Cylchlythyr i law ddoe oddi wrth y Cyngor Llyfrau. Pwyntiau yn dilyn cyfarfod o’r Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi, a dyma un o’r pwyntiau:
“Mae’r Pwyllgor wedi gofyn i’r swyddogion edrych ar y defnydd o ‘rybuddion cynnwys’ ar lyfrau. Byddai’n dda clywed gennych os ydych wedi defnyddio rhybuddion o’r fath pan fo modd i gynnwys beri pryder i’r darllenydd.”
Wel naddo mae arna’ i ofn, nid yw hen gwmni bach Dalen Newydd wedi defnyddio rhybudd o’r fath hyd yma. Yn hynny o beth mae mewn cwmni da. Homer, Soffocles, Shakespeare, Dostoefsci – roisoch chi un o’r rhybuddion hyn ar flaen eich gweithiau? Ac yn wir beth am lên y Cymry? Y Gododdin, Canu Llywarch Hen, Y Mabinogi – dyna ichi weithiau sy’n cyfeirio at bethau go ofnadwy. Ac yn nes atom Rhys Lewis, Chwalfa,. Siwan, Ffenestri tua’r Gwyll, Tywyll Heno … heb sôn am hoff, ac unig, nofel disgyblion Lefel-A Cymru ! Oni ddylai eneidiau sensitif gael eu rhybuddio cyn darllen dim o’r rhain? O ran hynny, onid yw Teulu Bach Nantoer yn cynnwys un digwyddiad go frawychus? Ac yn Llyfr Mawr y Plant I, druan o ieir Eban Jôs !
Daw ton o chwŷs oer drosof innau wrth feddwl imi unwaith olygu a chyhoeddi’r gyfrol Canu Twm o’r Nant, sy’n cynnwys y llinellau
What is this gibberish, foolish fellow?
Dam i sil Satan! Dyma Sais eto!
ynghyd ag enghreifftiau gwaradwyddus eraill o anghywirdeb gwleidyddol!
Ond diolch byth, fe ysgafnheir fy nghydwybod ryw ychydig pan gofiaf fod clawr un o’m llyfrau (cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch) yn dwyn “RHYBUDD IECHYD: mae’r llyfr hwn yn cynnwys y gair ‘gwerthuso’.”
- * *
Maith ffolineb yr oes. Calliwch wir.