Archif | Hydref, 2021

Taetheg a Stradeg

26 Hyd

Taetheg’ a ‘stradeg’. Dyna eiriau Emrys ap Iwan am y pethau a alwn ni yn ‘tacteg’ a ‘strategaeth’. Bydd unrhyw fudiad gwleidyddol yn arfer y ddwy; y naill, mewn gwleidyddiaeth fel ym mhob maes, yn golygu’r symudiadau agos-atom a thymor byr, y llall yn cymryd golwg bellach ac ehangach.

Hollol iawn a naturiol yw i blaid wleidyddol arfer tacteg mewn sefyllfa, cyn belled nad yw hynny’n mynd yn groes i’w hegwyddorion sylfaenol fel plaid. Daeth hyn i’m meddwl echnos wrth wylio rhaglen ‘Y Byd ar Bedwar’ ar fater ysgol Abersoch.

Wrth gefnogi cadw’r ysgol byddai gobaith i wleidyddion Plaid Cymru, lleol a chenedlaethol, gadw’u cefnogaeth ymhlith yr etholwyr ac efallai ychwanegu ati. Wrth ddewis cau’r ysgol, neu eistedd ar ben llidiart, byddant yn sicr o golli’r gefnogaeth. Ennill – colli, dyna’r dewis. Weithiau mae’n rheidrwydd moesol ar blaid fentro colli, a’r enghraifft fawr a thra chyfoes o hynny yw’r cwestiwn niwclear. Dyfarnodd y Blaid, fel plaid, yn erbyn y niwclear, a dyna ben arni. Ni ddylai arddel yr un seneddwr, ymgeisydd na chynghorydd nad yw’n cadw at y polisi hwn. Polisi yw polisi, ac eled Môn i’r fan a fynno.

Nid yw mater yr ysgolion yr un fath. Lleoedd gweigion, cost y pen, dim ond milltir a hanner at ysgol arall …, ydyn mae’r rhain oll yn ffactorau. Ond mae dymuniad rhieni ac ardalwyr yn ffactorau hefyd, ac ni welaf y byddid yn gwadu unrhyw egwyddor wrth ochri â’r rheini. A beth am yr addewidion i ‘amddiffyn cymunedau’?

Er enghraifft, petawn i yn lle Mabon, fy newis tactegol – a dywedaf eto, ni byddai dim dianrhydedd yn hynny – fyddai diogelu fy nghefn drwy gefnogi pentrefwyr Abersoch yn ddiamwys; byddwn wedyn mewn cryfach sefyllfa i wrthwynebu ffatri arfau niwclear arall yn Nhrawsfynydd.

Ac mae rhywun yn dal i ofyn, beth sydd tu ôl i’r cau ysgolion yma? Y ‘ddamcaniaeth cynllwyn’ yw fod rhyw swyddogion o fewn awdurdod lleol yn gweithio dros Ryw Allu Arall i danseilio Plaid Cymru a’r awdurdod ei hun. Tebyg mai cywirach yw’r ‘ddamcaniaeth llanast’, sef fod yma’r peth pathetig hwnnw, Cymry’n bod yn ‘ymarferol’, yn ‘realistig’, yn ‘bragmataidd’. ‘Ylwch ni, ddim ofn cymryd penderfyniad anodd. Ylwch ni’n dallt y dalltins. Ylwch ni tu mewn, a chi tu allan.’

Am Blaid Cymru, dyma bellach blaid heb daetheg na stradeg, na chynllun na chyfeiriad. Anfaddeuol fu ei thriniaeth warthus o Leanne, cam hanesyddol tuag at ddifancoll.

A’r cwestiwn poenus pellach: petai plaid genedlaethol arall yn codi yfory i ddisodli Plaid Cymru, fyddech chi’n ei thrystio?

Yn Newydd gan Ddalen Newydd

8 Hyd

Dyma ddau o lyfrau diweddaraf Dalen Newydd, bellach ar gael o’n stondin.

Elis y Cowper: Anterliwt y Ddau Gyfamod

Golygwyd gan A. Cynfael Lake

Dyma rif 14 yng nghyfres Cyfrolau Cenedl.

Awdur cynhyrchiol a huawdl oedd Elis Roberts (1713?-89) neu Elis y Cowper o Landdoged, Dyffryn Conwy, ac wele yma anterliwt o’i waith sydd yn un o’r rhai mwyaf hynod o fewn y dosbarth hwn o lenyddiaeth.

Ymddengys y Cybydd a’r Ffŵl fel ym mhob anterliwt, ond y tro hwn ceir llai nag arfer o’r cellwair bras rhwng y ddau gymeriad hyn. Yn lle hynny ceir cyfuniad o ddau ddefnydd gwahanol. Yn gyntaf, rhoir inni dalpiau o hanes Rhyfel Annibyniaeth America – y Ffŵl, meddai ef, wedi bod yn ei ganol! Traethir ar achosion y rhyfel, gan geisio mesur y bai ar y ddwy ochr. A meddylier mewn difrif am gyfraniad yr Hen Wraig o Indiad Coch, sy’n rhoi safbwynt y brodorion yng nghanol y gwrthdaro. Yn ail, ac yn brif beth yr anterliwt, ceir dadl ddiwinyddol ar ‘gwestiwn y Cyfamodau’, mater canolog yn hanes Cristnogaeth. Rhaid bod cynulleidfa a fyddai’n deall beth yw’r Ddau Gyfamod ac yn fodlon sefyll i wrando’r dadlau yn eu cylch.

Dyma gyfle inni ddysgu rhywbeth, ac efallai ofyn rhai cwestiynau, am chwaeth ein cyndadau mewn cyfnod allweddol o’n hanes.

£15.00

Dafydd Glyn Jones – Hen Ddalennau

Gan bob sgriblwr mae pentwr o hen ddalennau yn hel dros y blynyddoedd, ac am rai ohonynt gall yr awdur fod yn gofyn ‘pam dweud peth mor hurt?’ a ‘tybed ai fi oedd e?’. Dyma ddetholiad o ddalennau sydd, hyd yma beth bynnag, wedi goroesi’r chwynnu: darlithoedd, erthyglau ac ysgrif-adolygiadau ar amrywiaeth o awduron, gweithiau a chyfnodau yn llên y Cymry. Wele’r cynnwys:

  • Ystyried Gildas
  • Ystyried Wade-Evans
  • Y Bedwaredd Gainc
  • Breuddwyd Moel?
  • Blas yr Henfyd
  • Syr Siôn Prys ac Apologia’r Genedl
  • Côr y Ceidwadwyr
  • Camp a Rhemp Bardd Mawr Môn,
  • ‘Edward Morgan’, ‘Morganyg’ a ‘Iolo Morgannwyg’
  • Huw Jones o Langwm
  • Dim ond Act
  • Cofio Saunders Lewis yr un Pryd
  • Hwyl a Helynt Hen Eisteddfodau Môn
  • Tri Llenor rhwng y Ddwywlad
  • Troedio’r Ffiniau
  • Caradog Prichard
  • Pedwar Modernydd
  • Pennod Ryfedd a Thrwstan
  • Glyndebourne y Cymry, ynteu Tŷ Uchelwr Drama?
  • Deg Cwestiwn i Ddramodydd
  • Hanes ein Llên drwy Wydrau Newydd

£15.00 am y lot.