Archif | Mawrth, 2022

Ar ben ei digon

31 Maw

“Y Blaid ar ben ei digon yn ei Chynhadledd Wanwyn” yw pennawd Golwg y bore ’ma.

Am y cytundeb rhwng y Blaid a’r Llywodraeth Lafur, dyfynnir AoS: “arwyddocaol iawn oherwydd mae blaenoriaethau polisi’r Blaid yn ganolog i raglen y Llywodraeth.”

Gofyn felly, a yw’r blaenoriaethau hyn yn cynnwys y pum mater hollbwysig a restrodd yr hen flog hwn ddwywaith yn ystod y dyddiau diwethaf? O’r hyn a ddarllenais i, dyma’r ateb, bum gwaith:

● Y MWD. DIM BYD.

● Y Postfeistri. DIM BYD.

● Deddf diogelu enwau Cymraeg. DIM BYD.

● Tai-mewnlifiad. Tipyn am ail gartrefi. Ond fel rwyf wedi dweud droeon o’r blaen, nid dyna’r brif broblem.

● Y polisi gwrth-niwclear. DIM BYD.

Mae BGA fel bob amser yn agored i’w gywiro. Atebwch, gynadleddwyr, neu unrhyw rai sydd â’r wybodaeth, os penderfynwyd neu y dywedwyd unrhyw beth gwahanol am y pynciau uchod.

Do ? Naddo ?

27 Maw

Yn ôl at bum pwynt dydd Iau. Chlywais i ddim adroddiadau, ond tybed a drafodwyd y pethau hyn yn y gynhadledd, un ai yn araith yr arweinydd neu mewn penderfyniadau?

Y MWD. Do / naddo?

Y Postfeistri. Do / naddo?

Deddf diogelu enwau Cymraeg. Do / naddo?

Tai-mewnlifiad. Do / naddo?

Y polisi gwrth-niwclear. Do / naddo?

Pwy sy am ateb? Mae’r hen flog yn llwyfan agored fel arfer.

Edrych ymlaen …

24 Maw

Waw ! Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru ddydd Sadwrn. Ys gwn-i a welwn ni’r rhain?

Y MWD. Penderfyniad diamwys, dim un rhawiaid o’r stwff.

Y Postfeistri. Trwy ddeddf, iawndal llawer helaethach i’r rhai a ddioddefodd gam mor fawr. Hefyd adduned i fynd ar ôl y rhai a fu’n eu herlid mor greulon a diegwyddor: yr holl dwrneiod drwg i dalu trwy eu trwynau.

● Deddf diogelu enwau Cymraeg. Dim lol.

Tai-mewnlifiad. Mesurau realistig, dim mwy o chwarae plant.

Dim niwcs. Penderfyniad clir yn ategu polisi gwrth-niwclear y Blaid, gydag adduned i ddisgyblu pob gwleidydd lleol a chenedlaethol a fydd yn gwamalu ar y mater hwn.

Edrych ymlaen …

Y Pwtyn ar ei brawf ?

20 Maw

Tipyn o sôn bellach am greu llys rhyngwladol, tebyg i lysoedd Nuremberg ar ddiwedd yr Ail Ryfel, i osod Pwtyn ar ei brawf am ei droseddau rhyfel. Hoelion wyth fel Gordon Brown a John Major yn cefnogi.

Wir, mi arwyddais innau ddeiseb i’r perwyl. Ond mae cwestiynau, fel bob amser:

● Pryd mae gweithred o ryfel yn mynd yn drosedd rhyfel? Oes, mae rhyw linell yn rhywle, ond anodd ei lleoli. Ac ar ddiwedd y rhyfel wrth gwrs, yr enillwyr sy’n gosod y llinell. Crogwyd Goering, a chodwyd cofeb i Bomber Harris. (Ar foesoldeb wythnosau olaf y rhyfel hwnnw, efallai yr hoffech ddarllen tt. 304-5 o fy llyfr Camu’n Ôl a Storïau Eraill.)

● Pwy sy’n mynd i ddal y Pwt? Syniad ardderchog oedd The Man from Uncle ers talwm. Nid fel James Bond, ond tîm bach o dri, yn gweithredu ar ran dynoliaeth, yn taclo’r troseddwr mewn pryd; y Gorllewinwr Napoleon Solo, y Rwsiad Ilya Kuryakin (Elis Curig i ni Gymry) a’r dyn wyneb rhychiog oedd yn penderfynu ar job yr wythnos. O na bai modd ei wireddu mewn hanes !

OND

Dinistr erchyll dinasoedd Wcráin y dyddiau hyn yn galw i gof olygfeydd o Baghdad a Mosul rai blynyddoedd yn ôl. Tra byddwn ni’n disgwyl i’r Pwtyn ddod i’r rhwyd, beth am sefydlu’r llys a chael tipyn o bractis gyda Tony Blair yn brif gymeriad?

Hen enillwyr

5 Maw

Dyma adroddiad a ymddangosodd yn rhifynnau peilot Tarian Môn Tarian Arfon, 2007.  Sylwer ar enwau rhai o’r enillwyr.

(Penci bach – antirrhinum, snapdragon.)