Datganiad polisi heddiw gan Lywodraeth Cymru ar fater ail gartrefi. Dyma ddiwrnod da felly i gyhoeddi unwaith yn rhagor y ddogfen a anfonais at Gyngor Gwynedd ar 1 Mehefin, gyda dymuniad iddi gael ei hanfon ymlaen at bob cynghorydd. Y diwethaf a glywais, 27 Mehefin, nid oedd wedi mynd allan. Beth yw’r anhawster tybed?
* *
Cynigiaf y sylwadau hyn fel cyd-berchennog gyda fy mhriod ar ail gartref yn Sir Gwynedd. Nid wyf yn bwriadu talu’r premiwm ychwanegol o 300% sydd i’w osod gan Gyngor Gwynedd. Gobeithiaf na ddaw hyn yn destun gwrthdaro, ond yn hytrach y bydd y polisi wedi ei adolygu gan yr awdurdod erbyn y daw’n amser hawlio’r dreth. Yr wyf wedi trafod y mater a gosod safbwynt droeon mewn blogiadau ac mewn print, a dyma grynhoi’r ystyriaethau fel y gwelaf i hwynt.
● Nid wy’n amau na fwriedir y polisi gan y Cyngor, a’i gefnogi bellach gan Lywodraeth Cymru, mewn ateb i broblem gymdeithasol fawr. Ond y mae’n bwysig adnabod gwir natur y broblem honno, a rhoi arni’r enw iawn. Cawn ddychwelyd at hyn, ond yn awr down yn syth at y cwestiwn, adolygu ym mha fodd? ATEB: drwy eithrio rhai categorïau wrth bennu’r premiwm ychwanegol. A sylwer ar y gair: nid esgusodi, ond eithrio.
● Dyma awgrymu’r categorïau:
Yn gyntaf oll ac yn amlwg, perchennog neu gyd-berchennog (e.e. priod neu bartner sifil) sydd un ai yn frodor o’r ardal lle mae’r ail eiddo, neu wedi etifeddu’r eiddo fel gwaddol teuluol. Dau gwestiwn:
(a) Beth yw ‘brodor’? Rhywun wedi ei fagu yn ardal yr eiddo, neu wedi byw yno am gyfnod penodol (i’w bennu drwy ystyriaeth). Prawf ei fod yn frodor? Datganiad ysgrifenedig gan (dyweder) ddau gymydog yn yr ardal dan sylw.
(b) Beth yw ‘ardal’? Er mwyn pendantrwydd, yr hyn sydd, neu a fu, yn ardal llywodraeth leol neu yn rhaniad hanesyddol: (i) y plwy, neu ardal bresennol y Cyngor Cymuned lle mae’r eiddo (yn fy achos i, Plwy Llandwrog); (ii) plwy cyffiniol (e.e. Llanwnda, Llanllyfni); (iii) y cwmwd (Uwchgwyrfai); (iv) y cantref (Arfon); y sir (un ai Sir Gaernarfon neu Wynedd 1970-90au neu y Wynedd bresennol).
● ADNABOD Y BROBLEM. Mae ychydig eithriadau, ond yn gyffredinol dyma’r WIR BROBLEM – ac os na rown yr enw iawn arni, rydym yn ein twyllo’n hunain: gormod o dai sydd yng Nghymru, a dim digon o Gymry i’w meddiannu. Rhown hi fel hyn: petawn i, oherwydd y premiwm, yn gorfod gwerthu’r ail eiddo, pwy fyddai’n debyg o’i brynu …?
● Wedi dweud cymaint â hyn, rhaid wrth ddiffiniad gweithredol o ‘Cymro/Cymraes’. Gallwn yn ddiogel ddweud: (a) unrhyw frodor o Gymru, yn ôl y diffiniad uchod o ‘frodor’. A beth am estyn yr egwyddor i (b) unrhyw un, o unrhyw fan yn y byd, sy’n medru Cymraeg at ryw safon? (Pa safon, a sut i’w mesur: materion i’w hystyried.)
● Wedi adnabod y broblem, y camau cyntaf fyddai gwneud eithriadau fel a awgrymir uchod. Mae angen, ac angen brys, am gamau pellach, radical a realistig. Y nod, a pheidiwn â gwamalu: diogelu, ac os yn bosibl adfer, meddiant Cymry ar dai Cymru. Dyma’r hyn a ddywedais mewn blogiad fis Gorffennaf y llynedd: ‘A chrynhoi: mae’r dydd wedi dod pan yw’n rhaid i awdurdodau lleol Cymru fynd hanner-yn-hanner gydag unrhyw Gymro sydd am brynu tŷ yng Nghymru. Bydd yn costio, ond rhaid i lywodraeth Cymru ddod o hyd i’r arian a’i ddynodi at y pwrpas. Mae’n gofyn deddf, a honno’n mynd at wreiddiau pethau.’ Os yw’n hawdurdodau sirol o ddifrif ynglŷn â’r broblem enfawr hon, sy’n dwysáu bob dydd a phob awr, rhaid iddynt bwyso’n ddi-oed ar lywodraeth Cymru am ddeddfwriaeth.
● Yn y cyfamser, gofaled y cynghorau nad ydynt yn cosbi’r Cymro neu’r Gymraes sy’n ceisio cadw troedle yn ei hen ardal neu ddal gafael ar eiddo etifeddol. A ydym wedi anghofio’r arwyddair ‘DAL DY DIR’?
O ran diddordeb, gellir darllen yr eitemau hyn ar Flog Glyn Adda (glynadda.wordpress.com):
‘Hafod y Cymro’ 23 Chwefror 2016 (hefyd yn y Gyfrol Meddyliau Glyn Adda, t. 140). ‘Tai’ 9 Medi 2019.
‘Tai a threthi’ 3 Mai 2021.
‘Ateb bach ac ateb mawr’ 10 Gorffennaf 2021.
‘Neges i ymgeiswyr’ 24 Ebrill 2022.
D.G.J. 1.6.22