Stori ryfedd iawn ar Golwg 360 heddiw. Sara Louise Wheeler yn chwilio am lyfrau Daniel Owen yn ei dref enedigol, a chael yr ateb nad oes dim ohonynt mewn print yn Gymraeg!
Gwir, nid argraffwyd mo’r Dreflan o gwbl yn ystod yr ugeinfed ganrif, ond wele, yn 2014 fe gyhoeddodd yr hen Ddalen Newydd olygiad newydd ohoni gan Robert Rhys. £15, ac os na fedrwch ei chael gan eich llyfrwerthwr lleol gallwch ei harchebu’n syth drwy ein siop ar-lein (dalennewydd.cymru). Digon o gopïau ar gael. ‘Allan o brint’, wir!
Ac yn yr un flwyddyn, 2014, o’r un wasg fe ddaeth Daniel Owen: Dewis Blaenoriaid, sef rhan o lyfr cyntaf D.O., Offrymau Neillduaeth. ‘Y peth perffeithiaf a sgrifennodd ef o gwbl.’ meddai Saunders Lewis am y gwaith hwn! Bargen aruthrol am dair punt, a pheidiwch â choelio neb sy’n dweud ei fod allan o brint!
Cyhoeddwyd Enoc Huws (1995), Gwen Tomos (1996) a Rhys Lewis (2002) gan S4C, sydd yn berchen hawlfreintiau Hughes a’i Fab, golygiadau newydd gan E.G. Millward ac yn rhoi’r testunau cyfain, nid y talfyriadau y buom yn gyfarwydd â hwy drwy’r rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif – ond diolch am y rheini hefyd cofiwch. Dywed safle Gwales wrthym fod Gwen Tomos allan o brint; os yw’r ddau arall felly, sobor o beth! Dylai S4C ymorol yn syth fod digon ar gael o’r tri. Meddyliwch am fynd i siop lyfrau Saesneg a chlywed fod Jane Austen, Charles Dickens, Charlotte Brontë a Thomas Hardy ‘allan o brint yn yr iaith wreiddiol’ !! Ond dyna ni, Gwlad Pob Peth o Chwith.
Gan mai Daniel Owen yw’r pwnc a chan mai ‘the hard sell’ yw hi heddiw, hwyrach y byddai rhai o ddilynwyr yr Hen Ddaniel â diddordeb mewn stori gan yr hen G.A., ‘Vicky, Calvin a Danielle’ yn ei gyfrol Camu’n Ôl a Storïau Eraill (Dalen Newydd, 2012), £15. Ac o’r un ffyrm eto fyth, mae ysgrif fach ‘Yn ôl i’r Dreflan’ yn y gyfrol Meddyliau Glyn Adda (Dalen Newydd, 2017), £10.