Nifer o straeon da ar y gwefannau newyddion heddiw.
(1) GOLWG 360. Cyn-bennaeth MI6 ‘yn falch fod Jeremy Corbyn wedi mynd’
Waw! Dyma ichi syndod!
Ar raglen Andrew Marr fe ddywedodd Syr Richard Dearlove, a fu’n ‘M’ un ai cyn neu ar ôl Judi Dench (dydw i ddim yn cofio’n iawn) ‘ei fod e’n croesawu ethol Syr Keir Starmer yn arweinydd newydd y blaid’, gan fod y cyn-arweinydd, Corbyn, ‘yn fygythiad i’n gwlad’.
Ychwanegodd am Starmer ‘Efallai nad ydw i’n ei gefnogi fe’n wleidyddol ond dw i ddim yn gweld ailadrodd y math o broblemau gawson ni gyda Jeremy Corbyn, dim o gwbl mewn gwirionedd.’
Pwy ydi’r ‘ni’ yn y frawddeg? Cymeraf y byddwch chi, ddarllenwyr y blog hwn, yn gwybod. Winc winc, pwniad pwniad.
Ond beth yn union oedd y ‘bygythiad i’n gwlad’? Nid ymddengys fod ‘M’ wedi manylu ar hyn, ond gellir bod yn weddol sicr beth oedd ganddo yn y pen draw, sef mater yr arf niwclear. Trident. Yn wir ni bu Corbyn yn gwthio’r mater hwn yn ystod ei gyfnod fel arweinydd, canys gwyddai na châi gefnogaeth ei blaid seneddol. Ond roedd y Sefydliad yn cofio beth oedd safbwynt personol Corbyn a’i record yn y gorffennol, ac nid syndod eu bod yn teimlo’n saffach gyda’r dieneiniad a’r di-ddim-byd-neilltuol Starmer, na fyddai byth yn croesi ei feddwl newid dim byd sylfaenol yng ngwleidyddiaeth Prydain Fawr.
Do, fe gollodd Corbyn, a thybed a fu yna ryw gyfraniad tuag at hynny gan ‘M’, neu efallai gan ‘Control’ chwedl John le Carré, cyfraniad i’w olrhain a’i adrodd gan ryw hanesydd yn y dyfodol? Petai Corbyn wedi digwydd ennill, tybed beth fuasai wedyn? A fyddai hogiau Eton a Sandhurst wedi camu i mewn gyda rhyw fesur bach tuag at rwystro’r ‘bygythiad i’n gwlad’? Mae’r meddwl yn mynd at y nofel A Very British Coup, gan Chris Mullin, gŵr sy’n rhannu gyda’r diweddar Paul Flynn deitl gwleidydd Prydeinig gorau’r hanner can mlynedd diwethaf.
A sôn am y ‘bygythiad i’n gwlad’, siawns nad yw Syr Richard a’i ffrindiau yn deall fod yna fygythiad llawer mwy na dim byd a allai ddod o du’r Chwith Brydeinig dila, ragrithiol, sef y bygythiad o’r Alban. Synnwn i ddim nad James Bond a fu’n o brysur yno hefyd dros y misoedd diwethaf.
A byddaf yn dal i ofyn hyn o dro i dro, a yw cael Trident i Gymru yn dal yn bolisi Llafur Cymru, ynteu a yw’r breuddwyd hwnnw wedi mynd i Aberystwyth efo Carwyn? Dowch o’na Sosialwyr, mae llwyfan agored ichi ateb ar Flog Glyn Adda.
* * *
(2) GOLWG 360. Aelod Seneddol Môn yn ymuno gyda’r RAF.
Anfarwol. Mae Aelod Seneddol newydd Ynys Môn am ymuno â’r Llu Awyr er mwyn ‘deall yr heriau mae ein milwyr dewr yn eu hwynebu’. Ar ôl treulio deng niwrnod ar hugain ‘yn cwblhau cwrs hyfforddi dwys’ fe ddaw allan ‘ar yr un lefel â Squadron Leader.’ Llawenhewch felly, etholwyr gwlad yr hen Frynsiecyn, dyma ichi ryfelwraig a all gymharu unrhyw ddydd â Ruth Davidson (‘Cyrnol Byfflo’, fel y byddai’r cenedlaetholwyr yn ei galw), arweinydd Torïaid yr Alban tan ei hymadawiad disyfyd, Cyrnol er anrhydedd yn un o gatrodau’r Ucheldiroedd. Ac awgrym i Blaid Cymru: y tro nesaf, beth am fabwysiadu’n ymgeisydd Air Vice Marshal Bill ‘Bomber’ Bloggs? Efallai y byddai’n ennill.
A rwan, ‘yr heriau y mae ein milwyr dewr yn eu hwynebu’. Ai y brif her o hyd yw sut orau i fomio plant Yemen? Dyna oedd hi tan ychydig yn ôl.
Gwamalrwydd o’r naill du, fel weithiau ar y blog hwn. Jolpan hollol wirion. Pobol hollol wirion. Pobol ddrwg hefyd.
* * *
(3) GOLWG 360. Y Democratiaid Rhyddfrydol yn poeni am ddyfodol papurau newydd Cymru.
‘Fu erioed ddrwg …’ meddai’r hen air, ac nid anodd rhestru rhai pethau nid-mor-ddrwg sydd wedi deillio o’r Corona – llai o draffig, awyr lanach, cân yr adar, llai o fyfyrwyr ym Mangor. Ac os gwir fod yr un amgylchiadau yn bygwth dyfodol y wasg Saesneg a fu’n chwydu gwrth-Gymreigrwydd am ein pennau bob dydd o fewn cof pawb sy’n fyw, wel, ‘diweddglo i’w lwyr eidduno’n wir’, a dyfynnu’r cyfieithiad Cymraeg o Hamlet.
Ond os byth y daw yr hyfryd ddydd y bydd y Daily Post, y Western Mail a’r South Wales Echo wedi mynd i’w haped, a chyda hwy sawl rhecsyn gwenwynig mwy lleol, a fydd yna gyfle wedyn i’r wasg Gymraeg? Fe ddylai fod, ond a oes yma bellach y ddawn a’r weledigaeth i fanteisio arno? Bymtheng mlynedd yn ôl fe geisiodd ein cwmni ni, Dalen Newydd, wneud rhywbeth yn y maes, heb fawr o lwyddiant. Yr adeg honno byddai tamaid bach o ddiddordeb gan lywodraeth ‘Cymru’n Un’ wedi bod yn help, ac rwyf wedi cofnodi o’r blaen fel y bu i rai cynrychiolwyr etholedig golli fôt drwy benderfynu peidio ag ateb llythyr ar y pwnc.
* * *
(4) BBC Cymru Fyw. Plaid Brexit i ymgyrchu ‘i ddiddymu’r Senedd’.
Pwy sy’n cofio Plaid Brexit? Oes, mae ganddi bedwar Aelod o hyd ym Mae Caerdydd er ei bod wedi diflannu o bobman arall, a’i harweinydd hi, Mark Reckless, a’i rhoddodd yn ôl yn y penawdau drwy awgrymu swyddogaeth newydd iddi, sef galw am ddiddymu Senedd y Bae. Sonnir am ei hail-frandio, a thebyg mai’r enw gorau iddi yn yr etholiad nesaf fyddai ‘Y Blaid Wrth-Gymreig’. Dan yr enw hwnnw dylai ddenu cefnogaeth gref gan ennill yn sicr rai seddau rhestr. Calondid bach i Blaid Cymru efallai, gan y byddai’r cystadleuydd newydd hwn, gyda’i neges glir a chryno, yn mynd â thipyn oddi ar y tair plaid unoliaethol fel ei gilydd.
* * *
(5) GOLWG 360. Gwrthod galwadau i gynnal pleidlais ar ffiniau Iwerddon.
Micheal Martin, Taoiseach newydd Iwerddon, sydd wedi ‘gwrthod y galwadau’. Daeth y rheini o du Sinn Fein, a thebyg iddynt gael eu gwrthod am yr un rheswm yn union ag y gwrthodwyd unrhyw le i Sinn Fein mewn clymblaid wedi etholiad diweddar y Weriniaeth.
Ryw ddau Nadolig yn ôl cefais lyfr diddorol iawn yn rhodd gan un o’m meibion. Richard J. Aldrich a Rory Cormac yw’r awduron, a’r teitl yw The Black Door : Spies, Secret Intelligence and British Prime Ministers. Ymhlith llawer o bethau difyr eraill y bernir ei bod bellach yn ddiogel eu hadrodd, mae’n dweud hyn. Pan ddaeth Llafur yn ôl i rym yn 1974 fe etifeddodd y llanast a’r chwerwedd ofnadwy a oedd wedi eu creu gan lywodraeth Heath yn unol â’r polisi Torïaidd traddodiadol o ddwysáu problem Gogledd Iwerddon ar bob cyfle. Ar un pwynt roedd pethau wedi mynd mor ddyrys nes i Harold Wilson benderfynu mewn anobaith, ‘Hwdiwch, gewch chi nhw, cymerwch nhw er mwyn y nefoedd’, a chyfleu hynny i lywodraeth y Weriniaeth. A’r ateb diplomyddol o’r De? ‘Ddim ar unrhyw gyfri.’
Yn wir, pwy yn ei iawn bwyll fyddai’n dymuno cael y fath bac o drwbwl? A dyna farn gwleidyddion y Weriniaeth o hyd, mae’n amlwg.
Ac ar wahân i’r mater anodd hwn, daw gwers arall o wleidyddiaeth gyfoes yr Ynys Werdd, ac esiampl i Gymru efallai. Coalisiwn rhwng y ddwy blaid fawr draddodiadol, a thipyn bach o Wyrdd hefyd. Ie. Rai blynyddoedd yn ôl fe wnaed awgrym diddorol iawn gan David Davies, A.S. Mynwy bellach, sef mai’r glymblaid naturiol yn y Cynulliad Cenedlaethol – Senedd Cymru bellach – fyddai Tori a Llafur, gan eu bod yn sylfaenol gytûn ar bob peth o bwys. Ni chymerodd neb fawr o sylw ar y pryd, ond tybed nad oes yma bosibilrwydd ar gyfer 2021 os llwyddir i gynnal etholiad bryd hynny? Yn hytrach na bod yn gi bach mewn llywodraeth glymblaid, ac yna talu’r pris y mae’r ci bach yn ei dalu bob tro, sef colli mwy o seddau, dyma gyfle i Blaid Cymru fagu nerth drwy ddechrau bod yn wir wrthblaid. A wêl hi hynny? Go brin.