Sylw bach cyflym ar gynigion newydd Comisiwn y Ffiniau.
Gwir, mae’n debyg, ein bod ni’r Cymry wedi ein gor-gynrychioli ers tro byd, a rhai o’r rhanbarthau gwledig yn arbennig felly. Hyn oll o fewn cyd-destun San Steffan, cofiwch; o ran cynrychiolaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol, efallai bod gofyn meddwl am batrwm hollol wahanol.
Dywed y sylwebwyr oll fod y cynllun a gyhoeddwyd heddiw yn ffafrio’r Ceidwadwyr, ac y gall mai un o’i ganlyniadau fydd dileu sedd Corbyn !
Bid a fo am hynny, beth am yr effeithiau yng Nghymru ? Nid yw o unrhyw wahaniaeth ble tynnir y ffin rhwng dwy etholaeth Lafur solet, ac felly ni bydd fawr o effaith i’r newidiadau ym Morgannwg a Mynwy. Yr unig eithriad o bwys i hyn yw creu sedd newydd ‘Gŵyr a Gorllewin Abertawe’; dyma rodd fach i’r Ceidwadwyr, ond galluogi gweddill Cwm Tawe i ddychwelyd at Lafur.
Yng ngweddill Cymru fe all y newidiadau, os dônt i rym, fod yn bellgyrhaeddol. Canolbwyntiwn heddiw ar un agwedd, sef yr ymhlygiadau i Blaid Cymru.
Gall y newid adael y Blaid gyda dim ond un sedd, sef Caerfyrddin. Ar y llaw arall gall fod yma gyfle iddi estyn ei therfynau a’i dylanwad yn sylweddol, os gwêl hi ei chyfle a pharatoi’n ddeallus ar ei gyfer. OS go fawr, fel y cawn sôn eto. Bwriwn olwg sydyn:
1. Môn ac Arfon. Sedd ymylol (cofiwch o hyd mai am San Steffan yr ydym yn sôn), ond o fewn gafael Plaid Cymru ond iddi ymladd yn iawn
2. ‘Gwynedd’ a Gogledd Clwyd. Dyma rai o ardaloedd mwy Cymreig (neu lai Seisnigedig) Sir Ddinbych wedi eu gwahanu oddi wrth y ‘Costa Geriatrica’, glan môr y gogledd. Cyfle o’r diwedd i BC wneud rhywbeth ohoni – lle dylai fod wedi gwneud rhywbeth ohoni ers blynyddoedd – yn Nyffryn Conwy, Hiraethog ac Uwchaled. Cyfle iddi estyn ei thiriogaeth. Os na all hi ennill mewn rhanbarth fel hyn nid oes fawr ddiben iddi fynd ymlaen.
3. De Clwyd a Gogledd Maldwyn. Ymylol eto, ond dyma wahanu ardaloedd Cymraeg Maldwyn – sydd ymhlith yr ardaloedd mwyaf bywiog yn ddiwylliannol yng Nghymru’r dwthwn hwn – oddi wrth y ‘Severn-Siders’ sarrug, diffaith. Rhodd i BC eto, os gwêl hi ei chyfle, cyfle i ymestyn at y ffin.
4. Ceredigion a Gogledd Sir Benfro. Dyma adfer yr hen etholaeth lle bu Cynog Dafis yn llwyddiannus. Bychan yw poblogaeth Gogledd Sir Benfro, ond gall fod yn ddigon, gydag ymgyrchu da, i wrthweithio dylanwad llethol Prifysgol Aberystwyth.
5. Caerfyrddin yn ôl o fewn terfynau hen etholaeth Gwynfor Evans, a chyfle i BC greu sedd saff.
Ond down yn ôl at yr OS. Mae gan BC dasg enfawr o’i blaen, adennill ffydd ei chefnogwyr naturiol, ar ôl blynyddoedd o’u dirmygu a’u sarhau. Mae’r cau ysgolion yng Ngwynedd yn dal yn friw llidiog, ac wedi’r penderfyniad ynghylch addysg enwadol ym Mhenllyn, rhaid gofyn a ellir byth eto ymddiried ynddi mewn unrhyw fater. Rhaid gofyn a yw hi’n unrhyw beth, bellach, ond cyfrwng i ethol ffyliaid i gyngor a chabinet, er mwyn i’r rheini wedyn benodi gweinyddwyr sydd yr un mor dwp â hwy eu hunain.
Fel cam tuag at ei hadferiad – os yw hynny’n bosibl o gwbl – dylai fod ganddi gyfundrefn o GYNADLEDDAU rheolaidd, SIROL a/neu ETHOLAETHOL. Byddai hyn yn fodd i’r cynrychiolwyr etholedig, a’r cynghorwyr yn arbennig, gael eu hatgoffa o farn a theimlad y rhai sy’n eu cefnogi. Nid dadlau yr ydym yma y dylai’r AC neu’r AS neu’r cynghorydd fod yn DDIRPRWYWR, caeth ym mhopeth i benderfyniad ei blaid; CYNRYCHIOLYDD ydyw o hyd, a dyna ddylai fod, ac i’w gydwybod y mae’n atebol yn y pen draw. Ond eto mae eisiau cau’r gagendor anferth sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng barn a dyhead cefnogwyr naturiol PC ar y naill law, ac ar y llaw arall y polisïau a weithredir gan y rhai y maent wedi eu hethol. Yr union ddyddiau hyn mae materion cynllunio yng Ngwynedd yn achosion prawf.
Cymaint â hynna heddiw am yr agwedd bleidiol-wleidyddol. Mae rhai eisoes wedi cyfeirio at y camenwi sydd yn y cynllun newydd – ‘Aberafon’ am ‘Aberafan’. A chymysgu ‘Brycheiniog’ ac ‘Aberhonddu’ wrth geisio cyfieithu ‘Brecon’. Ond y drwg mwyaf – a hwn yn mynd yn ôl i ganol y 1990au, yw dal i arfer yr enw ‘Gwynedd’ ar beth nad yw ond rhan o Wynedd. Môn, Arfon, Meirion – dyna yw Gwynedd, ac mae nam sylfaenol ar unrhyw gynllun nad yw’n deall hyn. Mae hyn yn berthnasol hefyd – yn wir yn fwy perthnasol – i lywodraeth leol. Ni allaf eto ei roi yn well nag yn fy nwy hen ysgrif ‘Sir Gwymon a Sir Conbych’ a ‘Nid yw hon ar fap’. Darllenwch nhw eto.