Fe awn ni heibio heddiw i Trump a Gogledd Corea, i dryblith y Dwyrain Canol, i Theresa a Merkel a Le Pen, i ddyfodol cyfansoddiadol Ynys Brydain ac Iwerddon, a hyd yn oed i’r pwnc pwysicaf oll i ni Gymry’r dwthwn hwn sef polisi cynllunio Gwynedd a Môn, ac fe gymerwn dro bach i’r hen fyd mwy-neu-lai ysgolheigaidd.
Ddoe bûm mewn lle difyr, sef yn Ysgol Undydd “Y Morrisiaid a’u Cylch”, a gynhaliwyd yn Oriel Môn, Llangefni, wedi ei threfnu ar y cyd rhwng Cymdeithas Morrisiaid Môn a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, gyda chymorth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Cafwyd amrywiaeth o bapurau diddorol ar fywyd a gweithgarwch y brodyr brwd o Bentre-eiriannell, y dynion yn wir a roes gychwyn newydd i fywyd diwylliannol seciwlar y Cymry yng nghanol y ddeunawfed ganrif, ac yr ydym yn byw o hyd ar waddol eu gweledigaeth.
Yn sesiwn olaf y gynhadledd cafwyd trafodaeth fer ar “Gwaith ar y Morrisiaid; cynllunio’r dyfodol”. Y flaenoriaeth yw cynhyrchu a chyhoeddi golygiad newydd o lythyrau’r brodyr, eu teulu, eu cyfeillion a’u cysylltiadau, gyda chyflwyniadau a nodiadau i egluro’r pethau y bydd gofyn eu hegluro wrth ddarllenwyr heddiw.
I gyflawni hyn o waith bydd gofyn nawdd sylweddol. Ni ddylai fod yn gyfrinach fod Cymdeithas Morrisiaid Môn wedi holi’n ddyfal ynghylch nawdd o’r fath. Cyflwynwyd ceisiadau i’r Academi Brydeinig, i Ymddiriedolaeth Leverhulme, i Gronfa’r Lotri Genedlaethol ac i’r AHRB (Arts and Humanities Research Board – Bwrdd Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau), sef y prif noddwr bellach mewn maes fel hwn. Mewn ymatebion, cafwyd tipyn o’r peth diwerth hwnnw, “cydymdeimlad”, ond dim addewid nac addewid am addewid. Y gân a glywid oedd nad yw Cymdeithas y Morrisiaid yn gorff academaidd cydnabyddedig. “Cydnabyddedig gan bwy?” yw’r cwestiwn sy’n codi, a phed edrychid ar enwau aelodau Pwyllgor y Gymdeithas, eu cymwysterau a’u record o weithgarwch, fe welid mor ddiystyr yw’r gŵyn.
Os oes modd o gwbl symud ymlaen drwy bartneriaeth rhwng Cymdeithas y Morrisiaid a’r Ganolfan Uwchefrydiau, fe ddylai’r gobaith fod yn well. Ernes o gydweithrediad posibl oedd y gynhadledd ddoe. Ond siarsiwyd ni gan gynrychiolwyr y Ganolfan, ac yn hollol deg, na ellir rhoi unrhyw addewid sicr ar hyn o bryd. Neges arall, a neges anesmwythol, oedd y bydd yn anodd iawn – ac onid “amhosib” oedd y gair a glywsom? – os na ellir dangos a phrofi i’r cyrff nawdd, ac i’r AHRB yn arbennig, fod arwyddocâd “Prydeinig” i’r cynllun ymchwil. Llwyddwyd i wneud hynny gyda rhai o gynlluniau diweddar y Ganolfan, megis y rhai ar Iolo Morganwg, ar Gymru a’r Chwyldro Ffrengig, ar Oes y Seintiau ac ar Y Teithwyr yng Nghymru. Yn sicr yr oedd rhai o ddiddordebau a gweithgareddau Iolo yn nodweddiadol, i ryw fesur beth bynnag, o Ramantiaeth yr oes drwy wledydd Prydain a thu hwnt, ac nid yw’n gwbl amhosibl na ellid cyflwyno llafur y Morrisiaid hefyd fel enghraifft o ymysgwyd diwylliannol eu cenhedlaeth drwy rannau o Ewrop. Yr oedd rhan hanfodol o’u gweithgarwch wedi ei ganoli ar Lundain, yr oedd ganddynt gysylltiadau ledled Prydain, a Saesneg oedd cyfran helaeth o’u hysgrifeniadau. Ond Cymraeg oedd iaith y gyfran arall. I ba iaith y byddid yn cyfieithu felly, os cyfieithu a fyddai? Onid oes rhyw ragdybiaeth mai i’r Saesneg?
Yn ychwanegol at egwyddor y peth, cyfyd problen ymarferol oherwydd arddull facaronaidd y brodyr. Yr oedd Cymraeg a Saesneg Iolo Morganwg gan mwyaf mewn talpiau gweddol daclus, y naill fel y llall. Ond hoff gan y Morrisiaid newid gêr ôl a blaen ddwywaith a thair yn yr un frawddeg. Ni byddai’n amhosibl cyfieithu, – yn dechnegol gellir cyfieithu unrhyw beth, – ond fy nheimlad yw y byddai’n dipyn o lanast. Problem arall – fwy efallai – yw ffraethebion esoterig y brodyr, eu chwarae ar eiriau, eu glasenwau teuluol ar yr holl bobl y byddent un ai yn eu canmol neu eu henllibio, tarddiad eu rhagfarnau. Cryn lafur a thrafferth fyddai cyfleu sylwedd ac ysbryd y pethau hyn i gynulleidfa “Brydeinig”.
Ac yn y diwedd, faint o ddiolch a geid? Ysgrifennaf mewn anwybodaeth, ond hwyrach y gallai rhywrai ateb y cwestiwn, faint o werthfawrogiad a gafwyd yn y cylchgronau llenyddol a dysgedig Saesneg o’r llafur clodwiw ar Iolo Morganwg? A gafwyd adolygiadau deallus? A estynnwyd y drafodaeth?
Yn y gorffennol fe lwyddodd y Ganolfan Uwchefrydiau i sicrhau nawdd, rywsut neu’i gilydd, i gynlluniau ymchwil cwbl Gymraeg. O hynny deilliodd, er enghraifft, y cyfresi o waith y Gogynfeirdd a Beirdd yr Uchelwyr. A ofynnir inni dderbyn bellach fod y dydd wedi mynd heibio pan ellir disgwyl nawdd i ymgymeriadau fel y rhain? Ai yn y cwswllt Prydeinig yn unig y gellir gweithredu bellach, gyda’r iaith yn Saesneg?
Rhan fawr o’r broblem yw’r AHRB. Nid yw ei aelodau “yn y Pethe”. Ni wyddant beth yw “Pethe”. Drwy fawr lafur yr eglurir iddynt y gwahaniaeth rhwng Lewis Morris a sach blawd.
Mae angen AHRB Cymreig, neu gorff cyfatebol, neu man lleiaf banel o’r corff Prydeinig ar gyfer Cymru. Ni byddai hynny’n gwarantu llwyddiant gyda phob cais, ond o leiaf byddai’n arbed y drafferth o esbonio pethau hollol elfennol i bobl heb unrhyw ddealltwriaeth na diddordeb.
Mewn cyfnod o ddatganoli, rhyfedd na byddid bellach wedi meddwl am ryw ddatganoli yn y maes hwn, – maes cyfyngedig iawn mae’n wir, ond eto maes pwysig i’n diwylliant.
Fe ysgrifennodd Cymdeithas Morrisiaid Môn, fel un gymdeithas ddysgedig at y llall, at Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn gofyn a wnâi hi arfer ei dylanwad tuag at greu Bwrdd Ymchwil y Dyniaethau i Gymru. Buwyd fisoedd cyn derbyn ateb, bu raid gofyn eilwaith, ac ateb digon di-ddim ydoedd pan ddaeth. Ys gwn-i beth yw cynllun y Gymdeithas Ddysgedig erbyn hyn? A ydym rywfaint nes at y nod? A yw’r Dysgedigion wedi trafod y peth? Efallai ei bod yn bryd i Gymdeithas y Morrisiaid ofyn y cwestiwn eto.
Os na cheir ymateb cadarnhaol y tro hwn, bydd raid dyfynnu un o hoff ebychiadau’r brodyr Morris, “Wala hai a how! Yn iach ymenyn glân!”
Beth yw ystyr yr ymadrodd hwn? Ar ddiwedd y gynhadledd ddoe, gofynnais i’r cynadleddwyr sut y maent yn ei ddehongli. Fe wn i’r ateb, oherwydd fe esboniwyd imi gan y Parchedig Ddr. Dafydd Wyn Wiliam, sydd yn awr yn ymneilltuo o swydd Cyfarwyddwr Cymdeithas y Morrisiaid wedi ei lafur cariad aruthrol yn ei chreu a’i chynnal. Difesur ein diolch iddo. Fe gaiff Dafydd, pan ddaw’r adeg, egluro’r ymadrodd. Yn y cyfamser fe gaiff pawb arall roi ei gynnig.