Archif | Gorffennaf, 2013

Gwasg mewn Gwasgfa

1 Gor

Bûm yn darllen Bob, cofiant R. Williams Parry gan Alan Llwyd; a thua’r un adeg bûm yn pori’n helaeth yng ngweithiau W.J. Gruffydd. Dyma ddau gynrychiolydd o genhedlaeth eithriadol ddawnus beirdd Cymraeg hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Yr oedd i’r genhedlaeth hon ei hathrylith ei hun, ond bu hefyd yn ffodus yn ei hamgylchiadau,  –  er iddi fyw drwy flynyddoedd dreng a phrofi o beth o’u gofid.  Un wedd ar ei ffawd dda oedd bod ganddi gynulleidfa, a gwedd arall gysylltiedig oedd bodolaeth gwasg Gymraeg helaeth a chref. Yr oedd digon o bapurau wythnosol Cymraeg fel y gallai Williams Parry neu Gruffydd, pe baent yn dewis, gael papur bob dydd, a rhai dros ben. Yr oedd digon o lwyfannau i gyhoeddi gwaith a’i drafod, ac nid esgeulusid llenyddiaeth Gymraeg ychwaith gan y Western Mail (er mor adweithiol oedd hwnnw ar rai pethau), na chan y cylchgrawn Welsh Outlook.  Truenus mewn cymhariaeth yw’r wasg denau, dila heddiw.  A rhaid inni gofio hyn bob amser:   fe aeth y papurau Cymraeg i lawr a diflannu, nid am eu bod yn bapurau gwael, ond pan oeddynt yn bapurau da. Yr esboniad?  Y Cymry’n troi’n Saeson, sef y ffaith seml a adlewyrchir yn ystadegau iaith 2011.

Ond mae’n rhaid dal ati. Ac un o’r problemau y mae’n rhaid mynd at eu gwraidd, os oes modd yn y byd,  yw problem y wasg.   Yn dilyn mae’r ddogfen fer a anfonodd Dalen Newydd Cyf. yr wythnos ddiwethaf at y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar ‘Y Gymraeg a Datblygu Economaidd’.  Sefydlwyd y Grŵp gan Edwina Hart, y Gweinidog Datblygu Economaidd, ac fe’i cadeirir gan Elin Rhys.  Dyma’r trydydd tro i Dalen Newydd gyflwyno’r syniadau hyn i banelau wedi eu sefydlu gan lywodraeth Cymru; ni chafwyd unrhyw ymateb y ddau dro cyntaf.

 *          *

1          Mae sefyllfa’r wasg Gymraeg a’i dyfodol yn bynciau perthnasol iawn i unrhyw  ystyriaeth o’r Gymraeg a Datblygu Economaidd.      

2          Deil penderfyniad y Llywodraeth ar fater Y Byd, Chwefror 2008, yn siom ac yn ddirgelwch. Yr oedd tri o aelodau Dalen Newydd Cyf. yn fuddsoddwyr yn Dyddiol Cyf., ond eisoes yn gweithio ar gynllun gwahanol a chyfochrog y gobeithid y byddai’n llenwi bwlch arall mewn newyddiaduraeth Gymraeg. Y cynllun hwnnw oedd cyhoeddi cadwyn o bapurau Cymraeg wythnosol am ddim, gan ddechrau ym Môn ac Arfon.

3          Drwy’r cyfan mae rhyw ‘afael’ ar bapur newydd, – papur go-iawn, wedi ei wneud o bapur.     Dylai cymuned ieithyddol o hanner miliwn allu cynnal tri neu bedwar papur dyddiol. Ond beth a wneir pan yw dau o bapurau Saesneg Cymru, y Western Mail a’r Daily Post, yn wynebu anawsterau, yn rhannol oherwydd gwasgfa economaidd ac yn rhannol oherwydd cwymp enfawr yn eu cylchrediad, ynghyd â her technoleg wahanol? 

4          Yn wyneb ystadegau sobreiddiol 2011, daw yn amlwg mai sefydlogi ddylai fod yn flaenoriaeth unrhyw strategaeth ar gyfer y Gymraeg. O ran magu teimlad o ‘berchenogaeth’ neu ‘feddiant’ ar iaith, a thrwy hynny ei sefydlogi fel rhan o fywyd bob dydd, nid oes dim un ffactor pwysicach na’r gallu i’w darllen, a’r arferiad o’i darllen yn rheolaidd.   Dyma pam, mewn sawl ardal o Gymru, y bu cyfraniad y papurau bro, oddi ar ddechrau’r 1970au, yn gwbl allweddol.  Y rhain, heb unrhyw amheuaeth, fu llwyddiant diwylliannol mawr Cymru yn rhan olaf yr hen ganrif: buont yn angor i’r Gymraeg yn wyneb llawer o ddylanwadau eraill a oedd yn ansefydlogi.

5          Bwriad Dalen Newydd oedd, ac a fydd eto os gwelir amgylchiadau ffafriol,  cyhoeddi dau bapur lleol masnachol wythnosol, Tarian Arfon a Tarian Môn.  Yr ydym am bwysleisio mai papurau lleol a fyddai’r rhain, nid papurau bro; h.y. byddent ar yr un tir â’r Holyhead & Anglesey Mail neu’r Caernarfon Herald, nid Llais Ogwan neu Papur Menai.  Gwnaed copïau peilot o’r ddau bapur, 32 tudalen yr un, a’u defnyddio i gynnal arolwg o ffynonellau hysbysebion yn y ddwy ardal.  Byddid yn dosbarthu yn rhad ac am ddim, gan dalu i gwmni dosbarthu a chan anelu at gylchrediad o 30,000 (17,500, Arfon; 12,500, Môn). Byddai Tarian Arfon yn gwasanaethu hen sir Gaernarfon, sef rhan o sir bresennol Gwynedd a rhan o sir bresennol Conwy, a Tarian Môn y cyfan o Fôn.  Cynulleidfa’r papurau bro fyddai ein sylfaen. Byddid yn adeiladu ar y sylfaen  hon, a gweithio tuag at yr hyn a fyddai, i bob diben, yn wasg Gymraeg genedlaethol wythnosol  gyda chynulleidfa eang, ond yn bodoli ar ffurf cyfres o fersiynau lleol.

6          Ni allwn anwybyddu casgliad ‘Arolwg  Bianchi’ (2008):   ‘Mae’r sector newyddion print Cymraeg yn dameidiog, yn dlawd ac yn rhy anghyflawn i ddiwallu hyd yn oed anghenion mwyaf sylfaenol y darllenydd modern am wybodaeth ynglín â’r gymdeithas y mae’n byw ynddi.   … Nid oes dim cyfrwng print Cymraeg ar gyfer newyddion yng ngwir ystyr y gair.’  

7          Ac eithrio hysbysiadau cyhoeddus, nid oes cronfa genedlaethol Gymreig o hysbysebion. Mae hysbysiadau Llywodraeth y Cynulliad, llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus cenedlaethol yn allweddol yng nghynhaliaeth y wasg Saesneg ddyddiol ac wythnosol yng Nghymru heddiw.  Dangoswyd hyn yn glir yn  adroddiad gwerthfawr Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd, The Regional and Local Media in Wales (2006).

8          Y dewis arall fyddai cymhorthdal uniongyrchol, megis a delir i rai cyhoeddiadau Cymraeg drwy Gyngor Llyfrau Cymru, ond ar raddfa lawer yn fwy. Bydd y gweithgor yn ymwybodol o anawsterau hyn. Buom ninnau’n gyson yn pwysleisio nad oeddem yn dymuno dibynnu ar grantiau, a bod gwahaniaeth o ran egwyddor rhwng hynny a derbyn hysbysiadau cyhoeddus fel rhan o fusnes.  I gyfiawnhau’r math hwnnw o gefnogaeth byddai raid i’r papurau Cymraeg, yn union fel y rhai Saesneg,  gynnig cylchrediad a fyddai’n rhoi gwerth am arian i’r holl hysbysebwyr, preifat a chyhoeddus. Byddai Dalen Newydd yn troi pob carreg i sicrhau hysbysebion masnachol, ac yr ydym wedi arloesi drwy ymweld â thua 500 o brif fusnesion Môn ac Arfon.

9          Hoffem feddwl y gallai’r ddwy Darian ddod yn gychwyn ar gadwyn o bapurau Cymraeg wythnosol yn ymestyn dros y rhan helaethaf o Gymru ac yn cynnig cylchrediad  mawr (100,000 efallai, yn darged).  Ac edrych ymlaen, un posibilrwydd fyddai cyhoeddi papur ar ddau ddiwrnod yr wythnos (unwaith am ddim ac unwaith ar werth, efallai), a phwy a ŵyr na byddai llwybr yn arwain o’r fan honno tuag at y nod o wasg ddyddiol  –  nod y mae’n rhaid ei gyrraedd, hwyr neu hwyrach, ryw fodd neu’i gilydd.

10        Ni byddem yn diystyru’r posibilrwydd o ddealltwriaeth â grŵp neu gwmni arall pe gwelid bod hynny’n ffordd o greu cylchrediad helaeth un ai  ar gyfer hysbysebion cyffredinol neu (yn fwy addas efallai) ar gyfer hysbysiadau cyhoeddus cenedlaethol yn unig. (O  ran hysbysiadau masnachol a hysbysiadau cyhoeddus lleol, byddai’r ddau grŵp yn gweithredu’n annibynnol ar ei gilydd, a byddent yn gwbl annibynnol yn olygyddol.)   Un posibilrwydd fyddai cydweithio rhwng (a) Tariannau Môn-Arfon, gyda chylchrediad ‘trwchus’ o fewn ardal  gyfyngedig, a (b) papur am-ddim arall gyda chylchrediad ‘teneuach’ ond cyffredinol drwy Gymru.  Ond oherwydd y ffactor a grybwyllwyd o’r blaen, sef nad oes cronfa genedlaethol Gymreig o hysbysebion masnachol, ymddengys y byddai raid i (b) hefyd wrth ryw fath o sylfaen leol  – y brifddinas, efallai?   Y  strategaeth (gan mai dyna’r allweddair) fyddai cychwyn yn y ddau begwn, Gwynedd-Morgannwg, a gweithio tuag at gyrraedd y rhan helaethaf o Gymru o dipyn i beth.   (Fe ddylai fod gan Gaerdydd ei hun, am ei bod yn brifddinas, o leiaf un papur dyddiol Cymraeg.  Ond stori arall yw honno.)

11        Gobeithiwn y gwêl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yma rywbeth perthnasol i’w ymchwil, a byddwn yn falch o fod â  rhan mewn unrhyw drafodaeth yn dilyn o hyn.

Cymry ar Wasgar

1 Gor

Ddoe, dydd olaf Mehefin, fe godwyd mater pwysig gan yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd.   Galwodd ar i’r Gweinidog Addysg newydd adolygu ffioedd dysgu myfyrwyr yng Nghymru.

Ar fin dweud “fel y cofir …”, mi gofiais nad yw pobl, yn gyffredinol, yn cofio. Yn ôl at ddechrau’r stori felly. Yn 2005, o dan bwysau gan y tair gwrthblaid (Ceidwadwyr, Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru), cytunodd llywodraeth Lafur y dydd i roi ychydig o fantais ariannol i fyfyrwyr o Gymru a oedd yn dewis astudio yng ngholegau Cymru. Daeth arwyddion bach fod y polisi’n dechrau gweithio, ond ni chafodd weithio’n ddigon hir i ddangos canlyniadau pendant. Lladdwyd yr ŵydd fel yr oedd hi’n dechrau gwneud sŵn dodwy.

Pan ddaeth llywodraeth “Cymru’n Un” (Llafur a Phlaid Cymru) i rym, derbyniodd hi argymhelliad i ddadwneud y polisi hwn, hynny yw dileu’r wobr fechan i fyfyriwr o Gymro am aros yng Nghymru.  Gwnaed yr argymhelliad gan banel dan gadeiryddiaeth yr Athro Merfyn Jones, a oedd yn cynghori’r llywodraeth ar faterion Addysg Uwch. Yr oedd yr Athro Jones yn Brifathro Bangor ar y pryd. Ers rhai blynyddoedd bellach mae’n Llywydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gwlad Pob Peth o Chwith.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi gwrthod yr enw a ddylai fod arno, yr enw y bu ymgyrchwyr o’i blaid yn ei argymell bron o’r cychwyn, “Coleg William Salesbury”, bellach wedi sefydlu “Cronfa William Salesbury”, i gefnogi myfyrwyr sydd am ddilyn cyrsiau trwy’r Gymraeg a than nawdd y Coleg.  Hwyrach, ryw ddydd, pan fydd Llywydd newydd ar y Coleg, a phan fydd yr enw iawn ar y Coleg,  a phan fydd y llywodraeth wedi adfer polisi 2005, y cyfranna’r hen G.A. ryw hatling at y gronfa. Ddim cynt.  

Ond yn awr dyma’r Athro Riordan wedi gwneud y pwynt. Cyfieithaf adroddiad y Western Mail:   “Gyda chymaint o fyfyrwyr yn mynd i Loegr i astudio, dywedodd yr Athro Riordan mai canlyniad y  polisi yw fod Cymru’n anfon cyllid allweddol, wedi ei dderbyn gan Westminster, yn ôl i brifysgolion Lloegr.”   A dyfynnir ei eiriau: “Gallaf weld fod y polisi’n gymorth mawr i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru.  Y sgil-effaith anffodus yw fod llywodraeth Cymru yn y diwedd yn cyllido prifysgolion Lloegr, ac rwy’n sicr nad dyna’r bwriad gwreiddiol.”

Beth oedd y bwriad gwreiddiol, wn i ddim, ac rwy’n amau na wyddai llunwyr y polisi chwaith.

Oddi ar 1998 yr wyf wedi traethu llawer ar y mater hwn, y “gwaedu mawr” o ysgolion Cymru bob mis Medi.  Drwy’r cyfan yr wyf wedi osgoi dweud dim am gymhellion personol. Os yw’r unigolyn am “osgoi ei lleferydd a’i llên”, nid yn unig gallaf ddeall hynny, ond gallaf gydymdeimlo â hynny.  Nid wyf erioed ychwaith wedi ymbil ar neb o’r plant alltudiedig i ddod yn ôl. Os yw’r dewis wedi ei wneud, dyna ni, rhaid ei dderbyn. Yn iach iti Gymru. Yr wyf wedi ceisio edrych ar y peth yn amhersonol, fel ffaith gymdeithasol, wleidyddol, ddiwylliannol, fel tuedd neu batrwm yn hanes dosbarth a chenhedlaeth o Gymry. Fel y cyfryw mae’n rhan o’r un dinistr ag a adlewyrchir yn ystadegau iaith 2011. Mae’n un o arwyddion diwedd pobl, eu diflaniad.

Y mae  –  neu efallai y dylem ddweud bellach “yr oedd” – cymdeithas academaidd Gymraeg gref, amrywiol, ddiddorol yn un o angenrheidiau’r Cymry.  Dyna oedd gen i mewn golwg wrth ddychwelyd at y pwnc hwn dros nifer o flynyddoedd.  Efallai nad yr un peth sydd mewn golwg gan y Prifathro Riordan. Ond byddai’n dda petai’r llywodraeth yn gwrando arno.