Trown heddiw i Fyd yr Ifanc. Tair o straeon y dydd:
(1) Stori syfrdanol Y CYMRO (Tachwedd): ‘Senedd Ieuenctid yn galw am i sgiliau bywyd fod yn rhan gyson o wersi ysgol’. Fe ddywed Wikipedia a safleoedd eraill wrthym beth yw rhai o’r ‘sgiliau bywyd’ – gwneud penderfyniadau a datrys problemau: meddwl yn greadigol, yn ochrol ac yn feirniadol; bod yn bendant ond â thymer dda yr un pryd; sut i ddal dan straen; hunan-ymwybod ac empathi …
Fel y dywedodd yr hwyaden wrth y fwyalchen felyn-big yng ngherdd I.D. Hooson, ‘purion ddawn, mae hynny’n siŵr’ yw pob un ohonynt. Ond faint ohonynt y gellir eu dysgu mewn ysgol? Nefoedd fawr, pwy fyddai’n ‘athro empathi’ yn ysgolion Bangor? I’r rhai sy’n ei feddu o gwbl, rhywbeth sy’n ‘rhyw ddod’ tua’r 17-18 oed yw empathi; mae’n hollol wrthnaws i blant.
Beth petawn i’n awgrymu wrthych heddiw mai mewn bywyd y mae dysgu ‘sgiliau bywyd’? Lle ychydig ar wahân i fywyd yw ysgol, lle i sefyll yn ôl ychydig ac ystyried pethau’n wrthrychol, ond trwy hynny magu rhyw adnabyddiaeth o’r fath beth ag egwyddor – ac fe ddaw hynny’n berthnasol i fywyd yn y pen draw. Gwneir hyn drwy astudio detholiad o feysydd.
(a) Y peth cyntaf un yw i’r disgybl ddysgu ysgrifennu ei iaith yn gywir, a thrwy hynny yn synhwyrol a dealladwy. Caniataer nad yw ysgrifennu yn fedr a ddefnyddir gan bawb, nac efallai gan fwyafrif. Dysgu ail iaith? Nid oes gan Gymro ddewis yn hyn. Trydedd iaith? I’r sawl sydd â’r awydd.
(b) Dylai’r disgybl fod â digon o lenyddiaeth yn ei ben, fel ag i fedru mwynhau llawer o bethau heblaw Siwan ac Un Nos Ola Leuad er cystal yw’r rheini. Unwaith eto, dechrau gyda’i fro, sef ei gwmwd, ac ymestyn at allan cyn belled ag y mae ei allu a’i ddiddordeb yn caniatáu.
(c) Da gwybod Hanes – prif fannau hanes bro, Cymru, Gwledydd Prydain, Ewrop a’r byd. Ie, y cyfan yna, fel y dysgid i ni ddisgyblion canol yr ugeinfed ganrif. Nid rhyw friwsionach fel ‘Y Tuduriaid’ a’r ‘Ail Ryfel Byd’. Rhaid i athro hanes fedru dweud stori yn ddifyr ac yn ddramatig. Drachefn, mae’n rhaid caniatáu: hyn-a-hyn ohonom sy’n gallu amgyffred mwy na thair cenhedlaeth o amser.
(ch) Da yw gwybod am dir a daear, haul a glaw a gwynt, a sut mae pobl yn byw mewn gwledydd eraill. Daearyddiaeth.
(d) Oherwydd ei bwysigrwydd yn ein diwylliant, mae’n ofynnol gwybod cynnwys y Beibl, ac i’r rhai sydd â’r ddawn, da yw medru rhannau ohono ar gof. Heb hyn, collwn lawer mewn cyfeiriadaeth, parodi, eironi a hiwmor.
(dd) Seiliau’r gwyddorau, gyda chyfle i’r rhai sydd â gwir awydd fynd yn ddyfnach iddynt.
(e) Tipyn o syms, ac i’r rhai sydd â’r wir anian, mathemateg. Mae gwahaniaeth pwysig rhwng ‘gwneud syms’ (peth y mae’r rhan fwyaf yn ei fedru’n reddfol) a ‘gwneud maths’. Mae dau ddefnydd o’r olaf : (i) ymarferol, i’r rhai sydd am ddyfalbarhau gyda’r gwyddorau; (ii) ysbrydol, i’r rhai sydd â’r awydd.
(f) Rhyw grefftau, e.e. gwaith coed, coginio – nid er mwyn ein gwneud i gyd yn seiri (fel y rhybuddiwyd ni ers talwm gan athro gwaith coed ardderchog) ac nid er mwyn codi to o gogyddion, ond er mwyn dygymod â’r egwyddor mai fel hyn y daw hi ac na ddaw hi ddim y ffordd arall.
(ff) Cerddoriaeth, cynghanedd, chwaraeon? I’r sawl a’u myn.
‘Hanner munud …’, clywaf chwi’n gofyn, ‘onid yw hyn yn hynod debyg i ddosbarthiad traddodiadol y pynciau?’ Ydyw y mae wrth gwrs. Yr oedd hwnnw’n eithaf agos ati. Ac ar y pwnc aruthrol o ‘ddiwygio’r cwricwlwm’ darllenwch yr ysgrif ‘Llond Twb o Swigod’ yn fy llyfr diweddar Wele Wlad, a dowch â’ch barn wedyn.
Cofiwch, does dim raid i bob plentyn gael ysgol. Fe ellir dysgu’r cyfan o’r ‘pynciau ysgol’ uchod yn y cartref os oes gan y rhieni y ddawn, yr ewyllys a’r amser. Ond ni ellir dysgu ‘sgiliau bywyd’ yn yr ysgol.
* * *
(2) Y rhai ohonom a oedd yma tua chanol yr hen ganrif, gallwn gofio ambell ‘ditshar iwtiliti’, sef athro a hyfforddwyd â chwrs byr a brysiog mewn ymgais i lenwi bylchau wedi’r ail ryfel. Dyma gydymaith i’r ‘plisman iwtiliti’, sef y plisman cap fflat neu ‘special constable’. Ai darparu dosbarth newydd o athrawon iwtiliti yw bwriad llywodraeth Cymru yr wythnos hon wrth lansio cynllun i hyfforddi athrawon cynradd i ddysgu pynciau drwy’r Gymraeg mewn ysgolion uwchradd? Ai rhywbeth ‘pris gostyngol’ i’r Cymry yw hyn eto?
Dywedaf hyn. Gwn am athrawon cynradd – neu dylwn ddweud bellach, gwn am gyn-athrawon cynradd – a allasai ddysgu pynciau yn ardderchog i’r oedran uwchradd. (Gwn hefyd, gyda llaw, am athrawon uwchradd heb ddim o’r ddawn honno, a gallaf atgofio darlithwyr prifysgol nad oedd ganddynt unrhyw glem ar ddysgu unrhyw beth.) Y cwestiwn yw faint. A oes digon a fydd yn abl ac awyddus i ymgymhwyso yn y modd y gobeithia’r llywodraeth? Ac ymhellach, sut mae ymgymhwyso? Cyfeiria’r llywodraeth at ‘feysydd rheoli dosbarthiadau, cynllunio gwersi a chymorth arbenigol ar bynciau amrywiol’. Beth am wybodaeth ddofn o bwnc, sef y prif beth?
Beth bynnag, rhaid gwneud rhywbeth, a chystal bod y llywodraeth yn dod i weld hynny. Ond symtom yw’r broblem y ceisir ei hateb o ddiffygion mwy sylfaenol. Nid yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gallu cynhyrchu digon o bobl gymwys. Y tu ôl i hynny mae’r ffaith nad oes digon ohonom, dim digon o Gymry’n weddill mewn unrhyw faes. Yn gyfochrog, fel yr wyf wedi pregethu lawer gwaith, mae’n bolisi gan y llywodraeth hon allforio’r goreuon o Gymru. Tu ôl i hynny mae awydd y dosbarth proffesiynol Cymraeg i ollwng gafael a throi cefn, sgidadlo. A thu ôl i hynny eto mae ymdeimlad parhaol y Cymry o israddoldeb. Ar wreiddiau’r ymdeimlad hwnnw, COFIWCH ddarllen y golygiad newydd Llythyr Gildas a Dinistr Prydain, a phenodau 2-26 yn arbennig. Ac yn rhifyn nesaf Y Faner Newydd byddaf yn cychwyn cyfres fer o ysgrifau ar arwyddocâd y llyfr anniddig hwn a’i ymhlygiadau i ni heddiw.
* * *
(3) Yr wythnos hon hefyd pasiodd ein Senedd (fel y mae’n well ei galw bellach) i roi pleidlais ar gyfer ei hetholiad nesaf i rai 16 oed. Ai peth da? Gallwch ddarllen fy ysgrif ‘Mwy – a Llai – o Ddemocratiaeth?’, Meddyliau Glyn Adda, t. 21, a gallwch ofyn eto ai cywir fy argraff, ac yn wir fy nghof am fy nghenhedlaeth fy hun, mai ceidwadol ydym nes yr ydym tua’r deunaw? Cofiwn hefyd – atgof digon byw – ‘Mae mewn ieuenctid BWYSIGRWYDD, ac mewn oed ryw ychydig bach mwy o ostyngeiddrwydd’. Neu, a dyfynnu dihareb y papur Bronco ers talwm, ‘Yr hen a ŵyr, a’r ifanc a ŵyr y blydi lot’.