Y Ddau Fath

16 Chw

Nation Cymru heddiw yn adrodd am sylwadau Jo Stevens A.S., Llefarydd Llafur ar Gymru. Sôn y mae Jo am y ddau fath o deimlad neu deyrngarwch cenhedlig. Dyma hen bregeth yr ydym wedi ei chlywed filoedd ar filoedd o weithiau o’r blaen, ond i’n hatgoffa’n hunain, dyma’r ddau fath eto:

(a) Y math neis. Gwladgarwch (patriotism). Arferir gan Loegr a chan ba wladwriaeth bynnag sydd mewn cynghrair â Lloegr yr wythnos yma.

(b) Y math ddim-yn-neis. Cenedlaetholdeb (nationalism, ac yn aml narrow nationalism). Arferir gan bobloedd israddol (lesser breeds).

Wrth reswm pawb mae gwahanol fathau ar genedlaetholdeb, rhai yn bendant i’w hosgoi. Dyna neges S.L. yn ei ddarlith gyntaf ar y mater, Egwyddorion Cenedlaetholdeb (1926). A ddarllenodd Jo honno?

Beth bynnag, go dda Nation Cymru am ysgogi trafodaeth heddiw. Yr ymatebion hyd yma (11.30) i gyd yn gall ac adeiladol – h.y. o’r un feddwl â’r hen G.A. !!

Un Ymateb to “Y Ddau Fath”

  1. Dafis Chwefror 17, 2022 at 6:29 pm #

    Rhai ar NC yn gyndun iawn i gydnabod Saunders am ei fod wedi arddel rhai syniadau ychydig yn eithafol nol yn yr oes cyn Yr Ail Ryfel Byd. Creadur ei adeg oedd e beth bynnag ac mae’r agwedd ato heddiw yn dangos diffyg aeddfedrwydd pobol ein hamser ni. Mae’r busnes purdeb syniadau yma yn fy nghorddu gan ei fod yn sicr o gadw pobol dda allan o’r sgwrs. Ma’na angen ychydig fwy o feddwl agored yn enwedig at waith cynar ein mudiad ac mwy o barodrwydd i drafod syniadau cyfoes sydd ddim yn hollol gytun a’n barn bersonol.

Gadael sylw