Archif | Awst, 2020

Pennill neu ddau

26 Awst

Dyma ichi bennill:

Not in this land alone,
But be God’s mercies known,
From shore to shore!
Lord make the nations see,
That men should brothers be,
And form one family,
The wide world o’er.

Ni chenir mo’r pennill hwn yn aml, ond daw o ‘God Save the King’ gan ddangos beth yw’r gerdd honno, sef anthem Chwigaidd ddyngarol. (Beth yw Chwig a Chwigaidd? Gweler yr ysgrif yn Meddyliau Glyn Adda, neu yn y blog hwn, 28 Hydref 2014.) Gobeithir am heddwch, undod a brawdgarwch byd-eang, ond gyda’r rhagdybiaeth anhepgorol mai gwladwriaeth unedol newydd Hanoferaidd Prydain Fawr yw’r offeryn i greu’r sefyllfa dra dymunol honno. Nid oes neb yn hollol sicr pwy yw awdur yr anthem, ond hawlir hi gan amlaf i Henry Carey (1687-1743).

A dyma bennill arall:

Lord grant that Marshal Wade
May by thy mighty aid,
Victory bring.
May he sedition hush,
And like a torrent rush,
Rebellious Scots to crush.
God save the King!

Ni chenir byth mo hwn chwaith. Oni fyddai’n un da i’w ganu fel rhan o’r ymgyrch NA nesaf yn yr Alban? Y Jacobitiaid, wrth gwrs, yw’r ‘rebellious Scots’, sef criw adweithiol o safbwynt y Chwigiaid, pobl oedd am droi’r cloc yn ôl a llesteirio’r genhadaeth fawr wareiddiol fyd-eang. Tebyg mai’r gwrthryfel Stiwartaidd cyntaf, ‘the ’15′ oedd achlysur canu’r pennill.

Cynnyrch yr un oes a’r un ideoleg yn union yw ‘Rule Britannia’, gwaith y Sgotyn James Thomson (1700-48) a ffrwyth brwdfrydedd rhai Albanwyr – rhai – o’r genhedlaeth gyntaf wedi undeb 1707. Rhyddid yw’r ddelfryd eto, ynghyd â ffyniant masnach a’r celfyddydau, dim ond cofio mai Prydain, ‘at heaven’s command’, a sicrha hyn oll i ddynol ryw. A gwae’r gormeswyr:

Thee haughty tyrants ne’er shall tame:
All their attempts to bend thee down,
Will but arouse thy generous flame;
But work their woe, and thy renown.
‘Rule, &c.

Rhagrith pur wrth gwrs, sef yr hyn yw naw cerdd wladgarol o bob deg.

Achlysur hel y meddyliau hyn heddiw, fel y byddwch wedi dyfalu mae’n siŵr, yw’r ansicrwydd sydd wedi ei fynegi ynghylch morio ‘Rule Britannia’ a chyda hi ‘Land of Hope and Glory’ (cân deneuach, lai diddorol, yn yr un traddodiad) ar noson olaf y ‘Proms’.

Ymateb yr hen G.A. ? Gadewch i Saeson a Phrydeinwyr, fel i ninnau, gael eu hwyl efo rhai pethau. Mae cerdd Thomson, os nad yn glasur, yn grair hanesyddol ac yn mynegi math o feddylfryd. ‘Britons never never never shall be slaves’. Iawn. Ac nid yw’n dweud y dylai neb arall fod yn ‘slaves’ chwaith.

Math o orffwylledd yw’r don bresennol o gywirdeb gwleidyddol, â’r effaith yn rhy aml o gymylu barn a dod rhyngom â gwir gwestiynau moesol. Yn y cyfamser, ‘Britannia rŵl ddy Wêls’, a dyma chwech o bethau go iawn a ddylai fod yn faterion cydwybod ac yn faterion i ymorol amdanynt gan wleidyddion Cymru ar bob lefel:

● Dim rhawiaid yn fwy o’r MWD.
● Dim Wylfa B.
● Dim mwy o hyfforddi peilotiaid Sawdi Arabia yn y Fali na Llanbedr.
● Dim Seisnigo enwau lleoedd.
● Dim gorfodi Saesneg o ddiwrnod cyntaf yr ysgol.
● Dim gwadu gan lywodraeth Cymru fod yna’r fath beth â Hanes Cymru.

Darllen heddiw hefyd fod Llywydd ein Senedd yn mynd i gerdded trigain milltir i godi arian at y Gwasanaeth Iechyd. Ie, yr hen Gapten/Syr Tom druan, a ddaeth yn bric pwdin mor ddefnyddiol i’r Sefydliad ! Faint o bres a godir gan bererindod Elin, ni wyddom, ond gallwn fod yn sicr o un peth: un ehediad gan y Red Arrows a bydd y swm hwnnw, a llawer mwy, wedi mynd mewn tri lliw gyda’r gwynt.

Oes, mae yna bethau go iawn.

Yn fyr iawn heddiw …

20 Awst

Ar wefan Nation Cymru yn gyfredol mae ysgrif gan awdur llyfr newydd ar berthynas Goronwy Rees â Guy Burgess.

A hithau eleni’n ganmlwyddiant geni Harri Webb, dyma ysgogiad i ddarllen eto ysgrif Harri ‘Has Goronwy Rees a Future?’, yn y gyfrol A Militant Muse, golygwyd gan Meic Stephens (1998).

Dyma sodro Goronwy Rees fel y dylid.  Newyddiadurwyr ifainc Cymru heddiw, darllenwch yr ysgrif hon, a darllenwch y gyfrol drwyddi, a hefyd y gyfrol No Half-way House (1997), ichi gael dysgu sut mae ei dweud-hi !

Enwau gweddus

1 Awst

Mae ‘Ffordd Penrhyn’ yn Y Barri wedi achosi gwewyr meddwl ofnadwy. Hai ati felly i roi enwau mwy gweddus ar rai lleoedd yng Nghymru :

Muhammad Ali Deudraeth
Mandela Coch
Othelloside (sef ‘Yr Ochr’, Llandudno)

Ond ow! Bron inni anghofio, enw bedydd yr Arglwydd Penrhyn cyntaf, y perchennog caethion, oedd Richard Pennant. Reit:

Cwm Satchmo
Sammy Davis Junior Melangell

Whiw! Dyna esmwytháu cydwybod !