Dyma’r saith-ar-hugain wedi rhoi estyniad bach inni eto. Daliaf ar y cyfle i ofyn dau gwestiwn i chi’r darllenwyr.
Ond yn gyntaf ambell sylw byr.
(1) Y dyddiau pan oedd y llywodraeth fwy neu lai wedi gollwng yr awenau, a Thŷ’r Cyffredin wedi meddiannu’r drafodaeth, teimlwn fod yna rywbeth digon iach, amheuthun yn wir, yn yr hyn y buom yn gwrando arno, sef y gwleidyddion ar ddau du’r ddadl yn siarad o argyhoeddiad. Am ychydig ddyddiau, cawsom deimlo ei bod o bwys beth a ddywedid o’r llawr, yn wahanol i fel y mae pan yw llywodraeth yn sicr o’i mwyafrif. Oni fyddai’n beth da cael rhagor o hyn?
(2) Dyna efallai un peth da sydd wedi deillio o PRALLAN. Unrhyw beth arall? Wel, heb amheuaeth, mae wedi helpu tuag at Atal Wylfa B. Llongyfarchiadau, bobl Môn.
(3) Deilliodd refferendwm 2016, a phopeth a ddilynodd hynny, o anesmwythyd parhaol, problem seicolegol ddofn, sef: (a) os oes clwb yn rhywle yn y golwg, mae’n RHAID i’r Prydeiniwr gael perthyn; (b) yr un pryd, mae’n AMHOSIBL iddo dderbyn yr un rheolau â phawb arall. Y dyddiau hyn mae’n ymddangos fod yr Almaen yn cydymdeimlo â Lloegr yn ei chyfyng-gyngor, ac yn awyddus i roi peth help. Mae fel petai’n ddiolchgar i Loegr am ei bomio i edifeirwch gan ei gwaredu oddi wrth ei ffolineb anfad, anfaddeuol ei hun. Nid yw Ffrainc, ar y llaw arall, yn maddau cymwynas.
Ac yn awr dyma’r ddau gwestiwn:
(1) Gwyliais dipyn o ardystiad mawr Llundain o blaid aros. Ymhen yr wythnos, gwylio rali’r Brexitwyr, gyda’i lleisiau mwy gwerinol a mwy croch. Yn wir, yng nghyfweliadau’r ail garfan clywn ddau lais gwahanol, cytûn ar y diwrnod: (a) Alf Garnett, a (b) Disgusted Tunbridge Wells. Y rheswm y mae’r ddau gategori hyn mor sicr o’u pethau yw eu bod wedi eu trwytho mewn ideoleg; maent wedi etifeddu honno, ac fe’i hategir bob dydd yn y wasg y maent yn ei darllen. Ond beth am y Brexitwyr mawr Torïaidd yn San Steffan – Boris, Jacob, Gove, Duncan-Smith? Nid yw’r rhain ar drugaredd ideoleg: maent mewn sefyllfa i’w chreu ac i’w newid. Beth sydd iddyn nhw yn y Brexit? Rwyf newydd ddarllen llyfr diddorol o’r enw Rule Britannia: Brexit and the End of Empire, a daw’n lled agos at yr ateb wrth awgrymu y gwelwn yma (a dyfynnu’r broliant) ‘the last gasp of the old empire working its way out of the British psyche’. Ond anodd credu fod dosbarth llywodraethol grymus a thra-chyfoethog, hyd yn oed a chaniatáu fod chwilen yn ei ben, yn gweithredu ar sail y chwilen honno’n unig. Rhaid bod yna ryw ysgogiad economaidd yn ogystal. Rhaid eu bod yn credu y bydd Brexit yn eu gwneud hwy hyd yn oed yn gyfoethocach. Sut yn union felly? Beth a ddywedwch chi, ddarllenwyr?
(2) Pam y mae’r Albanwyr gymaint o blaid aros i mewn? Fel yr wyf wedi sôn o’r blaen, siom ar ôl siom a gafodd hen deyrnas yr Alban o ddibynnu ar ‘The Auld Alliance’, sef y cynghrair â Ffrainc. Unwaith eto, beth a ddywedwch chi, ddarllenwyr?
Ond beth bynnag yr union gymhelliad, bydded i hyn brysuro dydd annibyniaeth yr Alban. Ac ynghlwm wrth hynny, ymadawiad Trident o Aber Clud. Dyna’r peth mawr. Dyna, ar un trawiad, a fyddai’n setlo’r Torïaid gwallgo a’r Chwith Brydeinig dila, ragrithiol. .