Ymateb i GOLWG 360 heddiw,, yr eitem ‘Hogia Môn’.
Dyma ddetholiad o bethau a gyhoeddais dros y blynyddoedd diwethaf ar faterion iaith. Fe welir bod amryw ohonynt wedi eu hanfon i GOLWG, a’u cyhoeddi ganddo. Eithr onid yw’n bryd i GOLWG, fel – bellach – ein hunig gyhoeddiad seciwlar wythnosol Cymraeg, ddechrau cymryd sylw o rai o’r pethau y bûm yn eu dweud, yn lle adrodd heb wên ar wyneb syniadau hanner-pan yr Athro David Crystal?
Dylwn ddweud fod eitemau 2 a 3 yn cyfeirio nid at Dr. Crystal ond at un o’i olynwyr yn Adran Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor.
(1) Dwy cwestiwn i OLWG
Mae fi wedi askio question yma o flaen yn OLWG ond heb byth wedi receivio reply. Os mai Proffesor David Crystal yn mor grêt o boi, a chdi syportio fo, a syniad fo mor ded cŵl mae dim isio corectio sort o Gymraeg rong a fatha showio risbect i pobol ifanc, pam na gneith chdi sgwennu magazine chdi i gid yn rîli rîli sort o crapi Welsh? Affdyr ôl, mae blant fach Cheque a Hungry i gyd o nhw twitro a texdio yn Susnaig a letyr on yn Tjeinî. So mae isio OLWG sgwennu gid yn rong. Ti dim gweld lojic fo?
A bai ddy wê, be mae y sort o air Gymraeg am “blog”, wedi coinio gynno riw pwychgor, medda Proffesor? Be oedd y pwychgor gnaeth gneud fo? I cael bod yn krystal klear, pam gneith Proffesor dim sgwenu i OLWG i deud? So.
JAC TU COCH, Llanfair PG Tips.
* * *
(2) Basa hynny rîli cŵl
Roedd o’n rîli rîli interesting i fi darllen yn magazine chdi am y broffesor glyfar o New Bangor University yn deud wth ni gyd mixio Welsh a English. Fi rîli rîli meddwl mae hwnna lot well na jyst Welsh neu jyst Saesneg ar ben ’i hun, sort o. Pan ti jyst iwsio un language, ti dim gael confidence na? Ar yr un page fi gweld advert am conference yn Caerdydd ar maintainio standard cyfieithu. Gobeithio nhw cofio be deud y broffesor hefyd wrth gneud translation.
Ond oedd un beth yn getio fi. Well done chdi am rhoid dau page i be lady yma’n deud. Ond pam na gneith chdi sgwennu felna bob tro yn magazine chdi? After all, ni yn y New Wales. Ni yn y twenty-first century. Mae’n just one of those things, yndi? So pam mae chdi dim yn mixio two languages bob tro yn OLWG, a sgwennu bob dim fatha babis i pawb cael understand?
Let’s hope hefyd fydd y Welsh Department yn y former Coleg on the Hill yn cofio be deud y broffesor from now on, a gael concrete mixer fawr i mixio Gymraeg a English yn yr holl lectures. Basa hynny rîli cŵl. So.
J. Morris-Jones, Llanfair PG.
* * *
(3) Gwell na’r hen rwtsh uniaith Saesneg?
I wonder what you meddwl of these two new araiths I’ve written dan ddylanwad syniadau gwych yr Athro Ieithyddiaeth o Brifysgol Newydd Bangor. Here’s the cyntaf:
Friends, Rufeinwyr, Gydwladwyr, dowch â fenthyg ears; I came to claddu Cesar, ddim brolio fo. The drwg that men do, bydd byw ar ôl nhw; The da is often claddu efo esgyrn; O-cê, bid felly efo Cesar. The noble Brutus Wedi deud bod Cesar yn ambitious: Pe felly’r oedd, it were a difrif fai, And difrif hath Cesar wedi ateb fo ….
And here’s the ail:
To be, ynteu dim bod: that is the cwestiwn: Whether ’tis nobler yn y meddwl ddioddef The slings and saethau of ffawd gynddeiriog, Or take up arfau’n erbyn môr trybini, And by opposing, gorffen? Marw; cyci-bei; Dim mwy; a thrwy gwsg to say we end Torcalon, a’r naturiol ’sgytwad fil Sy’n gyfran flesh; ’tis a diweddglo I rîli rîli isio …
Now then, ddarllenwyr GOLWG, don’t you think bod rhain yn well o lawer na’r hen rwtsh I used to write yn yr hen ddyddiau cyn i fi ddarllen syniadau disglair yr Athro o Fangor? Mixing two languages in this way has given me hyder i sgwennu lot mwy o ddramâu i lenwi’r New Shakespeare Theatre and the new Canolfan Da Vinci at Bangor. Let’s hope hen Dr. Johnson won’t cywiro fi too much! Defnyddio’r Gymraeg wrth sgwennu Saesneg = dim problem!
Wil o’r Afon(The Anglo Twm o’r Nant)
* * *
(4) Mae Gymraeg rong yn gwell?
Annwyl Golygydd Olwg,
Os may dy gohebydd or Feifod yn feddwl bod Gymraeg rong yn gwell na Gymraeg iawn, a bod Gymraeg iawn yn rhy annodd i fobol Llanerfyl, pam mae hi sgwenny Gymraeg iawn i magazine ti? Pam gneith hi dim sgwenny Gymraeg rong i pawb cael ddeall?
Ar y llaw arall, os mwy dywennydd gan eich gohebydd y Gynmraeg chwyddedigawl, amleiriogus, wyntogaidd ac annealladwyedig a ydoedd yn arferol o wneythur ei hymddangosiad mewn llenoriaeth Gynmreig yn oes ein dyweddar Frenhines Victoria cyn i’r dyweddar Broffeswr Syr John Morris-Jones gymmeryd ei frwsh bras at yr iaith lenorawl a’i sgrwbio’n galed, attolwg paham nad ydyw efe, eich gohebydd, yn myned ynmlaen i arferyd yr ieithwedd hynodawl a oedd arveredigawl gynt gan y dyweddar Ddoethur William Owen Pughe?
Yn gywir,
Morris Jones-Jones.
* * *
(5) Tafodiaith, Bratiaith a Slang
(Cyhoeddwyd yn Y Faner Newydd)
Dan y pennawd ‘Beirniadu bratiaith yn gwneud niwed’ adroddodd GOLWG (9 Mehefin) am ddarlith gan yr Athro David Crystal yng Ngŵyl y Gelli eleni. Trawyd fi gan un frawddeg yn arbennig:
‘Mi fydd y boi ar Pobol y Cwm yn dechrau dweud ‘blogio’ er enghraifft, ac osgoi defnyddio ryw ymadrodd y mae ryw bwyllgor wedi’i greu, na fydd yn golygu dim i neb.’
‘Blog, blogio, blogiwr, blogwraig’ a ddywedaf innau oddi ar pan ddaeth y cyfryw bethau i fod; dyna a ddywed nid yn unig y boi ar Pobl y Cwm ond pawb ohonom, a dyna a ddywedwn bellach hyd ddiwedd amser. Hyd y gwn i, nid oes neb wedi meddwl am unrhyw beth gwahanol. Beth yw’r ymadrodd arall y mae rhyw bwyllgor wedi ei greu? A pha bwyllgor oedd hwnnw? Creadigaethau byd ffantasi yw’r ‘ymadrodd’ a’r ‘pwyllgor’ yn y frawddeg hon. Creu bwgan o’r pedant Cymraeg, neu’r gor-gywirwr iaith, sydd yma, i gyd-fynd â rhyw ddogma ffasiynol, arwynebol.
Yn ystod blynyddoedd o ddarlithio ar gystrawen y Gymraeg, ac o geisio cyflwyno yn sgil hynny ychydig o egwyddorion ieithyddiaeth a’r ddealltwriaeth fodern o iaith, bu imi elwa ar lyfrau’r Athro David Crystal, Lingustics, What is Linguistics? ac eraill, a gobeithio imi lwyddo i gyfleu rhai o’u gwersi i’m myfyrwyr. Nid oes dim cyflwyniadau gwell i’r cwestiynau y mae ieithyddiaeth fodern yn eu gosod, ac i’r modd y mae hi’n gwahaniaethu oddi wrth ieitheg draddodiadol. Ond bob tro y gwelaf yr Athro Crystal yn troi ei sylw at y Gymraeg, ei sefyllfa a’i phroblemau heddiw, mae’n ymddangos i mi ei fod yn cefnu yn y fan, nid yn unig ar ddoethineb yr ieithyddwr, ond ar bob synnwyr cyffredin hefyd.
Trawodd hyn fi gyntaf wrth wrando darlith ganddo i Urdd y Graddedigion ym Mangor rai blynyddoedd yn ôl, ar ennill a cholli iaith yn ein byd heddiw, testun llyfr ganddo. Ar ôl rhoi amrywiaeth difyr o enghreifftiau, rhai yn frawychus a rhai yn galonogol, trodd at achos diweddar yng Nghymru. Yr oedd un o’r grwpiau roc Saesneg o Gymru (Manic Street Preachers, os cofiaf yn iawn) wedi lansio albwm newydd â slogan Gymraeg. Iawn. Ardderchog. Yn anffodus yr oedd y slogan yn hollol annealladwy! Tynnodd rhywrai sylw at hyn; ac yn ôl David Crystal dyna’r drwg mawr a wnaed. Dyna ddadwneud holl effeithiau da cyhoeddi’r albwm hwnnw. Ystyr hyn, a’i dilyn hi i’r pen, yw nad oes gan y defnyddwyr Cymraeg hawl i ddisgwyl na safon na synnwyr. Eu lle nhw yw bod yn dawel, a chnoi’n ddiolchgar unrhyw friwsion a deflir i’w cyfeiriad.
Yr un yw rhesymeg y ddarlith ddiweddar. Yr holl ddrwg sydd yng Nghymru heddiw, ‘beirniadu bratiaith’ yw ei achos. Dyma sy’n mynd i beryglu’r ‘holl bethau y mae’r Gymraeg wedi eu hennill ers hanner canrif, gyda ffigurau’r Cyfrifiad yn codi a chodi’. Am y cymal olaf ni wnaf unrhyw sylw, ond dyma ambell awgrym arall.
Yn gyntaf, prin ei bod yn werth ailadrodd bellach yr hen ystrydeb, bod yn rhaid i iaith newid er mwyn goroesi. Mae pawb call yn gwybod hyn. Ond mewn amodau arbennig, tebyg iawn i’r amodau sydd yng Nghymru heddiw, fe all iaith newid, dan bwysau iaith arall, yn y fath fodd nes dadfeilio’n llwyr. Siawns gen i na allai’r Athro Crystal gytuno â hyn.
Yn ail, mae bratiaith yn rhan o bob iaith, ac mae iddi ei defnydd. Mewn llenyddiaeth, er enghraifft, gellir ei defnyddio i greu digrifwch drwy dynnu sylw ati ei hun, fel y gwna Daniel Owen, Charles Dickens a Goronwy Jones y Dyn Dŵad. Fe ŵyr y Sais yn union pryd, ac ar ba achlysuron, i’w defnyddio. Fe ŵyr y Cymro call hefyd.
Yn drydydd, mae yma wahaniaeth cenhedlaeth, oes. Oherwydd y pwysau sydd ar y Gymraeg (fel ar bob iaith yn y byd ond y Saesneg), oherwydd ein sefyllfa wleidyddol-ddiwylliannol, oherwydd aeddfedu o rai tueddiadau sydd ar waith ers cenedlaethau yn dilyn camgymeriadau’r gorffennol, mae i’w ddisgwyl bod gafael y to iau ar y Gymraeg yn llai sicr. Ac yn gyffredinol, felly y mae, er bod eithriadau. Er hyn i gyd, darlun camarweiniol o’r sefyllfa, cartŵn gwael, yw hwnnw lle mae’r ifanc blaengar, goleuedig i gyd ar un ochr (ac yn byw ‘yn yr unfed ganrif ar hugain’), ac ar yr ochr arall ryw hynafgwyr blin, gorfanwl yn sgyrnygu ac ysgwyd eu dyrnau. Yn y bôn, nid rhwng ifanc a hen y mae’r gwrthdaro hwn, ond rhwng yr ynfyd a’r call. Rhwng yr anwybodus, hunandybus ar y naill law, ac ar y llaw arall y ‘Cymro dirodres’ hwnnw y soniodd Syr John Morris-Jones unwaith amdano.
Yn ddiweddar mi fûm yn darllen, dethol a golygu llawer ar gyfer y gyfrol Beirniadaeth John Morris-Jones, y gobeithiaf weld ei chyhoeddi’n fuan yng nghyfres ‘Cyfrolau Cenedl’, a lansiwyd y llynedd gyda Canu Twm o’r Nant. Caf achos i werthfawrogi o’r newydd geidwadaeth oleuedig rhai o ysgrifau cynnar Morris-Jones ar bynciau iaith, lle roedd yn dechrau dadwneud gwaith y bobl hynny, y trychinebus William Owen-Pughe yn bennaf ohonynt, a oedd wedi ymyrryd â’r Gymraeg yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan feddwl eu bod yn gwybod yn well. Caf achos hefyd i ofidio peth fod Syr John, fel beirniad barddoniaeth, wedi caledu yn ei agwedd ar rai pethau ac wedi mynd weithiau’n bedantig; ac ni allaf feddwl am esboniad heblaw syniad arbennig am urddas yr awdl, ac efallai gyfaredd arddull Goronwy Owen. Fe dâl inni astudio eto ei ysgrif awdurdodol ar y Gymraeg yn ail argraffiad y Gwyddoniadur (1891), a’i ysgrif ‘Cymraeg Rhydychen’ yn Y Geninen (1890). Gwyddai John Morris-Jones yn iawn, a gwyddai ei gyfoeswr Emrys ap Iwan, y gwirioneddau hyn: mai peth sy’n esblygu yw iaith; mai llafar sy’n dod gyntaf, gyda llên yn ceisio adlewyrchu hwnnw; ac mai arferiad y siaradwr dirodres sy’n gosod safon iaith. Yr ydym ninnau’n gwybod ac yn deall hyn, pawb sydd wedi elwa ar arweiniad y ddau ddysgawdwr mawr dros ganrif a mwy.
Peidied David Crystal â siarad fel pe na bai rhai fel ni yn gwybod hyn. Yn wir, efallai, os nad yw wedi ei darllen, y câi ef ychydig oleuni o’m hen ddarlith fach i, John Morris-Jones a’r Cymro Dirodres (1997). Câi fwy o oleuni o ddarlith bwysig iawn Rhisiart Hincks ar Yr Iaith Lenyddol fel Bwch Dihangol (2000), sy’n dangos yn gliriach na dim erioed y cyd-destun gwleidyddol sydd i’r cyfan. Mae Rhisiart Hincks i’w ganmol yn fawr am y pethau a ddywedodd, a byddai’n dda gweld aelodau eraill o Adrannau Cymraeg y colegau yn cyrraedd yn awr ac yn y man am ordd neu bastwn i roi swaden go galed i’r ffiloreg sy’n cael ei phedlera drwy’r Adrannau Ieithyddiaeth y dyddiau hyn.
Hanfodol yw bod y wasg Gymraeg yn adrodd am yr hyn a ddywedir ac a feddylir, o bob safbwynt, yng Nghymru a’r tu hwnt heddiw. Ond cymerer gofal rhag ailadrodd ffwlbri heb wên ar wyneb, a’i borthi wedyn fel y gwnaeth GOLWG yn ei ysgrif olygyddol (yr un dyddiad), ‘Dangos parch at ieuenctid’. Nid oes a wnelo affliw o ddim â ‘pharch at ieuenctid’; mae a wnelo bopeth â pharch at synnwyr, eglurder ac at briod deithi ein hiaith.
§
Mewn llythyr yn GOLWG (30 Mehefin) cydiodd y Prifardd Robert Powell yn rhai o’r pynciau uchod. Croesawaf yn fawr ei sylwadau. Mae’n hollol gywir nad yr un peth yw bratiaith a slang, er bod geiriaduron – gan gynnwys, mae arnaf ofn, Geiriadur yr Academi – yn tueddu i’w trin felly. Beth yw’r gair Cymraeg am slang? Slang, mae’n debyg.
Peth arall eto yw tafodiaith. Siarad ei dafodiaith y mae Thomas Bartley, er enghraifft. Mae ei hoff ymadrodd, ‘twbi shŵar’ wedi ‘gwneud ei wely’ yn y dafodiaith, fel mai prin y mae Thomas yn ymwybodol ohono fel Saesneg. Nid yw’n ceisio bod yn glyfar wrth ei arfer. Gwahanol yw defnydd Wil Bryan o ‘yr hen chum’, ‘humbug’, ‘e’true to nature a llawer o bethau cyffelyb. Mae Wil yn meddwl ei fod yn ffraeth a blaengar wrth daflu’r rhain i mewn – a phwy ohonom, y rhai y mae gennym ddwy iaith, sydd heb wneud peth tebyg ar dro? Ond daw hyn yn fath o obsesiwn gyda Wil, ac mae fel petai’n cymysgu mwy ar y ddwy wrth iddo fynd yn hŷn, cymaint nes ymylu, o leiaf, ar fratiaith, er bod ei gystrawennau’n gywir a dealladwy yn y naill iaith a’r llall.
Y gwir siaradwr bratiaith yn llyfrau Daniel Owen yw Mr. Brown y Person. Cymeriad hynaws yw Mr. Brown, fel y myn Saunders Lewis ein hatgoffa (‘llawer llai o’r hyn a eilw’r Saeson yn prig nag ydyw Bob Lewis a Wil Bryan’); ond nid yn ieithyddol y mae ei gryfder. Mae’n gamdreiglwr cyson ac mae ei gystrawennau’n blentynnaidd. ‘Cymraeg Person Drama’ sydd ganddo, perthynas agos i ‘Gymraeg Cipar Drama’ ar yr hen lwyfannau. Cyfiawnhad hyn, yn llenyddol, yw creu digrifwch. Mae consensws yn y Dreflan i roi pardwn ffŵl i rywun fel Mr. Brown; wedi gwneud hynny gellir dehongli ei feddwl. Tebyg, ond eto gwahanol, yw iaith Sam Weller a chymeriadau eraill gan Charles Dickens. Nid trwy golli iaith (neu esgus ei cholli, neu hanner ei dysgu) y daw’r rhain yn gymeriadau cartŵn, ond trwy gofnod manwl o ynganiadau lleol, sy’n cyferbynnu’n amlwg â’r iaith safonol y mae gan y Sais barch digwestiwn ati.
Mae Wil Bryan hefyd yn defnyddio slang, neu – yn fwy manwl – yn ei ddyfeisio. Dyfais yw slang; mae ynddi elfen drosiadol, greadigol yn ei chychwyniad. ‘Waterworks’ yw gair Wil am ‘ddagrau’, ac mae unrhyw un o natur ddagreuol yn mynd yn ‘hen waterworks’ ganddo yn y fan. Drwy hyn mae Wil yn ei ddiffinio’i hun fel aelod o grŵp, sef hogiau clyfar, bydol-ddoeth yr oes.
Yn awr, a dod at un o bwyntiau Robat Powell, ai slang yw termau fel ‘niwc’ a ‘sgrîn’ yn iaith y Cofi? Dyna oeddynt, mae’n debyg, yn eu cychwyniad, sef mewn rhyw fath o Saesneg. Ond yn fuan wedi eu dyfodiad i Gaernarfon fe aethant yn rhannau safonol o’r dafodiaith; ‘niwc’ oedd y gair am ‘niwc’. Ond eto pan yw rhywun o ardal arall, neu o’r tu allan i gyrrau’r dref, yn eu defnyddio, fe ânt yn ôl yn slang. Yr oeddem ni, plant pentref o fewn chwe milltir i Gaernarfon, yn meddwl ein bod yn glyfar ers talwm wrth ddweud ‘dwy niwc’; nid oedd y gwir Gofi’n meddwl amdani felly.
Rhoddodd Robat Powell ei fys ar ddwy enghraifft briodol, a phoenus, o’r duedd tuag at fratiaith: y defnydd llac o ‘dal’ a’r gystrawen anfad, ddisynnwyr ‘dydyn nhw heb’. Efallai fy mod yn hollti blewyn, ond gwelaf ryw radd o wahaniaeth rhwng y ddau achos. Cymerwn ‘mae o dal yno’, neu ‘mae o yno dal’. (A oes eraill yn cael yr un argraff â mi, mai cystrawen sy’n hoff gan ferched ifainc yw hon? Yr un adran o gymdeithas, mae’n ymddangos i mi, sy’n hoffi cloi pob gosodiad â’r gair ‘so’, ac sy’n gweithio’r ‘rîli rîli’ yn wirioneddol galed.) Drwy hepgor yr ‘yn’ (neu’r ‘’n’) o’i flaen, mae ‘dal’ yn colli ei rym fel berf ac yn dod i gael ei drin fel petai’n adferf. Serch hynny erys yr ystyr yn ddigon clir, a’m dyfaliad i yw y down i ddygymod â hyn. Ni ddaw unrhyw Gymro call byth i ddygymod â ‘dydyn nhw heb wneud’. Ystyr hyn yw ‘maen nhw wedi gwneud’, gyda dau negydd yn diddymu ei gilydd, fel mewn algebra. Yma mae ystyr yn dadfeilio a’r iaith yn troi’n nonsens trwy ddiogi ac anwybodaeth. Peidied neb, gan gynnwys cyfranwyr papurau a chylchgronau Cymraeg, ag ysgrifennu ‘dydyn nhw heb’ byth eto! Dyma yw bratiaith.
Ie parhaed y drafodaeth, fel y dywed Robat Powell. A gobeithio y cawn ni wybod yn fuan beth oedd y pwyllgor hwnnw, a beth oedd y gair Cymraeg am ‘blogio’ a fathwyd gan y pwyllgor.