Diwrnod o orymdeithiau, ralïau a chynadleddau oedd hi ddoe.
Clywn fod tua dau gant o Frexitwyr o Ogledd-Ddwyrain Lloegr (Brynaich a Deifr, chwedl yr hen Gymry) ar eu hymdaith bythefnos tua Llundain, a bod yr hen Farage wedi ymuno â nhw am ychydig filltiroedd. Yn y cyfamser, rali lawer iawn mwy yn llenwi canol Llundain i alw am ‘Bleidlais y Bobl’ – sef yr ail un, yn y gred neu’r gobaith y bydd y canlyniad yn wahanol i’r tro cyntaf.
Ai felly y bydd – neu y byddai – hi? Allwn ni ddim bod yn sicr. Yn un peth, bu cyfran bur uchel o ymatal yn refferendwm 2016 (ac yn ddiddorol ac od, yr ymatal mwyaf yn y rhanbarthau AROS cryfaf, sef yr Alban a Llundain). Beth all dynnu ymatalwyr allan i bleidleisio? Achosion adain-dde neu adweithiol, ran amlaf. (Nid wyf yn dweud mai hynny, neu hynny’n unig, yw Brexit; ond felly y’i gwelir, y teimlir yn reddfol yn ei gylch, gan y rhan fwyaf – y rhan fwyaf o ddigon, er nad pawb – o’i gefnogwyr.)
Cofiwn hefyd nad yw maint rali na deiseb yn mennu dim ar lywodraeth (ganol na lleol). ‘Dy bôl, pe deuai balot …’, dyna’r unig beth o bwys.
***
Teithiodd llawer o’r Alban i’r rali yn Llundain, gyda Nicola Sturgeon yn un o’r prif siaradwyr. Yn awr, cwestiwn: a ddylai gwleidyddion yr SNP fynd i Lundain i ddangos ochr ar y mater hwn? Dyfalaf eu bod yn rhesymu rywsut fel hyn, fod yno lwyfan da i ddarlledu’r neges i Ewrop, a hefyd yn ôl i’r Alban i gadarnhau’r credinwyr yno.
Ond fel ymarfer, dychmygaf yn awr fy mod i’n brif weinidog yr Alban ac yn arweinydd y Blaid Genedlaethol. Yn y sefyllfa honno, byddwn i’n gofyn y cwestiwn hwn: beth petaem ni’n cael ‘Pleidlais y Bobl’ (neu Brexiref 2), a’r fantol dros Brydain yn troi o blaid aros i mewn? Wps! Onid dyna fyddai taflu ymaith y cyfle gorau a gafodd yr Alban erioed yn ei holl hanes gwleidyddol? Onid y peth gorau o ddigon, o ran dyfodol yr Alban, fyddai i Inglandanwêls losgi eu bysedd unwaith eto?
Nage, meddai Joanna Cherry AS ar wefan The National heddiw – hithau yn y rali ddoe, hefyd Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan. Bydd yr achos dros annibyniaeth yr Alban, a’r gefnogaeth, yn aros yr un fath, meddai hi. Gallwch ddarllen yr erthygl, a barnu. Dyna safbwynt Wee Ginger Dug heddiw hefyd.
Safbwynt sylfaenol yr hen G.A. ? Os daw rhyw dda o’r Brexit, Alban annibynnol fydd y peth hwnnw, ac yn dilyn – a hynny’n syth gobeithio – ymadawiad Trident o lannau Clud. Dyma’r PETH MAWR. Dyma fyddai’n torri crib y Sefydliad Prydeinig, sef y peth nad yw’r Chwith Brydeinig ragrithiol erioed wedi llwyddo i’w wneud, nac erioed wedi ceisio.
***
Ddoe hefyd bu rali yn Glasgow, wedi ei threfnu gan Tommy Sheridan, yn galw ar lywodraeth yr Alban a’r mudiad cenedlaethol i flaenoriaethu achos annibyniaeth. Er chwilio’r cyfryngau, anodd oedd cael llawer o wybodaeth am hon. Un dewis fyddai i Holyrood drefnu refferendwm ei hun, nid gofyn i lywodraeth Prydain am un, neu am ganiatâd i’w gynnal. Fel yr wyf wedi dweud droeon, byddai’r hen G.A. yn mynd ymhellach. Pan ddaw etholiad, San Steffan neu Gaeredin, dylai’r blaid genedlaethol ddatgan: os cawn ni fwyafrif y tro yma eto – unrhyw fwyafrif, canys dyna reolau’r chwarae fel yr ydym wedi eu deall erioed – byddwn ni’n cyhoeddi’r Alban yn wladwriaeth annibynnol ac yn cychwyn trafodaethau tuag at gael cydnabod hynny gan Loegr a chan y Gymuned Ewropeaidd. Refferendwm? Indyref 2? Gadewch i’r ochr arall weiddi am hwnnw.
***
Teithiodd rhai cenedlaetholwyr Cymreig i Lundain ddoe. Bu eraill yn cynadledda ym Mangor. Gan nad es yno i weld, dau gwestiwn am y gweithgareddau:
(1) A ddywedwyd rhywbeth am Y MWD ?
(2) Gan fod polisi’r Blaid yn wrth-niwclear, a fu cynnig yn croesawu’r newydd da am Atal Wylfa B? Neu hyd yn oed yn diolch i’r Brexit am ddwyn y fath ganlyniad yn nes?
Yn ôl un o’r siaradwyr, ‘peth anghymreig’ yw Brexit gan nad oes gair Cymraeg amdano. Well inni ddechrau dweud ‘PRALLAN’ o hyn allan?