Archif | Ebrill, 2022

Neges i ymgeiswyr

24 Ebr

Etholiad Cyngor Gwynedd. Unrhyw ymgeisydd sydd â gobaith am bleidlais o’r tŷ hwn, rhaid iddo/iddi fod yn glir a therfynol bendant ar ddau brif beth:

(1) Dim (a ‘dim’ yn golygu DIM) datblygiad niwclear pellach yn Nhrawsfynydd nac unrhyw fan yn y Wynedd bresennol, a DIM cydweithrediad â chynlluniau niwclear gwleidyddion gwallgo Môn.

(2) TAI. Wynebwn y gwirionedd cyffredinol, yr wyf wedi ei ddweud ar y blog hwn fwy nag unwaith o’r blaen, mai gormod o dai sydd yng Nghymru, a dim Cymry i’w llenwi. Beth ddylai fod polisi tai awdurdod sirol goleuedig? Diogelu, ac os oes modd o gwbl, Adfer (!!) meddiant Cymry ar dai.

Yn awr, y polisi o dreblu’r dreth ar ail gartref. Gwerth ei drio efallai, er na fydd yn mennu fawr ar y mewnlifwr cefnog. OND – a dyma sydd angen i’r ymgeiswyr ei gofio – mae’n rhaid trin yn wahanol rai categorïau o berchenogion. Dim treblu’r dreth felly ar y sawl a fedr brofi ei fod yn un o’r rhai hyn: (a) brodor o’r ardal lle mae’r eiddo (y pentref, y plwy, y cwmwd, y cantref — dewiser fel y bo’n addas); (b) Cymro; (c) unrhyw un o unrhyw fan yn y byd os yw’n medru Cymraeg.

Oes, mae gen i ail dŷ, troedle yn fy hen ardal. Os gorfodir fi gan y dreth newydd i’w werthu, pwy a’i pryn? Faint o fet? Pleidlais felly ar Fai 5ed i’r ymgeisydd sy’n ymrwymo i gefnogi gwneud eithriad fel a awgrymir uchod.

A dyma ailgyhoeddi dau hen flog sy’n trafod y mater hwn ychydig yn llawnach.

Ateb bach ac ateb mawr

24 Ebr

(10 Gorffennaf 2021)

Pwt bach heddiw yn lle mynd i rali Tryweryn, ac rwyf wedi dweud y cwbl o’r blaen.

Yn 2004 mi sgrifennais fel hyn, a’i ailadrodd oddi ar hynny:

‘Hwyrach fod rhan o’r ateb gan yr hen Gymry. Daliaf fod hawl o hyd gan bob Cymro i hendref a hafod, os yw ei amgylchiadau mewn rhyw fodd yn caniatáu. Gadewch inni beidio â gwamalu: mae tŷ haf neu ail gartref yn iawn os mai Cymro a’i piau. Beth amdani, blant alltud ein hardal a aeth yn “drigolion gwaelod gwlad a gwŷr y celfau cain”? Nid yw’n ateb cyflawn i’r broblem o bell ffordd. Ond mae’n un ffordd fach o “ddal dy dir”.’

(Gweler ‘Hafod y Cymro’, t. 140 yn y gyfrol Meddyliau Glyn Adda, neu yn wir ar y blog hwn, 23 Chwefror 2016.)

Gan geisio byw’r broffes hon dyma fi’n dal fy ngafael ar dŷ yn fy ardal enedigol, sy’n ail dŷ i mi. Fy niolch? Y bygythiad o gael dyblu fy nhreth i gyngor gwlatgar Gwynedd. A ddylwn i wneud yr aberth yn llawen, mewn ffydd y bydd yn troi i ffwrdd y prynwr cyfoethog o Loegr? Os dyblir y dreth, neu ei threblu, neu fwy, mentraf broffwydo na fydd yn mennu y mymryn lleiaf ar y prynwr hwnnw.

A thro yn ôl mi es mor bell ag awgrymu rhywbeth bach arall, sef y dylai awdurdod lleol yng Nghymru, os yw yn wir o ddifri ynghylch cadw meddiant Cymry ar eiddo, roi tipyn o help ariannol i Gymro sydd am brynu ail gartref yn ei hen ardal. Edrychwch eto ar flog 9 Rhagfyr 2019 (dan y pennawd ‘Tai’), a dywedwch beth sydd o’o le ar yr awgrym.

O ran hynny mi ddywedaf i, heb oedi ddim mwy, beth sydd o’i le arno. Ateb bach ydyw, i broblem fawr fawr, a hwyrach mai gwell fyddai cadw’r adnoddau ar gyfer yr ateb mwy.

Yr ateb mwy. Wel, rwyf wedi ei gynnig ym mlog 3 Mai eleni, a does dim arwydd eto fod neb wedi cymryd y mymryn lleiaf o sylw. A chrynhoi: mae’r dydd wedi dod pan yw’n rhaid i awdurdodau lleol Cymru fynd hanner-yn-hanner gydag unrhyw Gymro sydd am brynu tŷ yng Nghymru. Bydd yn costio, ond rhaid i lywodraeth Cymru ddod o hyd i’r arian a’i ddynodi at y pwrpas. Mae’n gofyn deddf, a honno’n mynd at wreiddiau pethau.

Ond beth mae llywodraeth Cymru’n ei gynnig heddiw? ‘Rydym yn gweithio ar gyflymder i weithredu atebion cynaliadwy i’r hyn sy’n faterion cymhleth. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd, carbon isel ar gyfer rhent cymdeithasol yn ystod y tymor Senedd hwn.’

‘Cynaliadwy’? Peidiwch â malu! ‘Carbon isel’? Anghofiwch o! Codi mwy o dai? Dwysáu’r broblem. Wynebwch y gwirionedd: gormod o dai sydd yng Nghymru, a’r Cymry heb allu eu fforddio.

Atebion radical yw’r angen heddiw i lawer o bethau, ond diolch yn bennaf i geidwadaeth ddofn etholwyr y De-ddwyrain, dyma ni eto dan law farw plaid sydd yn an-radical yn nwfn ei henaid, ym mêr ei hesgyrn, yn nhoriad ei bogail ac ym môn ei gwallt.

Pwy a’n gwared?

Tai a threthi

24 Ebr

(3 Mai 2021)

Atgoffwyd fi ddoe mai dyna’r diwrnod cau ar gyfer tystiolaeth i Ymgynghoriad Llywodraetrh Cymru ar Drethi, Ail Gartrefi a phethau cysylltiol. Ati fel lladd nadrodd i sodro at ei gilydd ddarnau o ddau hen flog, i’w cyflwyno’n ddogfen i’r Ymgynghoriad. Roedd lawrlwytho’r ffurflen, mewngofnodi a’r holl rigmarôl cyfrifiadurol y fath drafferth fel y rhoddais y gorau iddi. Yn lle hynny dyma roi’r ychydig syniadau o flaen darllenwyr y blog unwaith eto. Y troeon cyntaf ni chymerodd neb y mymryn lleiaf o sylw. Trio eto …

(1) Yn 2004 mi sgrifennais fel hyn, a’i ailadrodd oddi ar hynny:

‘Hwyrach fod rhan o’r ateb gan yr hen Gymry. Daliaf fod hawl o hyd gan bob Cymro i hendref a hafod, os yw ei amgylchiadau mewn rhyw fodd yn caniatáu. Gadewch inni beidio â gwamalu:   mae tŷ haf neu ail gartref yn iawn os mai Cymro a’i piau.  Beth amdani, blant alltud ein hardal a aeth yn “drigolion gwaelod gwlad a gwŷr y celfau cain”?   Nid yw’n ateb cyflawn i’r broblem o bell ffordd. Ond mae’n un ffordd fach o “ddal dy dir”.’

(Gweler fy ysgrif ‘Hafod y Cymro’, t. 140 yn y gyfrol Meddyliau Glyn Adda}

(2) Gan geisio byw’r broffes hon dyma fi’n dal fy ngafael ar dŷ yn fy ardal enedigol, sy’n ail dŷ i mi. Fy niolch? Y bygythiad o gael dyblu fy nhreth i gyngor gwlatgar Gwynedd. A ddylwn i wneud yr aberth yn llawen, mewn ffydd y bydd yn troi i ffwrdd y prynwr cyfoethog o Loegr? Os dyblir y dreth, neu ei threblu, neu fwy, mentraf broffwydo na fydd yn mennu y mymryn lleiaf ar y prynwr hwnnw.

A thro yn ôl mi es mor bell ag awgrymu rhywbeth bach arall, sef y dylai awdurdod lleol yng Nghymru, os yw yn wir o ddifri  ynghylch cadw meddiant Cymry ar eiddo, roi tipyn o help ariannol i Gymro sydd am brynu ail gartref yn ei hen ardal. Beth sydd o’i le ar yr awgrym hwn?  Mi ddywedaf yn syth: ateb bach ydyw, i broblem fawr iawn, a hwyrach mai gwell fyddai cadw’r adnoddau ar gyfer yr ateb mwy. 

(3) Mae’r amser wedi dod pan ddylai’r awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yn benodol y cynghorau sir, fod â pholisi o rannu cost pob tŷ sy’n mynd ar werth yng Nghymru – neu, ddywedwn ni, mewn ardaloedd dynodedig o Gymru – yn ei hanner â phrynwyr o Gymry. Y gyd-berchenogaeth i barhau wedyn tan y dydd y dewisai’r perchennig preifat un ai brynu siâr yr awdurdod neu werthu ei siâr ei hun i’r awdurdod. (‘Perchennog preifat’ = un ai unigolyn neu bartneriaeth briod, sifil neu ddi-briod.)

Ie, ‘tŷ hanner cownsil’, ffordd o haneru pris tŷ i Gymro, a pheth y mae’n rhaid ei wneud ar frys yn yr argyfwng presennol. Onid e, bydd popeth ar ben.

(4) Beth yw ‘Cymro’? Gwneler diffiniad at y pwrpas. Dylai’r diffiniad gynnwys (a) unrhyw un wedi ei fagu yng Nghymru, a (b) unrhyw un o unrhyw fan yn y byd sy’n medru Cymraeg.

(5) A oes gan y cynghorau sir yr adnoddau i wneud peth fel hyn? Nac oes wrth gwrs. Mae’n rhaid i lywodraeth Cymru neilltuo swm mawr o arian at y pwrpas, i’w ddyrannu i’r awdurdodau lleol. Ac i wneud hynny mae angen deddf.

(6) Beth am yr atebion eraill sy’n cael eu cynnig? Datganiad y Llywodraeth yn gynharach eleni: ‘Rydym yn gweithio ar gyflymder i weithredu atebion cynaliadwy i’r hyn sy’n faterion cymhleth. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd, carbon isel ar gyfer rhent cymdeithasol yn ystod y tymor Senedd hwn.’

‘Cynaliadwy’? Diystyr. ‘Carbon isel’?  Amherthnasol.   Codi mwy o dai? Dwysáu’r broblem. Gwyddom pwy fyddai’n eu prynu. A digon hawdd dweud ‘tai fforddiadwy’.  Gwyddom yn rhy dda fforddiadwy i bwy.  A phris y farchnad sy’n rheoli: y tŷ sy’n ‘fforddiadwy’ heddiw, bydd yn ddwbl ei bris mewn ychydig flynyddoedd.

(7) Wynebwn y gwirionedd: gormod o dai sydd yng Nghymru, a’r Cymry heb allu eu fforddio. Nid oes ateb bellach ond yr hyn a awgrymir yn 3-5 uchod. Mae’n gofyn deddf, a honno’n mynd at wreiddiau pethau.

Yes Niwc, No Cymru

12 Ebr

Da iawn Nation Cymru heddiw, erthygl gan Ifan Morgan Jones, gwerth ei darllen, yn dod mor agos ag y daeth neb eto at wynebu na all Cymru ddim cael annibyniaeth a mwy o niwclear. Mae yma eisoes ddwy hen atomfa y bydd raid eu tendiad hyd ddiwedd amser: rhagor o’r rhain a dyna lyncu cyfran helaeth o gyllid gwladwriaeth fechan fel bod pob gwasanaeth a darpariaeth arall yn dirywio’n ddim. Fel y dywed Ifan, rhan o’r prosiect unoliaethol yw’r strategaeth ynni sy mor annwyl gan y llywodraeth Geidwadol hon. Ie, ‘Great British Nuclear’ yn wir. Ond amlwg nad yw Plaid Dwlali Cymru’n gweld hyn.

Neges glir i fudiad Yes Cymru felly. Os niwclear, No Cymru.

A gofyn pennawd yr ysgrif yn dra phwrpasol, pam nad oes trafod ar beth fel hyn?

Efo’n gilydd …

11 Ebr

Dwy stori ar safle BBC Cymru Fyw heddiw am gynlluniau dichonol yr Wylfa ym Môn. Trawiadol fod y ddau brif bennawd yn cynnwys y gair ‘gobaith’.

“Byddai atomfa newydd yn Wylfa’n drawsffurfiol,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru – gosodiad y byddai’n anodd anghytuno ag o! Ac yn un o’r straeon mae perchennog siop sglodion yng Nghemaes yn gosod ei holl hyder yn y datblygiad.

Rŵan, sut yr awn ni ati i wireddu’r gobaith mawr hwn?

Fel man cychwyn cymerwn yr amcangyfrif diweddaraf o gostau atomfa Sizewell C. Does neb yn sicr iawn beth yw ystyr biliwn, ond ran amlaf ym Mhrydain rydym yn ei ddeall fel mil o filiynau. Am ryw £20,000,000,000 felly yr ydym yn sôn yn Sizewell. Mae amcangyfrif Hinkley ychydig yn uwch, a rhai’n rhagweld ffigiwr o tua 50 biliwn yn y pen draw.

Na phoenwch, mae llywodraeth Prydain yn barod i gyfrannu can miliwn. Felly rhyw £19,900,000,000 i’w godi drwy ymdrechion lleol. Dwedwch fod AS Môn yn cyfrannu miliwn o’i phoced ei hun, dyna ddechrau da. Miliwn wedyn gan Aelod Cynulliad Môn? A miliwn bach arall gan Arweinydd Cyngor Môn? Oes yna ambell hen focs hel at y Genhadaeth ar ôl ar yr Ynys, i hel tipyn o ddrws i ddrws? A beth am stondin ar sgwâr Llangefni, gyda ffarmwrs Môn yn cyfrannu ambell hanner sachaid o datws at yr achos?

Ddaw hi fel’na deudwch? Os na ddaw hi, onid oes ’na ryw gwmnïau o gangsters cydwladol tua’r Mericia ’na allai ddod i’r adwy … rhyw West- a rhyw Becht- rhywbeth ? (Gweler Barn y mis yma,)

Efo’n gilydd felly, er mwyn siop tships Cemaes!

Cywiriad !

5 Ebr

Yn y blogiad diwethaf mi roddais ‘DIM BYD’ gyferbyn â’r ‘polisi gwrth-niwclear’. Ond ddoe dyma ddarllen ar Nation Cymru fod Adam wedi llefaru’n eithaf cryf ar y mater hwn.

Y cwestiwn yw, a oedd gwleidyddion Gwynedd a Môn yn gwrando? Ynteu yr hen stori sydd yma eto, – yn erbyn atomfeydd ac eithrio lle mae atomfeydd ?