Archif | Chwefror, 2017

Dadl J.R.J. eto ?

28 Chw

Wee Ginger Dug ddoe’n trafod cynhadledd Llafur yr Alban. Ymhlith yr ymatebwyr mae Marconatrix, sy’n ein cyfeirio at yr ysgrif ddiddorol hon. I rai ohonom efallai y bydd yn dwyn i gof “ddadl J. R. Jones”.

Mae dros hanner canrif er pan gyflwynodd J.R.J. ei ddadansoddiad. Fe’i derbyniwyd yn frwd gan garfan o genedlaetholwyr, a daeth “Prydeindod” (a deall y term fel enw ar ideoleg) yn rhan o’r drafodaeth wleidyddol Gymraeg. Ond nid ydym ddim nes at gael trwch pobl Cymru i ddeall y neges. Os digwydd yr hyn yr ydym yn gobeithio y bydd yn digwydd yn yr Alban, bydd gêm yr wyth gan mlynedd diwethaf ar ben. Bydd Saeson a Chymry mewn sefyllfa hollol newydd. Fy nyfaliad yw y daw’r Saeson i’w deall yn weddol rwydd ac i’w derbyn yn weddol raslon. Ond beth am y Cymry? Sut yn y byd mawr mae cyfleu’r neges?

(A diolch Marconatrix am eich cefnogaeth gyson i’r hen G.A.).

Noson dda i’r Santes

24 Chw

Noson dda i’r Santes Theresa gyda chanlyniadau Copeland a Stoke-on-Trent neithiwr.

Copeland, y tro cyntaf ers cantoedd i blaid llywodraeth yng nghanol ei thymor ennill sedd oddi ar wrthblaid. Pam? Sut? O bell fel hyn, ni allaf ond dyfalu. (1) Curwyd UKIP (2025) i’r pedwerydd lle gan y Democratiaid Rhyddfrydol (2252) – canlyniad bach digon rhyfedd a diddorol ! Awgryma fod y Brexitiaid wedi rhoi eu ffydd yn y Ceidwadwyr, sy’n cadarnhau unwaith eto fod y Tori’n dal yn ddigon o Dori i’r Sais. (2) Er i’r ymgeisydd Llafur sicrhau a siarsio a phwysleisio a thanlinellu ei bod hi mor ymbelydrol â’r ddynes nesaf, mae’n ymddangos i’r Geidwadwraig argyhoeddi’r niwclear-garwyr yn well.

Corbyn oedd y ffactor medd yr enillydd Ceidwadol. Pobl Llafur yn teimlo nad yw’r arweinydd ‘yn eu cynrychioli nhw’. Gwir i raddau, fel y mae’r blog hwn wedi awgrymu droeon o’r blaen. Dyn o egwyddor yw Corbyn.

Rhoddodd y canlyniad beth calondid i’r Aelodau Seneddol Llafur sydd am gael gwared â Corbyn, ond dim digon, am y tro beth bynnag.

Stoke-on-Trent. UKIP yn methu ym mhrifddinas Brexit. A sylwer, llai na chant rhyngddyn nhw (5233) a’r Ceidwadwyr (5154). Yr un neges eto, gwytnwch y Torïaid yn wyneb pob her o’r ochr dde. Dyna wasanaeth a chymwynas fawr y Blaid Geidwadol dros y cenedlaethau, bod yn ddigon drwg ac yn ddigon gwirion fel ag i gadw’r caead ar bethau mwy sinistr.

O’r ddwy etholaeth, y neges fawr i Theresa yw ei bod hi’n eithaf diogel rhag UKIP. Gall ‘danio Erthygl 50’, cynnal rhyw fath o drafodaeth â gwledydd Ewrop ac yna dod yn ôl i adrodd ‘ddaw hi ddim, hogia’.  Peth ofnadwy o wirion yw proffwydo’r dyfodol, ond hyd yma rwyf am ddal at fy narogan na fydd Brexit.

Mae hyn yn gosod her fawr i genedlaetholwyr yr Alban, – a dyma’r peth pwysicaf o ddigon o safbwynt Cymru. Ffenest go fechan sydd yna, a rhaid bod yn weddol sydyn. Ond hefyd rhaid bod yn sicr o ennill. Y sgript orau fyddai bod Llundain yn dweud, ‘chewch chi ddim refferendwm arall’. Yr SNP’n ateb, ‘iawn, ar gefn ein mwyafrifoedd fe awn, Aelodau’r ddwy Senedd, i Arbroath ar ddiwrnod braf a chyhoeddi annibyniaeth.’ Ar y blogiau Albanaidd gwelaf fwy o gyfranwyr yn ochri at ryw ateb fel hyn.

Tro arall ar y twb

20 Chw

Wrth dderbyn hysbysiad o ddarlith gan Mererid Hopwood ar ‘Adroddiad Donaldson’ cofiais fy mod innau unwaith wedi trafod ychydig  ar yr un testun..  O ailddarllen yr hen  flog fe’i cefais yn ddigon diddorol.  Felly dyma fo eto, gan fod y pwnc yn dal yn fyw.

Llond twb o swigod

I law wele Dyfodol Llwyddiannus, sef Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru, wedi ei baratoi gan yr Athro Graham Donaldson a thîm o ymchwilwyr ar gais y llywodraeth.

Ydyn, maen’ nhw i gyd yma: seilweithiau, gwerthusiadau, pwysoliadau, cynaliadwyedd, capasiti, sybsidiaredd, strwythur, mesuriadau perfformiad, mewnbwn, cymwyseddau, addysgeg, empathi, sgiliau allweddol, sgiliau bywyd, continwwm dysgu, creadigrwydd (entrepreneuriaeth), mecanweithiau atebolrwydd, addysg berthnasol, adborth rheolaidd a chraff, dysgu symbylol a deniadol, arferion gorau, asesu ffurfiannol, cyfeiriadedd byd-eang, ymdrech ddisgresiynol ychwanegol, e-bortffolios ac e-fathodynnau personol, metawybyddiaeth neu ‘dysgu i ddysgu’, lefelau uwch o gymhwysedd digidol, ffocws cyffredinol ar gyfer atebolrwydd a gwella, briff clir ar gyfer llunio’r Deilliannau Cyflawniad, – oll yn cydweithio i roi inni ‘ddyfodol cyffrous’ mewn ‘Cenedl Ddigidol-Agile’. (Ie, fel’na). Mae yma nid yn unig asesu, arsylwi, gwerthuso a monitro; mae yma hefyd reoli risg, wynebu heriau, hybu cydlyniant, ffurfio perthnasoedd cadarnhaol, datblygu fframwaith cydlynol, prawfesur y cwricwlwm, dehongli data, cymhwyso cysyniadau, gwerthuso canfyddiadau, chwarae rolau, datblygu lefelau cymhwysedd uchel, meithrin cyfalaf proffesiynol, mireinio sgiliau metawybyddol, syntheseiddio a gwerthuso syniadau a chynhyrchion, alinio’r asesu â’r dibenion dysgu i asesu beth sy’n bwysig, creu cyd-destunau strwythuredig ar gyfer cyflwyno adborth adeiladol, datblygu’r capasiti ar gyfer system hunanwella, ac (olaf ond nid lleiaf) gwella’r synergedd rhwng trefniadau ar gyfer y cwricwlwm, asesu ac atebolrwydd. Hyn i gyd. Ond dim fictimeiddio. Diolch am hynny.

Fel pob Adroddiad Addysg ers deugain mlynedd, mae hwn eto’n darllen fel sgit ar Adroddiad Addysg. Gall atgoffa rhai ohonoch, fel mae’n f’atgoffa innau, o barodi a ymddangosodd unwaith yng ngholofn ‘Sêt y Gornel’ yn Y Cymro, cyn atal y golofn honno (fel y daeth i’r golau wedyn) gan flacmel o Goleg Aberystwyth. Nid yw pobl sydd, heb wên ar eu hwynebau, yn gallu sgrifennu peth fel hyn yn deall beth yw parodi na sgit na dychan nac eironi. Ni allant eu hadnabod eu hunain mewn cartŵn. Robotiaid ydynt, bodau heb fod o gig a gwaed, wedi eu cloi yn eu byd eu hunain o hocws-pocws. Am yr eirfa y dyfynnais ddigon ohoni uchod, dywedaf hyn. Y tro nesaf y bydd unrhyw rai ohonoch yn sgrifennu dogfen ar addysg, triwch beidio’i defnyddio. Mwy na hynny, peidiwch â defnyddio yr un gair ohoni o gwbl, byth, mewn unrhyw beth ysgrifenedig nac ar lafar. ‘Pam?’ meddech chwithau. Am ei bod yn arwydd o wendid moesol a seicolegol. Jargon ydyw a ddyfeisiwyd oddeutu’r 1960au gan siarlataniaid byd Addysg, ac a ailadroddir gan grafwyr a llyfwyr y byd hwnnw am fod y rhai uwch eu pennau yn ei hailadrodd ar ôl rhywrai eraill. Digon! Dim mwy!

Ymaith hefyd â’r defnydd anghywir, anfad o ‘addysgu’ (addysgu llythrennedd a rhifedd &c), un arall o ffolinebau’r 1960au. Nid oedd amwysedd traddodiadol y gair ‘dysgu’ yn dramgwydd i unrhyw Gymro, ac ni bu creu amwysedd newydd yn help yn y byd i neb.

Wedi dweud cymaint â hyn am yr ieithwedd, a oes ddiben dweud unrhyw beth am y cynnwys? Mi ddywedaf beth neu ddau, rhag ofn imi wneud cam. Bydd gennyf bedwar pennawd: (1) Cytuno. (2) Amau. (3) Dychryn. (4) Anghytuno.

§

(1) CYTUNO

Mae’r gefnogaeth i ddysgu’r Gymraeg a gwreiddio’r disgyblion yn niwylliant Cymru yn ddigon cyson a chadarnhaol drwy’r adroddiad. Cwestiwn na ddeuir ato yw pam nad ydym yn llwyddo’n well yn hyn. Pam, er enghraifft, y mae’r Gymraeg yn ‘bwnc amhoblogaidd’ erbyn cyrraedd dosbarthiadau uchaf yr ysgol? A oes a wnelo hyn mewn unrhyw ffordd â’r cwricwlwm? Fel yr awgrymais beth amser yn ôl (gweler blog 2 Mawrth 2013), gall fod a wnelo i ryw fesur â pheth arall, cysylltiedig ond ychydig yn wahanol, sef y sylabws neu’r maes llafur. Cyfeirio’r oeddwn at benderfyniad rhywrai i osod testunau Cymraeg ‘modern’ neu ‘gyfoes’ disylwedd ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus, a’r rheini’n troi ymaith rai o’r disgyblion galluocaf lle gallai rhai o’r hen glasuron ennyn eu sylw a’u serch yn well. Ond esboniad rhannol iawn yw hyn.

(2) AMAU

Fel pob Adroddiad Addysg mae hwn hefyd yn amcanu bod yn flaengar. Mae ynddo, medd ef ei hun, ‘gynigion radical a phellgyrhaeddol’. Er chwilio, ni allaf yn fy myw weld pa rai yw’r rheini. ‘Os ceir amharodrwydd i ildio agweddau ar y cwricwlwm sydd heb fawr o berthnasedd wrth ychwanegu disgwyliadau newydd yr un pryd, gall hynny roi pwysau cynyddol ar ysgolion ac athrawon.’ Ond a ddywedir beth yw’r hen sbwriel amherthnasol sydd i fynd allan drwy’r ffenest? Na ddywedir yn unman, hyd y gwelaf i. Mae yma beth cyferbynnu rhwng (a) ‘pynciau’ yn ôl y dull traddodiadol o’u dosrannu, a (b) ‘meysydd dysgu a phrofiad’. Ond pan eir i edrych mae’r gwahaniaeth rhwng y rhestrau o’r naill ac o’r llall mor fychan fel nad oedd yn werth treulio amser uwchben y peth o gwbl. Does dim byd terfynol na chysegredig ynghylch arlwy draddodiadol y pynciau, a da o beth yn sicr yw ceisio gweld pethau’n gyfannol, neu’n ‘draws-gwricwlaidd’ chwedl yr adroddiad; ond i athro a chanddo dipyn o sylwedd a diwylliant fe ddaw hynny’n naturiol. Hen gân o’r 1960au eto yw cyferbynnu’r ‘pwnc-ganolog’ â’r ‘disgybl-ganolog’ gan ffafrio’r ail. Ond dywedaf hyn, o beth profiad. Yr athrawon gorau yn fy nghof i, yn cynnwys y rhai y cefais i gymorth ac ysbrydoliaeth fawr o’u harweiniad, oedd y rheini a chanddynt wybodaeth ddofn o’u pynciau. O ddyfnder yr wybodaeth y dôi’r awydd i rannu a throsglwyddo’r wybodaeth honno, ac o hynny wedyn yr awydd i weld ein llwyddiant ni ddisgyblion. Dylwn ddweud mai am athrawon ysgol yr wyf yn sôn, a phetawn yn eu rhestru gallwn gynnwys y rhan fwyaf o ddigon o’r athrawon uwchradd a ges i, chwarae teg iddyn nhw. Am ryw reswm ni bu ac nid yw hi yr un fath yn y prifysgolion. Yno, nid yw dyfnder dysg yn arwain bob amser na’r rhan amlaf at sêl dros fyfyrwyr, nac at unrhyw ddiddordeb ynddynt. Beth sy’n gyfrifol am y gwahaniaeth, wn i ddim. Prin mai’r flwyddyn o hyfforddiant athro.

Un ffordd o fod yn flaengar yw dweud ‘digidol’ yn ddigon aml. Ond mae’r bregeth hon hefyd yn ddeg ar hugain oed, ac arwydd o naifder yw rhygnu arni. (Yr un modd, a’r unfed ganrif ar hugain bellach yn bymtheg oed, onid yw’n bryd rhoi’r gorau i sôn am lusgo’r peth yma a’r peth arall i mewn iddi?) Yn amlwg bu plant clyfar-clyfar yn cwyno am eu hathrawon wrth aelodau’r pwyllgor. ‘Un testun pryder a godwyd droeon gan y plant a phobl ifanc a siaradodd â Thîm yr Adolygiad oedd eu canfyddiad bod y cwricwlwm ysgol presennol wedi dyddio mewn perthynas â thechnoleg ddigidol. Cyfeiriwyd at ffyrdd llafurus o’u haddysgu i drin meddalwedd a oedd yn hawdd ei defnyddio’n reddfol neu a oedd wedi dyddio’n barod yn eu barn nhw.’ Hynny yw, mae’r plant yn medru gwneud rhyw fabolgampau cyfrifiadurol sydd y tu hwnt i allu a phrofiad eu hathrawon crydcymalog. Os felly, gadawer iddynt. Pa angen eu dysgu?

Mae’r gŵyn, fe ymddengys, yn ehangach eto. Roedd rhai o’r plant am gael gwersi sy’n fwy perthnasol a diddorol, mwy o wersi ymarferol, mwy o hwyl. Go dda yntê? Llai o waith hefyd efallai. Efallai na wyddai awduron yr adroddiad mai dyma’r math o beth a ddywedir gan blant digywilydd heb fawr yn eu pennau, plant y dylid eu cynghori i gau eu cegau os nad oes ganddynt rywbeth o werth i’w ddweud. Hanfod dysgu, meddai fy nhad-yng-nghyfraith – a wyddai beth neu ddau am y maes – yw dweud wrth y to sy’n codi am eistedd i lawr. Dywedaf eto, oherwydd dyfnder dealltwriaeth ein hathrawon o’u pynciau, fe gawsom ni, blant ffodus y 1950au, ddogn go lew o’r pethau ychwanegol hynny ym mhen gwybodaeth – diddordeb, diddanwch, ysbrydoliaeth, ie hwyl hefyd. Fe gawsom ar ambell awr – er fy mod yn petruso ddefnyddio’r gair – brofiad bach o gyffro’r deall. (Petruso, am mai gwedd ar wiriondeb ein hoes, a digon ohoni yn yr adroddiad hwn, yw’r disgwyl i bob peth fod yn ‘gyffrous’! Gadawer i rai pethau beidio â bod yn gyffrous.)

Weithiau daw’r hen sgeptig i sibrwd yn y glust, a rhaid maddau iddo. Mae’n demtasiwn aralleirio ambell frawddeg a gweld beth a ddywedid mewn iaith fwy plaen. ‘Mae beiau’n codi’n aml wrth asesu mewn cysylltiad â manylebu, dilysrwydd, dibynadwyedd a chymhwysedd athrawon.’ Edrycher ar y geiriau un ac un. Onid yr hyn a feddylir yw fod athrawon – rhai, beth bynnag; gormod, a barnu wrth y gair ‘aml’ – yn ffwrdd-â-hi, yn gelwyddog, yn annibynadwy ac yn dwp?

Teimlad yr hen sgeptig eto am y pedwar nod sy’n fyrdwn yr adroddiad. Dyma’u dyfynnu, rhag ofn fy mod yn gwneud unrhyw gam â hwy yn yr hyn a ddywedaf:

‘Dibenion y cwricwlwm yng Nghymru yw ceisio sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu:
> yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
> yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
> yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.
> yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.’

Iawn, mae’n debyg. Digon diniwed. Digon clodwiw rywsut. Ond beth am y trydydd nod? Os na ddigwydd rhyw chwyldro diwylliannol mawr yn rhywle, y tebygrwydd uchel yw mai tyfu’n ddarllenwyr y Sun fel eu rhieni a wna’r rhan helaethaf o blant y genhedlaeth hon eto. Gall yr ysgol, gyda lwc, wneud tipyn bach i rwystro’r dynged honno, ond dim llawer mae’n beryg. Fe’n dysgwyd ni blant Ysgol Dyffryn Nantlle, tua’r 13-14 oed, i ddarllen papur newydd yn feirniadol gan gadw’r pot halen o fewn cyrraedd a gofyn bob amser gwestiynau fel pwy piau’r papur a pha fuddiannau y mae am eu hyrwyddo. Mi gredaf yn wir fod yr effaith wedi para ar rai ohonom. Ond hyn-a-hyn y gall yr ysgol ei wneud, er pob ymdrech. Fy nheimlad am yr adroddiad drwodd a thro yw ei fod yn gofyn i’r ysgol wneud gormod. Yn hen ffasiwn eto, daliaf mai trosglwyddo gwybodaeth yw gwaith ysgol a bod rhai pethau, pethau go bwysig hefyd, y mae’n rhaid eu gadael i ‘Brifysgol Fawr Bywyd’ chwedl yr hen ystrydeb. Enghraifft fechan ddigon dibwys o hyn. Mae’r adroddiad o blaid ‘dysgu a meithrin sgiliau ymarferol ar gyfer bwyta’n iach’. Iawn, ond os yw’r hogyn yn cael blas ar Ddafydd ap Gwilym a Monster Munch fel ei gilydd, gadawer iddo er mwyn y nefoedd! Mae rhai ohonom yn hoffi bwyta sgrwtsh, eraill yn hoffi ei sgwennu.

(3) DYCHRYN

Dyfynnir adroddiadau cynharach, ac yn wir mae un o’r rheini yn waith ‘Arad Research’! Mi neidiais lathen o’m cadair! Beryg fod hwn yr un ag ‘Arad Consulting’ gynt, y cnafon bach dan-din a dauwynebog a argymhellodd yn erbyn Coleg Cymraeg Ffederal ar ôl bod mor wên-deg wrthym ni, dirprwyaeth a oedd yn ymgyrchu trosto? Mi glywais fod yr Arad wedi newid ei henw, a dyma’r englyn a luniais ar y pryd:

Dan ei glew enw newydd – hen natur
Hon eto yw’r aflwydd.
Holl hanes ei lles a’i llwydd
Yw ’redig mewn gwARADwydd.

(4) ANGHYTUNO

Un enghraifft fydd ddigon. Yn dilyn ‘arsylwi ar eu proses dysgu eu hunain’ a ‘meithrin sgiliau hunanasesu’ eir ymlaen at ‘gymedroli gan gyfoedion.’ ‘Mae asesu gan gyfoedion yn ddull lle y mae plant a phobl ifanc yn asesu gwaith ei gilydd mewn parau neu grwpiau.’ Gofal, er mwyn popeth! Dyma wahoddiad agored i ddisgybl digywilydd, maleisddrwg danseilio hyder disgybl llai ymwthgar, yn enwedig os yw hwnnw’n alluocach nag ef. Onid yw’r awduron yn cofio sut rai oeddem yn blant? Gydag eithriadau (a byddaf yn cofio’n ddiolchgar bob amser am yr eithriadau hynny) nid yw plant yn dod yn gyfeillion parhaol, sefydlog nes maent yn rhyw 16-17 oed. Cyfeillion a gelynion bob yn ail ydynt hyd at hynny, weithiau cyfeillion a gelynion yr un pryd, a gallant newid ochr sawl gwaith yr un diwrnod. Ond nodwedd adroddiadau ar addysg yw eu bod yn symud a bod mewn byd o theori heb lygad na chlust i’r ‘hen natur ddynol’ honno y soniai Daniel Owen amdani ac y gwelai ef angen weithiau ddweud y gwir amdani ‘yn ei hwyneb’.

§

Fel droeon o’r blaen wyneb yn wyneb ag adroddiadau addysgol, y gymhariaeth gyntaf a ddaeth i’m meddwl yw tywallt powdwr golchi i lond twb o ddŵr a’i droi rownd a rownd a rownd efo llwy bren fawr i gynhyrchu mwy a mwy a mwy o swigod. Ond mae’n waeth na hynny hefyd. Mae sylweddau gwenwynig yn y dŵr, ac o’i gorddi fe dry yn drwyth gwiddanod o nonsens niweidiol. Mae rhywbeth mawr iawn o’i le ar gymdeithas sy’n cymryd stwff fel hyn o ddifri.

‘Could do better,’ meddai’r hen adroddiadau ysgol ers talwm, ac ymddengys mai dyna ddyfarniad cyffredinol yr adroddiad ar ein holl ymdrech addysgol yng Nghymru. Mae yma boeni am arolygon PISA ac adroddiadau Estyn, ‘sydd yn dangos nad yw’r lefelau cyrhaeddiad mor uchel ag y gallent ac y dylent fod.’ Nac ydynt wrth gwrs, meddai unrhyw un â’i lygaid yn ei ben, wedi hanner canrif o anfon allan o Gymru ei phlant galluocaf, arfer yr ymddengys bod y llywodraeth hon yn awyddus i’w pharhau. Gweler blogiau 4 Rhagfyr 2013 a 15 Ionawr 2015. Yn wir, gan mai’r polisi yw gwacáu Cymru o’i doniau, pa ddiben cynnal ymchwiliad ar addysg o gwbl? Fel Albanwr, tybed na allai’r Athro Donaldson sibrwd gair bach yng Nghymru am lwyddiant yr Alban yn cadw’i myfyrwyr galluog gartref drwy’r ddyfais seml, effeithiol o’u gwobrwyo’n ariannol?

Un dyfyniad eto cyn cloi:

‘Dylai’r rhaglenni dysgu proffesiynol cychwynnol ac ar hyd gyrfa gynnwys elfennau sy’n meithrin capasiti athrawon i asesu’r holl ddibenion cwricwlwm a deilliannau cyflawniad.’

Ie, bregliach brain byd Addysg. Dysga di’r ieithwedd yma ’ngwas i, ac mi ei di yn dy flaen.

Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi croesawu’r adroddiad ac am inni gynnal ‘sgwrs fawr genedlaethol’ ar ei sail. Yr unig dro imi gwrdd â Mr. Lewis fe dorrodd y sgwrs yn fyr iawn a cheisio atal fy nhystiolaeth i un o bwyllgorau’r Cynulliad, – gweithred heb gynsail yn holl hanes democratiaeth seneddol, clywais ddweud wedyn. Ryw ddiwrnod, os byw ac iach, peidier â synnu os â’r hen G.A. yn ei ôl i’r Bae i orffen y frawddeg na chafodd ei gorffen y diwrnod hwnnw yn 2001.

Gweithgaredd cwbl ddi-fudd yw paldaruo am Addysg. A dyma finnau wedi bod wrthi eto.

O.N.  20.2.17.    Os byth y dychwelaf i’r Cynulliad o orffen fy mrawddeg, ni bydd Huw yno i’w chlywed.  Trueni !

Ie, llanast …

15 Chw

Newydd i’w groesawu yn sicr yw fod cabinet Gwynedd ddoe wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad pellach ar ddyfodol addysg yn ardal Penllyn. Ystyr hyn yw fod ailfeddwl ynghylch yr holl syniad o wneud yr ysgol newydd 3-19 oed yn ysgol eglwysig.

Ysgogiad uniongyrchol yr ailfeddwl yw fod esgobaeth Llanelwy wedi mynegi, mewn llythyr at yr awdurdod addysg, anfodlonrwydd ar delerau’r cytundeb a fu rhwng y ddwy ochr oddi ar ganol 2015.

Wedi’r penderfyniad ddoe daw’n llawer mwy tebygol mai ‘ysgol gymunedol’, fel y dywedir, sef yn yr achos hwn ysgol heb fod dan reolaeth unrhyw enwad crefyddol, a fydd yn agor yn y Bala. Byddai hynny, yn ôl pob tystiolaeth, yn unol â dymuniad mwyafrif mawr y rhieni a’r ardalwyr.

Fel y gellid disgwyl, nid yw’r esgobaeth yn hapus. Cyhuddodd yr awdurdod addysg o wneud “llanast llwyr”.

Oes mae llanast, oddi ar y dydd y cytunodd rhyw rai o weinyddwyr addysg y sir y byddai ysgol eglwys yn syniad da, heb roi yn gyhoeddus unrhyw esboniad ar eu penderfyniad rhyfedd. Yr oedd yn gyfrinach agored fod hyn yn rhan o gytundeb sinigaidd â’r esgobaeth, y ceid cydsyniad i gau ysgolion cynradd eglwysig yr ardal Dolgellau dim ond i’r Eglwys yng Nghymru gael rheolaeth ar addysg ym Mhenllyn.

Dylid galw’r gweinyddwyr hyn i gyfrif a gofyn beth mewn gwirionedd ac yn enw pob rheswm yr oeddent yn meddwl ei gyflawni.

Dylid gofyn cwestiynau hefyd ynghylch yr union gysylltiad rhwng y cytundeb hwn a’r deng miliwn o bunnau a addawyd tuag at y datblygiad. Yr oeddem ar ddeall mai gan lywodraeth Cymru yr oedd yr addewid hon. Nid yw’r ddau gyn-weinidog addysg, Huw Lewis a Leighton Andrews, yna mwyach i eglurhau’r sefyllfa, ond byddai’n dda pe gallai’r gweinidog presennol, Kirsty Williams, roi sicrwydd fod yr arian yn dal ar gael ac nad yw mewn unrhyw fodd ynghlwm wrth drefniant enwadol.

Ganol Medi 2015 bu i gabinet Gwynedd roi sêl bendith ar y trefniant hwnnw. Gydag aelodau’r cabinet, mae’n ymddangos, wedi gweld peth goleuni o’r diwedd, gobeithio y bydd i rai cynghorwyr bwyso’n galed arnynt i esbonio pam y penderfynasant fel y gwnaethant o’r blaen. Daw cyfle i wneud hynny pan ddaw’r mater gerbron y cyngor cyfan ym mis Mawrth – peth a ddylai fod wedi digwydd yn llawer cynt.

Mae llywodraethwyr Ysgol y Berwyn yn awr wedi datgan na byddant yn dymuno gweithredu fel llywodraethwyr ysgol enwadol. Unwaith eto, pam nad flwyddyn a hanner yn ôl? Yr oedd y gwrthwynebiad yn ddigon amlwg bryd hynny.

Am fisoedd bu’r cynghorwyr sir lleol o Benllyn yn amharod i ddweud dim byd y naill ffordd na’r llall. Bellach dyma hwy i lawr o ben llidiart. Unwaith yn rhagor, pam yr oedi?

Hyd y gwn, ni ddywedodd yr eglwysi yn lleol ddim byd. Beth oedd yn bod ar y rheini?

Ac fel yr wyf wedi crybwyll o’r blaen, ofer disgwyl unrhyw arweiniad gan yr undebau athrawon.

Byddwch, gobeithio, wedi darllen llythyrau ardderchog Dylan N. Jones mewn rhifynnau o’r Cymro. Ac yn awr yn rhifyn cyfredol Barn dyma Dewi T. Davies, cyn-brifathro Ysgol y Berwyn, yn ei dweud-hi fel y dylid.

Gwyntyllodd Karen Owen y mater yn Y Cymro pan oedd trafod o’r blaen. Oddi ar ymadawiad Karen â’r Cymro bu’r wasg a’r cyfryngau Cymraeg yn hynod ddistaw. Mae fel petai rhyw gytundeb yn rhywle i beidio â gofyn cwestiynau ac i “gadw ar” rai pobl, pa wiriondeb bynnag y maent yn gyfrifol amdano.

Erbyn y diwedd bydd llai o lanast, gobeithio. Ond llanast a fu, a Chyngor Gwynedd fu’n gyfrifol. Ni ddylem anghofio hynny.

Cyngor dan reolaeth Plaid Cymru yw hwn. Mae Blog Glyn Adda dros y misoedd diwethaf wedi bod yn bur gefnogol i arweinyddiaeth Leanne Wood. Yr oedd ei her i Carwyn Jones ddoe ar fater addysg yng Nghwm Gwendraeth yn briodol iawn. Ond mae’n bryd i Leanne roi ei throed i lawr, arfer tipyn o ddisgyblaeth bleidiol a siarsio’i chynghorwyr a’i gwleidyddion lleol fod rhai gweithredoedd a dewisiadau hollol wirion nas goddefir. Un o’r rheini yn sicr yw cefnogaeth Pleidwyr ym Môn i gynllun Wylfa B. Ac y mae helynt addysg Penllyn yn achos eglur arall. Cyn y daw rhai ohonom yn ôl i bleidleisio dros y Blaid, bydd raid inni gael sicrwydd a thystiolaeth ei bod hi’n rhywbeth amgen na chyfrwng i ethol twpsod a ffyliaid na ddeallant ddim am hanes Cymru nac na faliant ddim am hawliau sifil.

Fel y cofia rhai ohonoch efallai, bu’r hen G.A. yn corddi am y pwnc hwn o’r blaen, ac roedd angen. Mae’r ystyriaethau’n dal yn rhai byw, ac yn wir llosg. Gweler felly:

Ysgol ac enwad

Ysgrythur ac ysgol

Penderfyniad Gwallgo Pennau Defaid Cabinet Gwynedd

Addysg enwadol — a dim dewis

Chwaraewyr eraill

Gweledigaeth Ieuan Gwynedd

Yn iach o’r clwy

12 Chw

Wrth ddarllen gwaith Pantycelyn ar dri chan mlwyddiant ei eni, dyma sylwi ar y pennill hwn:

Ni all fy meiau, er eu rhif,
A’u cynddeiriogrwydd cas,
Eu sgil, eu dyfais faith, a’u grym
I faeddu dim o’th ras.

Dyma’r defnydd traddodiadol, llafar, cywir o’r gair SGIL. Tric, dichell yw’r ystyr. Yn wahanol i lawer heddiw, nid oedd yr Hen Bant yn dioddef o’r CLWY SGILIAU.

Gefn Gaeaf fel hyn, mae heintiau diflas eraill o gwmpas, ac enwi dim ond y CLWY GOFOD, y CLWY ADDYSGU a’r CLWY PERSON. I’ch cadw rhagddynt, mynnwch eich copi o’r llyfryn Iawn Bob Tro. £8.00, a disgownt i sefydliadau am archebion da.

Ddim y tro hwn

5 Chw

Fel eraill ohonoch rwy’n siŵr, byddaf yn derbyn y dyddiau hyn lawer o e-ddeisebau gyda cheisiadau i’w  cefnogi.  Mae’r rhan fwyaf yn achosion teilwng, er enghraifft mi arwyddais ddwy ddeiseb yr wythnos ddiwethaf: (a) yn erbyn gwahodd Trump, a (b) yn erbyn cyflwyno addysg enwadol orfodol yn ysgolion Gwynedd. (Ac ychwanegaf yma, gobeithio nad oes neb nad yw’n deall fod yr ail, o safbwynt hawliau sifil, lawn cyn bwysiced â’r gyntaf.)  Ond daeth un ddeiseb nas arwyddais, un yn cefnogi Carol Vorderman yn ei hymgais i gael urdd marchog i’r olaf sy’n fyw o’r enwog Sgwadron 617  o’r Llu Awyr, y ‘Dam Busters’. Un o symtomau cyflwr Prydeindod bellach yw taerineb y Sefydliad a’i gynffonwyr i wasgu’r diferion olaf o atgof rhyfeloedd yr ugeinfed ganrif;  ac yn yr atgof  hwnnw mae i ollwng ffrwydron le arbennig. (Dyna pam, o’r tu arall, y mae’r fath arwyddocâd i Losgi Ysgol Fomio.)   Ar fater ‘Chwalu’r Argaeau’, ceisiais eglurhau fy meddwl mewn stori y gellir ei darllen yn fy nghyfrol Camu’n Ôl a Storïau Eraill, t. 290.