wedi ei greu iddynt eu hunain. Ond diddorol cofio rhybudd Michael Heseltine, dyn yn siarad o brofiad, nad yw’r ymgeisydd amlycaf (y ‘front runner’ chwedl hwythau) byth yn cipio arweinyddiaeth y Torïaid.
Am lanast arswydus Llafur, byddai’n dda i bawb ystyried yr hyn a ddywedodd blog Craig Murray, 26 Mehefin. Mewn wythnos, meddai, cyhoeddir Adroddiad Chilcott ar ryfel Irác. Ysgogiad y coup yn erbyn Corbyn, a’r brys annuwiol bellach, yw ymorol na chondemnir antur Blair oddi ar Fainc Flaen Llafur.
Credaf y gall fod llawer yn hyn, ond rwyf am ailadrodd peth yr wyf wedi ei ddweud o’r blaen. Nid ‘Blairiaeth’ yw ceidwadaeth y Blaid Lafur Seneddol ond hen, hen draddodiad. Dyma agwedd meddwl Attlee, Bevin, Morrison ac yn anad neb Gaitskell, a ganoneiddiwyd yn brif arwr adain dde Prydain yr ugeinfed ganrif oherwydd ei ymlyniad wrth arfau niwclear. Bron o’i dechreuad mae rhaniad sylfaenol o fewn Llafur rhwng (a) mwyafrif yr Aelodau Seneddol a thrwch y pleidleiswyr, na fynnant wneud dim sylfaenol na byddai’r Ceidwadwyr hefyd yn ei wneud, a (b) yr aelodau gweithredol (‘activists’ fel y’u gelwir) sy’n pleidleisio o fewn y blaid, yn mynd i gynadleddau, yn ei gweld – mewn rhai achosion beth bynnag – fel cyfrwng newid. Dan y trefniadau newydd i ddewis arweinydd, efallai bod pethau’n dod i’r pen.
Gwae na bai plaid yng Nghymru a allai fanteisio ar y rhwyg hwn. Daliaf i feddwl fod llwyddiant Leanne yn y Rhondda yn llewyrch golau mewn awyr ddu, ddigalon. Ond pa ffordd yr eir o’r fan hon?