‘Cadair wag fu Cadair Rhŷs – ers amser,
A simsan iawn megis …’
Canodd R. Williams Parry. A do, bu’n wir ar fwy nag un cyfnod oddi ar sefydlu’r Gadair Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1877.
Ond hwrê! Yn ôl yr adroddiadau dyma Brifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i’r adwy gyda chlennig hael i helpu Rhydychen a Choleg yr Iesu yn eu tlodi eithafol. Ardderchog yntê!
Ond ambell gwestiwn:
(1) O’r swm a gyfrennir, a wyddom faint sy’n dod (a) gan Brifysgol Cymru, a (b) gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant? Bydd yr atebion, mae’n debyg, yng nghofnodion cynghorau’r ddwy brifysgol, ond gobeithio (mewn un achos o leiaf) na bydd talpiau helaeth o’r cofnodion wedi ei blacledio y tro hwn.
(2) A oes cyfraniadau gan rai o’r ‘prifysgolion’ newydd a ymddangosodd yng Nghymru yn 2007? Faint, er enghraifft, gan Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor?
(3) A welwn ni Rydychen, wedi iddi osgoi crafangau Gwiddanes Tlodi, (a) yn helpu Aberystwyth i adfer hen gadeiriau Gwynn Jones a Parry-Williams, a (b) yn achub Adran Gemeg Bangor? Byddai hynny’n gyfnewid teg oni fyddai?
(4) Ai Cymru y tro hwn sy’n dwyn y baich i gyd? A ddaw cyfraniadau o wledydd ‘Celtaidd’ eraill tuag at ddysgu ‘iaith Manaw, Llydaw a’i llu’ (Williams Parry eto) yn hen Gartref yr Achosion Coll?
* * *
Rhag bod camddeall, a chan fawr obeithio nad wyf innau’n camddarlunio’r sefyllfa erbyn hyn, noder mai cwrs diploma, yn draddodiadol beth bynnag, oedd cwrs Rhydychen mewn Astudiaethau Celtaidd. Ond byddai’r ‘Athrawon Celteg’ yn yr olyniaeth o Rhŷs ymlaen yn cyfarwyddo gwaith graddedigion (o Rydychen ei hun neu ble bynnag) a fyddai’n gweithio tuag at raddau uwch. Gellir hefyd astudio’r Gymraeg (ac, am wn i, unrhyw iaith Geltaidd arall) yn y cyrsiau M.Phil (cyrsiau’n cynnwys traethawd estynedig ac arholiadau) mewn Saesneg ac mewn Llên Gymharol. Ei swm a’i sylwedd hi yw mai dyrnaid bychan bach bach a fyddai’n efrydu yn y meysydd hyn mewn unrhyw flwyddyn; amherthnasol felly yw’r ystadegyn a ddyfynnwyd yr wythnos hon fod ‘400 o ddisgyblion o Gymru yn ceisio am le yn Rhydychen bob blwyddyn’.
* * *
A thra bôm ar bwnc Addysg Uwch, digrif, pathetig yn wir, oedd yr adroddiad fod ein cynrychiolwyr o Blaid Cymru (Cynulliad a San Steffan) yn Arfon a Môn yn erfyn ar Brifysgol Bangor i ‘droi pob carreg’ cyn diswyddo staff ! Mae Prifysgol Bangor yn llawer iawn rhy fawr: dyna’n safbwynt ni fel Cymry a chenedlaetholwyr oddi ar y 1960au. Mae’r cyfeiriad a gymerodd pethau wedi bod yn andwyol i ddinas Bangor ac i’r wlad ar ddwylan Menai. Ac os digwydd etholiad cyffredinol yn ystod tymhorau’r colegau, mae mawr berygl mai Plaid Cymru fydd yn talu’r pris. Wedi ‘troi pob carreg’ faint o ddiolch a gaiff ein gwleidyddion gan staff traddodiadol a pharhaol wrth-Gymreig ‘Coleg Bangor’ (fel y mae rhai ohonom yn dal i’w alw)? Yr ateb yw DIM, a LLAI NA DIM.
Dyma blaid wedi colli’r plot yn llwyr.