Archif | Ionawr, 2019

Arysgrif bwysig arall

28 Ion

Ychydig gamau oddi wrth dragwyddol ymrwymiad Dave a Shirl ar lan Menai yng Nghaernarfon, mae arysgrif hanesyddol arall sydd o ddiddordeb mawr i arbenigwyr.

032

Yn ôl un ysgol o feddwl, yn ‘Max’ cawn y prawf terfynol i Maxen Wledig fod yng Nghaernarfon cyn ymadael yn y flwyddyn tri chant wyth tri a’n gadael yn genedl gyfan.  Rydym wedi arfer meddwl mai Elen oedd fodan Max, ond atolwg pwy oedd D.D. ?  Mae barn ysgolheigion yn rhanedig iawn rhwng Doris Day a Diana Dors.

Taera eraill mai enw merch yw Max (Maxine, mae’n debyg), ac mai D.O. yw’r llythrennau eraill.  Daniel Owen?  Donny Osmond?  Parhau y mae’r dyfalu, ac mae ysgolheigion mawr ym Mangor a Rhydychen yn gweithio ar y broblem.

Cyfarchion Gŵyl Ddwynwen!

25 Ion

Os awn am dro ‘dros yr Aber’ yng Nghaernarfon, a cherdded ar hyd glan y Fenai i gyfeiriad y clwb golff, a chadw’n golygon i lawr, cyn bo hir fe ddown at yr arysgrif hon wedi ei thragwyddoli yn y concrit:

daveshirl

A faddeuir parodi fach ar yr anwylaf o holl ganeuon serch y byd ?

Mae’r hon a gâr fy nghalon i
Ymhell oddi yma’n byw,
A hiraeth am ei gweled hi
A’m gwnaeth yn llwyd fy lliw.

Cyfoeth nid yw ond oferedd,
    Tŷ nid ydyw ond tent,
Ond DAVE a SHIRL a gafodd WHIRL
    I bara tra bo sment.

Mae f’annwyl riain dros y lli, –
Gobeithio’i bod hi’n iach;
Rwy’n caru’r tir lle cerddo hi
Dan wraidd fy nghalon fach.

Cyfoeth nid yw ond oferedd,
    Glendid ni thâl y rhent,
Ond SHIRL a DAVE a gafodd RAVE
    Fydd yma tra bo sment.

Gŵyl Ddwynwen Hapus i holl ddarllenwyr y blog !

Mawredd mawr !

18 Ion

Dyma inni ganlyniad pleidlais y ‘Merched Mawreddog’, ond druan o Betty Campbell. Pa ferch fyddai’n dewis cael ei chofio fel un ‘fawreddog’? Mae gwahanol ystyron neu led-ystyron i’r ansoddair wrth gwrs (cyngerdd mawreddog, defod fawreddog, golygfa fawreddog, adeilad mawreddog &c &c), ond fel disgrifiad o ddyn neu ferch ei ystyr y rhan amlaf o ddigon yw ‘ffroenuchel, hunanbwysig, rhodresgar’ – a dyfynnu cyfystyron Geiriadur Cymraeg Gomer. Rhydd Geiriadur Prifysgol Cymru oddi ar lafar ‘hen un mawreddog yw e’.

Pam y diffyg ymglywed hwn, mewn rhai cylchoedd, â’r defnydd naturiol o iaith? Wn i ddim … ac eto efallai y gwn i hefyd.

Edrych i’r dyfodol …

17 Ion

Yn dilyn cyhoeddiad Hitachi heddiw fe gyfyd cwestiynau mawr wrth geisio tremio drwy niwloedd y dyfodol.

1. Be ddaw o’r prentisiaid a’u holl SGILIAU? Siawns am fachiad tua Fukushima ’na …?

2. Oes beryg y palla nawdd Horizon i’r Eisteddfod Genedlaethol, Menter Iaith Môn ac achosion clodwiw eraill? Pwy ddaw i’r adwy? Beth amdani BAE Systems?

3. Pwy sy’n mynd i wneud yr holl waith mawr oedd i’w wneud gan Swyddog Iaith newydd Horizon?

4. Beth petai Hinkley dan fygythiad hefyd? Pwy fyddai’n symud yr holl fwd ymbelydrol yn ei ôl dros Fôr Hafren? Beth am olygyddion y cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt, a gyhoeddodd yn ddiweddar ysgrif hynod iawn yn dadlau, ymhlith amryw bethau eraill, fod y mwd yn hollol dderbyniol?

5. Yn sydyn ar ganol ymchwiliad cyhoeddus ym Mangor ddiwedd Awst 2016, fe newidiodd geiriad polisi iaith Gwynedd er mwyn gwneud pethau’n haws i Horizon. A fydd yn awr yn newid yn ôl?

6. Beth yw dyfodol gwesty’r Tree Tops?

6. Pa bartner busnes arall gawn ni er mwyn atgyfodi Wylfa B? Ambell bosibilrwydd efallai:

(a) Baco Amlwch
(b) Theatr Fach Llangefni
(c) Sŵ Môr Môn
(ch) Pili Palas
(d) Londri Wili Tsienî

§

Dwy esiampl o ddoethineb gwleidyddion yr Ynys:

(a) Albert Owen AS y diwrnod o’r blaen yn beio Theresa May am esgeuluso cynllun yr Wylfa drwy roi gormod o sylw i Brexit. Atgoffwch fi hefyd, pobl pa Ynys fotiodd dros Brexit …?

(b) Rhun ab Iorwerth AC ar ‘Post Prynhawn’ heddiw: fod gan Robat Idris, llefarydd dros fudiad PAWB, ‘berffaith hawl i gymryd golwg gul.’ Dyna ni felly: yn erbyn niwclear = cul; o blaid niwclear = eang. Ond atgoffwch fi eto, pa blaid sydd â pholisi gwrth-niwclear …?

§

O ddifri cyn gorffen. Rhaid yw llongyfarch Robat Idris ar ei ymateb trwy’r dydd. Pwyllog, cwrtais, golau, gyda chyflawnder o wybodaeth.

Tro arall ar y swigod

10 Ion

“‘Diffyg eglurder’ yn y cwricwlwm newydd’ yw pennawd BBC Cymru Fyw y bore ’ma.

Y tu ôl i’r ‘cwricwlwm newydd’ a’r holl drafod yn ei gylch y mae Adroddiad Donaldson, 2015. Wrth ddarllen yr hanes heddiw daeth i’m cof fy ymateb i’r Adroddiad hwnnw pan gyhoeddwyd ef. I arbed ichi glicio, dyma’r hen ysgrif eto.

* * *
LLOND TWB O SWIGOD

I law wele Dyfodol Llwyddiannus, sef Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru, wedi ei baratoi gan yr Athro Graham Donaldson a thîm o ymchwilwyr ar gais y llywodraeth.

Ydyn, maen’ nhw i gyd yma: seilweithiau, gwerthusiadau, pwysoliadau, cynaliadwyedd, capasiti, sybsidiaredd, strwythur, mesuriadau perfformiad, mewnbwn, cymwyseddau, addysgeg, empathi, sgiliau allweddol, sgiliau bywyd, continwwm dysgu, creadigrwydd (entrepreneuriaeth), mecanweithiau atebolrwydd, addysg berthnasol, adborth rheolaidd a chraff, dysgu symbylol a deniadol, arferion gorau, asesu ffurfiannol, cyfeiriadedd byd-eang, ymdrech ddisgresiynol ychwanegol, e-bortffolios ac e-fathodynnau personol, metawybyddiaeth neu ‘dysgu i ddysgu’, lefelau uwch o gymhwysedd digidol, ffocws cyffredinol ar gyfer atebolrwydd a gwella, briff clir ar gyfer llunio’r Deilliannau Cyflawniad, – oll yn cydweithio i roi inni ‘ddyfodol cyffrous’ mewn ‘Cenedl Ddigidol-Agile’. (Ie, fel’na). Mae yma nid yn unig asesu, arsylwi, gwerthuso a monitro; mae yma hefyd reoli risg, wynebu heriau, hybu cydlyniant, ffurfio perthnasoedd cadarnhaol, datblygu fframwaith cydlynol, prawfesur y cwricwlwm, dehongli data, cymhwyso cysyniadau, gwerthuso canfyddiadau, chwarae rolau, datblygu lefelau cymhwysedd uchel, meithrin cyfalaf proffesiynol, mireinio sgiliau metawybyddol, syntheseiddio a gwerthuso syniadau a chynhyrchion, alinio’r asesu â’r dibenion dysgu i asesu beth sy’n bwysig, creu cyd-destunau strwythuredig ar gyfer cyflwyno adborth adeiladol, datblygu’r capasiti ar gyfer sytem hunanwella, ac (olaf ond nid lleiaf) gwella’r synergedd rhwng trefniadau ar gyfer y cwricwlwm, asesu ac atebolrwydd. Hyn i gyd. Ond dim fictimeiddio. Diolch am hynny.

Fel pob Adroddiad Addysg ers deugain mlynedd, mae hwn eto’n darllen fel sgit ar Adroddiad Addysg. Gall atgoffa rhai ohonoch, fel mae’n f’atgoffa innau, o barodi a ymddangosodd unwaith yng ngholofn ‘Sêt y Gornel’ yn Y Cymro, cyn atal y golofn honno (fel y daeth i’r golau wedyn) gan flacmel o Goleg Aberystwyth. Nid yw pobl sydd, heb wên ar eu hwynebau, yn gallu sgrifennu peth fel hyn yn deall beth yw parodi na sgit na dychan nac eironi. Ni allant eu hadnabod eu hunain mewn cartŵn. Robotiaid ydynt, bodau heb fod o gig a gwaed, wedi eu cloi yn eu byd eu hunain o hocws-pocws. Am yr eirfa y dyfynnais ddigon ohoni uchod, dywedaf hyn. Y tro nesaf y bydd unrhyw rai ohonoch yn sgrifennu dogfen ar addysg, triwch beidio’i defnyddio. Mwy na hynny, peidiwch â defnyddio yr un gair ohoni o gwbl, byth, mewn unrhyw beth ysgrifenedig nac ar lafar. ‘Pam?’ meddech chwithau. Am ei bod yn arwydd o wendid moesol a seicolegol. Jargon ydyw a ddyfeisiwyd oddeutu’r 1960au gan siarlataniaid byd Addysg, ac a ailadroddir gan grafwyr a llyfwyr y byd hwnnw am fod y rhai uwch eu pennau yn ei hailadrodd ar ôl rhywrai eraill. Digon! Dim mwy!

Ymaith hefyd â’r defnydd anghywir, anfad o ‘addysgu’ (addysgu llythrennedd a rhifedd &c), un arall o ffolinebau’r 1960au. Nid oedd amwysedd traddodiadol y gair ‘dysgu’ yn dramgwydd i unrhyw Gymro, ac ni bu creu amwysedd newydd yn help yn y byd i neb.

Wedi dweud cymaint â hyn am yr ieithwedd, a oes ddiben dweud unrhyw beth am y cynnwys? Mi ddywedaf beth neu ddau, rhag ofn imi wneud cam. Bydd gennyf bedwar pennawd: (1) Cytuno. (2) Amau. (3) Dychryn. (4) Anghytuno.

§

(1) CYTUNO

Mae’r gefnogaeth i ddysgu’r Gymraeg a gwreiddio’r disgyblion yn niwylliant Cymru yn ddigon cyson a chadarnhaol drwy’r adroddiad. Cwestiwn na ddeuir ato yw pam nad ydym yn llwyddo’n well yn hyn. Pam, er enghraifft, y mae’r Gymraeg yn ‘bwnc amhoblogaidd’ erbyn cyrraedd dosbarthiadau uchaf yr ysgol? A oes a wnelo hyn mewn unrhyw ffordd â’r cwricwlwm? Fel yr awgrymais beth amser yn ôl (gweler blog 2 Mawrth 2013), gall fod a wnelo i ryw fesur â pheth arall, cysylltiedig ond ychydig yn wahanol, sef y sylabws neu’r maes llafur. Cyfeirio’r oeddwn at benderfyniad rhywrai i osod testunau Cymraeg ‘modern’ neu ‘gyfoes’ disylwedd ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus, a’r rheini’n troi ymaith rai o’r disgyblion galluocaf lle gallai rhai o’r hen glasuron ennyn eu sylw a’u serch yn well. Ond esboniad rhannol iawn yw hyn.

(2) AMAU

Fel pob Adroddiad Addysg mae hwn hefyd yn amcanu bod yn flaengar. Mae ynddo, medd ef ei hun, ‘gynigion radical a phellgyrhaeddol’. Er chwilio, ni allaf yn fy myw weld pa rai yw’r rheini. ‘Os ceir amharodrwydd i ildio agweddau ar y cwricwlwm sydd heb fawr o berthnasedd wrth ychwanegu disgwyliadau newydd yr un pryd, gall hynny roi pwysau cynyddol ar ysgolion ac athrawon.’ Ond a ddywedir beth yw’r hen sbwriel amherthnasol sydd i fynd allan drwy’r ffenest? Na ddywedir yn unman, hyd y gwelaf i. Mae yma beth cyferbynnu rhwng (a) ‘pynciau’ yn ôl y dull traddodiadol o’u dosrannu, a (b) ‘meysydd dysgu a phrofiad’. Ond pan eir i edrych mae’r gwahaniaeth rhwng y rhestrau o’r naill ac o’r llall mor fychan fel nad oedd yn werth treulio amser uwchben y peth o gwbl. Does dim byd terfynol na chysegredig ynghylch arlwy draddodiadol y pynciau, a da o beth yn sicr yw ceisio gweld pethau’n gyfannol, neu’n ‘draws-gwricwlaidd’ chwedl yr adroddiad; ond i athro a chanddo dipyn o sylwedd a diwylliant fe ddaw hynny’n naturiol. Hen gân o’r 1960au eto yw cyferbynnu’r ‘pwnc-ganolog’ â’r ‘disgybl-ganolog’ gan ffafrio’r ail. Ond dywedaf hyn, o beth profiad. Yr athrawon gorau yn fy nghof i, yn cynnwys y rhai y cefais i gymorth ac ysbrydoliaeth fawr o’u harweiniad, oedd y rheini a chanddynt wybodaeth ddofn o’u pynciau. O ddyfnder yr wybodaeth y dôi’r awydd i rannu a throsglwyddo’r wybodaeth honno, ac o hynny wedyn yr awydd i weld ein llwyddiant ni ddisgyblion. Dylwn ddweud mai am athrawon ysgol yr wyf yn sôn, a phetawn yn eu rhestru gallwn gynnwys y rhan fwyaf o ddigon o’r athrawon uwchradd a ges i, chwarae teg iddyn nhw. Am ryw reswm ni bu ac nid yw hi yr un fath yn y prifysgolion. Yno, nid yw dyfnder dysg yn arwain bob amser na’r rhan amlaf at sêl dros fyfyrwyr, nac at unrhyw ddiddordeb ynddynt. Beth sy’n gyfrifol am y gwahaniaeth, wn i ddim. Prin mai’r flwyddyn o hyfforddiant athro.

Un ffordd o fod yn flaengar yw dweud ‘digidol’ yn ddigon aml. Ond mae’r bregeth hon hefyd yn ddeg ar hugain oed, ac arwydd o naifder yw rhygnu arni. (Yr un modd, a’r unfed ganrif ar hugain bellach yn bymtheg oed [h.y. yn 2015], onid yw’n bryd rhoi’r gorau i sôn am lusgo’r peth yma a’r peth arall i mewn iddi?) Yn amlwg bu plant clyfar-clyfar yn cwyno am eu hathrawon wrth aelodau’r pwyllgor. ‘Un testun pryder a godwyd droeon gan y plant a phobl ifanc a siaradodd â Thîm yr Adolygiad oedd eu canfyddiad bod y cwricwlwm ysgol presennol wedi dyddio mewn perthynas â thechnoleg ddigidol. Cyfeiriwyd at ffyrdd llafurus o’u haddysgu i drin meddalwedd a oedd yn hawdd ei defnyddio’n reddfol neu a oedd wedi dyddio’n barod yn eu barn nhw.’ Hynny yw, mae’r plant yn medru gwneud rhyw fabolgampau cyfrifiadurol sydd y tu hwnt i allu a phrofiad eu hathrawon crydcymalog. Os felly, gadawer iddynt. Pa angen eu dysgu?

Mae’r gŵyn, fe ymddengys, yn ehangach eto. Roedd rhai o’r plant am gael gwersi sy’n fwy perthnasol a diddorol, mwy o wersi ymarferol, mwy o hwyl. Go dda yntê? Llai o waith hefyd efallai. Efallai na wyddai awduron yr adroddiad mai dyma’r math o beth a ddywedir gan blant digywilydd heb fawr yn eu pennau, plant y dylid eu cynghori i gau eu cegau os nad oes ganddynt rywbeth o werth i’w ddweud. Hanfod dysgu, meddai fy nhad-yng-nghyfraith – a wyddai beth neu ddau am y maes – yw dweud wrth y to sy’n codi am eistedd i lawr. Dywedaf eto, oherwydd dyfnder dealltwriaeth ein hathrawon o’u pynciau, fe gawsom ni, blant ffodus y 1950au, ddogn go lew o’r pethau ychwanegol hynny ym mhen gwybodaeth – diddordeb, diddanwch, ysbrydoliaeth, ie hwyl hefyd. Fe gawsom ar ambell awr – er fy mod yn petruso ddefnyddio’r gair – brofiad bach o gyffro’r deall. (Petruso, am mai gwedd ar wiriondeb ein hoes, a digon ohoni yn yr adroddiad hwn, yw’r disgwyl i bob peth fod yn ‘gyffrous’! Gadawer i rai pethau beidio â bod yn gyffrous.)

Weithiau daw’r hen sgeptig i sibrwd yn y glust, a rhaid maddau iddo. Mae’n demtasiwn aralleirio ambell frawddeg a gweld beth a ddywedid mewn iaith fwy plaen. ‘Mae beiau’n codi’n aml wrth asesu mewn cysylltiad â manylebu, dilysrwydd, dibynadwyedd a chymhwysedd athrawon.’ Edrycher ar y geiriau un ac un. Onid yr hyn a feddylir yw fod athrawon – rhai, beth bynnag; gormod, a barnu wrth y gair ‘aml’ – yn ffwrdd-â-hi, yn gelwyddog, yn annibynadwy ac yn dwp?

Teimlad yr hen sgeptig eto am y pedwar nod sy’n fyrdwn yr adroddiad. Dyma’u dyfynnu, rhag ofn fy mod yn gwneud unrhyw gam â hwy yn yr hyn a ddywedaf:

‘Dibenion y cwricwlwm yng Nghymru yw ceisio sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu:
> yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
> yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
> yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.
> yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.’

Iawn, mae’n debyg. Digon diniwed. Digon clodwiw rywsut. Ond beth am y trydydd nod? Os na ddigwydd rhyw chwyldro diwylliannol mawr yn rhywle, y tebygrwydd uchel yw mai tyfu’n ddarllenwyr y Sun fel eu rhieni a wna’r rhan helaethaf o blant y genhedlaeth hon eto. Gall yr ysgol, gyda lwc, wneud tipyn bach i rwystro’r dynged honno, ond dim llawer mae’n beryg. Fe’n dysgwyd ni blant Ysgol Dyffryn Nantlle, tua’r 13-14 oed, i ddarllen papur newydd yn feirniadol gan gadw’r pot halen o fewn cyrraedd a gofyn bob amser gwestiynau fel pwy piau’r papur a pha fuddiannau y mae am eu hyrwyddo. Mi gredaf yn wir fod yr effaith wedi para ar rai ohonom. Ond hyn-a-hyn y gall yr ysgol ei wneud, er pob ymdrech. Fy nheimlad am yr adroddiad drwodd a thro yw ei fod yn gofyn i’r ysgol wneud gormod. Yn hen ffasiwn eto, daliaf mai trosglwyddo gwybodaeth yw gwaith ysgol a bod rhai pethau, pethau go bwysig hefyd, y mae’n rhaid eu gadael i ‘Brifysgol Fawr Bywyd’ chwedl yr hen ystrydeb. Enghraifft fechan ddigon dibwys o hyn. Mae’r adroddiad o blaid ‘dysgu a meithrin sgiliau ymarferol ar gyfer bwyta’n iach’. Iawn, ond os yw’r hogyn yn cael blas ar Ddafydd ap Gwilym a Monster Munch fel ei gilydd, gadawer iddo er mwyn y nefoedd! Mae rhai ohonom yn hoffi bwyta sgrwtsh, eraill yn hoffi ei sgwennu.

(3) DYCHRYN

Dyfynnir adroddiadau cynharach, ac yn wir mae un o’r rheini yn waith ‘Arad Research’! Mi neidiais lathen o’m cadair! Beryg fod hwn yr un ag ‘Arad Consulting’ gynt, y cnafon bach dan-din a dauwynebog a argymhellodd yn erbyn Coleg Cymraeg Ffederal ar ôl bod mor wên-deg wrthym ni, dirprwyaeth a oedd yn ymgyrchu trosto? Mi glywais fod yr Arad wedi newid ei henw, a dyma’r englyn a luniais ar y pryd:

Dan ei glew enw newydd – hen natur
Hon eto yw’r aflwydd.
Holl hanes ei lles a’i llwydd
Yw ’redig mewn gwARADwydd.

(4) ANGHYTUNO

Un enghraifft fydd ddigon. Yn dilyn ‘arsylwi ar eu proses dysgu eu hunain’ a ‘meithrin sgiliau hunanasesu’ eir ymlaen at ‘gymedroli gan gyfoedion.’ ‘Mae asesu gan gyfoedion yn ddull lle y mae plant a phobl ifanc yn asesu gwaith ei gilydd mewn parau neu grwpiau.’ Gofal, er mwyn popeth! Dyma wahoddiad agored i ddisgybl digywilydd, maleisddrwg danseilio hyder disgybl llai ymwthgar, yn enwedig os yw hwnnw’n alluocach nag ef. Onid yw’r awduron yn cofio sut rai oeddem yn blant? Gydag eithriadau (a byddaf yn cofio’n ddiolchgar bob amser am yr eithriadau hynny) nid yw plant yn dod yn gyfeillion parhaol, sefydlog nes maent yn rhyw 16-17 oed. Cyfeillion a gelynion bob yn ail ydynt hyd at hynny, weithiau cyfeillion a gelynion yr un pryd, a gallant newid ochr sawl gwaith yr un diwrnod. Ond nodwedd adroddiadau ar addysg yw eu bod yn symud a bod mewn byd o theori heb lygad na chlust i’r ‘hen natur ddynol’ honno y soniai Daniel Owen amdani ac y gwelai ef angen weithiau ddweud y gwir amdani ‘yn ei hwyneb’.

§

Fel droeon o’r blaen wyneb yn wyneb ag adroddiadau addysgol, y gymhariaeth gyntaf a ddaeth i’m meddwl yw tywallt powdwr golchi i lond twb o ddŵr a’i droi rownd a rownd a rownd efo llwy bren fawr i gynhyrchu mwy a mwy a mwy o swigod. Ond mae’n waeth na hynny hefyd. Mae sylweddau gwenwynig yn y dŵr, ac o’i gorddi fe dry yn drwyth gwiddanod o nonsens niweidiol. Mae rhywbeth mawr iawn o’i le ar gymdeithas sy’n cymryd stwff fel hyn o ddifri.

‘Could do better,’ meddai’r hen adroddiadau ysgol ers talwm, ac ymddengys mai dyna ddyfarniad cyffredinol yr adroddiad ar ein holl ymdrech addysgol yng Nghymru. Mae yma boeni am arolygon PISA ac adroddiadau Estyn, ‘sydd yn dangos nad yw’r lefelau cyrhaeddiad mor uchel ag y gallent ac y dylent fod.’ Nac ydynt wrth gwrs, meddai unrhyw un â’i lygaid yn ei ben, wedi hanner canrif o anfon allan o Gymru ei phlant galluocaf, arfer yr ymddengys bod y llywodraeth hon yn awyddus i’w pharhau. Gweler blogiau 4 Rhagfyr 2013 a 15 Ionawr 2015. Yn wir, gan mai’r polisi yw gwacáu Cymru o’i doniau, pa ddiben cynnal ymchwiliad ar addysg o gwbl? Fel Albanwr, tybed na allai’r Athro Donaldson sibrwd gair bach yng Nghymru am lwyddiant yr Alban yn cadw’i myfyrwyr galluog gartref drwy’r ddyfais seml, effeithiol o’u gwobrwyo’n ariannol?

Un dyfyniad eto cyn cloi:

‘Dylai’r rhaglenni dysgu proffesiynol cychwynnol ac ar hyd gyrfa gynnwys elfennau sy’n meithrin capasiti athrawon i asesu’r holl ddibenion cwricwlwm a deilliannau cyflawniad.’

Ie, bregliach brain byd Addysg. Dysga di’r ieithwedd yma ’ngwas i, ac mi ei di yn dy flaen.

Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi croesawu’r adroddiad ac am inni gynnal ‘sgwrs fawr genedlaethol’ ar ei sail. Yr unig dro imi gwrdd â Mr. Lewis fe dorrodd y sgwrs yn fyr iawn a cheisio atal fy nhystiolaeth i un o bwyllgorau’r Cynulliad, – gweithred heb gynsail yn holl hanes democratiaeth seneddol, clywais ddweud wedyn. Ryw ddiwrnod, os byw ac iach, peidier â synnu os â’r hen G.A. yn ei ôl i’r Bae i orffen y frawddeg na chafodd ei gorffen y diwrnod hwnnw yn 2001.

Gweithgaredd cwbl ddi-fudd yw paldaruo am Addysg. A dyma finnau wedi bod wrthi eto.