Cofio achlysur yn Neuadd Reichel, Bangor, ers talwm. Roedd Ystafell Gyffredin y Myfyrwyr yn derbyn pob papur dyddiol Saesneg, o’r Times a’r Telegraph i lawr at y Daily Mirror (a ystyrid y papur mwyaf gwerinol a choman yn y dyddiau cyn-Sun hynny). Ar gyfer cyfarfod o’r aelodau roedd un myfyriwr, Tori Albanaidd eithaf annymunol, wedi cyflwyno cynnig ein bod yn atal ein tanysgrifiad i’r papur Comiwnyddol The Daily Worker. Colli’n drwm a wnaeth y cynnig. O’r mwyafrif a fotiodd i gadw’r hen recsyn, go brin fod neb ohonom yn llyncu ei holl neges, ond roeddem yn croesawu ei olygwedd wahanol, ei wybodaeth wahanol hefyd, a’r ffaith ei fod yn rhoi sylw i ryw bethau na byddai’r un papur arall yn eu cyffwrdd.
Wrth atgofio’r digwyddiad bychan hwn, meddyliaf am ddau beth arall.
(1) Niclas y Glais, y mae ei gofiant gan Hefin Wyn, a’r detholiad o’i ohebiaeth gan yr un awdur ynghyd â Glen George (perthynas i Niclas), bellach yn ein gwahodd i ystyried eto ei holl yrfa a’i neges. Cofiaf glywed Niclas yn pregethu fwy nag unwaith, yn ddiddorol, yn ddymunol ei ffordd, yn hawdd gwrando arno. Cyn sicred â dim fe ddôi cyfeiriadau at amgylchiadau’r dydd, a cheid y dehongliad gwleidyddol disgwyliedig, diosgoi. Ambell i winc a phwniad yn y gynulleidfa, a’r sylwadau ar y ffordd allan: ‘Ia’r hen Niclas, yr Ianc o dani eto …’. Y consensws – yn wir ni chlywais neb yn dweud yn wahanol – oedd un o barch at Niclas, yn sicr am ei fod ‘yn dal at ’i betha’, ac efallai hefyd am y gwyddem ei fod yn sylfaenol ddiniwed.
O ran ei ddarlleniad o amgylchiadau enbydus canol yr ugeinfed ganrif – anodd dyfarnu nad dyma’r gwir – yr oedd Niclas yn hollol anghywir. Ond fel rebel, fel Annibynnwr, fel beirniad ar ein cymdeithas ni ein hunain, gwnaeth gyfraniad gwiw a gwerth ei goffáu.
(2) Sianel deledu Russia Today. Dan nawdd y Pwtyn mae’n ddiamau, ond oddi ar ei chychwyn, go brin ei bod wedi gwneud yr un ohonom yn ffrind iddo – dyn drwg drama, math o ‘Bond villain’ er pan welsom ei wep y tro cyntaf. Ond fel y Daily Worker gynt, ac fel pregethau a cherddi Niclas, mae’n wahanol, yn cynnig golygwedd amgen ac yn cyflwyno peth gwybodaeth nas ceir yn unman arall.
Heddiw, nid yn annisgwyl mae’n debyg, bu’n ddiwrnod o ladd arni. Boris yn San Steffan yn edliw i’r SNP fod Alex Salmond â’i stondin arni, ac Ian Blackford yn ateb yn syth nad oes a wnelo Alex ddim â’r Blaid Genedlaethol. Ac yn fwy anesmwythol braidd, Nicola gartref yn yr Alban yn gresynu nad yw Alex wedi torri’r cysylltiad. Anesmwythol? Naturiol a chyson yn yr ystyr fod yma achos o wladwriaeth lai yn erbyn gwladwriaeth fwy, cenedl yn erbyn ymerodraeth – onid aeth Adam draw yna i roi tipyn o ofn yr Arglwydd ar y Pwt? Ond ai’r diwrnod y mae Syr Keir Starmer yn galw am ‘undod’ yw’r diwrnod i ymuno yn y corws?
Erys y dirgelwch, beth yw gwraidd a chychwyniad yr anghydfod ymhlith y cenedlaetholwyr Albanaidd? Pam yr oedd mor bwysig targedu Salmond? Pwy oedd yn gyfrifol? A gawn ni wybod byth?
A dywedaf eto fel rwyf wedi dweud o’r blaen, peidiwch â meddwl nad oes i hyn ymhlygiadau i ni Gymry.
A phob llwyddiant i Craig Murray heddiw yn ei apêl gerbron llys arbennig yn yr Alban.