Archif | Ebrill, 2013

Tref Adam a Gaeltacht Meri

2 Ebr

Mae ystadegau iaith 2011 yn gyrru rhai ohonom i gythru am syniadau, braidd fel y dyn hwnnw a’r gwelltyn diarhebol.  Croeso i bob syniad newydd, ond iddo fod wedi ei wreiddio mewn realiti.  Bydd rhai o’r syniadau, yn naturiol, yn fwy creadigol a mwy sylweddol na’i gilydd.  Wrth edrych yn ôl, gofynnaf gwestiwn difrifol i mi fy hun.  Ai bod yr agenda wleidyddol, genedlaetholaidd dros y canmlwydd diwethaf – Emrys ap Iwan, Saunders Lewis, J. R. Jones – yn sylfaenol wallus?  Ynteu na bu neb ohonom ddigon o ddifrif wrth geisio’i gweithredu?  O bwyso popeth, daliaf i feddwl mai’r ail.  Daliwn i obeithio y daw gweledigaeth eto.  Mae angen inni feddwl yn bwyllog – ond peidio â chymryd gormod o amser chwaith. 

            Ymateb byr heddiw i ddau o syniadau’r dyddiau diwethaf.

            1.     Tref Adam Price.   Bu ‘Caeradda’ ac ‘Aberadda’ yn bur amlwg yn storïau’r hen Glyn Adda.  Ai troi un o’r rhithiau hyn yn sylwedd fyddai codi Tref Newydd Adam ar lan Menai? 

            Yn wir, wn i ddim beth i’w wneud o’r syniad, a gwelaf fod eraill yr un fath â mi.  Un o’r rhain yw awdur BlogMenai.  Gan ddechrau yn yr un ansicrwydd â minnau, mae ganddo drafodaeth bwyllog a golau dros ben dan y pennawd ‘Tref Gymraeg Mr. Price’. Ni allaf heddiw ychwanegu fawr ddim, dim ond taflu ambell gwestiwn a sylw digon brysiog.

            Tref Gymraeg? Onid oes gennym dref mor Gymraeg ag y gall yr un fyth fod yn y byd sydd ohoni, a’i henw Caernarfon?  Ble byddai’r dref newydd?  Rhwng Caernarfon a Bangor?  A fyddai unrhyw ganlyniad heblaw tanseilio Cymreigrwydd Caernarfon gan y gwrth-Gymreigrwydd Bangoraidd?

            A oes unrhyw reswm dros feddwl y byddai tref newydd yn newid agweddau a pholisïau yn sylfaenol?  Byddai’r Brifysgol ar y Bryn yn dal yno yr un fath, gyda’i dylanwad Seisnigeiddiol llethol.  Byddai cyrff cyhoeddus eraill yn dal i ystyried gwybodaeth o’r Gymraeg yn anfantais, a bwrw bod popeth arall yn gyfartal. A fyddai gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru yn y Gogledd yn Cymreigio o gwbl?  Beth am gwmnïau’r sector breifat, amryw wedi eu creu gan Gymry, ninnau’n eu cefnogi am y rheswm hwnnw, ond yn gorfod mynd trwy ryw wal o ‘you’ll have to speak English’ drosodd a throsodd a throsodd cyn cyrraedd y nwyddau neu’r gwasanaeth?  

             Beth fyddai economi’r dref?   Beth fyddai bywoliaeth y bobl?  Gwyddom beth yw siâp naw tref o bob deg yng Nghymru a’r Deyrnas erbyn hyn.  Tesco yn un pen, Morrisons y pen arall, a thwll yn y canol.  A oes unrhyw le i obeithio y byddai hon yn wahanol?

            Codwyd atodiad i dref Caernarfon yn ddiweddar, datblygiad Doc Victoria. Dyma le llethol o ddigalon.  Dinas y Meirwon.  Necropolis  – neu efallai Neb-Co’-Polis.  Argoel go wael.

            2.     Gaeltacht Meri Huws.   Gaeltacht?  Peidiwch â sôn am y peth!  Methiant ieithyddol a diwylliannol mwyaf Ewrop yn yr ugeinfed ganrif, creadigaeth y wladwriaeth olaf yn y byd y byddai dyn yn troi ati i chwilio am adfywiad iaith!  Rwy’n cofio mynd i chwilio am y lle flynyddoedd yn ôl, a diau fod llawer eraill wedi cael yr un profiad. Doedd yno ddim byd ond rhyw ddarn o lan môr fel Dinas Dinlle, a rhyw gwt sinc ar ei ganol ! 

            Na, doedd ‘Gaeltacht’ yn y fan hon yn ddim ond label brysiog, difeddwl neu naïf ar beth y mae’n rhaid ei ystyried bob amser, a pheth sydd wedi ei ystyried a’i drafod yn bur frwd yn ystod y blynyddoedd, sef bod angen, ac y gellir cael, polisi iaith gwahanol, cryfach, mwy cyffredinol mewn rhai ardaloedd o Gymru nag mewn eraill.  Yn ôl y down at ‘ddadl Adfer’ yn y 1970au; ac yn yr un cyfnod fe ddaeth dadl debyg iawn o gyfeiriad hollol wahanol, e.e. yn llyfr Clive Betts, Culture in Crisis (1976). Craidd y ddadl, o ba ochr bynnag y deuir ati, yw fod polisi iaith unffurf i Gymru gyfan yn gyfystyr â dim polisi o gwbl.  Hwyrach y dylwn fanylu a dweud ‘unffurf yn ei fanylion’, oherwydd dylai ei egwyddor a’i nod sylfaenol gael eu cydnabod ym mhobman, yn bolisi llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu’r Gymraeg.

            Yr oedd Adam Price yntau rywle ar yr un trywydd, ond yn gliriach ei feddwl na Meri Huws, pan soniodd am greu un awdurdod i siroedd y Gorllewin.  Byddai’n braf gallu dweud ‘Awdurdod y Fro’.  Ond blae mae’r Fro?  Ar bob map o Gymru hyd at 2011 yr oedd ‘y Fro Gymraeg’, ‘Yr Hen Dywysogaeth’, ‘Cymru Cunedda’ yn gyfan ac eglur.  Gydag ystadegau iaith 2011 dyma ergyd bwyell drwy ganol asgwrn ei chefn.  A ydym yn deall maint y trychineb?   A ydym yn wynebu’r rhesymau pam y digwyddodd?  Mae nifer o’r rheini.  Ond mae’r pwysicaf yn dechrau ag M-.

            Daliaf i feddwl mai yng nghyd-destun llywodraeth leol y mae meddwl am yr ateb. Gweler fy ysgrif ‘Amlder Cynghorwyr?’  Ailgreu’r wir Wynedd Uwch Conwy fel gwlad neu dalaith hanesyddol. Ailgreu Dyfed hefyd.  Cynllun, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy ddeddf, i wneud y Gymraeg yn iaith weinyddol y ddwy dalaith, –  gyda threfniadau arbennig i eithrio De Sir Benfro. Llywodraeth Cymru i osod nod a siars i Ddyfed: gwrthdroi ffigurau iaith 2011 erbyn y Cyfrifiad nesaf.

            Mesurau eraill hefyd. Ymgyrch ‘Rho waith i Gymro’.  Y Gymraeg yn iaith weinyddol Llywodraeth Cymru drwy’r un taleithiau. Ail-Gymreigio’r heddlu.  Gallwn adrodd stori am blisman ym Mangor, y diwrnod yr ymddeolodd Richard Brunstrom, yn dweud wrth aelod o’r cyhoedd: ‘I’m asking you, in the name of the law, to speak English’.  Siarad drwy ei helmed wrth gwrs. 

            Ond cofiwn fod mannau tu allan i’r Hen Dywysogaeth hefyd lle dylid, mewn amser, weithredu’r un drefn: rhan helaeth o Sir Ddinbych, Gogledd Maldwyn, Gorllewin Morgannwg.  Na soniwn am ‘Fro’ os nad ydym yn bwriadu ei hestyn. 

            Digon am heddiw.