Archif | Ebrill, 2018

Cwestiwn i Olynydd

24 Ebr

Gyda chyhoeddi ymddeoliad Carwyn Jones a’r dyfalu ynghylch ei olynydd, ni chlywais eto yr un o’r sylwebyddion yn galw i gof yr UN PETH MAWR a wnaeth Carwyn yn ystod ei dymor fel Prif Weinidog, sef cyhoeddi y byddai ‘mwy na chroeso’ i longau tanfor Trident angori yng Nghymru pe bai raid iddynt ymadael â’r Alban.

Dylai rhywun ofyn i’r olynydd, pwy bynnag  fydd ef neu hi, a yw hyn yn dal yn bolisi gan Lafur Cymru.

Nid y gwna unrhyw wahaniaeth yn etholiadol, oherwydd nid yw polisi’n golygu dim byd i drwch pleidleiswyr Llafur.  Gallai, hwyrach, fod yn berthnasol pe codai eto, mewn rhyw amgylchiadau, bosibilrwydd clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru, rhyw ‘Gymru’n Un, rhif 2’.

Ond wedyn, a yw ‘Plaid yr Ysgol Ddrôns’ yn poeni mwyach am bethau felly?

Enwi pont

6 Ebr

Wel ie, ‘pont dros ddyfroedd stormus’, chwedl y gân.

Da gweld tipyn o gorddi a chynhyrfu am rywbeth, mae’n debyg, yng ngwlad y marw-gwsg.

Ond arhoswch.

(1)   Pe bai arolwg o farn pobl Cymru gydag amryw enwau gerbron, y tebyg yw mai ‘Tywysog Cymru’ fyddai’n mynd â hi, a phobl y Cymoedd yn datgan eu teyrngarwch unwaith eto fel gyda’r Brexit.

(2)    Mewn gwlad lle gall cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd roi hanner miliwn o bunnau tuag at ddatblygu drôns, tra’n amddifadu gwasanaethau a mudiadau ieuenctid y sir, pam nad galw pont ar ôl mab y frenhines ?  Onid dyna’r peth mwyaf addas ?

* * *
Iawn, mi arwyddaf y ddeiseb os caf  hyd iddi. Ac iawn hefyd, rhai o wleidyddion y Blaid yn gwrthdystio. Ond Nefoedd fawr, Leanne, EDRYCH A GWÊL BLE MAE’R WIR SGANDAL YNG NGHYMRU, A RHO DY DROED I LAWR.