Archif | Medi, 2018

Tristwch

28 Medi

Dyma Blaid Cymru wedi gwrthod y CYNRYCHIOLYDD gorau a gafodd erioed. Y gwahaniaeth, ar banelau a seiadau holi Saesneg &c, rhwng Leanne a’i holl ragflaenwyr yn swydd yr arweinydd oedd NAD OEDD ARNI OFN SAESON. Ni chymerai hi ddim ganddynt, ond ei rhoi yn ôl. Colled fawr, a chamgymeriad anferth, yn hyn o beth.

Ond fel rwyf wedi dweud o’r blaen, un peth yw cynrychiolydd da, peth arall yw arweinydd da. Dylai Leanne fod wedi RHOI EI THROED I LAWR ymhell cyn hyn.

A fydd Adam yn well yn hynny o beth? Y peth cyntaf a ddisgwyliwn ganddo yn awr yw ategu’n gryf bolisi gwrth-niwclear y Blaid, gyda rhybudd clir i wallgofiaid ymbelydrol Cyngor Môn, ac i Rhun hefyd, eu bod i gadw at y polisi neu golli eu tocyn.

Am ragolygon y Blaid yn gyffredinol, yn wir ni wn i ddim. Os bydd prifysgolion Bangor ac Aberystwyth ar agor ddiwrnod yr etholiad (etholiad San Steffan o leiaf) bydd hi mewn dirfawr berygl o golli dwy sedd, ni waeth pwy fydd ei harweinydd. Ni ŵyr y llu myfyrwyr o Loegr mo’r gwahaniaeth rhwng Adam Price a choes brwsh: fe bleidleisiant dros y tebycaf o guro Plaid Cymru. Ac am Feirion-Dwyfor, y nefoedd yn unig a ŵyr.

Am ddyfodol Cymru’n gyffredinol, yn wir ni wn i ddim eto. Ar ôl y MWD, rwy’n amau a oes iddi ddyfodol o gwbl. Awgryma’r busnes hwn nad oes wleidyddiaeth ystyrlon yng Nghymru bellach. Os oes, OS oes, mae’r diolch i Neil McEvoy.

Nid oes a ŵyr beth a ddaw. Fy NHEIMLAD heno yw fod aelodau’r Blaid wedi gwneud peth tila ac anniolchgar, ac y gallant gael achos i ddyfaru.

Mwy at y mwd

7 Medi

Da iawn. ‘Cronfa’r Mwd’ wedi pasio’r targed o £5,000. Dyma gychwyn, ond mae’r trefnwyr yn rhagweld llawer mwy o gostau ac yn estyn yr apêl. Amdani eto felly Gymry, ac rwyf innau’n rhagweld y bydd raid inni wneud llawer mwy o hyn mewn gwahanol achosion. Golyga, ymhlith pethau eraill, y bydd raid i ni, y dosbarth proffesiynol cyfforddus Cymraeg, ymysgwyd o’r cybydd-dod sydd ym mêr ein hesgyrn, gwaddol ein cyndeidiau gwerinol. Meddyliwch mewn difri am Gronfa Alex Salmond yn cyrraedd can mil o bunnau mewn tridiau! (A’r Sgotyn sy’n grintachlyd medden nhw!)

Yn y cyfamser, yn ôl GOLWG 360 heddiw, mae rhai yn dal i fwydro am sylwadau Llywydd Llys yr Eisteddfod! Blaenoriaethau, myn coblyn i!

Cyfeiriad y gronfa: gweler y blog diwethaf.

O’r diwedd …

6 Medi

O’r diwedd dyma rywbeth cadarnhaol. Mae Cynghrair Gwrth-niwclear Cymru yn dod ag achos cyfreithiol yn erbyn Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyma’n cyfle ni i gyd-gyllido.  Amdani felly.  https://www.crowdfunder.co.uk/legal-action-against-nuclear-mud-dump

Duw’n dal i drio

2 Medi

Fel y mae’r hen flog hwn wedi dweud droeon, mae Duw drwy’r blynyddoedd wedi ceisio anfon pethau i ysgwyd y Cymry a’u cael i wneud rhywbeth ohoni. Y Llyfrau Gleision, y Welsh Not, Llanwddyn, Claerwen, Elan, Tryweryn, Clywedog, Yr Ysgol Fomio, George Thomas … &c &c. Dychmygaf Ef yn crafu ei ben. ‘Be ga’ i’r tro yma …?’ A daeth yr ateb. Wrth gwrs! Llwyth o fwd ymbelydrol am eu pennau nhw! Hwdiwch y twpsod!

Ond na. Mae’r mwd yn ôl-reit. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud.

Wel. Ethol llywodraeth Plaid Cymru yn 2021 – os cywir darogan Adam Price. Ei hailethol yn 2026. Ar y diwrnod cyntaf, datgorffori Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwahardd aelodau’r cwango diffaith, dinistriol hwn rhag dal swydd gyhoeddus yng Nghymru byth eto.

Nid ‘dyna ddylai Plaid Genedlaethol ei wneud’, ond dyna y byddai hi’n ei wneud petai hi’n Blaid Genedlaethol.