Rhaid imi gywiro un peth. Cabinet Gwynedd, nid y Cyngor yn gyfan, oedd yn ystyried mater y tai ddydd Mawrth diwethaf. Ddydd Iau, y cyntaf o Ragfyr, y bydd y cynghorwyr oll yn trafod y pwnc hwn, gyda chyfle i dderbyn, gwrthod neu ddiwygio cynnig a roir gan y cabinet.
Gan mor bwysig yw’r ystyriaethau ac mor ddadlennol fydd y penderfyniad, dyma ailadrodd yr hyn a ddywedais ar Dachwedd yr ugeinfed.
‘Os na fydd y cynnig yn cynnwys cymal yn eithrio brodorion rhag talu’r premiwm, fe wna fwy o ddrwg nag o les. (Beth yw ‘brodor’? Rwyf wedi cynnig amryw ddiffiniadau o’r blaen, ac mae’n rhydd i’r cyngor ddewis y mwyaf addas yn ei olwg.)
‘Faint o les pa un bynnag? A fydd y cynnig yn amlinellu mesurau yn gwir alluogi pobl leol i brynu neu rentu cartrefi? A fydd yn dangos yn glir sut y bydd yr incwm o’r premiwm yn gallu helpu? A fydd yn seiliedig ar wybodaeth bendant am faint yr angen? A fydd yn wynebu’r gwirionedd cyffredinol (diamau fod eithriadau lleol iddo) mai gormod o dai sydd yng Nghymru, a bellach ddim digon o Gymry i’w meddiannu?
‘Os bydd y cynnig yn ddiffygiol yn y pethau hyn, anodd rywsut rhagweld y derbynnir gwelliannau iddo ddydd [Iau]. A chwestiynau sylfaenol i’w hateb eto, onid oes yma achos lle dylid cyfeirio’r cyfan yn ôl i’w ailystyried?’
§
‘Oes,’ yw ateb deg o gynghorwyr Llŷn ac Eifionydd, mwyafrif cynghorwyr Gwynedd o’r ddau gwmwd, y cyhoeddwyd ganddynt y datganiad isod. Dyfynnaf ef yn gyfan, gan ei fod yn gryno a rhesymegol, yn taro’r hoelen ar ei phen, ac yn beth a all achub y cyngor rhag gwneud clamp o gamgymeriad.
§
Datganiad gan fwyafrif cynghorwyr sir Llŷn ac Eifionydd ar fater cynyddu’r premiwm treth gyngor
Rydym ni a enwir isod yn gwrthwynebu’r cynnydd arfaethedig yn y premiwm treth gyngor ac yn galw ar ein cyd-gynghorwyr i ystyried effaith y fath gynnydd ar boblogaeth frodorol ein hardaloedd.
***
Tueddir i gyfystyru parhad y Gymru Gymraeg weddillol â mater ehangach cyfiawnder cymdeithasol ym maes tai. Mae’r materion hyn yn gorgyffwrdd ond nid ydynt yn cyfateb yn llwyr. Mae cyndynrwydd i gydnabod y gwirionedd anghysurus hwn.
Dau amcan sylfaenol ddylai fod gennym yn y maes hwn: sefydlogi’r sefyllfa dai haf a chadw eiddo ym meddiant brodorion.
1. Sefydlogi’r sefyllfa dai haf. Mae 2237 o dai haf yn ardal Dwyfor (ystadegau Gorffennaf 2022). Nid oes tystiolaeth bod galw cyfatebol am dai yn lleol. Hynny yw, gormod o dai sydd yma o gymharu â maint y boblogaeth frodorol. Pe deuai cyfran sylweddol o’r tai haf hyn ar y farchnad, mae’n annhebygol mai brodorion fyddai’n eu prynu. Mae yma fewnlifiad mewn potensial a allai ansefydlogi demograffi ieithyddol yr ardal ymhellach.
Dylid ymgyrraedd at sefydlogi neu gymell gostyngiad graddol yn nifer y tai haf (drwy gyfrwng y mesurau arloesol eraill a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru – amrywio’r dreth drafodion tir, dosbarthiadau defnydd cynllunio, cwotas lleol ac, yn bennaf oll, cynllun peilot tai Dwyfor). Ar yr un pryd, dylid ymbwyllo rhag cyflwyno premiwm treth gyngor sy’n debygol o orfodi brodorion i werthu eu heiddo a chymell perchnogion tai haf i’w troi’n aelwydydd preswyl, gan arwain at ostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng nghymunedau’r Sir.
2. Cadw eiddo ym meddiant brodorion. Mae hyn yn hanfodol. Ni ddylid cosbi brodorion am ddal gafael ar eiddo. Mae perygl y byddai cynyddu’r premiwm yn taro brodorion a fyddai’n methu cyrraedd y trothwy gosod ar gyfer unedau gwyliau hunan-ddarpar, gan amharu felly ar eu gallu i gynhyrchu incwm a byw yn lleol a’u cymell, yn y pen draw, i ollwng gafael ar eu hetifeddiaeth. Ymhellach, mae’n debyg y byddai cynyddu’r premiwm yn cymell rhagor o berchgnogion tai haf i farchnata eu tai fel unedau hunan-ddarpar gan danseilio gallu brodorion i ennill bywoliaeth yn y maes. Mae digon o arwyddion fod hyn yn digwydd eisoes.
Mae’n dilyn o’r sylwadau hyn y dylai’r penderfyniad ynglŷn â’r premiwm treth gyngor ar dai haf fod yn destun asesiad effaith ar y Gymraeg fydd yn ystyried (i) yr effaith debygol ar y ganran o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg mewn cymunedau neilltuol a (ii) yr effaith debygol ar allu brodorion i ennill bywoliaeth ym maes llety gwyliau hunan-ddarpar. Mae’r olaf yn neilltol bwysig yn achos ffermydd sydd wedi arallgyfeirio.
Hyd yma nid yw Cabinet Gwynedd wedi llwyr ystyried effaith cynyddu’r premiwm ar y boblogaeth frodorol. Nid yw wedi paratoi asesiad effaith ieithyddol (a hynny’n groes i bolisi). Ac mae wedi llwyr ddiystryru casgliadau pwyllog adroddiad Dr Simon Brooks ar dai haf.
Richard Glyn Roberts, Abererch John Brynmor Hughes Abersoch a Llanengan
Eirwyn Williams, Criccieth Hefin Underwood, De Pwllheli
Steven W. Churchman, Dolbenmaen Anwen J. Davies, Efailnewydd a Buan
Gwilym Jones, Gorllewin Porthmadog Angela Russel, Llanbedrog a Mynytho
Gruffydd Williams, Nefyn Gareth Williams, Pen Draw Llŷn