Archif | Rhagfyr, 2021

Peth cyfiawnder …

18 Rhag

Newydd derbyniol ddechrau’r wythnos, bod iawndal i’w dalu i’r llu postfeistri a erlidiwyd mor warthus. Adroddir fod y symiau yn ‘fawr iawn’ mewn rhai achosion: gobeithio’n wir, ond ni byddant byth yn ddigon mawr i ad-dalu am y boen.

A sylwn ar un peth. Swyddfa’r Post sy’n talu’r iawndal, a chan mai’r llywodraeth yw’r prif gyfranddalwr yn Swyddfa’r Post, hi sy’n dwyn y rhan fwyaf o’r draul. Y llywodraeth, sylwn, nid y wladwriaeth. Ond y goron, h.y. y wladwriaeth, oedd yn erlyn yn yr achos hwn, fel ym mhob achos dan gyfraith Loegr. Y wladwriaeth a wnaeth y cam mawr, hi a ddylai ymddiheuro a thalu iawn. Mae’n debyg nad oes modd i hyn ddigwydd. Fe ddylai fod. A oes unrhyw Gyfrin-gynghorwr o Gymro a all ei godi yn y Cyfrin Gyngor?

Yna down at yr unigolion. Y rhai a wnaeth y cwynion i ddechrau, yna’r ynadon, y bargyfreithwyr a’r barnwyr sydd at eu ceseiliau yn y camwedd. A phennaf oll, y twrneiod creulon, diegwyddor a fu’n elwa ar yr anghyfiawnder. Mae hyn yn cynnwys y twrneiod a fu’n cynghori eu cleientiaid i bledio’n euog. Gan na bydd unrhyw iawndal yn ddigonol yn yr achos hwn, ni allwn sôn am ‘y ffyrling olaf’. Ond dylai’r rhain dalu hyd y peth nesaf at y ffyrling honno.

Be sy’n sgandal?

9 Rhag

Parti-giât? Dim byd. Y cwbl sydd yma – os bu parti – yw hogiau Eton a’r Bullingdon yn ymddwyn yn hollol naturiol unwaith eto. Nid sgandal yw hynny.

Dyma ichi ddwy sgandal:

  1. Camdriniaeth y Postfeistri.
  2. Carcharu Craig Murray.

Arloeswr ac Ymgyrchydd

7 Rhag
Dr. Carl Clowes ynghyd â’r Parchedig Emlyn Richards ar flaen ardystiad.

Da yw cael cynnwys yma deyrnged mudiad PAWB i’r arloeswr a’r ymgyrchydd Dr. Carl Clowes.

TEYRNGED PAWB A CADNO I DR.CARL IWAN CLOWES

Daeth tristwch mawr wrth glywed am farwolaeth Carl ddoe. Dros y pymtheg mlynedd diwethaf, cyfrannodd Carl y rhan fwyaf o’i egni gwleidyddol at ymgyrchu yn ebyn ynni niwclear a bygythiad Wylfa B. Yr un mor bwysig iddo oedd cynnig rhaglen gadarnhaol a dyna arweiniodd at gyhoeddi Maniffesto Môn yn enw PAWB oedd yn amlinellu dulliau cynaliadwy o gynhyrchu trydan, ymhlith syniadau eraill. Bu’r agwedd gadarnhaol hon yn rhan fawr o gymeriad Carl erioed.

Cyflawnodd lawer iawn dros y blynyddoedd:-

Sefydlu Antur Aelhaearn yn ôl yn y 70au fel Menter Gydweithredol Gymunedol gyntaf gwledydd Prydain. Mae’r fenter yn parhau’n weithredol heddiw.

Sefydlu Canolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn yn 1981. Mae’r ganolfan yn denu miloedd o ymwelwyr y flwyddyn ac mae wedi llwyddo i gynnig bywoliaeth i ddegau o bobl lleol ers ei sefydlu. 

Sefydlu Dolen Cymru Lesotho yn yr 80au oedd yn adlewyrchiad o weledigaeth fyd-eang Carl. Sefydlwyd cysylltiadau eang ar draws sawl maes rhwng y ddwy wlad.

Ar ran PAWB, yn ogystal â llunio Maniffesto Môn, sicrhaodd Carl fod arolwg proffesiynol o agweddau pobl ym Môn a gogledd Gwynedd at ddulliau cynhyrchu trydan yn cael ei gynnal. Daeth yr arolwg i gasgliadau clir a ddangosai fod cefnogaeth llawer cryfach i ddulliau ynni adnewyddadwy nac ynni niwclear.

Sefydlodd gysylltiadau ymgyrchu â mudiad Urgewald yn yr Almaen a arweiniodd at gyfle iddo fynychu cyfarfod blynyddol cyfranddalwyr y cwmni trydan mawr EO.n. Gwelodd yn y cyfarfod hwnnw fod eu perchnogaeth o gwmni Horizon yn broblem iddynt.

Teithiodd i Japan ddwy waith i sefydlu cysylltiadau ag ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn y wlad honno ar ôl i Hitachi brynu Horizon oddi wrth y consortiwm Almaenig. Arweiniodd ei ail daith fel rhan o ddirprwyaeth o 4 o Gymru at gael Naoto Kan, oedd yn Brif Weinidog Japan ar adeg trychineb niwclear Fukushima, i ymweld â Chaerdydd ac Ynys Môn. Delwedd gofiadwy o’r ymweliad  oedd yr un o Carl yn arwain Mr. Kan i fyny grisiau’r Senedd yng Nghaerdydd. Edrychai fel ymweliad gwladwriaethol! Esgorodd hyn ar gydymgyrchu brwd rhwng PAWB a Chyfeillion y Ddaear Japan gydag ymweliadau gan aelodau’n dilyn i wledydd ei gilydd.

Yr hyn sy’n rhyfeddol yw fod Carl wedi gallu cyflawni hyn i gyd ar ben ei yrfa feddygol broffesiynol oedd yn un ddisglair ac arloesol. Roedd ei allu, ymroddiad a natur benderfynol yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth i bawb ohonom
Gadawaf y geiriau olaf i ddau o’i gydymgyrchwyr.

Ar ran CADNO, dywedodd Meilyr Tomos:-

Carl Iwan Clowes – Cymro i’r Carn

Ar ran PAWB, dywedodd Robat Idris:

Bu’n fraint o’r mwyaf i gael ystyried Carl yn ffrind agos. Dyma’r Prif Weinidog gorau na chafodd Cymru erioed.