Dyma Jacob Rees-Mogg, wrth ddechrau arni fel Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, wedi rhoi gwers a phregeth i seneddwyr, gweinyddwyr ac eraill ar yr iawn ddefnydd o’r iaith Saesneg.
Pwy tybed oedd y gwleidydd amlwg diwethaf i roi cyngor ar ramadeg? Efallai mai Churchill, pan atebodd ryw was sifil ifanc a oedd yn or-bryderus rhag gohirio’r arddodiad i ddiwedd y frawddeg: ‘Young man, this is the kind of nonsense up with which I will not put’.
O edrych ar restr Jacob o bethau gwaharddedig, gwelwn ei bod yn gymysgedd o bwyntiau gramadeg, pwyntiau atalnodi, pwyntiau arddull ac yn wir pwyntiau polisi. Enghraifft o’r olaf: ni fyn sôn am ‘fuddsoddi’ (invest) mewn ysgolion. Hollol iawn hefyd, o ran synnwyr.
Mae am wahardd ‘I note/understand your concerns’. Hwyrach ei bod yn bryd i ninnau Gymry roi diofryd ar ‘Dwi’n gweld o ble ’dach chi’n dŵad’, ymadrodd sy’n hoff gan Ddynion Ifainc Pwysig mewn swyddfeydd. Beth am i swyddogion a gweinyddwyr o bob math roi’r gorau i ddweud ‘yn anffodus’ wrth gyfeirio at eu penderfyniadau eu hunain? ‘Yn anffodus, allwn ni ddim caniatáu hynna.’ Pam ‘yn anffodus’, yr iâr ddŵr wirion, os mai chi sy wedi penderfynu na allwch chi ddim caniatáu …? A beth petai pawb ohonom yn cymryd y peth yn llythrennol mewn swyddfa, ystafell aros &c bob tro y dywedir ‘cymerwch sêt’?
Ym myd Jacob, yr hen ffasiwn bellach yw’r ffasiwn newydd. Mae am inni ddefnyddio’r hen fesurau – llathen, pwys &c. Llawn cystal hefyd am wn i. Ond wrth gyfeirio at Aelodau Seneddol di-deitl, rhaid imi fod yn ofalus iawn o hyn ymlaen: Hywel Williams Ysw., A.S. bob gafael.
‘Ofalus iawn’, meddwn i. Ond nid yw ‘very’ i’w ddefnyddio chwaith! Ac mae amryw o ymatebwyr y bore ’ma fel finnau’n methu gweld llawer o ddim byd o’i le ar rai geiriau yn y rhestr, heb ddangos cyd-destun o leiaf: equal, yourself, lot, got, disappointment. Fe’n dysgid ni ers talwm fod ‘due to’ yn iawn ar ôl enw – ‘due to the weather’. Ers pryd y mae hwn yn annerbyniol …? Ond wps! Gwelaf fod ‘unacceptable’ hefyd yn wrthodedig!
Yn awr, os yw Jacob o ddifri dros iawn eirio a thros urddas yr iaith Saesneg, fe ddylai ei ordd ddod i lawr yn drwm ar ddau beth arall:
(1) Yr arfer ofnadwy o gyffredin bellach o ddechrau pob brawddeg efo ‘So ..’ heb ystyr o gwbl.
(2) Yr anfadwaith, cyffredin a chynyddol eto, o ddweud ‘their’ wrth gyfeirio’n ôl at rywbeth unigol. ‘A Member of Parliament is answerable to their constituents.’ Ble mae synnwyr pobl?
Mae un ymadrodd arall y mae Arweinydd y Tŷ am ei fwrw i’r tywyllwch eithaf: ‘fit for purpose’!
Y cyfan a ddywedaf heddiw: os mai ‘fit for purpose’ yw problem fwyaf yr iaith Saesneg, gwyn ei byd. Beth pe bai ganddi ‘dydw i heb …’ ? Beth petai pobl yn dechrau dweud ‘I haven’t not done …’?
A gyfyd rhyw Jacob rywle yng Nghymru i ddarllen y Ddeddf Derfysg yng nghlyw ein gohebwyr a’n golygyddion a chyflwynwyr S4C a dweud wrthyn nhw ‘rhowch y gorau i’r holl ddydwihebio ’ma ar boen eich bywyd’?
Yn wir, i arbed llawer o drafferth ac ailadrodd, fe allai’r Jacob Cymreig gyfeirio’n syml at lyfr bach cryno o ganllawiau hwylus i helpu pawb ym myd gweinyddiaeth, y cyfryngau ac addysg – yr olaf yn arbennig. Iawn Bob Tro yw ei enw, ac os nad yw gan eich llyfrwerthwr mae ar gael gan Ddalen Newydd Cyf. am y pris ofnadwy o resymol o wythbunt.