Archif | Ionawr, 2021

Cefnogwch y ddeiseb!

31 Ion

● Ers blynyddoedd lawer rwyf wedi derbyn dadansoddiad ‘Deddf Parkinson’, fod gormod o staff mewn cyrff cyhoeddus, a’r cyrff o ganlyniad yn llai effeithiol.  OND: mae’r toriadau a orfodir heddiw gan Lywodraeth Cymru ar y Llyfrgell Genedlaethol yn afresymol ac anesgusodol, a dyna pam rwyf wedi arwyddo’r ddeiseb at Bwyllgor Deisebau’r Senedd. 

● Dros y blynyddoedd eto rwyf wedi dysgu mai pen draw ymdaith bron bob deiseb at awdurdodau, os nad oes rhyw sancsiwn gyda hi, yw y bin sbwriel. SERCH HYNNY: mae’n rhaid trio dweud rhywbeth yn rhywle, ac rwy’n cefnogi’r ddeiseb hon.

● Fwy nag unwaith o’r blaen ar y blog hwn ac mewn mannau eraill rwyf wedi dyfynnu geiriau’r gŵr doeth, fod pobl weithiau’n cael cyfnodau o fynd yn fwy tebyg i wladwriaeth ac yn llai tebyg i genedl.  Ymddengys mai dyna sy’n digwydd i Gymru oddi ar ddatganoli. Bu, ac mae o hyd, yn gyfnod o danseilio a dymchwel pethau sy’n wir allweddol i’n parhad, ac nid oes enghraifft fwy llachar na sgandal fwy gwarthus na’r ymosodiad ar Brifysgol Cymru, 2007-11.  Yn awr bobol, ble bryd hynny yr oedd y sefydliad addysgol a diwylliannol Cymraeg yn cwato, cyfran uchel o’i aelodau yn raddedigion y Brifysgol?  Ble, er enghraifft, yr oedd staff y Llyfrgell Genedlaethol? Nemesis?  Eitha’ gwaith?  SERCH HYNNY OLL, rwy’n cefnogi’r ddeiseb.

● Oes, mae a wnelo mae’n siŵr â lliw ein llywodraeth, sef llywodraeth y Llaw Farw, marweidd-dra traddodiadol Llafur, ei diffyg amgyffred a’i diffyg dychymyg.  Ond mae mwy na hynny yma y tro hwn. Mae yma gastiau mul a mynci busnas.  Mae rhywun yn rhywle, o ryw gymhelliad nad hawdd rhoi enw arno, yn mynd ati i sbeitio a sarhau. Mae’n rhaid o leiaf, i’r Pwyllgor Deisebau drafod y ddeiseb; cawn weld beth a wna’r gwleidyddion wedyn. Dyna pam yr wyf yn cefnogi’r ddeiseb.

● Dim gwir wrthblaid ychwaith. Dywedwch fod Llafur wedi’r etholiad (mis Tachwedd bellach medden nhw) yn gwahodd Plaid Cymru i fod yn gynorthwy-ydd bach mewn clymblaid. Gallai Plaid Cymru ateb: ddim heb ddad-wneud y difrod hwn i’r Llyfrgell Genedlaethol a chau allan o’r cabinet bob gweinidog a fu’n gyfrifol amdano.  A wnâi hi hynny …?  YN Y CYFAMSER: rhaid inni gefnogi’r ddeiseb.

● Dim sylwebaeth o unrhyw sylwedd chwaith. Bu dirywiad enbyd oddi ar yr adeg pan oedd  y ddwy raglen newyddion ddyddiol, Y DYDD a HEDDIW yn cystadlu â’i gilydd mewn ysgogi trafodaeth.  A byddai’n dda cael UN cyhoeddiad wythnosol yn codi llais a rhoi arweiniad.  OND: yn niffyg dim arall, cefnogwn y ddeiseb.   

● HEDDIW !

Cyfrinach Trump ?

21 Ion

Dyna Joe Biden wedi ei ‘sefydlu’. A pharhau â’r ieithwedd Ymneilltuol, ni chawsom fendith gan ein hannwyl gyn-weinidog, ac ni welwyd cynrychiolaeth gref o frodyr a chwiorydd yr eglwys arall.

Wrth ystyried y dyfodol a’r rhagolygon, clywir y doethion ymron i gyd yn sôn am ‘berthynas fwy normal’ rhwng yr Unol Daleithiau a gweddill y byd. A’n helpo os gwir hynny! Ac wrth edrych yn ôl ar oruchwyliaeth Trump, rhaid cofnodi rhai pethau:

● Ni fomiodd mo Iran.

● Ni chychwynnodd ryfel ag unrhyw wladwriaeth arall.

● Fe geisiodd gymod â Gogledd Korea.

Beth bynnag am y ffordd y triniodd ei wlad ei hun, nid yw ei record dramor yn cymharu am funud â chatalog troseddau echrydus rhagflaenwyr fel Truman, Kennedy, Johnson, Nixon, Reagan a’r ddau Bush.

Rwy’n meddwl fy mod yn gweld beth oedd cyfrinach Trump, a chewch chi feddwl am fy namcaniaeth. Fe gymerodd arno ei fod yn waeth nag oedd. Fe wnaeth hynny drwy siarad yn gwrs, yn goman, yn eithafol, yn afresymol, yn simplistig, yn greulon, yn fabïaidd. Fe actiodd hogyn drwg drwg. Pam gwneud hynny? Am mai drwg yw pobl, ac am mai drwg y maent yn ei hoffi. Dyma gyfrinach a ddeellir gan unbeniaid a demagogiaid bob amser, ac mae digon ohonynt ar draws y gwledydd heddiw. Nid oes well enghraifft na Pwtyn.

A fydd hyn yn galluogi Trump i ddod yn ôl ‘mewn rhyw ffurf’ fel y soniodd ddoe? Amhosibl dweud. OND gyda’r dyn ei hun wedi gorfod encilio, mae ei gefnogwyr yna o hyd. Mae’r rhain yn nifer mawr, tua hanner y wlad, ac rwy’n amau eu bod yn credu efengyl Trump yn fwy llythrennol ac yn fwy angerddol nag ef ei hun. Mae canran go uchel ohonynt yn hollol wallgo. Sut mae gwneud pobl wirion yn gall? Sut mae eu diddyfnu o’r nonsens y maent wedi mynd i’w gredu? Cyfyd y cwestiwn yn ddigon aml mewn hanes, ac un o broblemau America yw nad yw’r sefydliad rhyddfrydig byth yn barod i droi’r tu min fel y dylai tuag at eithafwyr y Dde. Dylai pethau fel y KKK a’u cymheiriaid o wahanol raddau fod wedi eu herlyn, eu cosbi’n galed a’u diwreiddio o’r tir ganmlwydd yn ôl fel na chodant byth eto. Ond mae’r Chwith honedig bob amser yn ofni’r Dde. Daw i’r meddwl o hyd ddamcaniaeth Lenin, mai pleidiau’r Chwith, o dan gyfalafiaeth, sy’n gwneud y pethau gwir adweithiol. Ai Lenin yw’r awdurdod gorau ar beth sy’n ‘adweithiol’ a beth nad yw, sydd gwestiwn mawr arall.

Ddim ar unrhyw gyfri

16 Ion

Darllen y bore ’ma (BBC Cymru Fyw) fod cwmni o’r enw Shearwater Energy yn ystyried adeiladu ‘adweithyddion niwclear bychain’ ym Môn, nid ar safle’r Wylfa ond yn gyfagos, ynghyd â fferm wynt yn gwmpeini iddo. Ac adroddir fod y cwmni’n sôn am gynlluniau tebyg yn yr Alban ac Iwerddon.

Dibynnwn yn awr felly ar lywodraethau’r Alban ac Iwerddon i ddweud ‘anghofiwch o’ yn syth.

Gadewid y penderfyniad wedyn i gynghorau Môn a Gwynedd (gan fod mwmian am rywbeth tebyg yn Nhrawsfynydd).

Polisi Plaid Cymru, yn ôl y diwethaf a glywsom, yw ‘dim mwy o niwclear’. Os yw hi o ddifri, dylai hi yn awr gyfarwyddo’i holl gynrychiolwyr etholedig, ar bob lefel, nad ydynt i gefnogi cynlluniau fel hyn yn yr un o’r ddau le.

A wneir hyn?

Gwahoddaf Adam Price i ateb y cwestiwn.

Dirgelwch y Gigfran Goll !!

14 Ion

MIWSIG: 4edd Symffoni Tshiaicofsci !!

Mae’n S.O.S. !!

Mae un o gigfrain Tŵr Llundain ar goll !!

A gwyddom yr hen ddarogan: mae saith o gigfrain yn y Tŵr, ond pan ddisgynna’r nifer islaw chwech, bydd hi ar ben ar y Deyrnas.

Dim rhyfedd fod Ceidwad Brain y Tŵr, a Boris Johnson, a Priti Patel, a Syr Keir Starmer, a’r Frenhines, a Dic Cae Rhedyn oll yn colli cwsg gan bryder ac yn holi’n daer am unrhyw wybodaeth.

Mae’r gigfran goll yn ddu, ac yn ateb i’r enw argoelus Merlina.

Beth tybed all fod yn achos y diflaniad rhyfedd hwn? Rhyw stwyrian tua Gogledd Iwerddon? Ac oes yna rywbeth yn digwydd tua’r Alban ’na deudwch?

Bydd Gari ac Alec yn sicr o ddod o hyd i Merlina yn y diwedd, gallwn fod yn sicr, ond yn y cyfamser dyma gliw. Yn ôl rhyw stori y bore ’ma mae Hanes Rhyw Gigfran ddoe yng nghyffiniau Maentwrog, fel petai mewn ymddiddan dwys efo eryr a cholomen. Ymholer â’r e-bost hwn: morgan.llwyd@cynfal.co.uk

Ac am ddiwedd … !

11 Ion

AWDUR GWADD, GETHIN JONES

Dyma ni’n dod i ddiwedd arlywyddiaeth Donald Trump. Ac am ddiwedd … ! Dyn wedi ei wisgo fel byffalo yn eistedd yng nghadair cadeirydd y Senedd. Y KKK yn tynnu “selfies” efo plismyn (gweision y dde). A allai Mel Brooks ddyfeisio diweddglo gwirionach ?

Malu Senedd America? Malu pencadlys malu a dwyn cyfoeth y byd. Ond petai mudiad adain chwith wedi trio gwneud hyn er mwyn sicrhau gwasanaeth iechyd neu UBI mi fyddai’r plismyn yn ddi-ffael a heb feddwl wedi saethu’r rhan fwyaf. Byddai’n gyflafan waedlyd go iawn. Diddorol oedd edrych ar U-tube gyda thudalen hollt yn cymharu’r driniaeth a gafodd protestwyr “black lives” gan y plismyn a’r driniaeth a gafodd hogia’r KKK. Y plismyn yn cerdded hen wraig â chap gwlân “Trump” yn gwrtais i lawr y grisiau. Hyn yn dilyn haf o waldio protestwyr. Petai hi’n protestio dros rhybeth call mi fasan nhw wedi ei gwthio i lawr a thorri ei choesau. Mae’n amlwg fod yr holl wario ar ddiogelwch tanddaearol, drôns a militariaeth yn rhywbeth gan y Sefydliad i rwystro’r chwith yn unig. Mae’r dde’n iawn. Agorwch y baricadau a gollyngwch y KKK i mewn.

Er gwaethaf hyn i gyd, Trump yw’r arlywydd sydd wedi gwneud lleiaf o ddrwg yn gydwladol. Mae’n gorffen ei unig dymor heb greu unrhyw ryfel dramor. Diwedd Obama oedd dinistrio Libia, gwenwyno dŵr Flint Michigan, malu tir y bobl frodorol yn Ngogledd Dakota. A thrio arestio Assange. Diwedd y ddau George Bush oedd creu ISIS a malu dwy wlad – Irac ac Affganistan. Diwedd Bill Clinton oedd Sudan a’r cytundeb NAFTA. Diwedd Reagan (gyda Thatcher) oedd gwrthod cael gwared ag arfau niwclear pan oedd Gorbachev yn cynnig cyfle, dinistrio’r economi a chreu coups yn Ne America. A dyma gyfnod o bedair blynedd lle nad yw Lloegr wedi bomio a chael rhyfel. Yn ôl i’r hen drefn fydd hi rwan o dan Biden.

Dirfawr Berygl

5 Ion

Cymdeithas yr Iaith heddiw’n hollol iawn wrth dynnu sylw at y dirfawr berygl sydd yng nghynllun y llywodraeth i fynd â phwerau oddi ar yr awdurdodau lleol a’u trosglwyddo i bedwar awdurdod rhanbarthol a fydd yn gwangoau anatebol i bob diben. Datganiad da iawn gan Ffred Ffransis, a da iawn GOLWG 360 am ei gyhoeddi.

Darllenwch fy ysgrif ‘Sir Gwymon a Sir Conbych’ yn fy llyfr Wele Wlad. Dyma’r ateb. A oes unrhyw blaid am gymryd sylw ohono?

Peth arall. Ar ôl hyn fe ddylai Plaid Cymru ddatgan na all hi byth, mewn unrhyw amgylchiad, glymbleidio â Llafur yn y Senedd..